Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Betsi Cadwaladr. |
Betsi Cadwaladr. 1. PENNOD XXVII. ■! Y boneddwr y cawsai Betsi gynyg arno, ac y tueddai I'w dderbyn, ydoedd Ellmynwr cyfoethog o'r enw Mr. Scherman oedd yn uu o'r teithwyr ar y Denmark Hill o Hobart i Lundain meddianai dda lawer yn Tasmania, ac yr oedd yn ddyn wedi cael addysg ac o ddygiad da i fyny, a dyna'r pethau a brisiai Betsi fwyaf—er nad ar gyfrif yn y byd yn ddall i werth a dylanwad aur ac. ariati, tia, na, un lyaad-raf fa deheui- anghyffredin oedd hi am fargeu bob ainser. Cyu ymadael o Lundain am Germany, yr oedd Mr. Scherman a hithau wedi dod i cldeall eu gilydd yn ddigon da fel y cytunwyd i fentro ilr cwlwm caled-ac yn Hobart yr oedd y briodas i gymeryd lie or mwyn i Miss Scherman, chwaer y priodfab, fod yn forwyn briodas, a dyna'r paharn oj cytunasai Betsi i fyned gyda'r Hong am fordaith ai-all-ac yr I oedd Mr. Scherman yntau i ddychwelyd gyda hi fel tcithiwr. Un diwrnod, yn y doc yn Llundain, yr oedd y Cadben Foreman ar prif swyddog newydd gydag ef mevvn cwch yn edrych llyw y Hong, pryd y daeth y "cabin boy" i i fyny i'r dec gyda dysgl gynwysai ddwfr y golchesid y gwydrau gwin ynddo a ffwrdd ac ef iw daflu dros ochr y liong- ar beuau y Cadben a'r Swyddog oeddynt yn y cwch odditano! ar foment nesaf clywid llais yr hen gadben yn arllwys rhaiadr o eiriau a chryn lawer o sawyr brwmstan arnynt, yn naturiol ddigon, rhedodd Betsi i edrych beth oedd yn bod, a chan na welsai'yr hen rychor mo'r crwt, cyhuddodd ferch Pen Rhiw o fod wedi taflu'r golchion hyny, a phan ddywedai hithau na wnaethai hi mor "rbudrwaith," cyhuddodd hi o ddweyd celwydd a digon fu hyny i Betsi gan y dywedodd wrtho yn y fan ei bod yh yrnadael ar unwaith, a ffwrdd a hi i bacio ei phethau heb ychwaueg o lol. Pan welodd yr hqn gono ei fod wedi rhoddi, ei droed ynddi, bu daer iawn arni i aros, "aros," wedi i chwi ,fy nghyhuddo o ddweyd celwydd na wnaf am bris yn y byd, Syr, ac i ffwrdd yr aeth. Yn awr, ddarllenydd mwyn, bwria di na fuasai'r ffrae yna rhwng Betsi a Cadben Foreman ddim wedi cymeryd lie dri ugain .1 wlytiedd yn ol rWttu, ond iddi hi fyn'd gyda'r Hong i Hobart-a Mr. Scherman hefyd ac iddynt briodi yno, ac yn mhen blynyddoedd wedyn i'r teulu benderfynu dychwelyd i Germany er mwyn y gwell tnaiiteisioti a- ddysgol geid yno i'r plant—pa sawl un o orwytion Dafydd Cadwaladr o Ben Riw, fuasent heddyw 's'gwn i yn gadfridogion elhnynig yn yr ornest fawr bresenol ? ac yn siwr ddigon pe gwelsid ytioy fath enw a Von Fritz Kadwaladrsch Scherman, fe fuasai yn galetach gwaith i'n Douglas Haig ni i was- trodi ei elynion Fel yr arferai un hen gyf- aill gwladfaol-nad a fyth yn anghof, a dweyd-Ill gael ailifail da, maeln rhaid c.-iel gwaed da i gychwyn vvysti"—ac yr oedd gwaed na fu erioed ei well yn Betsi. W. H H. .1 11 (FW barhau.) W. H. H. » 4 ——
Effaith y Rhyfel ar FeddwlI…
Effaith y Rhyfel ar Feddwl I Crefydd. I I., 1 Yn ychwanegol at yr hyn a nodwyd mewn ysgrif flaenorol o dan y penawd uchod, gell- ir sylwi ar rai pynciau eraill y dywedir y bydd cyfnewidiad amlwg ynddynt ar ol gorffen y rhyfel. Dywed rhai Hyfrwerthwyra chyhoeddwyr ilyfrau crefyddol y bydd i laweroedd o'r Jlyfrau ar grefydd sydd wedi bod mewn bri fyned yn henffasiwn ac allan o arfer, ac y bydd rhaid cae! dosbarth newydd o lyfrau wedi eu hysgrifennu mewn awyrgylch new- ydd a chyda rhagolwg newydd ar bethau crefydd a bywyd. Tebyg y ceir syniad dyfnach ac eglurach o Dduw fel y Gwirionedd Terfynol. Diau y bydd i'r rhyfel ddymchwelyd ffydd miloedd, a deuant i ameu'r posibilrwydd o fodolaeth Duw Daionus. Ond fe ddaw mwy i gael cadarnhad i'w ffydd, a deuir i adnabod a charu Duw yn well, oblegid fe-i deellir Ef yn well, drwy fod Ei waith yn dyfod yn eglur- aeh. Daw syniadau dytiion amdano yn fwy rhydd oddiwrth ofergoeledd. Fel y soniwyd o'r blaeu, ni edrychir arno megis Duw'r Hwyth neu Dduw'r genedl, ond megis Tad Cyffredinol i'r holl ddynoliaeth, yn cyrinyg Ei gariad a'i ofal i bawb yn ddiduedd. Daw hefyd syniaclan gwell am werth peth- au ysbrydol. Yr hyn a wehr yn Ewrop heddyw ydyvv cwymp gwareiddiad wedi ei osod ar sylfeini o bethau'r cnawd yn hytrach nag ar sylfeini o bethau'r ysbryd. Teimla c ynion ansicrwydd pethau'r ddaear. Gwel- ant eu gorchestion pennaf a balchaf yn cael eu dymchwel yn deilchion. Eglwysi heirdd- ion, capelau gwychion, plasau ardderchog, a phethau materol cyffelyb yn cwympo i'r llwch ac yn diflannu. Mae gwastraff dych- rynllyd rhyfel wedi creu cyflwr o dlodi materol na all y byd ymadfer ohono am gen hedlaethau. Ac y mae hyn yn gyrru pobl i ail-brisio gwahftnol bethau ein bywyd, gyd- a'r canlyiiiad fod pethau'r ysbryd unwaith eto fel yn yr hen amseroedd gynt yn cael y lie blaenaf a phriodol sydd yn perthyn iddynt. Awgrymwyd vu yr ysgrif flaenorol fod y rhyfel yn effeithio'n gryf ar y syniad o fywyd mewn byd arall. Mae amryw o'r prif arweinwyr crefyddol yn gorfod cydnabod cyfnewidiad dwfn yu eu syniadau ar y cwestiwn yma. Un o'r pethau amlycaf vdywlr lie a roddir i'r gobaith ehangach." Mae teimlad yn myned yn gryfach na rhes- ymeg, a llawer yn gwrthod credu miii colled- igaeth fydd rhan y dewrion pechadurus hyn- py nad 6eddynt yn barod i'r alwad' pan ddaeth y Brenin Du ar eu gwarthaf. Cred- ant na all Duw Da ymhofii ym marwolaeth dragwyddol hyd yn oed yr annuwiol. Un arall o effeithiau y rhyfel yw'r syniad newydd am aberth. Mae'r pris a delir am rai pethau heddyw yn uchel, ond gwel am- bell i lygaid clir fod rhai o'r pethau hynny yn fwy o werth na bywyd. Mae llawer yn aberthu gan gredu nad ofer a fydd yr aberth, a'u bod yn helpucenhedlaethau sydd eto heb eu geni. Diau hefyd ein bod yn gweled deffroad vsbryd newydd o ft-awdoliaeth rhwng dyn- ion a dynion. Pan ddaw'r milwyr yn ol o feusydd y gwaed, a dechreu holibeth oedd achos y rhyfel, ac am ba beth y buont yn ymladd, daw chwyldroad mawr yn eu teim- ladau. Gofynnant pam y bu iddynt ladd a el-iigydclio dyiiioti craill Had oedd gaaddynt ddim yn eu herbyn yn bersonol. Dywed y milvyyr Prydeinig sydd wedi dychwelyd o'r ffosydd tnai boneddigion caredig yw Ilawer, o'r milwyr Almaenig,fa thebyg fod y milwyr Almaenig yn dweyd yr un peth am y milwyr Prydeinig. I beth, gan hynny, yr anfonir hwy i ladd bawb ei gilydd? Cyn hir daw pobl i ddechreumeddwl nid am "fy ngwlad i," ond am y ddynoliaeth, mewn ystyr ryng- wladwriaethol. Ac o dipyn 1 beth daw rhyw fath o "Unol Daleithiau y Ddaear" yn I bosibl. Gyda brawdoliaeth fe ddaw demo- cratiaeth, a thuedd yn y cenhedlocdd i ym- gyrraedd at well cyd-ddealltwriaeth. Uu arall o effeithiau'r rhyfel fydd mwy o bwyslais ar y syniad deuol am y byd, sef bod yina ddau allu, y da a'r drwg, yn gwrth- weithio. Mae rhai syniadau diweddar wedi peri i ni feddwl fod pob peth yn iawn yn y byd, ac nad oes dim eisieu i ni boeni dim yn ei gylch, ond ei adael yn llonydd. Gwyr pobl yn well yn awr; gwyddant fod yna lawer o bethau nad ydynt yn iawn yn y byd, oblegid mae Hawer o bethau heb fod yn iawn mewn dynion eu hunain. Creadur yw dyn ac iddo ddwy ochr, creadur ac iddo natur ddeuol. Mae'n hanner angel a hanner cytlit-aul. Gall fod yn greulon a bwystfil- aidd; a gall hefyd aberthu'n ddewr er mwyn delfrydau. Mae ynddo ef ryfel parhaus i rhwng y rhan salaf a'r rhan oreu o'i natur, yr ymdrech rhwng y cnawd a'r ysbryd. Mae yn byw hefyd mewn byd sydd yr un fath ag ef ei hunan, byd He maegalluoedd y da a galluoedd y drwg yn ymladd am yr oruchafiaeth. Ond nid yw y,ditved-d eto. Alae't-, byd heb ei orffen, ac hebeu gorffen hefyd y mae dyn- ion. Nid damwain yw dioddefaiut, ond elfen angenrheidiol yn natblygiad ysbrydol y ddynoliaeth. Gwirionedd presennol yw deu- oliaeth, neu dda a drwg mewn bywyd; go- baith yn y dyfodol hyd yn hyn yw unol- iaeth, pryd na fydd dim ond y da yn bodoli. Posibl y bydd y cynllun yn hir cyn y daw perffeithiad, ac y bydd rhaid teithio llawer dirgel ffyrdd cyn i'r Uchel lor ddwyn ei waith i ben, ac i ran oreu natur y byd gael goruchafiaeth ar y pethau seilion. Eithr fe'n sicrheir hi y daw da o'r drwg i gyd, ryw dro, i rywun. A. H. I
ITabernacl, Trelew.
I Tabernacl, Trelew. Dydd Sul, yr Ileg o Fawrth, cynhaliwyd Cyfarfod Ch warterol yr Ysgol Sul, a da genyf nodi i ni dreulio Sabbath dymunol ac adeil- adol ar hyd y dydd. Dechreuwyd cyfarfod y bore gan y Br. Llewellyn Williams, yna aed at y rhaglen fel y canlyn :—Adrodd Saltn gan Ann Eleu Jones; adroddiad gan Enid Jones, a deuwyd at brif waith y eyfarfod- sef, holi'r plant yn Rhodd Mam gan y Br. Joseph Jones. Er nad oedd y plant yno mor lluosog ac arfer, eto cafwyd hwyl dda gyda'r plant, a gwnaeth yr holwr ei waith yn rhag- orol. Canodd y plant amryw donau allan o Perorydd yr Ysgol Sul yn ystod y cyfar- fod dan arweiniad medrus y Br. Joseph Jones. Dechreuwyd cyfarfod dau o'r gloch gan yr henafgwr R. J. Berwyn, yna aed at y rhag- len :—Adroddiadau gan Camwy Dimol, Ellen Thomas, Dilys Jones, ac adroddiad rhan o'r bedwaredd bennod o Efengyl loan gan Glad" ys Jones can gan Niiys Hughes, a chawsom rhai tonau gan y Gobeithlu fel yn y boreu; beirniadaeth Miss Gladys Jones ar yr arhol- iad ysgrifenedig yn Rhodd Mam, rhai dan to oed, cydfuddugol—Maifron Roberts ac Evan Roberts; rhai dan 12 oed, buddugol--Blatiche E. Roberts yna holwyd y dosbarth canol gan y Br. Idris Hughes yn dda iawn. Cyfarfod yr hwyr, dechreuwyd gan y Br. Lemuel Roberts, yna aed at y rhaglen:-Ad- roddiad gan Gladys Jones; dadl gan Louisa Maud Jones, Daisy Jones, a Marian Mathews. Darllenodd y Br. Idris Hughes ei feirniad- aeth ar ddosbarth y rhai dan 16 oed-goreti, Dilys Jones; y rhai dros 2 1 ain-goreu, Glad- ys Jones. Dymunol oedd canfod pawb 0'1:- ymgeiswyr yn cael eu gwobrwyo gan yr ar- olygwr, sef y Br. Evan John Roberts, er nad oedd pob un o honynt yn oreu, ond yn unig y rhai a enwyd. Yna darllenodd Miss Glad- ys Jones ei hadroddiad o waith a llafur yr Ysgol am y tri mis diweddaf; ac yn hyn o o waith y mae bron yn ddiguro darlletia mor eglur, gan nodi pob peth perthynol i ffyddlondeb aelodauyr Ysgol, ynghyd a'r llafur gyda gwaith rhagorol yr eglwys yn y He. Yna aed at brif waith y cyfarfod—sef, faoli y dosbarth hynaf, yn rhan o bennod y Maes Llafur. Yn absenoldeb y Br. Owen Williams, yr holwr dewissedig, holwyd gan y Br. Rich- ard Williams, C.M.C., a gwnaeth ei waith yn gamnoladwy. Caed hwyl dda iawn gyda'r holi ac ateb, a chredwyf fod pawb oedd yno wedi derbyn lies a bendith ysbrydol. Ter- fynwyd y cyfarfod drwy i'r plant ganu ton. Mae yu ddiameu fod i gyfarfodydd o'r na- tur yma eu dylanwad dyrchafol ar bawb a ddeuant iddynt, ond yn benaf ifr rhai ym- roddant i gymerydrhan ynddynt. Bendith Duw fyddo ar waith a llafur yr ysgol yn y He.—GOHEBYDD. ——— ) ——
Gair o Ddiolchgarwch.
Gair o Ddiolchgarwch. Dymuna Br. Richard R. Evans a'r teutu, Bryu Rhos, Ebenezer, drwy y cyfrwng hwn, gyflwyno eu diolchgarwch gwresocaf i bawb o'u cymydogion a fuont mor garedig a chymwynasgar iddynt yn eu profedigaeth flawr o golli priod a mam mor sydyn ac o dan amgytchiadau mor dorcalonus. R. ROLANT EVANS. — 1
DIOLCHGARWCH.
DIOLCHGARWCH. Dymunwn oil fel teulu ddiolch yn gynes i bawb o'n cyfeillion a'n cydnabod am eu caredigrwydd tuagatom ni a'n hanwyl fam yn ystod ei hir waeledd, ac yn arbenig am eu cydymcieimlad gwerthfawr a ni yn ein profedig-aeth chwerw o'i cholli. Dros yteulu JOHN T. JAMES.
Advertising
LUIS SCARANO = TRE,LEW, LLAW OEUFYDD. Ymgymera a gosod i fyny melinau gwynt, &c., ac adgyweirio peiriannau o bob math. Arbenigrwydd mewn trefnu baddon-dai.