Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Treorci.I

News
Cite
Share

Treorci. Cynhaliwyd Cwrdd Llenyddol yma nos Fawrth Awst 2ofed, pryd y cadeiriwpd gan y Br. Evan T. James, ac yr arweiniwyd yn ddeheuig gan y cyfaill Richard W. Jones. Cafwyd cyfarfod lied dda, wrth gwrs buasai yn well pe bae rmvy wedi teimlo dyddordeb ynddo ac wedi dysgu adroddiadau etc., ar ei gyfer. Dyma raglen y cyfarfod :—Can agoriadol gan y Br. David Jones, gresyn na fai mwy yr un fath ag ef, gan ei fod yn gwneyd ei ran bob ainser. Adroddiad Ys- baeneg gan Gwynn Jones araeth ddifyfyr i fechgyn, goreu Br. James Evans unawd Pa !e mae fy mac h gen hon gan Miss El- Pa le mae fy machgen hoff," gan Miss El- vira Davies, yn yr unawd hon gwelsom ddar- lun byw o deimladau cannoedd o famau y byd heddyw sy'n hiraethu am eu hanwyliaid sydd yn y rhyfel darllen darn heb atalnod- au, cydradd y Bwyr. James Evans a Robert Thomas unawd gan y Br. D. Ial Jones, yn dderbyniol iawn a diolchwn am ei barod- rwydd i geisio gwneyd y cyfarfod yn llwydd- iant gan mai ef hefyd oedd beirniaid yr araith ddifyfyr a chystadleuaeth y Ilythyren, y goreuon yn y gystadleuaeth hon oeddynt, dosbarth bechgyn, Br. James Evans, dos- barth merched, Miss Vera Jones, dosbarth plant, Edward Parry adroddiad gan Nefydd H. Cadfan pedwarawd gan y Br. Robert Thomas a'i gyfeillion, yn swynol a da ad- roddiad gan Miss Vera Jones, yn ganmolad- wy fel arfer, ac ymwahanodd pawb i'w car- trefi ar ol i Ial adseinio Hen Wlad fy Nhad- au. Da genym fod y pwyllgor am roddi di- weddglo fawreddog i'r cyrddau llenyddol. eleni, trwy gynhal te parti a chyngerdd cys- tadleuol yn yr hwyr, yr hyn a fwriedir ei gynhal yr i8fed o'r mis nesaf, mae'n debyg y gwel y pwyllgor yn ddoeth i'w gyhoeddi yn y DRAFOD er llwyddiant y symudiad. Gobeithio na rydd ieuenctyd Treorci y gwobrwyon i ardaloedd eraill o ddiffyg aidd- garwch a brwdfrydfedd llenyddol. Blin iawn genym am afiechyd hir y Br. Abbiah Griffiths, dywed y meddyg Jubb ei fod yn awr wedi cael ymosodiad ysgafn o'r Typhoid calfed ryddhad llwyr a buan o'i afiechyd yw dymuniad dyfnaf ein calon. Yr ydym yn falch iawn fod yr ardal hon wedi cyfranu mor ragorol at achos tnor deil- wng, sef Cronfa Goffadwriaethol Arglwydd Roberts, i filwyr a morwyr sydd wedi eu hanalluogi yn y rhyfel," feI y dengys y tan- ysgrifiadau rhagorol, ac y mae clod yn ddyl- edus i'r rhai fu wrthi'n casglu yn yr ardal at y gronfa-y Bonesau D. Hughes Cadfan a Rhys Thomas. AP SELYF. ■ I HI e,

Yr Ysmaldod Dirwestol.

Lord Roberts Memorial Fund.

Family Notices

V RHYFEL.