Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Dyffryn y Camwy..

News
Cite
Share

Dyffryn y Camwy.. Haues y Wladfa Gymreig, ei dechreu, ei datblygiad a'i dyfodol, a thraethiad ami ymgyrch a thaith i baith Patagonia. Gan LLWYD AP IWAN. [PARHAD. ] Mai 1 5, 1887.Penderfynodd y Br. Bell fyned i Cholila, ac o'r herwydd yr oedd yn rhaid i'r holl fiatai fyned i'r un cyfeiriad, sef i'r de-orllewin. Teithiwyd ar hyd isel- dir oedd wedi ei furio o'r deutu.gan fryniau, ym mhen draw yr iseldir yr oedd llyn bychan elwid Lago Torro (Llyn Tarw). Yr oedd dyfroedd yr iseldir yn ymarllwys i'r llyn ac oddiyno i Cholila. Ar gychwyniad ein taith, nodwyd iseldir arall yn ymestyn i'r de. Pan ar gyfer Llyn Tarw, cododd Pablo ar y llaw dde i'r bryniau, tra y Uvvybr naturiol elai yn syth yn mlaen. Yr oedd y I Br. Bell ar y pryd wedi aros ar ol i edrych am lawddryll oedd wedi golli. Yr oeddwn inau hefyd dipyn ar ol y gweddill, ond cyr- haeddais mewn pryd i weled un o'r mulod pwn yn syrthio dros y dibyn, ac yn rholio i lawr y goriwaered am gan'llath neu ragor. Q herwydd y ddamwain hon penderfynais i ac Obregon aros gyda Leon y gyrrwr mulod, a galwyd gwasanaeth dau filwr ac un Ind- iad, a dilynwyd y gyrrwr nes i'r nos ein dal, a hyn cyn i ni gyrhaedd y gweddill o'r fin- tai. Gan ei bod yn anhawdd teithio tir torredig yn y tywyllwch, pan gyrhaeddwyd lie gweddol i wersyllu, gofynodd Leon fy nghaniatad i gampio a thaflu y pynau i'r ddaear, ac felly y bu. Cyrhaeddodd y Br. Bell a Guy yn fuan ar ol hyn, ac yr oedd yn ddrwg ei hwyl am nad oeddym wedi dilyn y gweddill a myned yn mlaen. Daeth un o'r rhai oedd ar y blaen yn ol atom, a dywedodd fod ein gwersyll mewn llawer gwell lie na'r fan ddewiswyd gan Pablo. O'r herwydd cynheuwyd y tan a chodwyd ein pabell, ac vug ngoleu y ffagl- au a miwsig y rhostio, a thotied o fati, teim- lem rnevvn gwell hwyl ac yn fwy ffrindiol. Mai 16.—Aeth y Br. Bell a minau hyd i wersyll y rhan arall o'r fintai oeddynt wedi campio rhyw filltir yn nes ym mlaen na ni. Yr oedd y swyddog yn achwyn ar y wlad dramwywyd ddoe, ei bod y-n arw ryfeddol, ac nad oedd modd iddo ef deithio y fath wlad gyda'r nifer o bobl oedd yn ei ddilyn. Hefyd, gofynodd i'r Br. Bell ddweyd yn glir a chroew i ba le yr oedd yn bwriadu myned, yr anfonai nifer o filwyr gvdag ef i ofalu am dano. Atebodd y Br. Bei! mewn cyinysg- iaith o Hispanaeg a Saesneg, fod pob chwar- eu teg iddo fyned at y Gwr Drwg a chymer- yd ei filwyr gydag ef o ran y Br. Bell, fod ei absenoldeb yn llawer mwy cymeradwyol nai bresenoldeb ond daeth y swyddog a'i orch- mynion pendant fyth i'r golwg, ac na aHai anufuddhau hyd yn oed pe ynfalch o wneud hynny. Trodd y Br. Bell at Pablo: a dywectodd rhywbeth wrtho. Neidiodd Pablo ar gefn ei geffyl a dilynodd y Br. Bell a minau, ac aethom ym mlaen i weled a oedd y wlad yn dramwyol i'r gweddill. Ar ol teithio rhyw gymaint i gyfeiriad deheuol, daethom i olwg Ilyn rhvw bum' niilltir o hyd wrth filltir o led, Yr oedd y tir yn anhawdd ei deithio, y twmpathau a'r manwydd i bob cyfeiriad oeddynt rwystr mawr. Yng nghanol y man-goed hyn, gwelsom garw coch elwid gan Pablo yn hwymul (huemul). Aethom yn mlaen at y llyn ac ar ol dilyn ei lan ddwyreiniol am bellder, aethom ar hyd ei ochr ogIeddol nes cyrhaedd tir clir, croeswyd hwn a daethpwyd hyd hen wely afon oedd sych. Dilynwyd yr hen wely nes cyrhaedd tir uchel, a thorrwyd yn syth am y gwersyll cyffredinol, otid rhyngom a'r gwersyll yr oedd cors fawr a byrgoed yn tyfu ar hyd ei glanau, yr oedd yn rhaid i ni ymwthio bell- deroedd drwy y byrgoed hyn cyn cyrhaedd y gwersyll. Mai 17.—Yr oedd Saiwaichin, un o Ind- iaid Valcheta, yn hollol gyfarwydd a'r gym- 'dogaeth hop, ac o dan ei gyfarwyddyd, dil- ynodd yr holl fintai ef hyd Cholila. Er fed ein harweinydd newydd yn abl i ddewis y Uwybr goreu, nid oedd y goreu ond gwael ac anhawdd iawn ei deithio yn enwedig i'r mulod pwn druain oeddynt wedi eu gor- lwytho, er y cyfan gorfodwyd ni groesi ami i gors ar y daith. Y mae Cholila wedi ei amgylchu gan dorch o fynyddoedd oddigerth i'r gogledd. I'r dwyrain yr oedd cadwen y pre-Cordilleras oedd rhyngom a Leleche, i'r de yr oedd mynydd mawr, ochrau pa un ordoid gan goedydd, i'r gorllewin yr oedd llethfau serth y Prif Andes, copa'au uchaf y rhai ym- estynent i fyd yr eira tragwyddol. I'r gog- ledd wele y gwastad diroedd oleddent yn raddol ar i waered o lenydd y Chubut hyd yma. (Piv barhan.) ————— ————

IIMarwolaeth Isaac Ellis.-

I — ■— .. — ■ - I.- II I I…

Advertising