Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
C. M. C. TATWS WEDI EU CODI o HADYD o'r HEN WLAD. Am datws addfed ac iach. o'r had uchod telir 25 sent y cilo, yn unrhyw un o ganghenau y Cwm- ni. Hysbysiad. Dymunir hysbysu yr holl Wladfawyr, fed y DR. CARLOS QUIDO LAVALLE wedi ei benodi gan yr Uchel-Lys i edrych i mewn yn y Brif Ynadfa i GWYNION, OEDIADAU, ETC., ynglyn amateriol1 cyfreithiol. Gall unrhyw un ymweled a'r Bonwr JOSE M. REBOREIJO, svvyddog wedi ymneillduo o'r fyddin Arch- entaidd, yr hwn yingymera a gwneud yr YSGRIFAU ANGENRHEIDIOL yn ddi-dranl. Yn ei dy ei hun o 9 hyd I I o'r gloch y boreu, ac o 4,hyd 6 y prydnawn.
Yma a Thraw I
Yma a Thraw I Gyda'r Br. Tom Morgan, yn ei fodur, aeth y Br. a'r Fones Ebenezer Awstin a'r plant i fyny i'r Andes diwedd yr wythnos ddiweddaf. Dymunwn iddynt daith hwyl- us. Ddechreu'r wythnos nesaf bwriada'r Br. Arthur Pugh gychwyn yn ol am yr Andes -hvderwn y caiff daith gysurus i ddych- welyd at ei gyfeillion. Gyda'r Asturiano" dydd Llun o Mad- ryn, aeth y Br. a'r Fones Ashton i Buenos Aires-yr oedd y Br. Ashton yn myned i ymgyno-hori a'r meddygon yno. -0- Mae Syr Cecil Spring-, y teyrngenad Prydeinig yn yr Unol Dalaethau wedi cyf- lwyno i Mr. Lansing- ei ddiolchgarwch i holl ddinasyddion yr Unol Dalaethau, yn Berlin, ameu cyriorthwy i edrych ar ol carcharorion Prydeinig yno. -0- Mae saith o swyddogion llyngesol o Chile wedi cyrhaedd i New York i gymer- yd gofal y Hong tanforol adeiladwyd yno i'r Llywodraeth Chileaidd. Ar wahan i'r gwledydd sy'n rhyfela yn erbyn yr Almaen, dywedir mai y rhai sydd debycaf o fod fwyaf ar eu henill yw'r Pvvyliaid (Poies) a'r luddewon. Mae Rwssia a'r Almaen wedi addaw i'r Pwyliaid eu rhyddid politicaidd. Newidir hefyd er gwell gyflwr yr luddewon, meddir wrthym, yn Rwssia. —o— Mae y benthyciad diweddaf tuag- at y rhyfel yn Prydain eisoes dros £ 700,000,000. Cyn diwedd y flvvyddyn hon ceir prawfion pellach fod swm go fawr o arian eto yn aros yn ei llogell. —o— Beth bynnag- am y colledion achosir gan y llongau tanforol y mae hyn yn amlwg, nas gellir newynu yr Hen Wlad, gan fod y fasnach forol wneir ganddi, er gwaethaf y llongau tanforol, yn ei diogelu oddiwrth newyn. —o— Mae nifer y Hong-au sy'n cario arfau wedi cynnyddu 48 y cant mewn dau fis. -0- Daeth gwifreb i hysbysu nad yw Miss Gillbee, athrawes Ysgol Seisnig Trelew, yn cael dychwelyd yn ol o Lloegr am beth amser, gan na chaniateir i ferched a phlant deithio ar y mor ar hyn o bryd. I
.————.. 4 Sain a Swn.I
.———— 4 Sain a Swn. I Dichon y caniateir gofod i ni i gymeryd cipdrem ar y ddau air hyn, os y gallwn, mewn ychydig o eiriau fel hyn. Derbynia'r meddwl dynol argraffiadau oddiwrth bethau tuallan iddo ei hun, drwy bump cyneddf, sef, y golwg, archwaeth, arogl, teimlad, a'r clyw. Drwy y clyw y derbynia'r enaid argraffiadau oddiwrth swn a sain, hwn yw'r cyfrwng rhyngddynt. Cyn- hyrchir seiniau drwy ddirgryniadau (vibra- tions) cyflym a rheolaidd i ddisgyn ar y clyw drwy yr awyr, a hynny'n hollol gyfar- tala rheolaidd. Y rhai a ellir eu cynhyrchu drwy amryw o ffyrdd, megis, tafodau'r organ, tannau y delyn, y berdoneg, neu'r crwth, heblaw llawer o offerynau eraill cyfaddas; hefyd, drwy y llais dynol, wedi ei ddisgybluln dda, o fewn y cylch a all ganu'n naturiol. Cynwysa'r nodyn, neu y sain isaf (Doha) a all y clyw ei fwynhau fel y cyfryw, 16 o ddirgryniadau bob eiliad o amser, drwy bibell yn 32 troedfedd o hyd ar. yr organ. A'r sain uchaf, sef (Doh4) yn agos i 5,000 o ddirgryniadau bob eiliad drwy bibell fach iawn ar yr un offeryn. Dealler mai am gyweirnod C y sonir yma, ac mai o'r C wythawd yn is na'r pitch fork gyffredin a ddealler i lawr ac i fyny. Felly, mae wyth wythawd (ocho octavos) o seiniau cerddorol a ellir eu deall a'u mwynhau fel y cyfryw. Rhwug y ddau eithafion hyn (Doh4 a Doh4), mae i bob sain ei dirgryniadau neilltuol ei hun, rhy faith i'w henwi na'i nodi yma. Credwn fod miloedd o wahanol seiniau yn yr eangder, ond ein bod eto heb allu i'w mwynhau na'i deall yn iawn, fel llawer o bethau eraill yn y byd. Achosir swn drwy ddirgryniadau an- wastad, di-reol, ansefydlog, megis swn y gwynt, afon, neu goed, etc., etc. Mewn gair, unrhyw beth a achosa ddirgryniadau i ddis- gyn ar y clyw a fo'n annerbyniol ganddo, ac anaddas iddo fel sain, er na achosa lawer o boen fel swn, tralr achosa y pethau a elwir yn ami yn seiniau, ac heb fod felly, lawer o anghysur i'r clyw diwylliedig. Mor fynych y clywir yr offerynauln dweyd un peth, a'r canwyr beth arall!! personau neu ran o gor yn gwneud swn, a'r lleill seiniau, a dichon y berdoneg a wna dipyn b bob un. Wei, mae peth felly'n ofnadwy o gas i'r clyw; tra mae gwrando ar seiniau offerynol neu leisiol perffaith yn un o'r pleserau mwyaf pur ac aruchel a all yr enaid el hun ei gael ar y ddaear. Dymunol iawn fyddai canu llai a gwrando a meddwl mwy ar lawer o'amsylchiadau. IT. 11. P. I
Advertising
C 1r C' .¡. + C. 7Vf. C. + Blaendelir, neu telir yn derfynol $11.00 y can cilo am wenith o'r an- sawdd goreu. YR AROLYQJAETK. Trelew, lonawr 11, 1917. Cymdeithas Amaethyddol y Camwy. RHAGLEN yr ARDDANGOSFA a gynhelir yn Gairnan mis Mawrthf 1917, YCHWANEGIADAU AT Y RHAGLEN: i,a.-Ceffyl iieurxlaseg, goreu ar ymaes (Cham- pion). sa.—Trotting Match—ceffylau neu gesig. 3a.-Ameanu pwysau anifail corniog-ych neu darw. 43.-Eto, ani fail gwlanog (Ilwdn). Blaeu- dal (entrance) deg y cant o'r wobr. 5.— Yr oil anifeiliaid i fod ar y maes am ddeg o'r gloch y boreu. Penodwyd i ofalu am y maes y personau a ganlyn :— ADIN I.-Bonwyr John Ap Roberts a John Ap Jenkins. ADRAN II.—Wm. Henry Williams ac Owen Charles Owens. ADRANAU III. A IV.-Elias Owen (Coetmor) r Daniel Griffiths a R. H. Roberts. ADRAN V.—Edward O. Thomas, ac Edward John Jones (Otro). ADRAN VI.-—'Wm. John Lloyd a Tom Row- lands. ADRANAU VII. AC VIII.-Ellis Williams a Llew. Lewis. ADRAN IX.—loan Rowlands a John Williams (Aberystwyth). ADRAN X.—Bob Williams ADRAN XI.— John Arfon Jones, Daniel Rees Daniel, Jack Jones (C.M.C.), Dewi Jones, ac A. J. Ffoulkes. Canghenau yr C.M.C. yn y gwahanot ran- barthau o'r Diriogaeth i dderbyn entries. Bydd i'r Arddangosfa gael ei hagor yn swyddogol gan Gadeirydd y Gymdeithas am ddau o'r Gloch ar ddydd y ifair. ITIIEL J. BERWYN, YSGRIFENYDD. Hadau Alfalfa. Peidiwch gwerthu eich had- au Alfalfa heb yn gyntaf eu cynyg i'r C.M.C. Nid oes neb yn gallu talu uwch pris.