Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

V RHYFEL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

V RHYFEL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Awst 29. ZURICH.—Cadarnheir gan newyddion o Awstria fod cyflwr y wlad ynglyn a defn- yddiau bwyd yn ddifrifol, a hyny hyd yn nod yn Hwngari. Mae'r dosbarth canol yn dioddef yn arbenig. Bydd y sefyllfa yn y gauaf yn ddychryn- IJyd mewn canlyniad i gynhauaf drwg trwy yr oil o'r Ymherodraeth. Ffieiddir yr Almaenwyr gan yr Awstri- aid. LLUNDAIN. Swyddogol. Parheir gan ein cadluoedd i bwyso ar y gelyn i'r dde o'r Somme. Yn ystod y nos symudasom yn mlaen i gyfeiriad y Dwyrain. Yn nos- ran y Scarpe ar y ddwy ochr gwrthgur- wyd gwrthymosodiadau'r gelyn. Er yr 2 lain cyfisol mae rhif y carchar- orion gymerwyd genym dros 26,000, gyda dros 100 o ynau mawr. BERLIN.—Gohirir y drafodaeth heddwch rhwng Ffinland a Rwssia am amryw fis- oedd o herwydd yr amhosiblrwydd i ddy- fod i gyd-ddealltwriaeth ar y prif brwyntiau. RHUFAIN" Swyddogol. Gyrrasom y gelyn ar ffo pan yn yr ymdrech o ymosod ar ein safleoedd yn nyffryn Coneci. COPENHAGEN.—Dywed yr Almaenwyr eu bod yn cydsynio i ddigolledu Norway am y llongau suddwyd yn ddirybudd tu allan i gylch y rhyfel. LLUNDAIN.-Mae y tir sydd o dan drin- iaeth yn Lloegr a Chymru yn 5 miliwn o hectares, ac mae 3 milliwR o honynt yn tyfu yd. Mae y tir sydd yn tyfu yd y flwyddyn hon yn fwy o 24 y cant nag- oedd y flwyddyn ddiweddaf. SAN SALVADOR.—Yn ol y newydduron mae cadluoedd Nicaragua wedi myned i mewn i diriogaeth Honduras. Nid yw Llywodraeth Nicaragua wedi derbyn y cynygiad i gyflwyno yr anghyd- welediad i gylafareddiad Ysbaenaidd gan, meddir, y buasai brenin Ysbaen yn ffafrio Honduras. RHUFAIN. Swyddogol. Albania.—Yr ydym wedi gwasgaru gwahanlu'r gelyn gyda'n peirianau awyrol. Ymosodwyd ar llinellau'r gelyn gan ynau peirianol y Prydeinwyr gyda chan- lyniadau ddinys'.riol i olfyddin y gelyn. PARIS. Swyddogol. Bu tanbeleniad ffyrnig yn ystod y nos ar ffrynt Somme. Gorchfygwyd amryw o ymosodiadau dir- ybudd y gelyn. PARls.-Mae'r Ffrancod wedi cymeryd Noyon, gan achosi colledion i'r gelyn a chymeryd carcharorion. Cafodd olfyddin y gelyn gurfa dost. Awst 30. LLUNDAIN. Swyddogol. Croesasom y Somme i'r gorllewin a'r dde o Peronne a chymerasom Clery-sur-Somme, Combles, Bullescourt, Hendercourt, Lezcagnicourt. Mewn amryw ddosranau yr ydym yn par- hau i symud yn mlaen. PARlS:-Cyhoedda'r newydduron fod y llinell Brydeinig lawer yn mhellach yn mlaen nag a gyhoeddir yn yr adroddiadau diweddaf. LLUNDAIN.-Heddyw symudodd y Pryd- einwyr yn m'aen 2000olatheni mewn lie rhwng Bullecourt a Scarpe, ac y maent wedi ailgymeryd Rienscourt. Moscow.—Parha brwydr ffyrnig yn agos i Beretske lie y mae pwyllgor gwrthchwyl- droadol Milwrol wedi ei sefydlu. NYNINOVOGOOD.-Mae'r merched yn gwn- eud trefniadau i gael cynnadledd, e r sicrhau hawl i gyflwyno ymgeiswyr o blith y merched am seddau yn y senedd pan ddaw yr etholiad nesaf. LLUNDAIN.-Mae'r Prydeinwyr wedi cym- eryd Bapaume, Ginchy a Guillemont. PARIS.—Mae'r Ffrancod wedi cymeryd Noyon, Landrimont a Marlancourt. VLADIVOSTOCK.- Ymosododd byddin gref y gelyn ar ffryn Usuri. Darfu i holl gadluoedd y Cydbleidwyr, ac eithrio'r Americaniaid, wrthsefyll yr ymosodiad. Cymerwyd dwy dren arfog ac amryw ynau mawr gan y Cydbleidwyr. LLUNDAIN. Swyddogol.- Yr ydym wedi cymeryd Hem. LLUNDAIN.- Ystyrir fod yr hyn ganiateir gan yr Almaen i Ysbaen yn brawf fod yn mwriad Ysbaen i dorri ei chysylltiadau a'r Almaen os gwrthodai'r Almaen gydsynio a'i chais, LLUNDAIN.-Mae amryw gannoedd o heddgeidwaid wedi "sefyll allan" gan ofyn am ragor o gyflog. NEW YORII,. Mae'r Prydeinwyr wedi cymeryd Letranzloy. Medi i. MADRID.—Yn nghyfarfod diweddaf y Cyngor penderfynwyd yn unfrydol i gario allan y penderfyniad ynglyn a chymeryd llong Almaenaidd yn lie y "Caracas". Wedi rhoddi ystyriaeth i'r holl adroddiad- au blaenorol yr oedd y gweinidogion yn cytuno i gadw i fyny agwedd urddasol a chadarn. LLUNDAIN. "Daily Mail". Harbin.— Mae'r Japaniaid wedi cymeryd Iman rhwng Khabaroosk a Nic olsk. LLUNDAIN.-Mae China wedi hysbysu'r Cydbleidwyr na fydd iddi dderbyn unrhyw deyrngenad hyd ar ol y rhyfel, a dywed fod y gwrthodiad hwn yn cael ei sylfaenu ar gymhelliad politicaidd. LLUNDAIN. "Morning Post". Amsterdam. —Bydd i Gynnadledd o'r Ymherawdwr Carlos (Awstria) a brenhinoedd Saxony a Bavaria, amcanu cael Saxony a Bavaria i gydweithredu gyda chynygion newydd yn- glyn a heddwch, RHUFAIN. Swyddogol.—Aethom i mewn yn mhell i safleoedd y gelyn yn Posina gan achosi colled ddifrifol i'r gwarchlu a chym- erasom garcharorion, arfau, a defnyddiau. Gorchfygasom wahanluoedd yn eu hym- gais i gyrraedd ein llinellau ar yr aswy o Ley. P ARls.-Mae brwydrau bywiog gyda'r cadoffer yn ranbarth y Canal i'r gogledd o Noyon rhwng Aisne ac Aillete. Trodd ymosodiadau dirybudd y gelyn yn Cham- pagne yn fethiant. PARIS.—Dywed "Havas" fod yr Almaen- wyr yn ein gwrthsefyll yn benderfynol rhwng Arras a Noyon, ac yn ceisio attal ein symudiad yn mlaen. Ond er gwaethaf gwrthymosodiadau cryfion mae'r Cydbleidwyr yn gwneud cyn- nydd cysson. LLUNDAIN.-Dywed "Reuter" fod y Pryd- einwyr wedi cymeryd Mont Kenmel i'r g-ogledd orllewin o mount St. Quentin. I'r gogledd o Peronne mae'r Prydeinwyr wedi cymeryd Mont Kenmel i'r gogledd orllewin o mount St. Quentin. I'r gogledd o Peronne mae'r Prydeinwyr wedi cymeryd Plouvain, Gravelle, Fremi- court ac Arc 1000 o latheni i'r gogledd o Orleux. LLUNDAIN.-Dywed hysbysrwydd diwefr o Rwssia fod ymgais wedi ei wneud ddoe yn Moscow i lofruddio Lenin yr hwn glwyf- wyd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Darfu i'r Aws- traliaid yrru y gelyn o'i safleoedd i'r dwy- rain o Chercy, a chymerwyd gynau peir- ianol. Cymerwyd gan y Prydeinwyr safle gaerog i'r gogledd o Cambrai. Medi 2. AMSTEREAM. Berlin.—Mae Von Hintze wedi gadael heddyw am Vienna i gael ym- gynghoriad gyda'g arweinwyr Awstria, ac yn ol polisi y wasg Almaenaidd i gael symudiad ynglyn a heddwch. VLADIVOSTOCK.-Tra mae r cydbleidwyr yn parhau i symud yn mlaen, mae'r gwa- hanol bleidiau politicaidd yn parhau i an- ghytuno, Mae'r sefyllfa yn dyfod yn fwy dyryslyd bob dydd. PEKIN. Mae Cymdeithas Japanaidd wedi rhoddi benthyg 30 miliwn i China tuag at dreuliau milwrol. LLUNDAIN.- Mae Cwmni Marconi yn trefnu gwasanaeth teleffon diwefr gyda 200 o beirianau a chylch o 40 milldir. LLUNDAIN.-Anfonwyd gwifreb gan oheb- ydd Reuter i ddyweud fod traedfilwyr Gog- ledd America mewn cydweithrediad a'r Prydeinwyr wedi cymeryd Voosmezeily ac amryw safleoedd cryfion rhwng y lie hwnw a'r Ipres. PARIS.-Dywed gohebydd "Havas" ar y ffrynt Ffrengig fod y Cydbleidwyr wedi cymeryd, er y I I fed o Awst, 75,900 yn garcharorion a 700 o ynau mawr. MADRID.—Yn ystod cyfarfod o'r Cyfrin- gyngor cyfeiriodd Dato at waith suddlong Almaenaidd yn torpedu yr agerlong Ys- baenaidd "Olazmendi." MADRID. Neithiwr penderfynodd y Llywodraeth Ysbaenaidd i atafaelu yr holl longau Almaenaidd oedd wedi eu cadw yn y porthladdoedd Ysbaenaidd, a gwneir hyn gyda'r bwriad ddatganwyd yn y nodyn Ysbaenaidd i'r Almaen, LLUNDAIN. Swyddogol.—Yn nosran Lys yr ydym yn parhau i symud yn mlaen, ac yr ydym yn symud i gyfeiriad Letraustoy, Yr ydym wedi dyfod yn agos at ffordd La Bc-isse i'r dwyrain o Aisnes. WASHINGTON.—Torpedwyd y llong "Jos- eph Hendboy perthynol i Gogledd Ame- rica, achubwyd 16 o'r dwylaw, mae 63 a'r goll. PEKIN.-Mae Semenoff wedi cymeryd gorsaf Borzia. LLUNDAIN. Mae streic yr heddgeid- waid wedi terfynu. AMSTERDAM.-Mae dwy gatrawd Almaen- aidd o Rwssia wedi gwrthod myned i'r ffrynt gorllewinol; saethwyd 130 honynt. BERLIN.—Mae'r Kaiser a Brenin Bwl- garia wedi ymweled a'u gilydd. AMSTERDAM.—Mae afiechyd wedi torri allan yn Belgium, credir mai y colera ydyw. LLUNDAIN. Swyddogol. Cymerasom bentref Mont San Quentein hefyd Trenli- court gyda 1500 yn garcharorion. Cym- erasom hefyd goedwig Marricres gydag amryw garcharorion. Rhwng y Scarpe a (?) yr ydym wedi symud yn mlaen 1500 o latheni i gyfeiriad afon (?). Mae'r Almaenwyr wedi gadael ysgwydd bryn Lys. PARIS. Swyddogol. Yr ydym wedi cymeryd amryw leoedd i'r dwyrain o Canal Nord. PARIS. Swyddogol.—Parheir i frwydro, a bu brwydro ar hyd y nos. Mae ein traedfilwyr gyferbyn ag ochr y "Somme Canal" i'r dwyrain o Penan- court. Yn rnhellach i'r dde cymerasom Roux- petit gyda 250 yn garcharorion. LLUNDAIN.-Dywed y "Pravda", Moscow fod geneth wedi saethu at Lenin yr hwn glwyfwyd yn ddifrifol, ac y mae mewn cyflwr peryglus mewn canlyniad i waedlif. Mae'r eneth wedi ei chymeryd i'r ddalfa. LLUNDAIN. Mae'r Prydeinwyi wedi cymeryd Perrone, Morval, a Bullecourt. AMSTERDAM. Moscow.—rDywed adrodd- iadau rnwy neu lai dibynot fod Lenin allan o berygl.