Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Yr Ysgol, Ganoiraddol.I

Casgliad Rhanbarth Treorci…

Casgliad Eglvvys Glan Alaw.…

.Briwsion olr " Nacion."

News
Cite
Share

Briwsion olr Nacion." Allforiwyd yn ystod mis Gorphenaf ddau can mil o dunelli o wenith, o borthladd Rosario yn unig, i Brydain a Ffrainc, a gol- ygid dyblu y swm yn ystod y mis yma, Awst. Mae y cynhauaf yn Mhrydain yn rhagori llawer*ar ddim a gafwyd yn flaenorol, yn arbenig gwenith. Mae cynbauaf gwenith Ffrainc yn fwy o ddau ddeg pump y cant, eleni na llynedd. Mae Norway wedi adeiladu 120 o longau coed, a'u tunelliaeth yn ddau can mil, ym- gymerwyd a'r orchest yma drwy gyd-ddeall- twriaeth gyda'r Talaetbau Unedig. Yn y misoedd diweddaf yma, ymgymer- wyd a gwneuthur darn o gledrfiordd, dair gwaith cyhyd ac oddiyma i Madryn, sef 210 K. Twnel cyhyd ag un y Gaiman, dwy bont enfawr, cwblhawyd yr oil mewn tri mis, yr amcan mewn golwg ydoedd,—uno De a Gogledd Ffrainc. Mae Croes Gochyr Unol Dalaethau wedi anfon 75.000 o flaneedi gwlan cynes, ar gyfer y gauaf dyfodol, yn rhodd i'r ffoedigioh yn Italy, cyfrifid eu gwerth yn 230.000 o $ aur, Dirwywyd masnachydd siwgr yn yr Unol Dalaethau i 20.000, o $ aur, am godi gorbris ar ei nwydd, troswyd y ddirwy i gymdeithas y Groes Goch. Mae Mr. Henry Ford wedi gwario dros ddwy filiwn o ddoleri aur, mewn ad-drefn- iadau yn ei law weithfeydd er effeithioli gwneuthuriad Tractions cyfatebol i alwadau maes y gad, troir allan 300 o honynt yn ddyddiol. Golyga y Talaethau Unedig osod ar faes y gad, y fath gyfienwad o arfau, a nifer o ddyn- ion, fel ag i sicrhau buddugoliaeth a therfyn ar y rhyfel tua mis Awst 1919, ac y byddo heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel ton- au'r mor. Dywedir mai tair shell yn unig darawodd Gathedral Amiens a chynaliwyd cwrdd diolchgarwch am y waredigaeth. Tybed a gawn ni y fraint o ddiolch am y terfvniad ar y dyddiad uchod J. H. J.

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

ICasgliad Eglwys Bethesda.