Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

V RHYFEL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

V RHYFEL. I Newyddion gyda'r Pellebr. I (HAVAS AGENCY.) I Awst 22. RHUFAIN. Swyddogol.-Gwnaeth gwa- hanluoedd y gelyn ymgais i ymosod ar ein Hinellau yn Valriofedo, ond gorchfygwyd ef gan ei orfodi i encilio yn anrhefnus. Gyrrasom gylchwylwyr y gelyn ar ffo i'r dde o Mori. Tanbelenwyd Vaisugana gan ein peir- ianau awyrol, a dygwyd i lawr 5 o beir- ianau'r gelyn. AMSTERDAM.—Dywed "Dusseldorf Nach- ricter" fod bradgynllun gwrth-Sovietaidd wedi ei ddarganfod yn Nishni-a-ovgard; mae y gwrthchwyldrowyr wedi eu cymeryd i'r ddalfa. PARIS. Swyddogol.—Mae dau gyngor rhyngwladwriaethol wedi eu creu yn Rws- sia, un yn Archangel ac yn cynwys y teyrn- genhadon cydbleidiol o dan lywyddiaeth French, a'r llall yn Vladivostock yn cyn- wys pump o swyddogion uchel. LLUNDAIN.-Mae'r "Times" wrth edrych dros "sefyllfa'r glo" yn awgrymu fod cais yn cael ei wneud i adael y cwestiwn yn. hollol i anrhydedd y glowyr, a chydsynio yn wirfoddol a'r amodau ofynir gan ym- ddiried y bydd i'r glowyr wneud eu dyled- swydd yn anrhydeddus. BERNE.—Dywed Mayor Tanner yn y "Muncheuer Post" y bydd i ymgyrch ddi- weddar Dannunzio dros Awstria ddangos fod polisi milwrol Awstria mewn pel ygl gan ei fod yn dangos uchafiaeth yr Italiaid gyda'u peirianau awyrol. LLUNDAIN. Swyddogol.—Ymosodasom ar safleoedd y gelyn rhwng y Somme a'r An- cre i'r dde a'r dde orllewin a Beaucourt. Yr ydym yn cadw meddiant o'n safleoedd enillwyd. Mae cad offer y gelyn yn hynod weith- gar ar yr.holl ffrynt. Cymerasom leoedd caerog i'r gogledd o Bailleul. Cymerasom 2.500 yn garchar- orion. PARIS. Swyddogol.—Yr ydym yn cadw mewn cyffyrddiad a'r gelyn yr hwn sy'n encilio rhwng Matz ac Oise. Yr ydym wedi cymeryd Lapoemont, Thiescourt, a Connectancourt. PARIS.-Darfu i Clemenceau dreulio ddoe ar y ffrynt. Mae cwymp Noyon yn an- ocheladwy. WASHINGTON. -Dywed y Swyddogaeth lyngesol fod, yn ystod yr wythnos ddiwedd- af, 10 o longau gyda cyfanswm tunefliaeth 53,850 wedi eu gollwng ar y mor. WASHINGTON.—Bydd i Wilson gyflwyno i'r senedd fesur yn awdurdodi yr holl ym- noddwyr (sydd wedi eu gorfodi i adael eu gwledydd o herwydd y rhyfel) i ddyfod i'r Unol Dalaethau. COPENHAGEN. Dywed adroddiadau o Rwssia fod terfysg ffyrnig wedi torri allan yn mysg y gwarchlu yn Tzarskselo, ac iddynt geisio teithio yn mlaen i ymosod ar Petrograd, ond tawelwyd hwynt yn y diwedd. Awst 24. LLUNDAIN. Swyddogol.-Brwydrir rhwng Soissons a'r Somme a'r afon Goyeul. Yn ystod y nos gwnaeth y gelyn ddau ymosod- iad ar ein safleoed yn agos i Baillies Court. Gwrthgurasom ymosodiadau i'r dwyrain o Bailliescourt. STOCKHOLM.—Dywed newyddion o ffyn- onell Almaenaidd fod terfysgoedd wedi torri allan yn Petrograd yn ranbarth y gweithwyr. Mae'r bobl wedi bod er's tri- diau heb fwyd. PARIS. Swyddogol.—Mae tanbeleniad ffyrnig yn ranbarth Beuraquoise a'r Oise. AMSTERDAM. Rieff.—Ymosodwyd ar Al- rnaenwyr gan 300 o derfysgwyr yn agos i Krementhug. Yn agos i Piltova lladd- wyd Soo o derfysgwyr, diangodd y gwedd- ill yn cael eu herlid gan yr Almaenwyr. WASHINGTON.—Lladdwyd 4 o ddynion a chlwyfwyd 18 trwy ffrwydriad ar fwrdd rhyfel long Gogledd America. LLUNDAIN.-Mae brwydr waedlyd yn myned yn mlaen ar ffrynt o 50 milldir ar ffrynt Soissons, gyda chanlyniadau ffafriol i'r Cydbleidwyr yn mhob lie. Bygythir trychineb ar yr holl linell Al- maenaidd. Li.UNDAIN.-Dywed newyddion o'r ffrynt Prydeinig ein bod wedi cyrraedd Gomme- court a Meault, ac wedi cymeryd Thisgu- olles, Helaville, Boyelles a Dairy. RHUFAIN. Swyddogol.- Yr ydym wedi cymeryd Voltrenta, Civalli a Sassteffi, gan gvmeryd carcharorion. Tanbelenasom "aerodromes" y gelyn ac hefyd gorsaf- oedd y rheilffordd. Tanbelenwyd Treviano gan beirianau awyrol y gelyn, cwympodd un o beirian- au'r gelyn i'r mor, a dinystriwyd 8 eraill. PARIs.-Cydnabyddir gan hysbysrwydd Almaenaidd fod yr Almaenwyr yn encilio ar yr Oise acAillete, ond dywed fod yr enciliad fel rhai blaenorol o dan Luden- dorff yn rhai hollol wirfoddol. PARIS.—Heddyw yn mhresenoldeb Cle- menceau, Legais, Petain ac eraill cyflwyn- odd Poincare i General Foch "baton" cad- lywydd, ar ol hyny aethant i'r prif gadlys a rhoddwyd y fedal filwrol i Petain. LLUNDAIN.-Nid yw enciliad y Checo- Slav yn Usuri (?) yn effeithio ar linell cym- mundeb, ac nid yw yn cael ei ystyried fel yn ddifrifol. Sibrydir fod Verchnindinky wedi ei chymeryd. LLUNDAIN, Swyddogol.—Er y 2 lain eyf- isol yr ydym wedi cymeryd dros 14,000 yn garcharorion ac wedi cymeryd nifer dda o ynau mawr. Gorchfygasom ymosodiadau yn Ailleul a Vemmel. Mae brwydau yn myned yn mlaen ar canal La Basse a Givenchy. Cymerasom Donniscourt, Ewilliers, Bray, Hamelincourt, Bogelle, Achie-le-grand. Bequevilles a Bihucourt. BERLIN. Swyddogol.—Ar y 22ain ym- osodwyd gan longau ysg-afn Almaenaidd yn ymyl Dunkerque gau suddo dwy torpe- do destroyers, enciliodd ein llongau heb ddim niwed. BERLIN. Swyddo,-ol.-Gwrthdyst:ir gan y LIywodraeth yn erbyn bwriad Ysbaen i gymeryd y llong-au Almaenaidd sydd yn y porthladdoedd Ysbaenaidd yn lie y llongau Ysbaenaidd suddir gan suddlongau yr Al- maen. Mae'r drafodaeth yn myned yn mlaen. NEW YORK. Dywed yr "Associated Press" fod y Prydeinwyr wedi cymeryd Bray. LLUNDAIN.-Ceisiodd "motor launches" Almaenaidd wneud yspienwaith yn agos i Dunkerque ond gyrwyd hwynt ymaith gan gylchwilwyr Prydeinig a Ffrengig. Credir i un "launch" gael ei suddo. Ni chafodd y cydbleidwyr unrhyw golled. WASHINGTON.—Dywed March, penaeth y llys milwrol, fod 1,500,000 o filwyr yr Unol Dalaethau wedi morio eisioes am Ffrainc. NEW YORK. Dywed yr "Associated Press" fod y Prydeinwyr wedi amgylchu Bapaume. PARIS. Swyddogol.—Yn ranbarth Las- signy rhwng Aise a'r Oise, mae brwydrau gyda'r cadoffer. Aeth ein gfwahanluoedd i mewn i ffosgloddiau'r gelyn mewn amryw fanau yn Lorenne gan gymeryd carchar- orion. PARIS. Swyddogol.—Mae gweithgarwch gyda'r cadoffer yn cynnyddu ar ffrynt Ser- biaidd-Albanaidd. Gorchfygasom wahanluoedd y gelyn mewn amryw fanau. LLUNDAIN. Swyddogol. Gwnaethom ymosodiadau llwyddianus gyda'n peirianau awyrol ar yr 22ain cyfisol, a disgynasom 35 tunell o ffrwydbeleni ar ystorfeydd nwyddau rhyfel y gelyn. Dygasom i lawr 20 o beirianau awyrol a go awyrenau. LLUNDAIN. Amsterdam.—Mae'r Almaen- wyr yn brysur gadarhhau eu Hinellau ar y Mosa. Mae miloedd o garcharorion yn agor ffosgloddiau rhwng Dinatt a Givet. AMSMERDAM.—Dywed y "Cologne Gaze- tte' fod Croatiaid, Serbiaid, Checoaid a Polacoaid yn y gyngres Slafaidd yn Lair- bach, ac fod Cyngor Slafaidd Cenedlaethol wedi ei sefydlu gan y gyngres, Yr oedd y gynnadledd yn ddang-osiad arbenig o Undeb Slafaidd yn Awstria- Hwngari. RHUFAIN. Swyddogol. Mae brwydro gyda'r cadoffer ar yr holl ffrynt. Gwasg- arasom tangloddwyr y gelyn yn Valtellina. Tanbelenwyd gwersyllfeydd yn Valle La- garina gan ein peirianau awyrol, dygasom i lawr 5 o beirianau y gelyn. LLUNDAIN.-Mae cyfarfod cyffredinol "Ar- gentina Iron and Steel Co." (P. Vasena e hijos) wedi cyhoeddi fod ei enillion am 1917 yn £ 115000, yn 1916 £ 106000 ydoedd. AMSTERDAM.—Dywed newydduron Mos- cow fod General Slachavicz, cyn Raglaw Rwssia yn Ffinland, wedi uno ei gadluoedd gyda'r Cydbleidwyr yn Archangel. AMSTERDAM. Petrograd.—Heblaw "Cho- lera" mae'r "tiphus" yn angerddol yn Rwssia mewn canlyniad i brinder bwyd. Awst 25. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym yn parhau i wasgu yn drwm ar bob pwynt ac yn rhwystro'r gelyn orphwys er ei fod wedi dhel cryn adgyfnerthiad. Yr ydym yn gwneud cynnydd pwysig, ac yn cymeryd carcharorion a.swm mawr o ddefnyddiau. Mae cadluoedd Newzealand wedi cyr- raedd ffiniau Bapaume. Moscow.—Mae mudiad gwrthchwyldro- adol mawr wedi cymeryd lie yn ddiweddar o dan arweiniad General Alexieff. PARIS. Swyddogol.-I'r gogledd o Roye trodd ymosodiad dirybudd y gelyn yn feth- iant gan adael yn ein dwylaw 20 o garch- arorion. Rhwng Ailleth ac Aisne yr ydym yn parhau i symud yn mlaen. Cymerwyd carcharorion gan ein cylch- wilwyr ac yn eu plith yr oedd Awstriaid ac Hwngariaid. LLUNDAIN.-Mae cylchwilwyr Prydeinig wedi myned i mewn i Bapaume. LI.UNDAIN.-Dechreuodd yr Almaenwyr wrthymosodiad ar fyddin Mangin ag sydd yn awr yn dechreu ymosod ar ochr Chemin- des-Dames, LLUNDAIN. Kieff.-Mae'r Don Cossacks, aeth i mewn i dy'r Llywodraeth yn Sara- lolff, wedi cyrraedd y rheilffordd yn Tom- boff a Kanyshin ac wedi cymeryd glan ddeheuol Volga i'r gogledd o Tharipin. RHUFAIN. Swyddogol.—Mae'r brwydrau arferol gyda'r cadoffer yn Cima, Cadis, Dasso Alto a Montello. Neithiwr disgynwyd gan ein peirianau awyrol 4 tunell o ddefnyddiau ffrwydrol ar wersyllfaoedd peirianau awyrol y gelyn ar wastadedd Friuf a Lagarina gan achosi tan. Tanbelenwyd Padua gan beirianau aw- yrol y gelyn. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae'r ymosod- iad yn parhau ar y Somme ar y ffordd rhwng Albert a Bapaume i fyny at ymylon Contal, Varlencourt, a Beaucourt. Cym- erwyd genym Sapignie a Behaguies. Mae nifer y carcharorion gymerwyd gan y 3edd a'r 4edd fyddin er yr 17eg cyfisol dros 17,000. f