Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

I Y Diweddar W. M. Davies.

News
Cite
Share

Y Diweddar W. M. Davies. Brodor o Fethesda Fawr o Arfon, ydoedd ef, yn fab ieuengaf y diweddar Morris Davies, Tanyrhiw, Braichmelyn, un o Arol- ygwyr llechi chwarel fawr y Penrhyn yno. Yn 1881 y daeth W. M. D. a'i briod i'rWlad- fa, yr un adeg a'r diweddar John T. Knowles Boncyn Mawr a'r telilu, sef rhieni Mrs. Davies, a'r un adeg hefyd y cyrhaeddodd Erasmus Williams, a'r diweddar Richard V. Jones a'u teuluoedd yma-ac y mae y penau teuluoedd hyny erbyn heddyw oil wedi eu claddu gyda'r eithriad o' Erasmus Williams, efe yn dal pwysau trymion ei bedwar ugain mlynedd yn dda iawn o hyd. Yr oedd y teulu yr hanai W. M. Davies o hono yn dra adnabyddus yn Bethesda a'r cyffiniau flynyddoedd yn ol fel cerddorion a dadganwyr o gryn fri, "yn gerddorion o hil gerdd," ys dywedai yr hen gyfaill Erasmus Williams wrthyf ddiwrnod angladd fy hen gyfaill. Y mae brawd hynaf W. M. Davies o hyd yn fyw yn Methesda, John Davies (Eos Ogwen) ac yn dal o hyd yn flaenllaw gyda'r canu yno, er yn fab 88 ml. oed. Bu'r ymadawedig yn selog a ffyddion gyda chan- iadaeth y cviecr yn Ebenezer am yn agos i 30 ml., a aeallaf y bu ei dad wrth yr un gor.chwyl am lawn 40 ml., yn Jerusalem hefyd, ac fod ei gefnder Ellis W. Davies y cyfreithiwr adnabvddus sy'n Aelod Seneddol dros Eifion yn parhau i ddal i fyny y nod- wedd hon yn hanes y teulu. Bu yr ymadawedig yn dioddef cryn lawer yn ddyspeidiol o herwydd y difryg anadl, ac wedi bod felly y gauaf diweddaf, ond yr oedd wedi gwella mor dda nes y teimlai yn ddigon cefnog i fyned ar ymweliad a'r tair merch a a mab a'u teuluoedd ddydd Gwener diwedd- af, dychwelodd ef a'i briod o'r daith hono erbyn machlud haul, ar ol dadwisgo y ceffyl a chadw'r cerbyd, aeth i'r ty a dechreuodd edrych cynwys y DRAFOD am y diwrnod hwnw, yn sydyn cododd ac aeth allan heb ddweyd gair, wedi hir ddisgwyl aeth Owen y mab ar ei geffyl i'r tai cylchynol i edrych am dano, ac o fethu cael ei hanes, aeth nifer o'r cym'dogion i chwilio am dano, a chafwyd hyd iddo o fewn canllath i'r ty, yn hollol farw. Y Sabbath dilynol, daeth tyrfa fawr yn nghyd o wahanol ranau y sefydJiad i dalu y gymwynas olaf iddo, a gerid ac a berchid mor fawr gan bawb a'i hadwaenai. Cymerwyd y gwasanaeth yn y ty gan y Parch' R. R. Jones D. U. ac ar Ian y bedd ganddo ef a'r Parch. D. D. Walters a'r Br. R. Rowlands (Glan Eifion). Cydymdeimlir yn fawr a'i anwyJ briod a'i blant yn eu prof- edigaeth sydyn ac anysgwyliadwy a'u cyf- arfyddodd. Heddwch i'w Iwch hyd y fcoreu mawr. Pan fo dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd." Medi 17, 1918, W. H. H.

EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918.

Advertising