Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Aviso.I I_SO.I

Hysbysiad. -!

V RHYFEL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

V RHYFEL. Newvddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) I 1, Chwefror 9. PARIS.-Mae Cyngrair Llyngesol Ffrainge wedi agor rhestr danysgrifiadol i gasglu gwobr i ddwylaw llongau fyddo llwydd- ianus i suddo neu ddal llongau tanford. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yn Sailly Saill- isel cymerasom 78 o filwyr a dau swyddog yn garcharorion, ac yr ydym yn myned yn mlaen yn foddhacl. RHUFAIN.- Yn Verdi Theatre yn Padua rhoddodd Iarll Turin 43 o fathodion am ddevvrder. BERI.IN.-Mae teyrngenad Ysbaenaidd wedi hysbysu y Llywodraeth yn swyddogol y byddai i Bernstorff forio dydd Liun ncsaf o Halifax. Nid yw v diwrnod y bydd Gerard yn cychwyn ddim wedi ei benodi hyd yn hyn, ond mae'n debyg mai nos Sadwrn y cychwyna ac y bydd yn myned trwy Swit- zerland. CIIRISTIAN!A.-Mae'r Almaen wedi hys- bysu Norway eu bod yn bwriadu talu yn llawn y colledion ynglyn a'r llongau a'r bywydau ddinystriwyd gan torpedos yn y mor gogleddol gyda'r dealltwriaeth nad yw hyn yn golygu ei bod yn cydnabod unrhyw droseddiad oddeddfau rhyngwladwriaethol ond yn hollol fel mynegiad o deimladau caredig. LIMA.—Darfu i wiblong Brydeinig ddal yr agerlong Maipo yn gyfochr a Cerro Azul a chymeryd oddiarni capten Almaen- aidd Krausse prwyad y Cwmni Mordwyol "Kosmos." rhai achubwyd oddiar oddiar yr agerlong Nowegaidd "Solbaken" wedi eu glanio yn Gijon. Yn ymyl Finisterre torpedwyd yr ager- long oedd yn cario grawn o R. Plate i Lloegr, lladdwyd dau o'r dwylaw, clwyf- wyd llawer, ac y mae'r capten a 14 0 ddynion ar goll. Rio JANEIRO.—Sibrydir fod rhai wedi clywcd saethu rhwng 2 a 6 y borcu, a thybir fod brwydr lyngesol wedi cymcryd He; sibrydir hefyd fod llywydd ilyngesol. Fernando Noronha wedi gwifrcbu y man- ylion am y frwydr i'r Morlys. PARIS Sw),ddo-ol -Cafodd ymosodiad y gelyn yn ranbarth Vaux, Les Palameix ei ddifuddio yn hollo). Chwcfror 10. PARII-Pei-,derfynodd y Llywodraeth leihau nifer tudalcnau newyddiaduron. LnjNDAiK. —Mae'r agerlong- Brydeinig Hanna Larsen wedi ei suddo, ac mae'r capten a'r prif beirianwr yn garcharorion. BERI.LV.—Mae Gerard a'i swyddogion ynghyd a teyrngenhadon, gohebwyr,. yr oil yn 200 mewn nifer, yn gadael nos y fory am Ysbaen trwy Berne. MADRID.—Yn Alicante mae morwyr wedi eu cymeryd i'r ddalfa am gyflenwi llongau tanforol gyda Gasoline—mae'r Llywodraeth yn gwneud ymchwiliad. BERLIN.-Cydiiabyddi-r vn swyddogol fod y Prydeinwyr wedi enill tir ar y Somme. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae torpedo- destroyer o'r hen ddosbarth wedi taro yn erbyn mwn a suddo pan yn cychwylio yn y Cyfyngfor. Collwyd yr holl swyddogion, achubwyd pump o'r dwylaw. LLUNDAIN. Lloyd's Mae'r agerlong Norwegaidd "Hornskinck" wedi ei suddo, hefyd yr "Ida." Dywed capten yr Ida fod y goruchwyliwr a'r ail swyddog wedi eu lladd gan ergyd o canon, parhaodd y llong tanforol i saethu tra yr cedd y Mong yn suddo, ac ymosododd ar y dechreu yn ddirybudd. Cl\ISTIANIA.fae'r agerlong Nonveg- aidd "Odin" wedi ei suddo yn ddirybudd. PARIS.—Mae gorchymyn wedi ei roddi yn gwahardd gwerthu bara ffres, ac hefyd gorchymynir fod yr holl fara yn cael ei wneud o flawd gwenith yn unig. PARIS. Cadarnheir gan wifrebau i "Havas" fed gweithwyr Belgiaidd wedi cael eu cludo i Twrci i weithio mewn ffactris nwyddau rhyfel. LLUNDAIN. Lloyds Mae'r agerlong 1 Brydeinig "Wilmington" wedi ei suddo. LA HABANA. Darganfyddwyd brad- fwriad yn erbyn y Llywodraeth, ac y mae amryw o swyddogion gwladol a miiwrol yn y ddalfa. NEW YORK. -Mae'r perchenogion yn Copenhagen wedi awdurdodi yr agerlong Frederick VIII i fordwyo Von Bernstorff a'i swyddogion i borthladd yn Scandinavia. AMSTERDAM.—Neithiwr ymosodwyd gan fintai o longau awyrol ar arfordir Belgium yn agos i Zeebrugge, ond gyrwyd hwyut ymaith yn v diwedd gan ynau Almaenaidd. PETROGRAD. Swyddogol.—Ar ffrynt Ga- litziaidd-Rwssiaidd mae man frwydrau yn parhau. i Chwefror 11. RHUFAIN. Swyddogol.—Cymerwyd gan un o'n gwahanluoedd fryn sydd gyferbyn a Carso, gyrwyd y gelyn ar ffo a chymer- asom garcharorion. | WASHINGTON.—Dywed yr Associated Press" ei fod yn barnu fod yr Almaen wedi anfon i'r Unol Dalaethau, mae'n debyg trwy gyfrwng Switzerland, gohebiaeth yn cynnyg fod y ddwy Lywodraeth yn ystyried y moddion i osgoi rhyfel. LLUNDAIN. Swyddogol.—Disgynwyd gan awyrlongau llyngesol nifer 0 ffrwydbeleni ar ystordy'r awyrlongau yn Ghistelles (Gorllewin Flanders) gan wneud niwed mawr, dychwelasant yn ddiogel. LLUNDAIN. Swyddogol.—Ar ol tanbel- eniad ffyrnig ymosododd y gelyn ar ein safleoedd yn Sailly Saillesi). Gwrthgur- asom hwynt a chadwasom ein llinellau ar bob rhan. Gorchfygasom ymgyrchion ac achosasom golled drom i'r dwyrain o Neville. Yn Saint Vast aethom i mewn i linellau y gelyn. PARIS. Swyddogol.—Ar ddwy ochr y Meuse mac brwydrau bywiog gyda'r cad- offer. LE HAVRE. Swyddogol.—I'r gogledd o Maison Pasesur gwasgar asom y gelyn oedd yn ceisio dyfod at ein ffosgloddiau. PARis.-Mewn atebiad i nodyn yr Al- maen mae Switzerland yn gwneud gwrth- dystiad cryf yn erbyn y gwarchae gyda'r llongau tanforol. PEKIN.—Mae'r Llywodraeth wedi rnab- wysiadu yr un golyglad a'r Unol Dalaethau ac wedi hysbysu yr Almaen y bydd i'r cysylltiadau gael eu tori os parha yr ym- osodiad gyda'r llongau tanforol. PARIS. Swyddogol.—Yn goedwig Apre- mont aethom i mewn i linellau y gelyn a chymerasom amryw swyddogion a dynion yn garcharorion. Yn Argonne a Lorena trodd ymosod- iadau yr Almaenwyr yn fethiant. LLONDON. Lloyds.—Mae'r agerlongau Pr)?dpini- I,lN,Iontola" a "Sallagh" wedi eu suddo. WASAINGTON.— Anfonwyd gwifreb gan deyrngenad yr Unol Dalaethau yn Quenn- stown i'r Llywodraeth i ddyweud fod "Montola," tunelliaeth (8500), yr hon oedd ar ei ffordd i Calcutta wedi ei suddo yn ddirybudd. Dechreuodd y llong tanforol saethu pan 4000 Hath oddi wrthi, a daeth o fewn 300 llath, ond gan i long y Morlys agoshau aeth hithau i lawr o'r golwg. Chwefror 12. LLUNDAIN. Swyddogol. Me-zopot-,rria- gwrthgurasom bed war ymosodiad a chym- erasom weithfeydd yn Kett, a 500 metres o ffosgloddiau. Mac'r oil gymerwyd yn 6 kilometres o ffrynt, gyda chyfartaledd o I Kilometre o drwch. Cafodd y Tyrciaid golledion trymion. CADIZ.—Mae llongau tramorwedi angori i hvytho halen. PALAMos.-Gadawodd bad-torpedo Ffreng- ig ar ol glanio dwylaw llong bysgota fechan dorpedwyd. Yr oedd 4 o'r dwylaw wedi marw a 3 wedi eu clwyfo yn dost. LLUNDAIN. Swyddogol.—I'r gogledd o Beaumont cymerasom gyfundrefn gref o ffosgloddiau gy(la 2150 garcharorion. I'r dde o SaiUy Salisel gwrthgurasom ymgais i ddyfod at cin ffosgloddiau, a chafodd y gelyn golledion trymion. Dygasom i lawr awyrlong i'r gelyn. PARIS.-—Swyddogol.—Ar yr holl' ffrynt mae prysurdeb gweddol gyda'r cadoffer. I LLUNDAIN.'—Achubwyd holl ddwylaw yr agerlong Japanaidd "Prince" dorpedwyd. Yr oedd amryw wedi eu clwyfo. ZURICH.—Mae Gerard wedi cyrhaedd. LDUNDAIN.—Mae'r agerlongau Groegaidd "Valisicla" a "Olga" wedi eu suddo.. LLUNDAIN.—Pris y "Times" yn awr yn dwy geiniog. MADRID.—Mewn amryw ddinasoedd mae cyfarfodydd wedi eu cynnal gan yr An- mhleidwyr, heb fod terfysg yn dilyn. IILUNI)AIN.-Bydd i Duke of Connaughfc gael ei enwi yn Arolygydd Cyffredinol cadluoedd ymherodrol a threfedigaethol. BERNE.—Bu Gerard yn ymddiddan hedd- yw gyda'r Gweinidog Cartrefol Swissaidd Hoffman. TOKIO.—Mewn ymgynghoriad a Gweini- dog Chineaidd, mynegodd y Gweinidog Tra- mor eigymeradwyaeth iwaith China ynglyn a'r rhyfelawd Almaenaidd gyda'r llongau tanforol, a bydd i'r weithred hon gynorth- wyo i ddadwreiddio y dylanwad Almaen- aidd yn y Dwyrain pell. LLUNDAIN.—Gofynodd Bonar Law am gredyd newydd o 550 miliwn. Mae cyf- answm y credyd yn ystod y Hwyddyn ar- gyllidol sydd yn cerdded yn 1950 miliwn o bunnau. Dywedodd Bonar Law yn Nhy'r Cy- ffredin fod cyfanswm credyd y rhyfel hyd yn hyn yn 3723 miliwn. Chwefror 1-3. MA D PID.-Mewn amiyw borthladdoedd Ysbaenaidd mae llongau tramor wedi cy- meryd noddfa i aros am longau rhyfel i'w hamddiffyn ar eu taith. LLUNDAIN.—Cyhoeddir ystadegau gan y Bwrdd Masnach, ac y maent yn hynod ddyddorol yn ngoleuni y rhyfelawd bresen- ol gyda'r llongau tanforol a'r ymdrech i nvystro masnach forol i mewn ac allan o'r porthladdoedd Prydeinig. Yr wythnos ddiweddaf darfu i Prydain Fawr ddadforio gwenith i'r swm 0 2,766 2GO beshels o'i gyferbynu a I, I I 1,800 bushels yn ystod yr wythnos gyfatebol y flwyddyn ddiweddaf; a 1,069,300 bushels o "Maize" o'i gyferbynu a 495,800 bushels yn ystod yr un amser o'r fiwyddyn ddiweddaf. LLOYDS.— Mae'r agerlong Brydeinig "Lycia" a'r agerlong Roegaidd "Spyridion" wedi eu. suddo, bu y capten a llawer o ddwylaw yr olaf foddi. RHUFAIN. SwyddogoI.Gwnaeth rnifdr