Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

- - - ?M ?' DKT??? wt _}B…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

?M ?' DKT??? wt _}B )r ?kj? ir*?)f*? t V RHYFEL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Mawrth 16. LLUNDAIN. Swyddogol.-—Adroddir am danbeleniadgai1 awyrlongau yn Westgate (Kent), ni wnaed colledion, ond ychydig rtiwed i adeiladau. PETROGRAD.Mae Golitzine a Protopo- poff yn mysg y rhai gymerwyd i'r ddalfa, ond mae Golitizine wedi ei ryddhau, Pan ddeallodd y milwyr oedd yn gwilied fod General SoukholinolT wedi ei gymeryd i'r ddalfa cynhyrfwyd hwy yn fawr, a gydag anhawsder y tawelwyd hwy gan y dirprwywyr. Cymerwyd addurniadau mil- wrÓI Soukholinoff oddiarno, ymostyngodd yn ddigyffro Vt diraddiad. Mae bron yr oil o goflyfrdai yr hedd- geidwaid dirgel wedi eu llosgi, a bu difrod- iad cyffredinol ar swyddfeydd. Cafodd y Llywodraeth newydd restr o enwau ysbiwyr a gyrwyd hwynt ymaith yn ddiseremoni, ac felly hefyd yr holl ber- sonau o dueddiadau pleidiol i'r Almaen, a rhai ag oedd eu henwau o darddiad Al- maenaidd. Galwodd Rosianko ar y bobl i barchu adeiladau y Llywodraeth, ffactris nwyddau rhyfel. &c.. Mae'r Duma a Semstova yn cydweithio ac yn dwyn allan gyhoeddebau ar wahan, a thrwy hyn mae'r boblyn cael gwell hys- bysrwydd na chynt o'r gweithrediadau, er nad oes newydduron dyddiol yn cael eu cyhoeddi. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi meddianu rhan o ddinas Bakubah—mae'r Tyrciaid yn parhau i encilio. LLUNDAIN. Swyddog-ol.-Mae'r dadfor- ion yn ystod Chwefror yn £ 70,094,701, a'r allforion yn £ 37,237,432. PETROGRAD.—Mae y Cyngor o Bendefig- ion wedi cynnal cyfarfodydd mewn 150 dalaethau ac wedi penderfynu cefnogi y chwyldroad. PETROGRAD.—Disgwylir y Czar i Tzars- koeselo Palace lie y mae amryw o wahan- luoedd wedi eu hanfon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder newydd wedi penderfynu pa- rotoi pardwn politicaidd cyfTredinol. Darfu i amryw o bleidwyr yr hen Ly- wodraeth saethu oddiar ben y tai at y cadluoedd a dynasyddion eraiil. Rhoddodd y pwyilgor gweithiol orchymyn i wneud rhuthr ar y tai y saethwyd oddi- arnynt, a chymerwyd i'r ddalfa yr holl bersonau yr oedd amheuaeth yn eu cylch. Mae'r gwat-chiu yn Tzarskelselo wedi cyhoeddi yn ffafr y chwyldrowyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cadluoedd perthynol i Ffin- land yn pleidio'r chwyldroad. Mae Kasan ac Adesse hefyd yn ffafriol i'r Llywodraeth newydd. Mae'r Czar wedi gadael, a'r Grand Duke Michael yn gweithrcdu fel rhaglaw dar- bodol hyd nes i'r Cyfarfod Cyfansoddiadpl ddyfod i benderfyniad. Mawrth 17. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi meddianu Bapaume. LLUNDAIN.— Yn Nhy'r Cyffredin dywed- odd Bonar Law nad yw ymadawiad y Czar, a RhaglawiaetlV y Grand Duke Michael, ddim wedi ei benderfynu hyd yn hyn, yn derfynol. PETROGRAD. Swyddogol.—Yn ranbarth Stanislaw cymerodd y gelyn ran o'n ffos- gloddiau, ond gwrthgurwyd hwynt. yn ddi- oed. PETROGRAD.- Y n ol yr adroddiadau di- weddaf mae Czar yn Piskow 162 (?) i'r "<  de-ddwyrain o Petrograd, mae Czarina yn Tsarkoeselo mewn hollol ddiogelwch. Stopiwyd gan y milwyr y tren oedd yn cludo y Czar, a dywedir fod y Czarina mewn cyflwr o 'hysteria' tra y mae y Czar- evitch yn dioddef oddiwrth y frechwen neu scarlatina. Mae prisiau defnyddiau bwyd wedi eu gostwng cryn lawer. WASIIING'FON. Mae'r Unol, Dalaethau wedi rhoddi atebiad i Carranza yn gwrthod derbyn yr awgrymiad o attal llongau i gludo defnyddiau bwyd a nwyddau rhyfel i'r cenedloedd sy'n rhyfela yn Ewrop. EL PAso.-Sibrydir fod Obregon wedi ffurfio plaid boliticaidd newydd gwrthwyn ■ ebol i Carranza. Mawrth i S. PARIS.—Mae'r cyfrin gyngor Ffrengig wedi ymddiswyddo. LLUNDAIN.-—Mae'r agerlong "City of (?)" perthynol i'r Unol Dalaethau oedd ar ei ffordd o Caerdydd i New York wedi ei suddo, mae un swyddog a 15 o ddynion wedi glanio, ac mae dynion wedi eu hanfon allan i chwilio am y dwylaw sydd ar goll. PETROGRAD. Swyddogol.—Ar y r/eg cyfisol ymosododd y gelyn gyda nwy i'r dde o Lyn Narocz. Dygasom i lawr awyrlong Almaenaidd i'r dde-ddwyrain o Smergon. Yn y Cau- casus yr ydym wedi meddianu Warahn. PARIS. Swyddogol.—Rhwng yr Avre a'r Oise yr ydym yn myned rhagom. Ar yr 17eg cyfisol dygodd Guynemer ei 3Sain awyrlong i lawr, a capten, Doumer ei 6ed. Dinystriwyd dwy arall gan ein awyrlong- wyr. RIIUFAIN.— Yn gylch dyffryn Adig'e mae brwydro gyda'r caddTer yncynyddu mewn angerddolder, tanbelenasom gorsaf Callia- no. Ar lethrau mynydd Seif gorchfygasom y gelyn a chymerasom garcharorion. MADRID.—Er yr ystormydd diweddar mae rhag-olygon y cyrihauaf yn rhagorol. MADRiD.-x-Mae'r Streic yn Barcelona yn awr wedi terfynu. BERLIN. Swyddogol.—Mae'r Almaen- wyr wedi gaclael Peronne, Noyon, Roye, Bapaume, a threfi eraill. Mawrth Ig. PETROGRAD.—Mae'r holl lynges Rwssi- aidd a'r caerau Viborg- a Sveborg wedi ymuno yn y chwyldroad. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi meddianu Nesle, Chaulbes, Peronne gan gwrthguro ol fyddin y g-elyn. Yr ydym wedi myned yn nilaen amryw filldiroedd gan gyrhaedd, mewn. rhai manau, drwch o 10 milldir ihwng Chaulnes ac Arras. Heblaw hyny yr ydym wedi cymeryd 60 0 leoedd. PARIS. Swyddogol.—Rhwng" Avre ac Aisne ar ffrynt o 60 kilometres yr ydym yn parhau i deithio yn mlaen. Ar doriad y dydd gwthiasom yn miaen yn iic"hyfeli-lad y Somme. Ymosodasom amryw weithiau ar ol fyddin y gelyn ond g-wan oedd gwrthymosodiad y geIyn. Derbyniwyd ein cadluoedd gan drigolion Nesle gyda llawenydd mavvr. I I'r gogledd orllewin o Lassigny, yr ydym I wedi myned yn mlaen yn nghyfeiriad Ham dros 20 Kilometres. I Tua'r de mae ein marchfilwyr a'n traed- filwyr wedi cymeryd yn Noyon yr holl linell Almaenaidd rhwng Oise a Soissons, hefyd mae ardaloedd Carlepont, Moesan, Nouvron, Vingre wedi syrthio i'n dwylaw. Yr ydym wedi sangu ar ucheldir i'r I gogledd o Soissons a chymeryd Crony. LLUNDAIN.—Mae badau torpedo Almaen- aidd wedi dynesu at arfordir Kent ar ol haner nos a thanbelenu dinasoedd neillduol, ond ni chafwyd colled mewn bywyd nac adeiladau. PETROGRAD. Swyddogol. Persia-Darfu i farchfilwyr Rwssiaidd wasgaru gwahanlu Tyrcaidd yn y weithred o encilio o Ker- manshah. Yr ydym yn parhau i ddilyn ar eu hol i gyfeiriad Djevaterna. LLUNDAIN. -Suddwyd agerlong perthyn- ol i'r Unol Dalaethau yn ddirybudd-yr oddd hi ar ei thaith i Azores. Yr oedd y Hong yn 4115 tunell. LLUNDAIN. Swyddogol.—Dydd lau cy- merasom gorsaf Mushaidis, y gelyn yn encilio yn gyflym. Mae holl gadlu y gelyn yn gynwysedig o weddillion 3 gwahanlu, a dydd Gwener yr oeddynt mewn llawn enciliad i gyfeiriad Samara. LLUNDAIN. Gogledd America -ma.e'i- a-eriong "Alienois" (tunelliaeih 5220) wedi ei suddo am 8 a. m. Aceubwyd y dwylaw. Yr oedd y Hong- ar ei thaith i Port Arthur. LLUNDAIN.—Suddwyd y"Vigilancia" gan long tanforol, yr hon ni welwyd ar wyneb y dwr. Mae 14 o (idynion ar goll. GIaniodd gweddill y dwylaw yn Scilly Islands. PETROGRAD.—Neithiwr derbyniodd Miln- coff lysgenhadon y Cydbleidwyr. Mae'r cadluoedd ary ffrynt wedi derbyn yn frwdfrydig y newyddion am ymadawiad y Czar. Mae mwyafrif arweinwyr y fyddin wedi anfon gwifreb i ddatgan eu parodrwydd i gefnogi y Llywodraeth newydd. Mae'r Grand Duke Nicolas wedi gorch- ymyn rhyddhad y carcharorion politicaidd yn Baku. PETROGRAD. Swyddogol.-Mae'r Rwss- iaid wedi cymeryd Van yn Armenia Tyrc- aidd. Mawrth 20. MADRID.—Bydd i ddirprwyaeth filwrol Ysbaenaidd ymweled a gwersyllfaoedd milwrol yn Lisbon. BERLIN. New York.—Mae cyfarwydd- wyr y rheilffyrdd wedi awdurdodi cyfryng- wyr i wneud yr oIl a allant gyda gweith- wyr y rheilffordd i osgoi streic yd ngvJY- neb y ffaith o'r sefyllfa ddifrifol sy'n awr o flaen yr Unol Dalaethau. LLUNDAIN.-Dywed gohebwyr ar y ffrynt Prydeinig yn Ffraingc fod yr Almaenwyr wrth encilio yn rhoddi yr holl drefi ar dan mae dinystr a difrod yn teyrnasu ar bob liaw, ac yn mhellach maent yn cyflawni y trosedd anfaddeuol o wenwyno ffynonau, ac y mae prawf o hyn wediei gael yn'Barleux lie yr oedd y dwfr, yn ol tystiolaeth y meddygon, yn cynwys Arsenic. Mae pethau yn dadblygu gyda sydyn- rwydd rhyfeddol, ond y peth mwyaf tara- wiadol yw enciliad y rninteioedd Almaen- oedd o flaen y cadluoedd Prydeinig. PARIS.—Mae'r newydduron yn llawerihau o herwydd yr hyn gymer le yn ranbarth y Somme a chredant y bydd, erbyn y fory fan, bellaf, rhanbarthau yr Aisne a'r Oise yn rhydd oddiwrth y gelyn. Barna y beirniaid milwrol y bydd i'r .Almaenwyr encilio i linell o Line Cambrai a St. Quentin. PEKIN.-Mae cadluoedd wedi cymeryd meddiant o "Concessions" Almaenaidd yn Tiensin a Hankow. Mae'r Dutch wedi cymeryd gofal yr Ar- dratnacthau Almaenaidd. LLUNDAIN.—Mae 15 o ddeiliaid Gogledd America, oedd ar fwrdd yr agerlong Vi- gilance ar goll. PHILADELPHIA.—Mae amryw o ddwylaw y llongau rhyfel (Corsairs) Almaenaidd "Prinz Eitel" a "Kronprinz Wilhelm" (pa rai sydd yn y ddalfa) wedi gwneud ymgais i ddiangc, ond daliwyd hwy gan yr hedd- geidwaid. WASHINGTON.—Mae Daniels, yr Ysgrif- enydd llyrsgesol, wedi gorchymyn i arfdy New York wneud 60 o fan longau i ymosod ar y llongau tanforol ac y maent i fod yn bared o fewn 60 diwrnod. 0 fewn cvlch- oedd llyngesol bernir y bydd 2000 o'r cyf- ryw longau yn barod o fewn 120 o ddydd- iau. LLUNDAIN.—Adroddir fod yr agerlong Isellmynaidd wedi cael ymosod arni gan long tanforol, Yr oedd y Hong wedi ei rhoddi ar waith i gludo lluniaeth i'r Bel- giaid. RHUFAIN.—Ymosodwyd ar Pola gan aw- yrlonyau Italaidd daeth 5 o beirianau'r