Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Nodion.I

[No title]

.Llongau.

ICia. Unida de Irrigacion…

Advertising

Cwmni Undebol Dyfrhaol y Camwy.…

V RHYFEL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Gorchfyg-asom ymosodiad y gelyn i'r I gogledd o Baillieul. Awst 27. PARIS. Swyddogol.—Bu brwydrau lied fywiog gyda'r cadoffer yn ystod y nos yn ranbarth Roye a Beauraugnes, a rhwng- Aillette ac Aisne. Trodd ymosodiadau y gelyn yn Vosges yn fethiani. Cymerasom garcharorion. LLUNDAIN.— Yn ol cyfrif swyddogol o golledion y Prydeinwyr rhwng 2iain a'r 25ain cyhoeddir fod y nifer yn 23,000. Yq ystod yr un cyfnod cymerasom 20,000 o Almaenwyr yn garcharorion. LLUNDAIN.-Mae'r Japaniaid wedi cwbl- hau eu cydganoliad yn Usuri. Darfu i Marmes yn cael ei gynorthwyo gan foduron arfog ymosod a gorchfygu y Bolshevikiaid yn Evgenevska. RHUFAIN. Swyddogol.-Dangosir gweith- garwch mawr gan ein cylchwilwyr yn Asiago. Cymerwyd carcharorion gan wa- hanlu o gadluoedd Ffrengig-Prydeinig yn Monte Tomba. Gwrthg.urasom ymosodiad cryf oddiwrth y gelyn. RHUFAIN.—Mae Orlando wedi myned i'r ffrynt. AMSTERDAM.—Cadarnheir fod y Checo- SIavs wedi ail gymeryd Kuzan. COPENHAGEN.—Mae'r newydduron Almaen- aidd o'r un farn fod y sefyllfa ynglyn ar ys- baen yn ansicr. Dywed y "Taeglische Rutid- schau" y byddai i wrthdarawiad rhwng y ddwy wlad gael dylanwad mawr ar Argen- tine a Mexico. Dywed y "Vorwarts" y byddai i waith Ys- baen yn rhoddi heibio anmhleidgarwch yn fuddugoliaeth boliticaidd fawr i'r Cydbleid- wyr (Entente). LLUNDAIN. Daily Mail. Hague.-Mae cyn hauaf yr Almaen yn 15 y cant yn well nag un 1917, ond y maent eisioes wedi dechreu ei ddefnyddio, Mae'rey,iihauaftatwsyiigyfartal i tin 1917,. ond mae'r cynhauaf porthiant (forage) wedi inethu. LLUNDAIN. Swyddogol.—Ymosodasom yn nosran Scarpe a symudasom yn ..mlaen ar ddwy ochr y Somme. Gorchfygasom wrthymosodiadau i'r gog- ledd a'r dde o Bapaume a chymerasom gar- charorion. Yr ydym wedi cymeryd Farreuil. Mae gwlaw trwm ar yr holl ffrynt. PARIS.-Dywed gwifreb oddiwrth "Havas" o'r ffrynt Prydeinig fod y Prydeinwyr, i'r dde o'r Somrne, wedi cymeryd gwn mawr newydd 380 calibre (gwndwll). Awst 28. LLUNDAIN, Swyddogol.—Yr ydym wedi cymeryd Highirood ac wedi cyrraedd Lon- ghes. Yr ydym yn symud yn mlaen i gyf- eiriad Dompieraste a Suzanne. Er yr 2iain yr ydym wedi cymeryd 21,000 yn garchar- orion. PARIs.-Mae'r newydduron yn gwneud sylw o'r sefyllfa rhwng Yspaen a'r Almaen, a dywedant fod y newydduron Almaenaidd yn datgau awydd i osgoi rhwyg, yn arbenig gan fod y bygythiad Ysbaenaidd yn un lied bwysig. AMSTERDAM.—Yu ol y "Telegraff" gwrtli- ododd bataliwn Almaenaidd fyned i'r ttrynt. Wedi i lawer gael eu saethu ymostyngodd y gweddill i'r awdurdodau. Archangel. Bydd i lywydd y Llywod- raeth ddarbodol orchymyn casglu ynghyd y fyddin genedlaethol newydd. mae gwasan- aeth milwrol gorfodol wedi ei sefydlu. PARIS. SW y ddoool.-Yr ydym wedi gorch- fygu Fresnoy Lervy a Saint Mard. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi cymeryd Wancourt a Mouchy-le-Reoux, Yr ydym hefyd wedi cymeryd Cappy, Su- zanne a Faiz. THE HAGUE.—Dywed un teilwng o ymddir- iedaeth ag sydd wedi dyfod o'r Almaen fod y cwestiwn o gyflenwad bwyd yn achosi an- hawsderau mawr. Er hyn ui fydd i newyn wneud i'r Almaen roddi i fyny. Ni fydd dim yn effeithiol ond dyrnchweliad y gallu milwrol. RHUFAIN.-Bydd i rai sy'n cyfansoddi corphlu newydd awyrol ddechreu ar eu cwrs o hyfforddiant yn yr Hydref. AMSTERDAM.—Mae anhawsderau'r Wein- yddiaeth yn parhau heb eu dadrys, bydd i gais gael ei wneud i ffurfio Cyfringyngor cyf- aiisod(ledig or naill I)Iaid a'r Ilall. PARIs.-Mae'r Almaenwyr yn encilio yn gyflym oddiwrth y Somme. Mae'r byddin- oedd Ffrengig yn cadw mewn cyffyrddiad parhaus a'r gelyn, ac yn achosi colled drom iddo. RHUFAIN. Swyddogol.- Suddasom fad- modur i'r gelyn yn agos i Torbolo ar lyn Garda. Yn nyffryn Assa cymerasom rai carcharorion. Yn Alposillo ffrwydrasom stor nwyddau rhyfel y gelyn, a difodasom wahanlu fechan yn ranbarth Grappa. PARIS. Swyddogol.- Yr ydym yn parhau i symud yn mlaen ac yn cadw mewn cyff- yrddiad a blaen byddin y gelyn. Yr ydym wedi cymeryd Chaulnes, Omiencourt, Bala- trel-laialiso a Verpilliers. Er ddoe yr ydym wedi cymeryd 30 o bentrefi, ac wedi symud yn mlaen 12 kilometres mewn rhai Ileoedd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae ein cadlu- oedd wedi cymeryd Faucancourt gan gym- eryd Ilawer yn garcharorion, yr oedd y lie wedi ei gadarnhau. Gwrthgurwyd ymosodiad y gelyn ar ffrynt Arras-Douai. Yn nosran Newbwrquin yr ydym wedi symud yn mlaen 4 milldir. LLUNDAI.ri.-Dywed adroddiad o Archangel fod cadluoedd cydbleidiol wedi gwasgaru afon-Iynges perthynol i'r Maximilistiaid. AMSTERDAM.—Mae cadluoedd Japanaidd wedi cyr-raedd i I-laillar 1500 o filldiroedd o Vladivostock. LLUNDAIN.-Ar ei ddychweliad o'r ffrynt dywed General Maurice yn y Daily Chronicle fod lluoedd yr Almaenwyr yn mhell o fod wedi eu hysbyddu, ond mae eu cwymp yn sicr os bydd i'r Cydbleidwyr barhau i bwyso yn mlaen arnynt. WASHINGTON.-Dywed March fod y Cyd- bleidwyr wedi cymeryd 112,000 yn garchar- orion er Gorphenaf, hefyd 1300 o ynau o wahanol faintioli (calibres). PARIS.-Dywed tiewydrlion Cnid o ffynon- ell swyddogol) fod y Cydbleidwyr wedi croesi Aillete o dan arweiniad Mangin. BERLIN. Swyddogol.—Ddoe arwyddwyd gan yr Almaen a Rwssia dri o gytundebau adychwanegol at un Brest Litovsk. ———— .t -————