Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
 !?M ? ————r 0. ME ?."? mgg~ DERBYNIA y CWMNI HADAU ALFALFA neuun= j rhyw gynnyrch arall ar gonsign= ment, a gwerthir ef yn BUENOS AIRES dan ei fare priodol ei hun. Am y gwaith cwyd yr C.M.C. lai o gomisiwn na neb arall, ni chodir Hog ar y blaendal, ac ni chodir ychwaith am ystorio y cynnyrch yn Ystorfeydd y Cwmni i aros Hong. Y mae yn ddealledig fod yn well gan y Cwmni i'rffermwyr lanhau eu hadau eu hunain ond iddynt fod i fyny a'r safon. YR AROLYGIAETH. Trelew, Gorph. 31, 1918. ■ t ?.??.L?. Derbynir archehidn am gyhoeddiadau y flwydd- yn nesaf hyd dydd Llun, Rfledi 30ain. Oni erchir yn wahanol, cymerir yn ganiataol fod y cyhoedd- iadau dderbynir yn bre- senol §'w parhau am y flwyddyn ddyfodol. OW DALIER SYLW.—Ni ellir derbyn unrhyw archeb wed! y dyddiad uchod hyd mis Ebrill nes- af, oherwydd asighyfieusderau y Liythyrgod. Yr AliOLYGBAETH. MGL. Jt. iL. JL——?- J&??. < Pryna'r C. N. C. fel mewn tyntau mawr, megis tyniau nafta, am foris da. Gofaler am el drtti yn brlodol. Trelew, Mehefin 24, 1918. YRAROLYGIAETH. YN EISIEU. Dyn hollol abl i weithredu fel Arolygydd Estancia Cwmni Masnachol y Camwy yn J Tecka. Anfoner ceisiadau yn rhoddi cymhwys- derau, cyfeiriadau, a'r cyflog ofynir i Arol- ygydd yr C.M.C., Trelew, cyn Medi 3oain. J ,4"L C. M. C. YR WYL ITALAIDD. Dydd Gwener yr 20fed cyfisol, bydd Ystordai y Cwmni ynghau yn unol a threfniant yr Hyrwyddai. YR AROLYGIAETH. Trelew, Medi 12, 1918.
EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918.I
EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918. Wele yn canlyn Faes Llafur am y gwahaii- ol Urddau gogyfer ag Eistedfod y Wladfa a gynhelir yn Nhrelew ar yr i6eg a'r 17eg o Hydref. URDO BARDD. (1) Rhan L-Awdl, "I esuo Nazareth" DYFED. (2) Cydnabyddiaeth a rhai o weithiau prif feirdd y genedl mewn cyfnod neillduol. (3) Cyfansoddi englyn ar y pryd fel prawf o fedr ar y Cynghaneddion. URDD OFYDD. (1) Cydnabyddiaeth a nifer o weithiau llen- yddol mewn cyfnod neiliduol. (2) Cyfansoddi Byr Draethawd ar destyn a roddir ar y pryd, URDD CERDDOR, (1) Darllen darn a roddir ar y pryd. (2) Dadansoddi ton. (3) Ysgrifenu tonja'roddir ar y pryd. Dymunir i'r ymgeiswyr am yr Urddau uchod anfon eu henwau i Gofiadur yr Orsedd erbyn Hydref iaf, yna hysbysir hwy ar fyrder ym mha fan a pha bryd y cynhelir yr Arholiadau. = ..roo DEINIOL.
PWYLLGOR UNDEB YR EGLWYSI.
PWYLLGOR UNDEB YR EGLWYSI. Cynhelir Cyfarfod Pwyllgor yr Undeb uchod yn Gaiman, 'nawn LIun y 23ain o Fedi, i ddechreu am 2 o'r gloch. Dymunir ar bob eglwys anfon ei chyn- rychiolwyr yno yn brydlon. Dros yr U ndeb, r- ESAU EVANS. Ii'iiiiiiiiiin in iiii 11 niliniiiiiiiiiiii'iwiimiuii imnwHiiiini
PRIODI. I
PRIODI. I Dydd Mercher, Medi 4ydd, o flaen ynad Trelew, unwyd mewn priodas y Br. John Owen Thomas, Berth Goch, a'r Fonesig Aerwen Jatnes. Pob hawddamor fo iddynt yn eu byd newydd.
I Lloffion.
I Lloffion. I Gan D. R. Bydd yn rhaid bod yn wyliadwrus iawn i gydio gafael ym mhethau goreu y cenhed- loedd sydd o'n cwmpas, ac y mae i bob cenedl nodweddion gwerth eu hefelychu, ond bydd rhaid glynu a holl angerddoldeb y galon Gymreig yn y defioll air traddodiad- au cenedlaethol, dyna ein gobaith am genedl gref yn ystyr uchaf y gair,-cenedl a edy ol ei thraed yn ddwfn ar ddaear y Weriniaeth. A pho buraf yr arhoswn yn Gymry, ffydd- lonaf yn y byd fyddwn i fuddiannau goreu'r Llywodraeth. Na feddylied yr un Cymro na Chymraes ar y Camwy y gall wasanaethu Archentina yn well drwy wadu iaith a defion y tadau, ond yn hytrach mai dyna fydd eu tarian loewaf ym mrwydrau'r dyfodol, aca'n gwna'n ddeiliaid y gall unrhyw lywodraeth ymfalchio yriddynt.Olr Cymry 1910 gan ELUNED. -0- Ni ysgrifenais i lyfr erioed dalodd ei gostau, ac ni chyhoeddais rifyn nad oedd raid i mi euniH mewn cyfeiriadau eraill i helpu i dalu am dano. Er hyuny nid yn unig nid yw yn edifar gennyf, ond pender- fynaf ddal ati fra bo mymryn o ynni ynnof, a thra y caf ambell olwg ar fryniau anwyl Cymru. Ond uis galIaf ofyn i neb arall fy helpu heb allu i gydnabod ei lafur. Ni fed- rais erioed fod yn daer am gymwynas, ac os oedd yr hen Gymry'n iawn pan ddywedent fod taerni yn arwydd o greuiondeb, y mae gennyf fi brawf nacaol gwan fy mod yn llar- iaidd. Bu hwyl fawr unwaith pan archwil- iodd pobl treth yr incwm fy llyfrau, i weled faint oedd fy enillion llenyddol. Ac eto y mae y tal yn ardderchog,-tal athraw Ysgol Sul, Ac y mae y tal hwn o gymaint gwerth fel nad oes gan wyr treth yr incwm fesur y medrant ei fesur wrtho." Syr O. M. E. yn y Cymru. -0- Amser dedwydd a gogoneddus yw hen- aint teg. Nid disgyn wna dyn o ganol oed i henaint, ond dal i ddringo i eangderau hyf- rytach. purach a gwell, 0 faesydd y pechod gwreiddiol, o feddau'r blys, dring i fyny i awyr bur ac iach pen Piscah. Gwel droion yr yrfa odditano, eu gwyllineb garw wedi ei droi'n brydferthwch yn y pellter. Ac nid oes disgyn i rosydd Moab i fod mwy. A'r bywyd yn fwy sanctaidd, ac yn awel iach dyner pen y mynydd ymgyll yr enaid mewn lIesmair yn yr ysbrydol. A dyna berffeith- rwydd pen yr yrfa.O Pen yr Yrfa, gan Syr O. M. E. 4at
Cronfa Goffadwnaethof Arglwydd…
Cronfa Goffadwnaethof Arglwydd Roberts. Casgliad Trelew. Swm dderbyniwyd o'r blaen $ 821.00 Robert M. Jones 20.00 J, J. Gough 20.00 Daniel Lewis I. 10.00 William Charles Thomas" 10.00 Robert H. Williams 5.00 Tom H. Williams I .1 5.00 891.00