Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
BUDD GYNGHERDD Cynheiir CYNGHERDD MAWREDDOG yn NEUADD DEWI SANT, y 7fed o Me- hefin, 1917, pan y cymerir rhan gan BRIF UNAWDWYR, ADRODDWYR, A PHAR- TION Y DYFFRYN. -.0- YR ELNV AT, DDI-DDYLEDU Y CAPEL.
Ymylon y Ffordd.I
Ymylon y Ffordd. I Cafodd Mrs. D. Ifor Rees, Gaiman, y newydd trist hefo'r llythyrgod diweddaf, fod ei brawd wedi ei ladd yn y frwydr H yn, rhywle yn Ffrainc." Cydymdeimlir yn ddwfn a hi a'r teulu yn eu galar a'u hiraeth ar ol colli un mor anwyl. -0- Da oedd geunyrn weled y Br.i Hopkin Howells wedi dod i lawr o Gwm Hyfryd hefyd, y Br. Dalar Evans. Croesawwn yn galonog y liaill a'r llall. Hir, gobeithiwn, yr arhosant yn ein plith, a bydded iddynt gael atwser dedwydd tra yr arhosant yma. .—o Gvvelais y Hr., E. Morgan Roberts wedi dychwelyd o Buenos Aires. Bu, fel y gwydd- is, yn yr Ysbyty o dan' operation, a da gen- nym weled ei fod wedi gwella cystal. -0- Yr wythnos o'r blaen, o flaen Ynad y Gaiman, Br. R. Nichols, priodwyd y Br. Stephan Jones, Triongl, Drofa Dulog, a Mrs. Jones, gweddw y diweddar Tom Jones, Cwm Hyfryd. Hefyd, yr un wythnos, yn Coronel Suarez, priodwyd y Br. Edward R. Evans, Tyddewi, Gaiman, a Miss Winnie Morris o'r lie a en- wyd. Boed i'r naill a'r Hall olr rhai hyn gael hir oes a bywyd dedwydd. Diwedd yr wythnos ddiweddaf, aeth y Br. Hugh Jones, Drofa Dulog, i fyny i?r Ysbyty Brydeinig yn Buenos Aires, i'r amcan o fyned o clan operation. Mae'n debyg, fod ei operation i fod yn un bur beryglus. Dymun- wn iddo bob cymorth i ddod drwy yr oil yn ddiogel. Mae'r gwr ieuanc John Jones, sydd ar hyn o bryd yn gorwedd yn Ysbyty'r Gaiman, yn gwella'n rhagorol ar ol y ddamwain flin a gafodd ychydig wythnosau yn of. Derbyn garedigrwydd inawr oddiar law llawer, yn enwedig Mrs. Llewelyn Roberts, Gaiman, a chymer y meddyg Manfred ofal mawr o hono. Bydd gennym air i'w ddweyd eto cyn hir, ynglyn ar amgylchiad hwn. Gwelsom ar un newyddiadur o Gymru—a deallwn fod yna air wedi dqd drosodd yma erbyn hyn, i gadarnhau hyhny—fod y Br. Evan Davies, Caerfyrddin, gyut o Treorci, Dyffryn Isaf, wecli marw. Yr oedd Evan Davies yn gyuieriad pur adnabyddus yn y Wladfa, ac fel y deallwn, yn un ag yr oedd yn hoff gan bawb. Cof geunym ci weled yma rhyw 1 reg o flynyddau yn ol. Cawsom yr adeg honno, lawer o'i gwmni.gan i ni am beth amser fod yn aros yn yr un ty ag ef. Yr oedd yn un hynod o ddyddan yn ei gwrn- iii., Yr oedd yn ddyrchafol iawn o ran ei syniadau, aeni chlywyd ef yn dweyd dim fyddai a thuedd yuddo i fychanu neb pwy bynnag. ] bynnag.. Byddai'n dda gennym gael ysgrifennu gair I helaethacn mn datio; ond gwyddom fod yna arall a'i hadwaenai yn well o lawer na ni wedi gwneud. Dymunwn anfon ein cyd- ymdeimlad, ac yn sicr gydymdeimlad Jlwyr- af y Wladfa i Mrs. Davies, ei weddw, yng- hyd a'r teutu oil, yn eu gAilar a'u colled ar ol priod mor fwyn, a thad rflor ofalus. Y Nef- oedd a'u dyddano yn yr ajmgylchiad prudd. Cyuhaliwyd yn y Gaiman ddivy- gyng- herdd yn ddiweddar, yr oedd un tuagat |" Gymdeithas y Groes Goch," a'r Hall tuagat Lyfrgell y Gaiman. Y ddau achos yn bur deilwng. Yr oedd y ddwy gyngherdd yn rhai gwir dda, ac yn werth dod o bell ffordd i'w mwynhau. Ni ddaeth rhaglen y naill nalr Hall i fy Haw, ac felly nis gallaf roddilr manylion parthed iddynt. I GOIIEBYDD. I
jMai 14eg, 1917.I
Mai 14eg, 1917. I CYFA-RFOD I YSTYRIEO Y PRIODOLDEB WLAD- FA BRYNNU BODIWAN," HEN GARTREF Y DIWEDDAR BRIFATHRO, MICHAEL D. JONES, SYLFAENYDD Y WLADFA. Yn y Gaiman, ar y 14eg o fis Mai, 1917, yng Ngwesty Aberystwyth, am 3 Ol" gloch y prvdnawn, ymgynnullodd y personau a nod- ir isod, mewn atebiad i'r gwahoddiad, yrn- ddanghosodd yn y DRAFOD gan y Br. Wm. M. Hughes, parthed y gwerthiant sydd i fod ar Bodiwan," hen gartref sylfaenydd y XVIadfa--Parch. M. D. Jones-a'r priodoldeb i'r Wladfa brynnu yr eiddo a'i drosglwyddo i etifedd neu ecifeddion yr hybarch wladgar- wr:-William M. Hughes, Parch. R. R. Jones (Niwbwrch), Parch. Tudur Evans, Bwyr. Ithel J. Berwyn, John Griffiths (D.H.), Griffith Pllgh, John Pugh (B.G.), Davydd G. Huws, David F. Davies, John Roberts (Gower Road), Morgan Ph. Jones, John B. Jones (Penybryniau). I fyned ymlaen mewn trefn, dewiswyd y Br. William M. Hughes yn gad- eirydd, a Hugh Griffith i fod yn gofnodydd am y tro. Eglurodd y cadeirydd amcan y cwrdd, a darllenodd y llythyr a dderbyniasai oddiwrth gyfaill o'r Bala, yn mynegu fod Bodiwan i gael ei werthu gan y pvvyllgor sydd yn edrych ar ol eiddo yr enwad a'r Coleg Annibynol yng Ngogledd Cymru. Mynegai y cvfaill a nodwyd, y teimlai ef yn ddyledswydd arno i hysbysu y Br. Wm. M. Hughes o'r gwerthiant, rhag y digwyddai y y buasai yn dymuno bod yn brynwr. Dywedai Mr. Hughes nad oedd gan- ddo ef yn bersonol un dymuniad o brynu Bodiwan," ond y teimlai nad oedd yn briodol ili- gwerthiant o'r He gael ei wneud heb i'r Wladfa gael y cynnyg o brynnu hen gartref ei sylfaenydd, a'i drosglvvyddo yn eti- feddiaeth i'w berthynasau, neu ryw gynllun arall. Y mae gwerth yr eiddo tua phymtheg cant o bunnau (^1,500). Caed trafodaeth helaeth ar y mater, a inynegvvyd fod amryw bersonau oeddynt absenol o'r cwrdd hwn, wedi mynegu eu parodrwydd i gyfranu yn helaeth tuagat y mudiad, os y gwelir fod gobaith gvveddol gryf o gario y cyfryw fudiad i derfyniad ymarferol. Yn ddilynol, daeth- pvvyd i'r penderfyniad a ganlyn :— (I) Fod y gvvyddfodoliou vn y cyfarfod hwn i fod yn aelodau o bwyllgor er cario y mater ym mlrfen, ac yn enwi at eu nifer y Bonwyr a ganlyn :—J. M. Thomas, Rhydd- erch Iwan, D. Lloyd Thomas, Thomas Jones (Glan Camwy), Joseph Jones (Arolygydd yr C.M.C.), John Howell Jones, Evan J. Roberts, Edward Owen (Maes Llaned), Evan Jones (Triongl), Tomas G. Williams, Arthur Ll. Jones, Luther LI. Jones, Myrddin Williams, Evan James (Treorci), Rhys Thomas, Evan Williams, Elias Owen, William Evatis,B.G.), John O. Evans, Lewis P. Jones, Gildas Evans, Robert Ellis, Daniel R. Evans, William T. Griffiths, Myrddin Griffiths, Robert J. Roberts, Robert O. Roberts, George Gittins, Edward Morgan, Glan Caeron, David Jones (Llanuwchlyn), Ivor J. Pugh, Owen R. Williams, John ap Htiglk- Nannau M. Pugh, David Harris, Thon -,s Bower, Erlis P. Jones. (2) Fod Hugh Griffith i gario cenadwri o'r cyfarfod hwn at Hyrvvyddai yr C.M.C., sydd i ymgynnull ynghyd yfory, ac i gael eu hattebiad parthed sicrhau yr eiddo, a'r sicr- wydd boddhaol personau cyfrifol i dalu i fyny yr arian fel y bo yr alwad aIr trefniad am danynt. (3) Galw cwrdd yn y Gaiman am Iocr g10,'h, 'nawn dydd Liun nesaf, yr 2iain cyf- isol, er trefnu ymhellach ac i gael barn cyn- rychiolwyr eraill o wahanol ranau y Wladfa ar y mater. Darllenwyd, ac arwyddwyd gan y Cofnodydd am y tro- HUGH GRIFFITH.
Advertising
•f C.M.C. t Blaendelir, neu telir yn derfynol $13.00 y can cilo am wenith o'r an- sawdd goreu. YR AROLYGIAETH. Trelew, Mai 11, 1917. C. M. C. ■ TATWS WEDI EU CODI o HADYD o'r HEN WLAD. -0- '• Am datws addfed ac iach o'r had, uchod telir 25 sent y cilo, yn unrhyw un o ganghenau y Cwm- ni. Hadau Alfalfa. PeldSwch gwerthu eich had- au Alfalfa heb yn gyntaf eu cynyg ilr C.M.C. Nid oes neb yn gallu talu uwch pris. Ar Werth. AR vVERTH-Ebol ac Eboles cymysgryw (Mestizos) dwy flwydd a haner oed pob un, a'r ddau yn un-llivv, picasos. Am fanylion, ymofyner gyda DAVID THOMAS, BERTHGOCH.