Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Diweddar Mr. Richard Ellis.I

.. 1- - Yr Undeb Efengylaidd.I

TREORCI.

News
Cite
Share

TREORCI. iCYINHEUR. Cyngherdd Cystadleuol a The Parti yn yr uchod 18 o Medi 1918. Disgwylir prif adroddwyr a chantorion y cylch. Yr elw tuag at Eglwys Treorci, Mynediad i mewn, Oedogion, $ 1.00; Plant 50 cts. Drysau yn agored am 6 o'r gloch. YR YSGRIFENYDD. -0- Wele yn canlyn brif ddarn cystadleuaeth adrodd. Yn agored i bob oed. D'WED DY FARN. Gan Gwilym Einion, Llcingristiolus. [HAWLYSGRIF ] Os nad wyt ti ond llencyn* tlawd, Heb feddu aur na bri, Ac nad yw'n werth gan feibion ffawd I sylwi arnat ti Paid byth a rhoi dy ben i lawr 0 dan eu traed yn sarn, Bydd ddewr yn wyneb bach a mawr, Nac ofna dd'weyd dy farn. Os daw dy uwchradd yn y byd Rhyw ddiwrnod atat ti, Gan dd'weyd y dylet ar bob pryd Ymgrymu lawr i'r Ni;" Na chel dy deimlad yn ei wydd, Dal at y gwir bob darn, A thraetha'th feddwl iddo'n rhydd, Nac ofna dd'weyd dy farn. Pan fyddo cymdeithasau'n troi • I sathru'th hawliau di, A rhyddid llafar wedi'i gloi, Paid gollwng gyda'r Hi Ond d'wed yn wyneb deddfaii'r tir Na fyni'th wneyd yn sarn, Yn wyneb pobpeth, cadw'r gwir, Nac ofna dd'weyd dy farn. Mae barn yn meddu hawl ifyw— Mae'n rhan o enaid dyn Egwyddor anmhlygedig yw, 0 blaid Duw ei hun A chyn ei gollwng hi dan draed, Ymladder hyd y earn, Ac os rhaid iti golli'th waed, Nac ofna,—d'wed dy farn *Neu lodes."

Advertising