Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Dewi Sant a Dewi Llwyd.

News
Cite
Share

Dewi Sant a Dewi Llwyd. Gan MAWDDWY. Ysgrifenodd y brodyr doniol y Llew o'r Llain a'r Parch. David Jones, Scranton, i'r Drych ar y testyn uchod, ac os deallais i eu llythyrau, eu tuedd yw gwneud i ffwrdd a Dewi Sant a chymeryd y Dewi arall-David Lloyd George-yn ei le. Nid oes neb yn edmygu Lloyd George yn fwy ua myfi; efe yw prif wleidyddwr y byd heddyw, a'r agos- af o bawb i Gladstone-prif wleidyddwr yr oesau. Cofier hefyd mai Celtiaid yw y ddau. Celt o ucheldiroedd Ysgotland oedd Glad- stone a dyna yw yr arwr o Griccieth—y dyn achubodd Brydain. Ond er fy hell ed- mygedd o Dewi Llwyd-Lloyd George—nid wyf yn foddlawn iddo gymeryd lie Dewi Sant onid allwn ni gadw y ddau ? Awgrymir weithiau na fu y fath un erioed a Dewi Sant. Yr wyf fi yn credu yn ei fod- olaeth, er nad wyf yn credu yr holl draddod- iadau yn ei gylch. Ond mae rhyw gymaint o wirionedd yn gyflredin yn sail i draddod- iad. Diau mai un o'r llyfrau mwyaf trwyadl a safonol ar Hanes y Cymry yw dwy gyfrol Proff. E. J. Lloyd, athraw hanesyddol yn Ngholeg Bangor. Mae Mr. Lloyd yn annghredadyn mewn traddodiadau, ac ni dderbynia ond ffeithiau hanesyddol credad- wy, er hyny mae efe yn credu yn modolaeth Dewi bant. Flynyddoedd yn ol gofynwyd i mi, paham yr ydych chwi y Cymry yn gwneud cymaint o Dewi Sant ac yntau yn Babyddol, tra yr ydych chwi yn Brotestaniaid aiddgar ? Par- odd hyny i mi chwilioa oedd Dewi Sant yn Babydd. Darllenais bob peth oedd yn fy nghyraedd ar y pryd a chefais berffaith fodd lonrwydd oddiar ffeithiau hanesyddol fod Dewi wedi marw cyn i Babyddiaeth ddod i Ynys Prydain, a thraddodais dipyn o araeth i'r perwyl hyny ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae genyf gofnodion gartref, ond yn awr yr wyf yn mhell oddiwrthynt, ac nid oes genyf ond dybynu ar fy nghof. Yn y flwyddyn 596- 597 yn ol Lloyd-allfonodd y Pab Gregory ei genadon Pabyddol cyntaf at y Saxon pagan- aidd i Brydain i geisio eu henill i dderbyn y grefydd Babaidd. Enillwyd y brenin a llu- aws o'i ddeiliaid. Ac wedi eu llwvdd yn Lloegr amcanodd y Pabyddion enill y Cymry. Galwyd cyfarfod mawr yn sir Henffordd a gwahoddwyd penaethiaid y Cymry yno; ond ar ol cryn ddadleu gwrthododd y Cymry dderbyn y grefydd Babaidd. A dywed rhai awduron eu bod wedi derbyn Cristionogaeth bur yn y flwyddyn 63 drwy i Gwladys bre- gethu yr efengyl iddynt. Honir ei bod hi yn Rhufain yn 62 pan oedd Paul yn garchar- or yno, ac iddi gael ei hargyhoeddi. Ai yr un yw Gwladys a'r Claudia y sonia Paul am dani ? Os gwir y traddodiad fod Gwladys, neu Bran ap Llyr neu rywun arall, wedi dyfod a'r efengyl i Brydain yn y ganrif gyntaf, yr oedd y Cymry erbvn 596 wedi bod dan ddylainvad Cristionogaeth er's caurifoedd, Fodd bynag, am hyny. mae yn bur sicr na dderbyniodd y Cymry Babyddiaeth hyd 703 a thebygol yw i lawer o honynt y pryd hwnw lynu wrth y Brotestaniaeth semi a dderbyniasent cyn hyny. Ond pa amser yr oedd Dewi Sant yn byw ? Fel y dywedais o'r blaen, yr wyf yn awr yn dybynu ar fy nghof, er i mi gael perffaith foddlonrwydd pan yn gwneud ymchwiliad i'r mater. Onid yn y flwyddyn 520 y gan- wyd Dewi Sant, ac onid tua'r flwyddyn 585 y bu farw ? Yr wyf yn sicr iddo farw amryw flynyddoedd cyn 596 y flwyddyn y daeth y Pabyddion gyntaf i Brydain. Felly, yr wyf am gadw Gwyl Dewi Sant am fod Dewi yn gymeriad hanesyddol sicr, a'i fod yn Brotestant. Yr wyf hefyd am'ei gadw am ei fod yn bregethwr. Gyda phob dyledus barch i wleidyddwyr a diwygwyr o bob math, pregethu, wedi'r cyfan, sydd wedi gwneyd Cymru y wlad fwyaf foesol a chref- yddol dan haul. Os oes rhywua yn ameu hyn darllened pa mor fynych y rhydd Meir- ion a Mon ac Aberteifi fenyg gwynion i'r Barnwr.—O'r Drych.

ICyfarchiad Priodasol.

Y Cymry a "Chwilod y Baw"…

Dyffryn y Camwy.i