Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GORFAELIAETH A MODDION BYWIOLIAETH.

News
Cite
Share

GORFAELIAETH A MODDION BYWIOLIAETH. Ya y Nation am yr unfed-ar-ddeg cyfisol, gelwir sylw at gyfarfarfod cyhoeddus gyn- helid yn Plaza Cougreso," i wrthdystio yn erbyn yr orfaeliaeth difrifol a ffynai yn y cyichpedd masnachol, a chynygid cynllun i'r Senedd i'w fabwysiadu a'i ddvvyn allan yn gyfraith, i reoli prisiau prif aaghenrheidiau bywioliaeth, pris y cig dosbarth cyntaf, 70 cts llaeth heb ei hufenu 10 ct bara 15 ct y kilo; tatws 10 ct. siwgr 40 cts. Nos Sad- wrn cyii cynhaliad y cyfarfod, trefuodd cig- yddion y ddinas cu bod yn gostwng y cig 2 ct. y kilo. Wythoos yn ol cyhoeddwyd yn y DRAFOD Fod y ffordd yn rhydd i bwy bynag fedrai ddod a chig i Drelew, i'w werthu yn ddi- drwydded," a hyny yn benaf er mwyu cyn- orthwyo y gweithiwr a'r teulu lluosog. Gyda'r gwahoddiad awgrymid yn llednais ar i'r gwerthwr ddod a'i GYDWYBOD yn ei gerbyd gyda'r cig. Cafwyd peth cig, ond cwynir fod eu cydwybodau wedi eu gadaei yn y gwaed lie lladdwyd yr anifeiliaid. Pa rheswm meddai dyn a chanddo bump o blant I w mhagu, fy mod dan orfod i dalu y fath grogbris i'ch pobl chwi y ffarrnwyr yma, am gilo o gig, dollar neu ddollar a 20 cts., yn 01 caledwch calon, a'r amount o bres fyddai ar wyneb y neb a'i gwerthai. Paham na wnewch chwi fel Cynghor drefnu llwybr o ymwared i ni y gweithwyr, beth bynag. Pe cyhoeddem streic a dechreu ymosod ar eiddo, yn unol a'r awgrymiadau yn y Plaza y Sul diweddaf, beth fyddai'r canlyniadau. Police a ehyfraith dyna i chwi ddau gysodydd yn Swyddfa'r DRAFOD lIe eyhoeddwch eich ilith- iau ar iawnder a rhyddid, mae ganddynt deuluoedd lliosog i'w cadw, sut y medrant dalu y ffordd yn onest dan y fath ormes ar bob liaw. Dyna ddigon bellach meddwn; na, nid yw yn haner digon meddai, a phe medrwn ysgrifenu gwnawu i flaenoriaid eich sefydliad wrido, gwell i mi wneud drosoch meddwn, gwnewch a chroeso meddai yn awr, a oes gwirionedd wrth wraidd yr uch- od ? Ysywaeth, y mae lie i ofnifod, ond y drwg yw, nad oes digon o asgwrn cefn ynom i sefyll dros yr iawn. Peth anymunol ac an- foddhaol yw clywed aelodau o'n cwmni yn dweyd yn wyneb cyfarwyddwr, fod pethau yn rhatach yn stor G-Me, nag yn ein stor ni, ac mae yr achos fod y Cop yn llawn hyd y drws nawn Sadwrn diweddaf hyd 6 p. m. oedd fod y stor uchod yn nghau y di- wrnod hwnw, ac y buasai yn fwy cyduiiol a dyledswyddau y Cyfarwyddwyr iddynt fod yn astudio y PA FODD i wella y fusnes yn eu cyfarfodydd, yn hytrach narhoddieu hunain yn iswasanaethgar i bobl sydd yn chwareu ffon ddwybig yn helynt y Juez, rhoddi ben thyg eu hunain i amddiffvn yr oruchwyliaeth Farnol salaf welodd y Wladfa, a sibrydir fod y ddau Gyfarwyddwr sydd yn y Brif Ddinas yn awdurdodedig i weithredu felly, a hyny ar sail pleidlais olr Cyfarwyddwyr!! Nis gwn beth sydd wirionedd, ond credaf ei bod yn hwyrbryd i ni fel rhanddalwyr honi ein hawliau fel y cyfryw, mae'n berygl i'n cvnrychiolwyr a'n gweinyddwyr ein cym- eryd fel-" So many beasts of muddy brain," neu cero a la izquierda." Fel y dywedodd Thomas Jones gerbron y Dir- -prwywyr, "Rhaid i ni ddeffro yn fasnachol a gwleidyddol." Ar air a chydwybod,  J. H.JOES. ? "04

ETHOLIAD.I

[No title]

INodion.-

Mel Bod Ruffydd.