Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

- Y RHYFEL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y RHYFEL. Newyddion gyda'r Pellebr. 11 (HAVAS AGENCY.) Rhagfyr 7. LLUNDAIN Swyddogol.—Boreu heddyw ymosddwyd ar Llundain gan 25 o beirian- au awyrol; llwyddodd chwech o honynt i ddyfod uwchben y ddinas a disgynwyd ganddynt ffrwydbeleni dalosgol. LLUNDAIN.-Adroddir jg-an Haig fod ein cadluoedd wedi meddianu y bryn sydd yn ysgwyddo allan perthynol i Noyelles, ac hefyd coedwig Bourion; ar ol dinystrio cuddfeydd a ffosgloddiau enciliasant ych- ydig yn ol. Gwrthgurwyd ymosodiadau yn ystod y nos. Mae'r frwydr yn parhau. PETROGRAD.—Mae'r Lithuaniaid wedi an- fon apel at y cydbleidwyr yngwrthdystiol yn erbyn i'r Almaenwyr gymeryd medd- iant o Curlanda, a gofynant am amddiffyn- iad rhag yr Almaen. PARIS. Swyddogol.—Cymerasom garch- arorion yn St. Quentin ac i'r gogledd o Ailles. Ar Ian ddeheuol y Meuse darfu i'n batteris wrthymosod yn llwyddiannus ar gadoffer y gelyn. frodd ymosodiadau y gelyn yn Bezou- vaux a Largetzen yn fethiant. LLUNDAIN.-Cyhoeddodd Bonar Law fod tri wedi eu lladd a deg wedi eu clwyfo mewn canlyniad i'r ymtyreh neithiwrdros Llundain; hefyd fod 4 wedi eu lladd a I I wedi eu clwyfo yn y cylch. < Rhagfyr 8. WASHINGTON.—Derbyniwyd yn unfrydol gan y SenerJd y penderfyniad i gyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria. JASSY. Swyddogol.—Penderfynwyd fod cadluoedd Roumania i ymuno gydaRwssia yn y cynnygion am gadoediad. Gohirir y rhyfel heddyw ar yr holl ffrynt. WASHINGTON.-Mae y Cyngor -birprwyol wedi cymeradwyo y cyhoeddiad o" ryfel yn erbyn Awstria. WASHINGTON. -Mae Wilson wedi ar- wyddo y cyhoeddiad cyf reithiol o ryfel yn erbyn Awstria. RHUFAIN. S»vyddogol. — Gwrthgurasom ymosodiad hynod ffyrnig ar wastattir uchel Asiago. Yr unig bwynt y bu raid i ni ei adael oedd yr un yn ymyi Brementas lie yr en- ciliasom yn ol i'n ail linell ar ddosran fechan o'r ffrynt. BERLIN. Swyddogol.—Cyhoeddir fod gci- hiriad y rhyfel am ddeng niwrnod ar, holl ffrynt Rwssia wedi uechreu. GENEVA.—Gwedir y.bydd i Ukraniaagoi- trafodaeth am heddwch ar wahan. W ASHINGToN.Daethpwyd i'r penderfyn- iad i gyhoeddi rhytel yn erbyn Awstria- Hungari ar ol trafodaeth barhaodd llai nag awr. LLUNDAIN.—Dywed y "Daily News" fod y cydbleidwyr i wrthsefyll nid yn unig hyd lies y bydd i gadluoedd yr Unol Dalaethau gyrraedd i'r llinell danio, ond hyd nes y bydd i gynddaredd ymosodiad newydd yr Almaen wisgo allan. Li.UNDMN.-Dywed y gohebydd Robinson ar y ffrynt Prydeinig yn Ffrainc fod y Prydeinwyr wedi gorfod gadael coedwig Fourlot, ond eu bod yn cadw gafael o linell Hindenberg er iddynt adael y "goedwig uchQd, yr hon tuasai yn ddefnyddiol iddynt i vmosod yn y dyfodol oherwydd ei safle fanteisiol ynglyn a Qambrai. Nid yw gwaith y Prydeinwyr yn gadael y goedwig uchod yn golygu o gwbl iddynt gael eu gorchfygu. y WASHINGTON.—Hysbysir y swyddogaeth forawl gan y penaeth Ilynvesol yn Halifax y credir fod 5,000 wedi marw mewn can- lyniad i'r anffawd yn Halifax, ond nidyw y rhif hyd yn hyn wedi ei gadarnhau. PETKOGRAD.— Mae'r cadfridog Brugo- vitchie wedi ei enwi yn benaeth y Pencad- lys cyffredinol. LLUNDAIN.- Yn Nhy'r Cyffredin pasiwyd trydydd ddarlleniad y Mesur Diwygiadol Etholyddol, yn rhoddi pleidlais i bawb yn gyffredinol dros 21 oed, i filwyr a morwyr 18 mlwydd oed, ac i ferched 20 mlwydd oed. LLUNDAIN. Swyddogol.-Ar ffrynt Cam- brai nid OPS dim i'w gyhoeddi ond brwyd- rau rhwng cylchwilwyr. Cymerasom rai carcharorion. Dinystriasom ddau beiriant awyrol, a gorfodwyd pedwar eraill i ddis- gyn. LLUNDAIN.-Dywed gwasg Copenhagen fod prwyadon o'r fyddin a'r bobl yn y Caucasus wedi cyrraedd Teheran i drafod yn yr arbrwyaethau Rwssiaidd a Phrydein- ig y moddion i gario y rhyfel ym mlaen. Mae'r Caucasiaid yn tueddu i barhau y rhyfel, ond maent mewn angen arian. Rhagfyr 9. PETROGRAD.—Mae 1,500 o filwyr Maxi- milistaidd wedi cyrraedd i Vladivostock. PARIS. Swyddogol. Mae cadoffer y ddwy ochr yn hynod weithgar ar Ian dde- heuol y Meuse, yn arbenig yn ranbarth Hill 344. Gwrthgurasom ympsodiadau yn ranbarth Senones. GUAYAQUIL. Swyddogol.—Mae Ecuador wedi torri ei chysylltiad llysgenhadol gyd- a'r Almaen. WASHINGTON.—Cadarnheir gan gylch- oedd iiyngesol mai destroyer oedd y llong gollwyd perthynol i'r Unol Dalaethau, ac iddi gael ei suddo gan suddlong. Collodd hianner y dwylaw eu bywydau. GENEVA.—Yr oedd y frwydr awyrol ddoe uwchben tiriogaeth Basle mewn canlyniad i beirianau awyrol Almaenaidd fyn cael tu hymlid gan rai cydbleidiol) ddyfod i Switzerland, disgynwyd 7 0 ffrwydbeleni. Mae'r Swissiaid yn ddigofus oherwydd iddynt ddyfod dros diriogaeth anmhleidiol. WASHINGTION.-Dywed trafnnoddwr yr Unol Dalaethau yn Tiflis fod sibrydion heb eu cadarnhau fod y cyn-Czar wedi diflanui Nr,.w YORK. Dyxved yr Evening Sun" o'r Pencadlys Ffrengig ynltali fod cadlu- oedd Ffrengigvvedi dechreu brwydro gyda cadluoedd cynnyddol Awstriaidd Almaen- aidd. LLUNDAIN.—Dywed Haig fod cadoffer y gelyn yn weithgar yn ystod y nos yn ardai Flasquieres ac i'r gogledd o ffordd Menin. RHUFAIN.—Dywed y "Messagero" fod brwydr Sisemol yn myned yn mlaen gyda ffyrnigrwydd anghydmarol. Torwyd rhan fechan o'r llinell gan y Bersaglieri ag oedd yn ymdrechu ynegniolyn erbyn liuoedd o'r gelyn Mae'r gelyn: yn parhau i ddatblygu yn rheolaidd eu cynlluniati, ond rhaid fod ein gwrthsafiad gwydn yn achosi dyryswch difrifol. RHUFAIN.—Dywedfr fod personau eto ar gael eu cymeryd i'r ddalfa fel rhai oedd mewn cysylltiad a helynt Bolo Pasha. LISBON.—Ar ol tridiau o ymdrech, ffyrnig rhwng cadluoedd teyrngar a chwyldrowyr, cyflwynodd y Llywodraeth ei hymddi- svVyddiad, a chyrhaeddodd y chwyldrowyr eu hamcan, sef dymchweliad y weinydd- iaeth. LISBON. Dywed nodyn swyddogol y llywydd fod y Llywodraeth, er. mwyn osgoi canlyniadau arswydus ac anghydfod yn y fyddin, wedi penderfynu rhoddi i fyny ryfela, a chyfiwyno eu hymddiswyddiad, yr hyn dderbyniwyd gan y Llywydd. LISBON. -A rweini'r y chwyldrowyr gan Sidonio Paes, Scarez Branco ac Alves Rocados. MADRID.-(Dylid darllen y nodyn dilynol o flaen y newyddion echdoe o Lisbon.)- Mae adroddiad o Lisbon fod chwyldroad wedi torri allan vn caelei gymhell gan Undebwyr ac eraill oherwydd y pris en- fawr sydd ar ddefnyddiau bwyd. Torrodd y bobi i mewn i ystordai, a chanfod yr he vdgeidwaid yn analluog i'w hattal, an- fonwyd cadluoedd, yr hyn gymeradwywyd gan y cyhoedd. Dywedir fod 60 wedi eu clwyfo, amryw wedi eu lladd, ac amryw wedi eu cymeryd IIr ddalfa. Mae pob cyfrwng cymmundeb wedi ei dorri. BUENOS AIREs-Bygythir streic gyffred- inol o'r newydd. Mae'r Llywodraeth wedi gorchymyn galw ynghyd gadluoedd. PARIS. Swyddogol.-Mae'r cylchwilwyr yn weithgar yn y rhanbarth i'r gogledd o 0 Chavignon ac ar lan ddeheuol Aisne a choedwig Apremont. Gwrthg urwyd y gelyn gyda cholled drom yn ei ymgais i symud i gyfeiriad Bezonvaux. LISBON. Mae pwyllgor chwyldroadol wedi ei ffurfio. MADRID.—Dywed arbrwyaeth Portugu- aidd fod Llywodraeth ddarbodol wedi ei ffurfio gyda Sidono Paes yn llywydd. Cy- hoeddwyd fod teyrngarwch i'r cydbleidwyr i'w barhau, a glynir yn fanwl wrth y cytundebau rhyng-genedlaethol. LLUNDAIN. Swyddogol.—Bu cadoffer y gelyn yn hynod weithgar yn ystod y nos i'r dde o Cambrai ac ar lan ddeheuol y Scarpe, i'r dde o Lens ac yn nosran yr Paschendaele. RHU'FAIN. Ar y Sed cyfisol, dywedodd y cadtridog Diaz,—Milwyr a swyddogion y fyddin Italaidd, yn eich henw yr wyf yn anfon cyfarchiadau i'rcadiuoeddFfrengig- Prydeinig ag sydd wedi dyfod in cynorth- wyo mewn brawdgarwch cadarn. I- Yi ydym eisoes wedi ymladd a gorch- fygu gyda'n gilydd i gadw i fyny ddel- frydau uchaf cyfiawnder ac iawnder." Wrth derfynu rhagfynegwyd gan y cad- tridog Diaz fuddugoliaeth y cydbleidwyr eisoes. Rhagfyr 10. LLUNDAIN.—Cyhoeddir gan y newyddur- on fod y Prydeinwyr wedi cymeryd Jeru- salem. Rhagfyr I i. LLUNDAiN. Reuter.— Ymwelwyd gan ohebwyr Rwssiaidd a Syr G. W. Buchanan, y teyrngenad Prydeinig yn Rwssia, a dat- ganodd y cydymdeimlad deimlir gan ei wiad a'r Rwssiaid. Dywedodd yn bendant nad oedd bwriad i weinyddu cosb ar Rwssia osbyddai iddiwneud heddwch ar wahan. Dywedoddym mhellach nad oedd ond rhesymol ar ran Prydain Fawr i gwyno uherwydd gwaith Bolshiviki yn agor trafod- aeth gyda'r -kelyn. Ym mhellach ni ddy- munir gorfodi gwlad gydbleidiol yn erbyn ei hewyllys i barhau i gymeryd rhan yn yr ymdrech gyffredin. YngIyn a chytundeb- au yr oedd Prydain Fawr yn tueddu i ys- tyried rhagolygon y rhyfel, ac i drafod' amodau heddwch posibl ar seiliau cyfiawn pan bydd y Llywodraeth Rwsaidd wedi cael ei sefydlu a'i chydnabod. Darfu i'r teyrngenad Ffrengig roddi mynegiad i'r un teimladau a Buchanan wrth gynrychiolwyr y "Times" yn Petro- g-'rad. RHUFAIN. Swyddogol.— Yn ranbarth Caposite, gwnaeth y gelyn ymosodiad, 'a chymerasant ffosg ioddiau iV aswy o Piave Vecchia. Gwrthgurasom y gelyn gan achosi collecl- ddifrifol iddo.. Ar y gweddill o'r ffrynt mae brwydrau gyda'r. cadoffei- yn myned ym 'mlaen. Dygwyd i lawr beiriant awyrol i'r gelyn gan awyrlongwr Ffrengig. MADRID.—Dywed newyddion o Vigo yri bendant fod y pwyllgor chwyldroadol wedi ei ffurfio yn palas Belen, gan ddiswyddo Machado o'r lywyddiaeth yn "ffafr Bran- campo. cainpo. "="