Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

EISTEDDFOD Y WLADFA, 1918.

Gleanings.-I

IAJVIRYWIOIV.

News
Cite
Share

I AJVIRYWIOIV. Dechreu'r wythnos ddiweddaf aeth y Br. John Stanley Jones, i Buenos Aires. A diwedd yr wythnos ddiweddaf aeth y personau caialynol yno:-BwNr. Elias Oweii, E. J. Roberts, David Ed. Williams, Evan Coslett Thomas ac Aeron Morgan. Hefyd y Fones John Henry Jones, Fones- ig Esther Pierce, Fones Evan John Roberts a dau o'r plant, sef, Maifron a Franklin, Fon- es David Ed, Williams, Melba Hughes, a'r Fones loan Hughes. -0- Yn y Drych gwneir y sylwadau canlynol am Berwyn. Ganwyd ef yn Llandrillo, yn agos i, Lan- gollen. Daeth D. Jones a'i deulu i Nant- swrn, Tregeiriog, pan tua 13 i 15 oed efe oedd yr hynaf o'r plant. Yr oedd ei dad yn un o'r dynion mwyaf gonest a dihoced a welais erioed. Nis gwn a oedd yn flaenor cyn dyfod i Dregeiriog ai nad oedd, ond cof- iaf yn dda iddo gael ei ddewis i'r swydd yn fuan iawn wedi ei ddyfodiad yno, a bu yn ffyddlon ac yn allu er daioni i'r eglwys. Yr oedd Richard yn ganwr alto rhagorol ac aeth son am dano fel y cyfryw yn fuan. Cofiaf yn dda am dano yn dyfod i ysgol en- wog (?) Nantyglog, Llanarmon. Aeth efe a minnau yn gyfeillion mynwesol ar unwaith a pharhasom felly hyd nes aeth efe o 'Ir wiad. Camgymeriad yw meddwl ei fod wedi cael ysgol uvvchraddol. Na, hunanwneuthuredig ydoedd. Ni chafodd ond bod yn ysgol Nant- yglog gyda Ceiriog ac amryw enwogion eraill, ond bu yno am gryn amser ar ol i mi prfod myned ar fferm fy nhad ond 'doedd dim a wnelai efe a ffermio, felly parhaodd i astudio. Yr wyf yn meddwl mai pan oedd yn Llundain y cymerodd yr enw Berwyn at ei enw bedydd. Cofiaf fod mewn cyfarfod llenyddol yn nghapel Tregeiriog ac yntau adref o Lundain am dro ac adroddodd Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Ceiriog, nas clywais ddim tebyg iddo ar ol hyny. Bu yn cadw ysgol Frytanaidd yn Garth Trefor wedi gadael Llundain, os nad wyf yn camgofio. Yn fuan daeth i America. Cafodd le da yn N. Y. Pan ddaeth pethau yn addfed i fyned i'r Wiadfa, gadawodd y cyfan a daeth i'm gweled tra yn bywvn Aberchwy i geisio fy mherswadio i ddyfod gydag ef, a minau yn dadleu y byddai yn edifar ganddo adael N. Y. a dyna y tro diweddaf i mi ei weled. Ni fu efe yn byw ond aros am dro yn Mhontymeibion, ond fel Richard Nantswrn yr adnabyddir ef. Drwg genyf ddarlIen heddyw am farwol- aeth ei chwaer-yn-nghyfraith, Mrs. Jones Pontymeibion, sef gwraig ei frawd Dafydd. Nid oes ond fy hunan a Mrs. Evans, gweddw y Parch. John Evans, Croesoswallt, yn aros o hen ysgolheigion Nantyglog, a ni- nau a adawyd yn unig.

ILlongau.