Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. I Daeth ysgrifau i law yn rhy ddiweddar i I ymddangos yr wythnos hon.
V RHYFEL. I -I
V RHYFEL. I I Newyddion gyda'r Pellebr. I (HAVAS AGENCY.) I Mai 11. LLUNDAIN.-Darfu i fintai o wiblongau ys- gafn a destroyers Prydeinig wrthguro I I o destroyers Almaenaidd pa rai oedd yn rhy bell i'n gynnau fod yn effeithiol. SALONICA.-Mae bradfwriad i ladd Ve- nizelos wedi ei ddarganfod, cymerwyd naw o bersonau i'r ddalfa a chyffesant eu bod yn gweithredu dan orchymyn oddiwrth swyddogion politicaidd yn Athens. RHUFAIN. Swyddogol. Yn Nyffryn Ledro (Cylch Adige) ar ol rhagbarotoad- au gyda'r cadoffer gwnaeth y gelyn ym- osodiadau gwan ar amryw leoedd yn cyn- wys Cima D'Oro, Dossina, Casina, a Contra S-eno; gwrthgurwyd y gelyn yn mhob lie cyn iddo gyraedd ein llinellau. HABANA.—Trodd ymgais i ladd yr Ar- lywydd Menocal, gyda ffrwydbeleni, yn fethiant. Mae naw wedi eu cymeryd i'r ddalfa. PETROGRAD.-O bob lie oddiar y ffrynt Rwssiaid cyhoeddir fod brwydro yn myned yn mlaen. NEW YORK.—Mae Maer New York wedi cyflwyno i General Joffre cyflun o'r Cer- Hun Rhyddid, yr oedd transgrifiad o ddeg sent wedi ei agor i'r pwrpas. Cymerodd Viviani ran yn ddadorchudd- iad cerflun o Lafayette yn Pare Brooklyn, a thalo(ld deyrnged i goffadw riaeth y Cad- fridog Ffrengig. Gyda theimladau dwys dywedodd Chamr brun wyr Lafayette y byddai i Ffraingc werthfawrogi y deyrnged. Darfu i dyrfa enfawr groesawu'r Ddirprwyaeth mewn modd anghydmaroL Yr oedd plant yr ysgolion yn cludo baneri triiliw, ac yr oedd cadluoedd mewn arfogaeth Hawn yn gweithredu fel diffynlu. PETROGRAD. Mae'r cadfridog Russky wedi ei ryddhau o fod yn arweinydd y fyddin yn y gogledd, a bydd iddo aros yn aelod o'rCyirgor Rhyfel, Mai 12. PEKIN.—Cvnhaliwyd cyfarfod cynliyrfus neithiwr yn y Senedd, a thaflwyd allan y penderfyniad i gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen. Yr oedd tyrfaoedd yn am- gylchynu adeiladau y Senedd ac yn gwaeddi yn groch am ryfel. Gwasgar- wyd y dyrfa gan y milwyr. LLUNDAIN.—Mae'r agerlongau Norweg- aidd "Tiger" a "Leikner" wedi eu suddo yn ymyl arfordir Ysbaen. PETROGRAD.—Ar yr achlysur o agoriad eisteddiad arbenig gyntaf y Duma, cyfar- fyddodd y dirprwywyr a chyn-ddirprwy- wyr yn balas Tanrido, yr oedd aelodau olr Llywodraeth Ddarbodol, ac o'r Llys Mil- wrol, yn cymeryd rhan. Yn ystod araeth gymeradwyid yn frwdfrydig darfu i Rod- ziauko gondemnio pob syniad o heddwch ar wahan, a chyhoeddodd ffyddloddeb Rwssia i'r Cydbleidwyr. Cododd yr holl gyfarfod i gydnabod teyrngenadon y Cydbleidwyr ag oedd yn bresenol. RHUFAIN.-Cyhoeddir o Milan fod yr ar- weinwyr Sosialaidd wedi penderfynu cym- eryd rhan yn gynnadledd Stockholm. PARIS. Swyddogol.—Tua diwedd y dydd daethom at ganolfan y gwrthsafiad yn ran- barth Chevreux. Dioddefodd y gelyn golled drom. Gwrthgurasom yn hawdd ymosodiad dirybudd y gelyn ar Saint Maire Hill; cymerasom garcharorion. -1- PARIS.-Hyd yn hyn nid yw'r Almaen- wyr wedi cydnabod iddynt golli Craonne.. Maent yn gwneud ymgais waedlyd i ad- gymeryd y safleoedd ystyrid ganddynt yn anorchfygadwy. Darfu i'r brwydrau ddoe gostio yn ddrud iddynt, a profodd eu holl weithrediadau yn ddiwerth, a therfynasant gyda cholledion rnawr iddynt. STOCKHOLM.-— Ceir hysbysrwydd fod y gynnadledd o weinidog-ion Swedaidd, Nor- wegaidd, a Daenaidd, yr hon barhaodd am dridiau, wedi penderfynu cadw an- mhleidgarwch diduedd. PETROGRAD.—Darfu i Raglaw Finland, yn Eisteddiad arbenig y Duma, wneud apel wresog am barhad y rhyfel hyd nes sicrhau alltudiaeth militariaeth Prwssiaidd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Ar doriad y wawr dechreuasom frwydro yn Ilwyddian- us gan ymosod ar linell Hindenberg, ac enill ein holl amcanion achymeryd canoedd yn garcharorion. PARIS. Swyddogol.—Aethom i mewn i linellau Almaenaidd yn Besouvaux a Ile- oedd eraill, Yn nosranyr Amerzaville (yn Alsace) cymerasom garcharorion. 0 Flushing dywedir fod swn ergydion wedi eu clywed, a chredir fod brwydr lyngesol yn myned yn mlaen. Mai 13. LLUNDAIN. Swyddogol.- Yr ydym wedi meddianu Bellecourt, mae'r frwydr yn parhau. Mai 15. LLUNDAIN-Dywed y Morlys i'n llongau rhyfel ddinystrio awyrlong boreu heddyw yn y North Sea. PETROGRAD.—Mae Guechkoff, Gweinidog Rhyfel, wedi ymddiswyddo, ac yn ol y newydduron mae General Korniloff hefyd wedi ymddiswyddo. PARIS. SwyddogoL-Boreu heddyw yr oedd y cadoffer ar waith, fel arferol, ar yr holl ffrynt. Gwrthgurasom bartion ymchwiliadol ag oedd yn ceisio croesi ein llinellau mewn amryw fanau yn Ng-ogledd Orllewinol Vaux Aillon, i'r gorllewin o Craonne, Hill 105, a lleoedd eraill, trodd pob ymgais o eiddo'r gelyn yn fethiant hollol. Yr oedd colledion y gelyn yn bwysig. Cymerasom garcharorion. PETROGRAD. Swyddogol.—Mae Pwyll- gor y Milwyr a'r Llafurwyr yn gwrthod y sibrwd eu bod yn ffafriol i gadoediad, i'r gwrthwyneb mae'r Cyngor yn talu sylw mawr i'r seibiant roddir i filwyr gan ddan- gos iddynt y perygl sydd ynglyn a hedd- weh ar wahan," a'r perygl sydd ynglyn a chyfeillachu a'r gelyn. PETROGRAD.—Cymerodd ymddiswyddiad Guechkoff le mewn canlyriiad i gyflwyniad Cynghor y milwyr a'r Llafurwyr i faterion y fyddin a'r Ilynges, ystyria ef fod hyn yn peryglu amddiffyniad rhyddid, ac hyd yn nod bodolaeth Rwssia. MADRID.—Dywed adroddiadau o Caste- lion fod yr agerlong Brydeinig Zanon wedi ei suddo gan fad tanforol; achubwyd yr holl ddwylaw ag eithrio tri a foddodd. WASHINGTON. -Mae Balfour a'r rhan fwyaf o aelodau y ddirprwyaeth wedi cvr- aedd, a chawsant eu croesawn gan dyrfa anferth ddarfu ddatgan eu teimladau o. blaid rhyfel. P ARIs.-Mae pwyllgor o arweinwyr Tal- aeth Dwyrain Pyrenees wedi ei ffurfio i'r amcan o roddi Urddgleddyf i Joffre a ffon Cadlywydd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Gwrthgurwyd neithiwr ymgyrch y gelyn i'r gogledd ddwyrain o Spoy, i'r gogledd o Ipres. Yr ydym yn symud yn mlaen, yn y nos, ar ffrynt Arras. LLUNDAI.N.-Dywed y Morlys mai "L22" oedd yr awyrlong ddinystriwyd yn y North Sea. MADRID.—Cyhoeddir o Tortosa fod gyfr. erbyn a Cape Tortosa, ar ol ymdrech galed, fod agerlong oedd yn cludo'r Hy- thyrgod o Oran i Marseilles wedi ei suddo gan torpedo gyda'r dwylaw a 450 o deith- wyr; hyd yn hynnid oes wybodaeth end am 17 wedi eu hachub. Adroddir hefyd fod yr agerlong Norwe-aidd 11 Segovia", a'r agerlong Roegaidd Lescossis wedi eu suddo. RHUFAIN.—Mae awyrlongau (Italaidd). wedi tanbelenu arfdy a lleoedd llyngesol yn Santa Saba yn agos i Trieste, gan achosi amryw dnnau. BOSTON. (Unol Dalaethau).-Mae plant ysgolion yr Unol Dalaethau wedi casglui blantamddifacl Ffrainc 175,000 dollars, ac wedi eu cyflwyno i Joffre. PARIS. Swyddogol. Aisne-dryllillvyd ymosodiadau'r Almaenwyr gyda cholled- ion trymion iddynt. Yn ranbarth Verdun darfu i ddau ym- osodiad dirybudd o'reiddom fod yn llwydd- I *ddom fod yii llwydd- ianus. Ar y Somme a'r Oise mae cadoffery ddwy ochr yn weithgar. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae'r cylch- wylwyr yn ardal San Quentin yn brysur. I'r gogledd Orllewinol o Vergnier aethom ychydig yn mlaeii a chymerasom garch- arorion. Mae'r frwydr yn parhau o am- gylch Bellecourt. Gwrthgurasom ymos- odiadau yn erbyn Roux a chymerasom 50 yn garcharorion. PETROGRAD. Swyddogol.—Ar y ffrynt Gorllewinol a ffrynt Roumania mae'r cylch- wylwyr ar waith fel arfer. Dygasom i lawr awyrlong Almaenaidd yn ranbarth Nalibok-Montria. PARIS. Ma Newydduron yn rhoddi pwys mawr ar yrarddanghoiad gynhal- iwyd yn y Trocadero dywedant ei bod o'r fath fwyaf symbyliol. Mae'r Wasg yn un- frydol yn rhagfynegi deffroad mawr fel canlyniad y cyfarfod. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym yn parhau i fyned rhagom i'r gogledd o'r afon Scarpe. Yr ydym wedi gorphen cymeryd medd- iant o Roux gan gymeryd carcharorion. Amddiffynwyd yr holl bentref yn egniol, ond mae yn awr yn ein dwylaw. Yr ydym wedi symud ein llinellau yn mlaen. i'r g-ogledd o Gaorelle. Dygasom i lawr S o awyrlongau a ohollasom 3. BARCELONA.—Adroddir fod y capten ac 16 o ddwylaw yr agerlong "Oran" wedi cyrhaedd, mae dau wedi myned i Ysbytty oherwydd iddynt gael eu clwyfo yn dost. PARIS. Swyddogol.-Mae badau tan- forol wedi suddo 170 longau Ffrengig yn ystod Chwefror, Mawrth ac Ebrill. Ymosodwyd ar 9 o longau ddarfu ddi- angc am eu bod yn carlo arfau. Diangodd amryw o longau cylchwylloiallongauar;- fog eraill. Adroddir am 41 o frwydrau yn y tri mis uchod. NEW YORIZ.-Dywed adroddiad o Ams- terdam, trwy Llundain, fod Hollweg wrth siarad yn y Reichstag wedi gwneud yr hyn sy'n ymarferol yn cynwys cynnyg gwneud heddwch gyda Rwssia. Yn ystod ei araeth dywedodd y Canghellor, os bydd i Rwssia roddi heibio yr amcan sydd ganddi wrth frwydro am fuddugoliaeth, na fydd i'r Al- maen roddi. unrhyw anhawsder ar ffordd i sicrhau cyfeillgarwch parhaol gyda Rws- sia. Os bydd i Rwssia ofyn am delerau nas gellir eu derbyn, gwrthoda'r Canghell- or gyhoeddi program yr Almaen i gael buddugoliaeth. Mai 16. LLUNDAIN.— Yn ol y "Telegraaf" Ams- terdam, mae 325 o fadau tanforol ar waith. Nid yw'r Prydeinwyr yn rhoddi cyfrif end am 80 i 100. (Mae'r ffigyrau hyn yn cyfeirio at weith- rediadau er dechreu Ebrill). BUDAPESTH.—Mae Cymdeithas y Goheb- wyr yn Hwngari wedi penderfynu gofyn i Undeb y Wasg Ryngwladwriaethol i alw Cyngres i drafod y cwestiwn o heddwch dioed. AMSTERDAM.-—Dywed yr "Handels Bladt" fod y ffactri bwysig i wneud awyrlongau yn Copinick, yn agos i Berlin, wedi ei din- ystrio yn Ilwyr gan dan.