Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
■ C. M. 0.-1 ■ ™ DERBYNIA y CWMNI HADAU ALFALFA neu un= rhyw gynnyrch arall ar gonsign= ment, a gwerthir ef yn BUENOS AIRES dan ei fare priodol ei hun. Am y gwaith cwyd yr C.M.C. lai o gomisiwn na neb arall, ni chodir Hog ar y blaendal, ac ni chodir ychwaith am ystorio y cynnyrch I yn Ystorfeydd y Cwmni i aros llong. Y mae yn ddealledig fod yn welt gan y Cwmni t'rffermwyr lanhau eu hadau eu hunain ond iddynt fod i fyny a'r safon. YR AROLYGIAETH. Trelew, Gorph. 31, 1918. G.W.G. Derbynir archebion am gyhoeddiadau y flwydd- yn nesaf hyd dydd Llun, Medi 30ain. Oni erchir yn wahanol, cymerir yn ganiataol fod ycyhoedd- iadau dderbynir yn bre- senol i'w parhau am y flwyddyn ddyfodol. W DALIER SYLW.—Ni ellir derbyn unrhyw archeb wed! y dyddiad uchod hyd mis thrill nes- af, oherwydd anghyfleusderau y Liythyrgod. Yr AKOLYGIAETH. MEL. A Pryna'r C. M. C. fel mewn tyniau mawr, megis tyniau nafta, am bris da. Gofaler am el driii yn briodol. Trelew, Mehefin 24, 1918. YR AROLYGIAETH. YN EISIEU. Dyn hollol abl i weithredu fel Arolygydd Estancia Cwmni Masnachol y Camwy yn Tecka. Anfoner ceisiadau yn rhoddi cymhwys- derau, cyfeiriadau, a'r cyflog ofynir i Arol- ygydd yr C.M.C., Trelew, cyn Medi 30am. C. M. C. YR WYL ITALAIDD. Dydd Gwener yr 20fed cyfisol, bydd Ystordai y Cwmni ynghau yn unol a threfniant yr Hyrwyddai. YR AROLYGIAETH. Trelew, Medi 12, 1918.
Advertising
PWYLLGOR IINOEB YR EGLWYSI. Cynhelir Cyfarfod Pwyllgor yr Undeb uchod yn Gaiman, 'nawn LIun y 23ain o Fedi, i ddechreu am 2 o'r gloch. Dymunir ar bob eglwys anfon ei chyn- rychiolwyr yno yn brydlon, Dros yr Undeb, ESAU EVANS. Llongau. ATLANTICO yn y Brifddinas. ASTURIANO yn y Brifddinas. ARGENTINO ar ei thaith i'r De. v MITRE ar ei thaith i'r De. CAMARONES ar ei thaith i'r De.
I Y Diweddar W. M. Davies.
Y Diweddar W. M. Davies. Brodor o Fethesda Fawr o Arfon, ydoedd ef, yn fab ieuengaf y diweddar Morris Davies, Tanyrhiw, Braichmelyn, un o Arol- ygwyr llechi chwarel fawr y Penrhyn yno. Yn 1881 y daeth W. M. D. a'i briod i'rWlad- fa, yr un adeg a'r diweddar John T. Knowles Boncyn Mawr a'r telilu, sef rhieni Mrs. Davies, a'r un adeg hefyd y cyrhaeddodd Erasmus Williams, a'r diweddar Richard V. Jones a'u teuluoedd yma-ac y mae y penau teuluoedd hyny erbyn heddyw oil wedi eu claddu gyda'r eithriad o' Erasmus Williams, efe yn dal pwysau trymion ei bedwar ugain mlynedd yn dda iawn o hyd. Yr oedd y teulu yr hanai W. M. Davies o hono yn dra adnabyddus yn Bethesda a'r cyffiniau flynyddoedd yn ol fel cerddorion a dadganwyr o gryn fri, "yn gerddorion o hil gerdd," ys dywedai yr hen gyfaill Erasmus Williams wrthyf ddiwrnod angladd fy hen gyfaill. Y mae brawd hynaf W. M. Davies o hyd yn fyw yn Methesda, John Davies (Eos Ogwen) ac yn dal o hyd yn flaenllaw gyda'r canu yno, er yn fab 88 ml. oed. Bu'r ymadawedig yn selog a ffyddion gyda chan- iadaeth y cviecr yn Ebenezer am yn agos i 30 ml., a aeallaf y bu ei dad wrth yr un gor.chwyl am lawn 40 ml., yn Jerusalem hefyd, ac fod ei gefnder Ellis W. Davies y cyfreithiwr adnabvddus sy'n Aelod Seneddol dros Eifion yn parhau i ddal i fyny y nod- wedd hon yn hanes y teulu. Bu yr ymadawedig yn dioddef cryn lawer yn ddyspeidiol o herwydd y difryg anadl, ac wedi bod felly y gauaf diweddaf, ond yr oedd wedi gwella mor dda nes y teimlai yn ddigon cefnog i fyned ar ymweliad a'r tair merch a a mab a'u teuluoedd ddydd Gwener diwedd- af, dychwelodd ef a'i briod o'r daith hono erbyn machlud haul, ar ol dadwisgo y ceffyl a chadw'r cerbyd, aeth i'r ty a dechreuodd edrych cynwys y DRAFOD am y diwrnod hwnw, yn sydyn cododd ac aeth allan heb ddweyd gair, wedi hir ddisgwyl aeth Owen y mab ar ei geffyl i'r tai cylchynol i edrych am dano, ac o fethu cael ei hanes, aeth nifer o'r cym'dogion i chwilio am dano, a chafwyd hyd iddo o fewn canllath i'r ty, yn hollol farw. Y Sabbath dilynol, daeth tyrfa fawr yn nghyd o wahanol ranau y sefydJiad i dalu y gymwynas olaf iddo, a gerid ac a berchid mor fawr gan bawb a'i hadwaenai. Cymerwyd y gwasanaeth yn y ty gan y Parch' R. R. Jones D. U. ac ar Ian y bedd ganddo ef a'r Parch. D. D. Walters a'r Br. R. Rowlands (Glan Eifion). Cydymdeimlir yn fawr a'i anwyJ briod a'i blant yn eu prof- edigaeth sydyn ac anysgwyliadwy a'u cyf- arfyddodd. Heddwch i'w Iwch hyd y fcoreu mawr. Pan fo dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd." Medi 17, 1918, W. H. H.
EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918.
EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918. Wele yn canlyn Faes Llafur am y gwahan- ol Urddau gogyfer ag Eistedfod y Wladfa a gynhelir yn Nhrelew ar yr 16eg a'r 17eg 0 Hydref. URDI) BARDD. (1) Rhan L-Awdl, "I esu O Nazareth" DYFED. (2) Cydnabyddiaeth a rhai o weithiau prif feirdd y genedl mewn cyfnod neillduol. (3) Cyfansoddi englyn ar y pryd fel prawf o fedr ar y Cynghaneddion. URDD OFYDD. (1) Cydnabyddiaeth a nifer o weithiau llen- yddol mewn cyfnod neillduol. (2) Cyfansoddi Byr Draethawd ar destyn a roddir ar y pryd. URDD CERDDOR, (I) Darllen darn a roddir ar y pryd. (2) Dadansoddi ton. (3) Ysgrifenu t6n a roddir ar y pryd. Dymunir i'r ymgeiswyr am yr Urddau uchod anfon eu henwau i Gofiadur yr Orsedd erbyn Hydref iaf, yna hysbysir hwy ar fyrder ym mha fan a pha bryd y cynhelir yr Arholiadau. DEINIOL. I
Advertising
ENOONTRADO. Entre TRELEW y RAWSON una cubierta de automovil. Se dara al dueno pagando los gastos.del aviso. Por mas datos dirigirse a la Imprenta Y DRAFOD.