Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

...AMRYWION. I

News
Cite
Share

AMRYWION. Mae cadluoedd y Cydbleidwyr yn Rwssia o dan arweiniad Cadfridog Japanaidd, -0- Dywed newydduron Llundain fod yr Ar- lywydd Wilson yn bwriadu yrnweled a Ffrainc a Lloegr. -0- Gwrthododd Llywodraeth yr Uno] Dal- aethau roddi teitheb i M. Kerensky, y cyn- BrifWeinidog Rwssiaidd am y rheswm ei fod wedi bod yn gweithredu fel prwyad Al- maenaidd, a hyny pan yn gyfarwyddwr gor- uchwylion Llywodraeth Rwssia. —o— Yn Prydain mae dros 4,000,000 o aceri yn cynyrchu bwyd. Yny flwyddyn 1916 nid oedd Prydain yn cynyrchu ond digon o fwyd i gadweithrigol- ion am ddeng wythnos, ond y flwyddyn hon cynyrchir digon o fwyd i gadw ei holl dri- golion am 40 mis. -0- i Mewn cyfnod pell yn ol bu Prydain yn cynyrchu digon o fwyd ilw holl drigolion lieb orfod dibynu am ymborth ar wledydd eraill. Ond ni cheir yn ei holl hanes fod cymaint o aceri o dir yn cynyrchu ymborth ag sydd eleni. I -0- Mae mwy o aceri dan datws eleni yn yr Hen Wlad nag sydd wedi bod er y flwyddyn 1872. -0- Yn Ninasoedd a threfi Lloegr yn ogystal ag yn y Wlad, trinir gerddi a thyfir llysiau. Mae y gerddi hyn, yn unig, yn cynyrchu 800,000 tuiiell o ddefiiyddiau bwyd. ,0- Mae dros 300,000 o ferched yn perthyn i Women's Land Army," a rhoddir cymer- adwyaeth uchel i'w gwaith gan yr amaeth- wyr. -0- Mae Brazil wedi rhoddi cynhorthwy i'r Cydbleidwyr mewn gwahanol gyfeiriadau, ond ei llynges sydd wedi bod o fwyaf o was- anaeth. „ V Pan dorodd y rhyfel allan yr oedd 53 o longau Almaenaid yn borthladdoedd Brazil, a chymerwyd meddiant o honynt gan y Llywodraeth, a rhoddwyd 30 o honynt at wasanaeth Ffrainc. —o— Cynwysa llynges Brazil ddwy o longau rhyfel tunelliaeth 20,000; dwy cruiser; 10 destroyers a nifer o suddlongau a mae'r llynges hon yn cydweithio gyda llyngesoedd y Cydbleidwyr. -0- Mae gan Brazil 50 o feddygon yngweithio mewn ysbyttai yn Llundain a Paris, ac y mae hi wedi anfon nifer fawr o awyrlongau i Ewrop. -0- Yn yr Etholiad gyffredinol nesaf mae yn debyg y bydd Mr. Gwilym Rowland, Pen- ygraig (Ceidwadwr), yn dyfod allan yo erbyn Mabon. Nid yw yn debyg y troi'r cefn ar ffafr ddyn Cwm Rhondda am gyfnod mor faith. -0- Cymerwyd mab i Weinidog Wesieyaidd yn garcharor gan yr Almaenwyr, ac yn Iyfr- gell gwersyll y carcharorion gwelodd, er ei syndod, lyfr Cymraeg—" Hanes Wesleyaeth Gymreig gan Dr. Hugh Jones. —o— Ymreolaeth Gyffredinol" oedd arwydd- air y Cenedlaetholwr Cymreig, Michael D. Jones, Bala, a hyny amser inaith cyn i Mr. Gladstone feddwl am Ymreolaeth i'r Iwer- ddon. Yr oedd y Prif Athraw M. D. Jones wedi rhagfynegi dyfodol dysglaer i Mr. Lloyd George. Fel hyn y mae Brychan, Treharris, yn canu i'r "cter," Aflanaf haid aflonydd 1—ehedant Yn heidiau i'n bwydydd Y gwres yw eu mwyn groesawydd. A haul a'i des a lywia'u dydd." I

44 Dyrchafa dy Sais fel Udgorn."…

TRELEW.

IY DARN ADRODD.

IV RHYFEL.