Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Dyffryny Camwy.

News
Cite
Share

Dyffryny Camwy. Hanes y Wladfa Gymreig, ei dechreu, ei datblygiad a'i dyfodol, a thraethiad am! ymgyrch a thaith i baith Patagonia. i Gan LLWYD AP I WAN. ["PARI I AD.] Mai 20, 1887.—Bwriadem deithio heddyw ond daeth i wlawio yn drwin. Y diwrnod canlyuol trafeiliwyd pum1 llech nes cyrhaedd Llyn Tarw, lie y gwersyllwyd. Dychwelasom lawer gwell ffordd na'r un ddewisodd Pablo, ac yr oedd glan y liVn yn fan rhadlon iawn i gampio. Dywedai Leon fod yna fah o bysgodyn bychan i'w gael yn y llya hwn. Tua'r prydnawn cliriodc1 y gwlaw agwelid dillad yn sychu ar bob twm- path nes gwneud y lie fel golchdy. Mai 22.—Cyrhaeddasom lanau y Camwy fyth yn y fan yr arllwysa y Leleche iddi. Yr oedd Hi yn y Camwy, ac o'r hervvydd nis gellid ei chroesi. Gwelais puma yn ymiusgo drwy'r crowc- weJlt, a charlamais o un tu iddo tra yr aeth Pablo yr ochr arall, ac yn y fan neidiodd y puma i d win path. Deuthym oddiar gefn fy ngheffyl am dryll yn fy lIaw, cripiais yn nes ato er anelu yu sicrach. Tra yn dynesu chwythodd y gwynt laped y poncho dros fy mhen, nid oedd ei dynu i lawr ond gwaith moment, ond yr oedd hyn yn ddigon o am- ser i'r puma fanteisio arno, a llechwraidd ddianc drwy y crowcwellt. Daeth rhai o'r Indiaid i fyny i chwilio am y gwalch, ond yr oedd yn rhy gyfrwys i ni oil a dihangodd. Dywedodd rhai o honynt welodd yr am- gylchiad fod y puma y funud y chwythwyd cornel y poncho dros fy mhen wedi fy mhasio o fewn dwy lath a dianc. Em bwriad gwreiddiol oedd archwilio'r wlad i'r gogledd. Yr oedd yn bosibilrwydd i ni anfon ein pynau yn groes i'r afoti ym- chwyddol, ond buasai anfon yr anifeiliaid i'r fath genlli yn farwolaeth sicr i'w hanner. Dywedai Pablo mai yr unig rhyd ellid groesi oedd dwy daith i lawr yr afon, a chy- tunwyd deithio i'r cyfeiriad hwnnw. Mai 23.—Yr oedd ein taith yn ein cymeryd ni i'r dwyrain, croeswyd y Leleche, a maes o law daethom ar draws prif hvybr yr Ind- iaid o'r Manzanas a Nahuelwapi i Santa Crwz ac i'r de. Chubut Cush nodir gan y Cadben Musters ddylai fod yn yr ardal hon. Croesasom yspardyn bryuiog a daethom i olwg dyffryn yr afon Chubut, aethpwyd i lawr i'r dyffryn, a theithiwyd godrau y bryniau yr ochr ddeheuol. Braicld yn swndiog oedd y gwaddod y ffordd hon, er fod porfa yn tyfu i bob cyf- eiriad. Yr oedd yn amIwg fod dyfrhau yn angen- rheidi91 i godi cnydau, a chredwn i y gellid cael y dwfr yn hawdd o'r Leleche. Ar ben pedair llech yr oedd y dvftryn yn culhau, am fod y bryniau yr ochr ogieddol yn ymwthio tua'r afon. Ar gyfer y fan hon y gwersyllwyd. Enw y fan yn ol yr Indiaid oedd Catranel Cawalue neu Fo-fo Ciwel. Ystyr y gair ydyw fod y He yn debyg o glaf- ychu ceffylau, ond nis gellid cael y rheswm paham. Mai 24.—Ar ol teithio ychydig gwelsom fod y dyffryn yn Hedu unwaith eto, ac wedi trafeilio dwy lech codwyd i'r bryniau ar yr ochr ddeheuol, a theithiasom i'r de-ddwyr- einiol i gyfeiriad arllwysiad yr afon Tecka i'r Camwy. 0 ben y bryniau gwelid bryn uchel i'r dwyrain, a dywedai Pablo yr ar- weinydd mai wrth droed y bryn hwn yr ymarllwysai cangen o'r gogledd i'r afon Camwy, ac o'r herwydd gelwid y lie yn Trawnlenfu. Ceid wyau estrys yn ami yn y dyffryn, ac er eu bod wedi eu dodwy y gwanwyn blaen- orol, bwyteid hwy gan bawb gyda bias oddi- gerth un neu ddau oedd yn orofalus o bilen eu ffroenau. Digwyddodd anhap Iled ddifrifoI i un o'r fintai wedi darganfod wy estrys, dododd ef rhwug ei grys a'i ochr, gan ei fod yn di- gwydd cario ei lawddryll yn ei wregys yr ochr honno, ac wrth garlamu tarawai yr wy ef beunydd, yn hollol ddirybudd welfe ergyd, a phan oedd pawb yn brysio i achub y truan clwyfedig ddeallwyd o'r pellder mai nid y llawddryll oedd wedi tanio, ond yr wy wedi bostio. Rhyfedd y parch delid i'r truan hwn am ddyddiau ar ol y ddamwain. Ar gyfer y fall y codasom i'r bryniau, rhedodd un o'r cwn estrysen i'r afon. Neid- iodd yr esfrys i'r dwfr a nofiodd i'r ochr draw, aeth y ci ar ei hoi a daliodd hi ar fyr- der. Tynodd un o'r rnilwyr ei ddillad, neidiodd ar gefn ei geffyl a chroesodd mewn man yr oedd rhyd, ond o'r braidd y gallodd gyrhaedd o herwydd dyfnder v dv.r. Gwel- wyd ar unwaith nas galiai y fintai groesi y fan hon, ac yr oedd yn rhaid i ni arcs fr lli ostwng neu fyned i lawr yr afon i well rhyd, oedd ddwy neu dair taith o'r fan. Dewiswyd myned ym i-nlaeii, a chroeswyd dros y bryn- iau er cyrraedd y dyffryn rai milldiroedd i'r de i Trawnlenfu, ac yno y gwersyllwyd. Mai 25.—Yr oedd y "dad i'r gogledd i'r afon yn dorredig a bryniog, a'r dyffryn yn gul ar hyd ein taith heddyw boreu. Tua chanol dydd cyrhaeddwyd uniad y Tecka a'r Camwy. Y peth cyntaf i dynu ein sylw oedd nifer o dda corniog oeddyrit yn pori yn dawel ar Ian yr afon. Cynnygiais i'r Br. Bell, Guy a minnau eu dal cyn i'r milwyr ddod ar ein gwarthaf a'u hawlio, and yr oedd y Br. Bell eisieu i mi gyrneryd y lledred yn y fan hon, a phan yn aros gyda'rn sextant" yn fy flaw i'r cymvlau glirio o'r haul, daeth y mil- wyr i'r golwg. Yn y fan gwelsant y gwar- theg, a phan neidio ar eu ceffylau goreu, yr oeddynt wedi dal nifer o wartheg tewion mewn byr amser. Ar ol cyrhaedd gian y Tecka, gwelwyd na allai y rnulod groesi heb wlychu y pynau, felly dadlwythwyd ac arhoswyd yr ochr or- llewinol. Ychydig Iechau i fyny yr afon Tecka y mae y Zepa yn ymuno a hi, a gelwir y wlad gylchynol Gualjaina. (lw barhau.)

————————t-

——————-Cronfa Goffadwriaethol…

Advertising