Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Unoliaeth Cristionogol.I
Unoliaeth Cristionogol. I (Darllenwyd yr isod yn Gymanfa Undeb Eglwysi'r Wladfa. gan Br. William' Evans, Maes yr Haf, a chyhoedder ef ar gais y Gymanfa.) Diau y cydnebydd pawb fod y benod hon, sydd yn cynwys gweddi fawr offeiriadol ein, Gwaredwr, yn un o'r rhai mwyaf dwys, ar- uchel ac ysprydol ag sydd o fewn y Beibl. Saf yr Iesu a'i gefn megys at y byd hwn, a'i wyneb at ei Dad yn yr uchelder, a deis- yfaam fendithion iddo ei Hun, i'w ddis- gyblion ac i'w Eglwys. Dechreua drwy ddweyd, Daeth yr awr." Daeth mwy xia hyny medd y prif fardd cymreig, Daeth yr awr a'i dieithr wg. Dyma ymlid mwy amlwg." Y fendith gyntafofyna am dani yw :— Gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau." Dyro ogoniant i mi yn awr i'm galluogi i roddi gogoniant yn ol i ti. 11 Mi a'th ogo- neddais di. ar y ddaear ini a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur." Gan hyny, arddel dithau finau yn awr yn y cyf- wng mawr sydd o'm blaen, pan mae'r byd yma yn cau ei ddor yn fy erbyn, a lluoedd anwnyn ymosod arnaf. Gweddio dros yr Eglwys wna y Gwaredwr: oCr unfed-adnod- ar-hugain ym mlaen. Y fendith gyntaf ddy- munir yw "Fel y byddont oil yn un." Yr oedd am eu cael yn unol, a'r cynllyn, neuj batrwm yr undeb oedd :— Megys yr wyt ti y Tad ynof fi a minau ynot ti." Ac amcan y cyfaii ydyw Fel y credo y byo .mai tydiamhafonaist i." Diaugenym ton yr adnod hon yn golygu undeb neu unoliaeth yn yr EglwysYtÏJ mhob (iim posiblUlHleb personol yr aetodau lie bo hyny yn bos.ibl. Yr oeddynt hwy oil yn gytun yn yr un lie.' Undeb Ysgolion Sabbothol a phregethu gair,—pob undeb y byd yn wiw gan Yspryd Duw ei arddel. Er hyny, diau mai unoliaeth yspryd a feddylir yma'n benaf, undeb ffydd, gobaith a chariad ac undeb gwaith ac am can. Canys myfi yn ddiau fel yn absenol yn y corph eto yn bresenol yn yr yspryd. Undeb fel corph i Beiv yr Eglwys, yr hwn sydd drwy ei yspryd yn bresenol gyda'i bob! bob amser hyd ddiwedd y hyd. Drw\ undeb ffydd y dywedir am Abraham. Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i, ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd." 'Does dim yn amlycach yn y gair sanct- aidd ua bod y credadyn, neu yr Eglwys yng Nghrist, a Christ yn y credadyn, a thrwy ffydd y cymer yr unoliaeth hyny le. Pan oedd yr lesu ar adael y byd ytna, llanwyd calon- au y disgyblion a thristwch, ond buan yr eglurodd yr Iesu iddynt mai Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith, canys onid af fi, ni ddaw y Diddanydd atoch, eithr os mi a af mi a'i hanfonafef atoch." Fel pedvwedasai os arosaf yma ni fydd fy nylanwad ond lleol, ond os afgartref mi ofalaf am anfon llawen ydd i bob calon a gred ynof. "Rhoddaist law- enydd yn fy nghalon, mwy na'r amser yr amlhaodd eu hyd a'u gwin hwynt." Mae unoliaeth yr Eglwys yn benaf i'w gael yn ei gwaith, y hi yw y cyfrwng yn llaw Yspryd Duw, i gael y bvd yn ol at Grist. Coflaid go fawr sydd ganddi, ac heb unoliaeth o'i mewn pur anhawdd fydd iddi allu dwyn "Y caffaeliad oddiar y cadarn, a gwaredu y rhai a garcherir yn gyfiawn." Wrth edrych i gyfeiriad cyfandir Ewrop rhaid addef fod y rhagolygon yn dywyll. Ond mae Tywysog tangnefedd wedi dweyd ar gyhoedd wrth ei Eglwys am fyndym mlaen fod digon o adnoddau i'w cael i enill buddugoliaeth. "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y Nef ac ar v ddaear Ewchgan hyny a dysgwch yr holl genhed- leedd. Ac fel sicrwydd o fuddugoliaeth dywed le. carcharorion y cadarn a ddy- gir, ac anrhaith y creulawn a ddiangc." Er cyflawni ei gwaith yn briodol, mae'n rhaid i'r Eglwys fod yn unol mewn hunan aberth. Tybiai ei elynion mai diraddio yr Iesu oeddynt wrth ddwyd, "Eraill a wared- odd Efe, ei hun nis gall ei wared Ond ni ddywedwyd geiriau erioed llawnach o wir- ionedd, Ei hun nis gall ei wared na all nes byddo wedi gwaredu pawb eraill yn gyntaf. Yma y mae hunan aberth ar ei oreu, ac yn blodeuo ar ein daear Iom. Myn gaethiwo poo meddwl i ufudd-dod Crist. Gwir fod yma rwystrau ac anhawsderau ar y ffordd, y mae yma gestyll, a dychmygion a phob uchder yn gwrthwynebu ac o gyfieithu y pethari hyn dichon y gellir dweyd eu bod yn cynwys y pethau hyn :-difaterweh, rhagfarnau. drwg arferion, a balchder calon lygredig. Ofer fyddai anfon catrawd o fil- wyr yr Almaen yn erbyn galluoedd o'r fath hyn. (jwrthgloddiau anhawdd lawn eu ,chwalu ydynt, ond mae'n rhaid gwneyd, er hyny. Yr adnod sydd yn rhedeg i'n meddwl wrth gofio yr anhawsder, yw, A newidia vr Ethiopiad ei groen neu v llewpart ei frychni. Ond ni ddvlai yr Eglwys ddigal- oni, dim ond iddi fod yn unol. Oblegid, Arfau ein milwriaeth ni Did ydynt gnawd- ol." Un o delerau unoliaeth, neu undeb yn Eglwys Iesu Grist, yw cydraddoldeb ei hael- odau rhy anhawdd yw i undeb flodeuo heb hwn. Na'ch'gaiwer chwi rabbi oblegid un yw eich Athraw chwi sef Crist, a chwithau oil brodyr ydych." Llacio undeb ac unol- iaeth yr Eglwys ydys, wrth dra-awdurdodi, a pheri i gariad brawdol oeri, a thristau glan Ysbryd Duw. 'í'I'wy wyt ti yr Ihw-n wyt yn barnu gwas un arall ? I'w Arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio." Rhaid i'r Eglwys wasgu gwddf yr yspryd D.iotre- phes hwnw sydd yn chwenych y blaen, ac yn amcanu gosod Heffethar o ddeddfau am draed, a beichiau anhawdd eu dwyn ar ys- gwyddau yr aelodau. Undeb cariad ac ewyllys da yw undeb yr Eglwys i fod, nis gallanadlu dan ddeddfau dynol, a gorfod- aeth. Dyma yw nodwedd neillduol yr Eglwys babaidd, y mae wedi ysbeilio ei deiliaid o'u rhyddid, ac felly o'u cyfrifoldeb hefyd. A dyna yw tuedd pop man ddeddf- au wneir gan yr Eglwys ymneillduol, darnau o'r uabaeth ydynt yn fynych, fel y mae ang- en parhaus i ddweyd, Sefwch gan hyny y nyrhyddid a'r hwn y rhyddhaodd Crist ui ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed." Rhan arall o delerau unoliaeth ac undeb yr Eglwys yw CARIAD BRAWDOL, dyma y ndd wrth yr hwn yr adnabyddir ei haelodau. "Gorchymyn newydd yr wyf yn ei toddi i chwi ar garu o honoch eich gil- s rid; wrth hyn y gwybydd pawb mai disgybl- ion i mi ydych, os bydd genych gariad i'ch gilydd." Dyma eu llythyr Eglwys, a'r asiedydd mawr sydd yn eu cadw wrth ea gilydd, ac' yn eu gwneud yn debyg i'w Harglwydd. Dwg hwn hwynt i weithio heb flino, ac i ddioddel heb rwgnach. Ni wneir fawr dros deyrnas ein Gwaredwr heb hwn. Ni wel y digariad ond gwastraff yn nhy- walltiad yr enaint, ond gwel cariad ddigon ynddo i son am dano holl oesau y ddaear. Sut y mae esbonio yni a gweithgarwch y cenadwyr ffyddlon sydd yn mentro eu by- wydau i blith auwariaid, ac i ganol twymyn- on sydd yn cymeryd eu bywydau ymaith mor rhyfedd o sydyn ? 'Does dim i'w es- bonio ond ei fod Ef wedi tywaIlt ei gariad ar led yn eu calonau. Dyma eu bwyd a'u diod gwneuthur ewyllys eu Harglwydd. Hawdd iawn i aelodau fel yma allu canu :— Nid rhanedig ydym, Ond un corph digoll, UÚ mewn gydd a gobaith, Un mewn cariad oil. Rhagom filwyr lesu." Yn adnod 22 dywed ein Harglwydd:— A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy." Yn hyn y mae yn cyflawni y gorchymyn oedd wedi ei roddi i'w ddisgbl- ion 11 Derbyiiiasoch yn rhad, rhoddwch vn rhad. Derbyniasant y peth penaf a feddai y Gwaredwr. Derbyniasant ogoniant ei feddwl a dywed yn barhaus wrth y rhai a ewyllysia ei ganlYIJ, Bydded ynoch y meddwl yma yrhwn oedd hefyd yng Nghrist lesu. "Yr hwn ac efe yn ffurf Duw ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw, eithr efe a'i dibrisiodd ei hun gan gymeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyff- elybiaeth dynion." Dyma feddw^ yr eg- wyddor fawr sydd i weddnewid y byd i gyd. Ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn brid- werth dros lawer." Ac y mae wedi rhoddi gogoniant y meddwl yma i bawb yn yr Eglwys v mae Efe yn ben iddi. Y mae wedi rhoddi gogoniant ei gvmeriad iddynt hefyd. Safle y byd mewn crefydd pan ddaeth yr Iesu iddo oedd, llygad am lygad a riant am ddant. Ond dyma Un wedi dod bellach a gogoniant cymeriad ganddo, ac yn siarad yn wahanol i bawb eraill. Clywsoch ddywedyd llvgad am lygad a dant am ddant, ond mae ysprydolrwydd cyfraith fy Nhad yn gofyn gwell esboniad arni na hyn yna, a dyma fe :—" Na wrthwynebwch ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddehau tro y Hall iddo hefyd." Dyma sut y ffurfir Crist ynom yn ngogoniant ei gymeriad, yr hyn yn ddiau yw y gamp uchaf fedr yr Ys- pryd tragwyddol ei wneyd ar ddyn. A chan nad pa mof aneglur yw y darlun yn awr y mae genym obaith cryf y gorphenir ef, ac y gwelir ef yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist. Rhydd Crist hefyd ogo- niant ei genhadaeth i'w ganlynwyr, y mae hwn yn amlwg iawn drwy yr oil o'i weddi. rel yr antonaist n rr byd, telly yr antonalS inau hwythau i'r byd." Hwn o bosibl yw y gogoniant y cyfeirir ato yn benaf yn yr ad- nod hon. Y gogoniant a roddwyd i'r Ar- glwydd Iesu oedd rhoddi i'r dynion hyn hysbysrwydd o air ac enw ei Dad, hon oedd ei genhadaeth ogoneddus a ymddiriedwyd i'r Cvfryngwr gan ei Dad, ac mewn pertbynas iddi Aywed, Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur." A dyma yntau wrth adael y byd yn rhoddi i'w ddisgyblion yr un gogoniant drwy ymddiried iddynt ei air, ei waith, a'i genhadaeth yn mysg dynion. Yr oeddynt hwy i gario allan amcanion ei ym- gnawdoliad a'i angau i fod yn sefydlwyr teyrnas oedd byth i barhau, ac i drawsnew- id y ddaear. Yr oedd y byd i gael ei ddwyn i gredu drwy eu hymadrodd a'u hundeb hwynt. Fel y bu Ef yn dyst ffyddlawn i'w Dad, yr oeddynt hwythau i fod yn dystion iddo Ef. Mae Efe yn ymadael wedi eyflawni yr ymddiriedaeth oruchel a roddwyd iddo, maent hwythau i aros ac í gario y gwaith ym mlaen yn ei enw. Dyma ogoniant, cael cynrychioli yr Iesu ym mysg dynion, goll- wng eneidiau truenus yn rhydd o garchar y diafol a phechod—cael bod yn offerynau i ddarpar a thrwsio y briodasferch erbyn swper neithior yr Oen.
Dyffryn y Camwy. -I
blaen yr oedd Pablo y baqueano, a chydag ef gan,amlaf yr oedd Burmeister, Lewis, Guy, Obregon a'r swyddog. Yn dilyn yr oedd nifer o Indiaid a deugain o geffylau, o fewn hanner milltir iddynt deuai ein ceffylau ni oddeutu tri dwsin mewn rhif, yn nes yh ol dilynai troop o driugain o fulod berthynent i'r milwyr, yn y gynffon wele Leon ac ugain o futod pwn yn drwm Iwythog. Heblaw hyn yr oedd genny,ln yrr o ddeugain o dda corniog ila eylfeuwi a chig, Difynir yr enw Dyffryn yr Eglwys oddi- wrth ffurf y graig welir yno mai eglwys fawreddog. Yr oedd y dyffryn yn culhau ar i fyny, a ffiniwyd ef o'r deutu gan greigiau tftu o liw cochddu. Uwchlaw y creigiuyr •i oedd ucheldir gwastad yn ffurfio yn risiau y naill uwch y lIall. Ar yr ucheldir gwelir manwydd a tusw borfa. Y mae y tir yn rai- anog a hyd yn oed yn garregog mewn 11a w- er lie, Ym mysg y gro gwelwyd agates a than gerrig eraill ellid eu llyfu loewi. Mewn llawer lie gwelid y tosca yn brigo i'r wyneb, a He y gwelid hyn yr oedd y fan yn llymach o borfa a'r coed yn fanach. Lie y brigai y tosca gwnai amser a hin ef yn bwdr (powder) gwyn, ond mewn manau mwnol gwelid yn ami y llwch hwn o liw rhwdgoch, a gwyrdd a glas. Nodwyd hefyd welyau o gregyn wystrys (oysters) yn sit- ffodd y naill uwch y llall, ac yma a thraw dalpiau o gypsum. Dewisid y llei wersyllu gan Pablo yr ar- weinydd. Ein gwersyll cyntaf oedd ar ol teithio tair llech mewn ilecul yn y dyffryn, a'r anifeiliaid ar y blaen rhag iddynt ddych- welyd i'r sefydliad. Y dydd canlynol wele ni yn teithio eil- waith yn rhibyn hiro rhyw ddeg-ar-hugain o ddynion, ac oddeutu dau gant o anifeiliajd renid yn drypiau, ac i bob troop yr oedd niadrina arweinid gan un o'r dynion, ac am wddf pob mcidrina yr oedd cloch neilltuol, tone pa un oedd ddigon o rybudd i gasglu ei dilynwyr ar ol yr hen fam, nes peri i ddyn gredu fod yna dipyn o'r eglwys hyd yn oed yng ngwaed ceffyl. Yr oedd yr atdyniad hwn at swn y gloch yn gwneud gwaith y gyrwyr yn llawer llai ac esmwvtha yn fawr oruchwylion teithio. Pan ddLaethpwyd at ryd yn y Camwy, croes- wyd i'r ochr ogleddoI a gwersyIlwyd yn y fan. -■■ ■■ Y gweddill o'r dydd buom yn perffeithio ein parotoadau i'r teithio dyfodol. Yr oedd Leon, gyrwr y pwn fulod, yn nod- edig o weithgar heddyw, yn cymwyso y pynau ac esmwytho pob tenyncaled medd- alwydhefyd y lazos a'r tenyn crwyn caled. Yr oedd Seferino ein cogydd yn hynod egniol yn gwneud teisenau a baraclatch. Mewn man arall o'r gwersyll yr oedd dwsin yn plethu croen gwyrdd yn ger (gear), Gwnai pawb rhywbeth, y rhai wnaent lei- af oedd yr ysmygwyr air tötwyr mati, eraill aethant i bysgota a daethant a phwysi o bysgod yn ol i'r camp. Pysgod tebyg i ddraenogied ddaliwyd. (Pw barhau.) .4