Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Fonwr Golygydd Y D.RAFOD.I
Fonwr Golygydd Y D.RAFOD. I Fyddwch chwi hynawsed a chaniatau congl fechan o'ch gofod i mi ofyn cwestiwu neu ddau i'r cynghorwyr J. Hywel Jones a D. Ed. Williams. Pan etholwyd chwi, dis- gwylid cael gwybod ychydig o'r dirgelion dybid oedd ynghudd y tu ol i'r lien, ynghyda chofnodion o'r gweithrediadau tua'r cynghor yna. Yr wyf yn deall fod yna dipyn o oleuni wedi ei roddi ar bethau trwy yr Avisador," sut na chaem ni yr unrhyw, a chwaneg, trwy y DRAFOD? Nid llawer o honom sydd yn gallu deall Yspaenaeg. Fe glywais sibrwd yn y gwersyll, fod y llynoedd ar y bryniau yn gollwng, un ohoii- ynt, y cwbl oil osodid ynddo, a'r Hall yn dal end prin yr hanner; hefyd, nad oedd y prif beiriant wrth yr afon yn gweithio i foddlou- rwydd rhai ohonoch yr ymweliad cyntaf gawsoch a'r lie, a chlywajp ei fod wedi torri y'dyddiau diweddaf yma. A yw y pethau hyn yn ffeithiau ? A ydyw yn bosibl fod y degau o filoedd wariwyd i gael dwr i Trelew wedi gadael pethau mewn cyflwr mor an- foddhaol ? A ydyw yn ffaith fod yna ddegau o filoedd yn ddyledus eto, a beth am y deficit" ddywedir sydd yn y drysorfa, a yw hyn yn ffaith ? Beth ydych yn wneud ynglyn a'r mater ? Paham na chawn ni fel trethdalwyr wybod rhywbeth am sefyllfa pethau ? A oes rhyw obaith cael gwell gofal am y ffvrdd ? Hoffem wybod y swm gesglir o'r dyffryn ya flynyddol; ai nid y dyffryn sydd a hawl i'r budd oddiwrth y cyfryw? Tybed na ellid cadw fforddoliwr y ddau du i'r afon ? Mae yn warthus meddwl am gyflwr y ffvrdd yn y rhanbarth, a pha- harn y goddefir i'r bobl i ollwng dwfr i'r Uinellau. Gosper dau neu dri am hynny, a buan y gwelwn gyfnewidiad. Gadawaf ar hyn yna y tro hwn, gan ddisgwyl atebiad i'r uchod, neu gwae chwi tua'r Sanhedrin yna i'i .V REFORMER; MM
Y Gymanfa Ddirwestol.I
Y Gymanfa Ddirwestol. I Cynhelir y gymanfa hon yn Nghapel New- ydd y Gaiman, Llun y Pasc, Ebrill gfed (dydd Llun nesaf). Adgofion hyfryd sydd yn aros am y gyntaf olr gyfres hou o gymanfaoedd gytihaliwyd yn Hen Gapel y Gaiman-Llun y Pasc, y flwydd- yn 1914. Dau gyfarfod oed i fod y diwrnod hwnw yn ol trefniant y pwyllgor-cyfarfod i'r plant yn y boreu, a chyfarfod y prydnawn i wrando anerchiadau gan wahanol bersonau 11 phasio y nurnad geiriol ar yr Ardystiad Dirwestol." Bu yr adnoddau yn fwy na digon i ddau gyfarfod, a chafwyd un arall yn yr hwyr, a than brwdfrydedd yr anerchiadau yn gwresogi a goleuo calonau a meddyliau y gwrandawyr. Y flwyddyn ddilynol trefnwyd tri chyfar- fod-am 10 yn, y boreu, trafodaeth ar des- tyn wedi ei gyflwyno i berson i'w agor; cyfarfod y plant yn y prydnawn (2 o'r gloch), a chyfarfod yn yr hwyr yn cael ei wneyd i fyny ag anerchiadau, adroddiadau, a chan- euon. Bydd treftiiadau y gymanfa hon eto rywbeth yn debyg. Y cyfarfod cyritaf ani 10 o'r gloch, pryd y bydd Mr. J. Ffoulkes, Bryn Crwn, yn agor trafodaeth ar y testyn "Dirwest fel modd- ion i gryfhau elfenaucymeriad." Llywvddir dros y cyfarfod hwn gan y Parch. Esau Evans. Cyfarfod am 2 o'r gloch i'r plant; lly wydd- ir gan y Parch. Tudur Evans. BOED, HYSBYS.—8IP Y mae y Pivyllgor yn trefnu Te rhad i'r plant. Bydd rhaglen cyfarfod yr hwyr (am 6 o'r gloch) o nodwedd amrywiaethol: caneuon, adroddiadau, ac anerchiadau Ilywyddir gan y Parch. R R. Jones, Niwbwrch. Bydd Casgliad yn nghyfarfodydd y pryd- nawn air hwyr Yn ughanol ein cyfarfodydd, cofiwn emyn ymarferol y Parch. D. Adams (Hawen) ar u Gristion! Gweithia." MORGAN PH. JONES, I 1 Ysg. f
IYr Arddanghosfa Amaethyddol.
IYr Arddanghosfa Amaethyddol. I RHESTR O'R GOREUON. March goreu ar y maes- Wm. R. Williams, Bryn Gwyn. March dadforedig—Robert O. Roberts. March cymysgrywogaeth—D. G. Jones. Ebol neu eboles dan 2 flwydd-Evan Rees. Ebol neu eboles dan 3 blwydd-W. R. Wil- liams, B.G. Caseg cymysgrywogaeth ali llwdn—Manuel Calvo. Ceffyl tithio cymysgrywogaeth— John ap Clarke Roberts a David S. James cyfartal. Ceffyl marchogaeth brodorol-Benjamin Bo- wen. Merlyn neu ferlen- Jose Castro, Ceffyl neu gaseg oreu ar y maes—R. Thomas, Berthgoch. Trotting match, Br. Hayes, Bryn Crwn. Mul-Sr. Alvaro Velasco. Troi allan mewn cerbyd—Samuel Jones. Gwedd chwe' ceffyl-Richard M. Humphreys. Tarw goreu ary maes—William Roberts,B.G. Tarw cymysgrywogaeth Durham dan 3 bl.- Edward O. Thomas. Tarw, unrhyw oed, a rhywogaeth heb fod yn bur-William Roberts, B.G. Tarw pur wedi ei eni yn y Diriogaeth—Ro- bert J. Roberts. Buwch bur wedi ei geni yn y Diriogaeth-K. J. Roberts. Tarw cymysgrywogaeth Jersey William Roberts, B.G. Tarw cymysgrywogaeth Polled Angus- Wm. Roberts, B.G. Buwch a llo o'r math goreu at lactha-johii O. Lewis. Buwch a llo o'r math goreu at allforio- John Rowlands. 3 Buwch gyda neu beb loi- John ap Roberts Haid o ychain pesgedig-Tom W. Jones. Dwy aner o unrhyw rywogaeth—Jose Castro Aner dan 2 flwydd- John Lewis, B.G. Aner dan r flwydd-Phillip John Rees. Buches neb fod dan 6 mewn nifer- Jose Castro. Hwrdd goreu ar y maes (Ramboullet)-Felix Arveleche. Hwrdd goreu ar y maes (Lincoln)-Francis- co Epele. Hwrdd Rambouillet pur wedi ei eni yn y Diriogaeiji- Felix Arveleche. Hwrdd Lincoln pur wedi ei eni yn y Diriog- aeth-Francisco Epele. Hwrdd Lincoln dadforedig- Juan Fernandez Hwrdd o unrhyw rywogaeth dan i fl. oed -John Rowlands. Dwy ddafad oreu at wlan a chig-Elias Owen Dan lwdn o'r math goreu i'w hallforio-t4 lias Owen. Cyfran 0 50 wyn-Elias Owen. Ych pescedig—Ithel J. Berwyn. Mochyn pescedig—Y Ffactri Gaws ac Ymen- yn. Dau fochyn dan 7 mis oed— Thos. W. Jones. Iar a cheiliog o unryw rywogaeth— James H. Rowlands. Par o hwyaid—Trebor Mai Thomas. Kilo o fenyn halltedig-Miss Alice Hughes, Bryn Bella. Kilo o fenyn halltedig gan wryf anedig yn y Wladfa-Miss Esther Pugh. Ymenyn halltedig—Mrs. Hugh M. Pugh. Jam wedi ei wneud yn y Diriogaeth—Mrs. Hywel Thomas. Pickles wedi eu gwneyd yn y Diriogaeth- Mrs. Ed. O. Thomas. Wyau ieir-Mrs. John E. Pugh. Torth o fara gwyn—Mrs. Samuel Reberts. Torth frith-Mrs. William James. Bara ceirch—rMrs. John E. Pugh. Eiryn gwlanog-A. Labarta. Afalau—Simon Witty. Ffrwythau wedi eu preservio—Mrs. William James. Cyn-afalau—Anastasio Guthman. pytatws-Jndalecio Pefia. Basgedaid o lysiau-Pablo Morejon. Serch afalau-Indalecio Pefia. 2 Bomcen-David S. Jones. Ffa, etc. (148)-Ad ela Cuesta. Bresych-A. Labarta. Silots-John Rowlands. Wynwyn-Anastasio Guthman. Bitroot—Epifauio Rodrigues. Cauliflower; Cucumber; Llysiau ya gylfre- dinol-Indalecio Pena. Chwarter o gig-Alun Lloyd a Christmas Evans.$ Arddangoswyd cynyrchion gan y personau aganlyn Pedro Y. Martinez, R. Lloyd Kent, Juan Moreteau, Melin Bryn Gwyn, Y Ffactri Gaws ac Ymenyn, Juan Fernandez, Ithel J. Berwyn, Paoli, Hermanos. Dangosodd yr C.M.C. hefyd amryw beiriaiiaii a. thaclau amaethyddol. ———— +»
I 1:--Bryn Gwyn.'
I 1: Bryn Gwyn. Cynhaliwyd cyfarfod ysgol y lie uchod, dydd Sul, Mawrth iSfed a chafwyd cyfar- fodydd rhagorol trwylr dydd, yn neillduol yn v boreu, pryd yr holwyd y plant yny Rhodd M'am, gau y Br. Owen Owens, Coetrnor, a chanwyd tonau y gvmanfa o dan arweiniad y Br. William O. Evans Un ymgeisiodd yn arholiad y Rhodd Mam, sef Elizabeth Jones. Yn y prydnawn holwyd y dosbarth canol gan y Br. Owen Owens, a chafwyd holi ac atteb da iawn, rhaid dweyd, fod y dosbarth yma yn gwella mewn atteb, mwynhaodd pawb oedd yno y cyfarfod yn rhagorol. Bu i amrwy o'r dosbarth yma ymgeisio yn yr arholiad ysgrifenedig yn loan vm-rhanwyd y wobr gyntaf cyd-rhwng y Fonesig Janet Owens, a'r Fonesig Lvdia Roberts, y Br. Owen Owens oedd arholydd y dau ddosbarth. Yn nghyfarfod yr hwyr holwyd y dosbarth hynaf gan y Br.Lewis P. Jones, a chafwyd attebion parod a bywiog. Un ymgeisiodd yn arholiad y dosbarth hynaf, a chanmolodd yr arholwr yr atebion yn fawr. Mrs Owen Charles Owens oedd yr ymgeisydd llwydd- ianus. Adroddwyd rhanau o'r ysgrythyr yn ystod y cyfarfodydd, gan Maria Roberts, Maud Evans, Penar Jones, a Dewi Williams, cafwyd anerchiadau byr gan yr Arolygydd (y Br. John O. Evans), y Br. Evan Ellis a'r Br. John Pugh. Ysgrifenydd yr ysgol yw y Br. Christmas T. Roberts. Cwyno a glywir fod yr ysgol Sul yn colli tir, llawer iawn o rai mewn oed, a phobl ieuaingc, yn esgeuluso, ond y plant yn ffyddlon iawn, gellir yn hawdd cymhwyso yr adnod hon "Y cynhau- af yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn. anaml gobeithio y gwelwn diwygiad yn yr ysgol Sul yn Bryn Gwyn. -0- Dydd Llun, Mawrth 1ge9, cynhaliwyd te parti a clivngherdd o dan liawdd yr ysgol Sabothol, yn Seion, Bryn gwyn. Yr oedd y te ar y byrddau am ddau o'r gloch, a'r bon- eddigesau canlynol yn siriol wneyd eu gwaith, wrthynt- Janet Owens, Mary L. Pugh, Dora Pugh, Nest Jones, Mair Williams Annie Jacks, Dilys Jones, Blodwen Jenkins. Yn arolygu y te, bara ymenyn &c., yr oedd y Fones Plevna Roberts, Fones Margaret Jones, alr Fones Louisa Jenkins, tra yn brysur yn torri y deisen yr oedd y Br. Ed. C. OwenS, nid oes ei well i'r gwaith. Nid oes raid canmol y te a'r danteithion, digon yw dweyd i ,bawb a fu yno fwynhau eu hunain yn rhagorol, a gwerthwyd y gweddill, o dan forthwyl y Br. John A. Jenkins. Pwyllgor y te oedd y Boneddigesau Gwen Parry, M. Jones, L. Jenkins, a M. A. Jones, ac iddyni hwy y mae i bawb ddiolch am y. wledd ragorol a gafwyd. Bu y Br. Leonardo Matarez yn brysur iawn yn berwi dwr trwy y prydnawn. Yn yrhwyr cafwyd cyngherdd o dan arweiniad y Br. William O. Evans. I ddechreu cafwyd ton gynulleidfaol. Ad- roddwyd gan y rhai canlynol :-Elizabeth Jones, Emilia Pugh, Maud Evans, Hannah E. Owens, Blodwen Jenkins, Hannah E. Evaus, Dilys Jones, Gaynor C. Roberts, Gwen Parri, D. R. Daniels, J. A. Jenkins. Canwyd gan Myfanwy Pritchard, C. A. Pritchard, Robert Hughes. a chafwyd deuawd gan Mair ac Aeron Griffiths. Bu dwy gystadleuaeth yn y cyngherdd:-Cystadieuaeth canu ton ar yr olwg gyntaf o "Swn y Jiwbili"—yr oreu oedd y Fonesig Janet Owens, a chystadleuaeth i rai dan 15 oed i adrodd y Salm gyntaf— goreu Emilia Pugh. Y Br. J. O. Evans oedd yn beirniadu'r canu, a Deiniol yn beirniadu'r adroddiadau. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Arolygydd yr ysgol, (y Br. J. O. Evans); ac ar ol talu y diolchiadau arferol, a chanu, "Dan dy fendith wrth ymadael"- Ymwahan- odd pawb wedi mwynhau eu hunain yn ar- dderchog. u Melus rnoes mvvy," medd SIGMA.
Advertising
Hadau Alfalfa., Petdlwch gwerthu elch had. au Alfalfa heb yn gyntat eu cynyg Vr C.M.C. Nid oes neb yn gallu talu uwch prls.