Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
Gaiman, Chwefror iseg, 1917. At Olygydd y DRAFOD. Anwyl Syr,—A fyddwch mor garedig a chaniatau ychydig ofod i'r amean o roddi eglurhad ar fater y mae llawer yn cymeryd diddordeb amIwg ynddo. Onibai fod rhai wedi dangos eu safbwynt hwy yn weithred- oj, ac fy mod wedi cael ar ddeall fod ychydig bersonau wedi gwneud propaganda i'm duo, ni thrafferthvvn neb a'r eglurhad. Tybiais mai gwell fuasai cyhoeddi y ffeithiau eanlynol, a gadael i bawb faruu drostynt cu hunain. Priodais Mavvrth 17eg, 1906, yn 29ain mIwydd oed. Oddigerth yr ychydig fisoedd diweddaf, cafodd fy rhieni holl elw fy llafur. Claddwyd fy mam Ebrill 27am, 1907. Erbyn Awst, yr oedd fy nhad yu briod drachefn. Gan fod fy .iechyd yn pallu, cychwynais am y Wladfa, Medi 9led, 1908, gyda'r bwriad oiros bhvyddyn. Cefais cymaint adferiad fel yr arhosais yma. Tua chwc' mis wedyn, daeth fy nhad a'i deulu -yma, er eu bod wedi derbyn gwifreb i beidio dyfod. Cymerwyd fy nhad i'w wely yn Gorphenaf 1913. Yn ystod ei gaethiwed, cynnygiais lawer tro ei gymeryd i'r Ysbyty yn Buenos Aires, a dwyn y draul. Gwrthododd yr hen wr a'i wraig yn bendant bob tro. Bum yno yn gyson er y dechreu, gan wneud yr oil allaswti,-bulin yn gludydd dwfr a thorrwr coed yn llythrenol. Bu fy ng>vraigtyn go!chi'r dillad a glanhau'r ty o'r dechreu hyd ddivvedd Chwefror 1916. Gwrth- ododd fyned yno wedyn am i ymgais gael ei wncud i'n gorfodi, dan fygwth y gyfraith, i gymeryd fy nhad i'm ty, i'w ytngeleddu a'i gynnal, tlC nid oeddwn i attalei wraig ddyfod atto pan yr ewyllysiai." Dyna eiriau un o'r nifer. Derbyniasom lythyr'o Trelew, oddiwrth y bachgcn oedaynt wedi ei fagu, yn fy archu i chwilio am le i'm tad, ac y byddai iddo ef symud ei fam i Drelew atto mor fuan ag y byddai yn gyfleus. Cefais y llythyr yna tua Hydref 1915. Oddiar hynny, mae ychydig bersonau wedi bod yn egniol i ddwyn hynny i ben "through fair means or foul." Alae y cyhoedd wedi bod yn haeiionus. Casglodd Bryn Gwyn tua 90 noier iddynt, ac ardal- oedd eraill oddeutu 500 noler,-faint heblaw hynny gasglvvyd nis gwn. Cymerodd Cyngor anrhydeddus y Gaiman at y gorchwyl i'w symud i'r Ysbyty yn Buenos Aires. Yr oeddynt wedi cael mcddyg i dystio ei fod yn ddigon cryf i'r daith, ac wedi dewis un i ofalu am dano ar y daith. Pan ddaeth i'm gwybodacth, cynnygiais ei gymeryd yno a clwyn y gost, yr hyn wyf wedi gyflawni. Bum bum' wythnos i ffwrdd, nis gailwn ddychwelyd yn gynt oherwydd streic y Ilongwyr oedd mewn gweithrediad ar y pryd. Gadewais arian mewn dwylaw ym- ddiriedol i'w augenrheidiau a'i gludiac1 yn ol. Daeth yn ol rhyw Its ar fy ol. Costiodd y cyfan rhyw 900 noler i mi. Benthycais 800 noler i'r pwrpas. Hysbysais Ysgrifenydd y Cyngor yn brydlou nad oedd yn fy ngallu i wneud mwy ar hyn o bryd. Pe byddai fy nhad heb deulu 11a moddion i'w gynnal, cymerwn ef heb annogaeth neb. Mae ganddo solar a thy arno, yn eiddo iddo, yn y Gaiiiiiti,-a phaham na ddefnyddir hwnnw i'w gynnal ? DAVID J. EVANS.
I Ymylon y Pfordd. I
I Ymylon y Pfordd. I Daeth y newydd o'r Dyffryn Uchaf fod Mrs. Owen Roberts, Tredegar, wedi bod yn wacl iawn. Ymosodwyd ami yn bur drwm gan y pleurisy, a bu am ddyddian o dan driniaeth feddygol Dr. Jubb. Mor dda oedd gennym glywed dechreu yrwythnoshon ei bod erbyn hyn allan o berygl. Bydded iddi gaelllwyr adferiad yn fuan. -0-- Yr wythnos ddiweddaf fe freintiwyd ael- wyd Mr. a Mrs. Myfyr Griffiths, Drofa Hesgog, a merch fechan y fam a'r ferch yn gwelia yn rhagorol. LIon, hefyd, yw deall fod y Br. Myfyr Griffiths ei hun yn gwella, er dipyn yn araf, ar ol y ddamwain dost a gafodd dro yn ol o dorri ei goes. -0- Tipyn yn anffodus y bu y Br. W. Owen, Cox Jones, y dydd o'r blaen. Digwyddodd pigyn, rhywfodd, fyned i'w droed, a. chan iddo fethu a'i gael allan yn llwyr, dechreu- odd ei drocd chwyddo, a bu yntau mewn canlyniad mewn. poenau arteithiol. Gorfu iddo ddod i lawr i'r Gaiman ar fyrder at y meddyg, ac yno y mae o hyd o dan ei drin- iaeth. Clywsom heddyw ei fod yn well, er o hyd yn bur boenus. Caffcd yntau wellhad IIwyr, a hynny cyn hir. --0- Mae symudiad ar droed unwaith eto i gael ccnhadwr i'r Wladfa, i wasanaethu ym mhlith y cenhedloedd sydd o'n cwmpas. A dau frawd sydd a'u henaid ar dan dros yr achos cenhadol, o gwmpas yr eglwysi ar hyn o bryd, i gael eu barn ar y mater gwir bwysig hwn. Beth fydd y canlyniad ? nis gwn. Cawn weld cyn hir. Gwelir fod Hyrwyddai'r C.M.C. yn right dyner wrth eu staff ar hyn o bryd. Beth sydd wedi cyfFwrdd ealon y Directors tybed ? Ceir dyddiau owyl yn y Cop. 'rwan yn ddirif bron. Ers tipyn bach yn ol, bu'r Cop. yng- hau am ddiwrnod cyfan, RC yi) ol hysbysiad welir ar y DRAFOD, bydd ynghau eto yn o fuan am ddau hanner diwrnod yn olynol. Pam na roddid un diwrnod cyfan, yn lie dau hanner Ychydig, os dim, fedr y boys wneud olr ddau hanner yma, tra y medrent wneud tipyn go lew o full day. We], yii wir, os goddef boneddigion yr Hyrwyddai i mi ddweyd fy marn, y maent i'w canmol yn fawr am estyn ambell half holiday fel hyn weithiau i'w gweision. Maent yn cael en caethiwo ddigon yn barhaus olr tu mewn i'r pedair mur yna, ac mi wn, nad oes neb yn gwarafun iddynt gael ambell awr o ryddid, fel y gallant gael llond eu lungs weithiau o awyr frtsh ac inch. Pe byddwn i yn un o'r deuddeg, mi fuaswn yn dadleu a'm holl egni ar i'r boys gael half holiday bob wythnos, a dylent ei gael ar bob cyfrif, er mwyn en nherth a'u hiechyd. Yr wyf am gynnyg y tro nesaf yma. Boys y Cop., codwch eich calon, Mae amser gwell ymlaen." Dywedir fod haid fechan o locustiaid wedi dod am dro i'r dyffryn. 'Dwy'n ameu dim nad oes yna wirionedd yn y stori hon, canys yr wyf yn sicr i mi weld rhai o'r tylwyth yn ein gardd ni y dydd o'r blaen. Yn wir i chwi, 'doeddwn i ddim yn eu licio o gwbl," meddai oyfail 1 wrthyf y dydd o'r blaen, (i ofiiaf mai spies ydynt, ac fod y fyddin yn canlyu." Tybed fod yna sail i'w ofnau dywedwch ? —o— Wei, onid ydyw yr hen afon yma wedi mynd yn ofnadwy o isel y dyddiau diweddaf hyn? Ni welsom hi erioed n'r blaen mor isel ng y mac heddyw. Beth os ydyw, fel ffynon St. Winifred yn Fflint, yn mynd i sychn Beth ddaw ohonom wedyn ? GOHEBYDD. I
Advertising
Mauro Prieto A Milion Davies, TWRNEIOD, Olynyddion i Mr. Robert A. Davies, RAWSON—■-Telefono No' 21 (CHUBUT,)
.-Sut i Siarad yn Gyhoeddus.
Sut i Siarad yn Gyhoeddus. GAN UN NA FYDD BYTII YN GWNEUD. i. Peidiwch a siarad yn rhy isel fel na oil neb eich clywed. 2. Peidiwch a bloeddio fel pe bai milltir rhyngoch a'r gynulleidfa. 3. Peidiwch a lluchio eich dwylo a'ch breichiau o gwmpas. Cofiwch mai dyn ydych, ac nid melin wynt. D wed John Ruskin yn rhywle mai gyda'r gwefusau y mae siarad, ac nid gyda'r aelodau. Aine Cicero, areithiwr mwyaf y Rhufeiniaid, yn dweyd peth tebyg. 4. Pcidiwch a neidio ac ysboncio fel Jack- yn-y-box. Nid yw'r hyn a ddywedir yn fwy gwir wrth i ddyn wneud clown ohono'i hunan a dirdynnu ei gorff wrth siarad. 5. Peidiwch a siarad ar bynciau tyner a'ch dyrnau yng nghaead. Cof gennyf glywed areithiwr, neu'n hytrach bregethwr, unwaith yn bloeddio'r gair "carrrr-iad" chwedl yntau, nerth ei ben, a'i ddau ddwru yn dynn yng nghau, a'i holl gorff mewn agwedd ac osgo oedd yn peri i mi feddwl nid am gariad a thyrierwch yr Arglwydd Iesu, end am y darluniau welais o Jack Johnson, yr ym- laddwr du o'r Unol Daleithiau. "Speaking of the love of God with closed fists," fel y dywed un awdwr Seisnig. 6. Pan fydd rhaid i chwi ddefnyddio eich breichiau, bydded i'w symudiadau fod yn briodol, a chydfyned a'r hyn a ddywcdwch. 7. Darllenwch y darn hwnnw yn Shake- speare, Hamlet, Act III., Golygfa II., He mae Hamlet yn rhoi cyngor i rai ynglyn a pha fodd i siarad. Dyma ryw led gyfieithiad o hono "HAMLET. Traddodwch yr araith, yr wyf yn atolwg i chwi, fel y datgenais i hi i chwi, yn ystwyth ar y tafod ond os cegwch hi, fel y mae Ilawer yn gwneud, ni waeth gennyf i'r criwr cyhoeddus ei dywedyd. A. pheid- iwch a Ilitiolr awyr yn ormod a'ch Haw, fel hyn, ond byddwch yn gymedrol. Canys hyd yn oed yng nghanol cefnllif, tymestl a chor- wynt y mvydau, rhaid i chwi ddal at gymed- roldeb a rydd lyfnder i'r mynegiad. Mae'n merwino fy enaid clywed creadur cydnerth yn rhwygo'11 garpiau y teimladau a geisia eu dangos, er mwyn hollti clustiau'r werinos cyffredin, na allant gan mwyaf ddeall dim ond ystumiau ynfyd, a thwrvv. Mi fuaswn i'n hoffi i un felly gael eithaf cweir am ei gorwneud hi. Gochehvch y fath bethau. CHWAREUWR. Gwnawn, mi warantaf i chwi. "HAMLET. Peidiwch a bod chwaith yn rhy ddof, ond bydded eich symnvyr chwi eich hunan yn athro i chwi cyfatebed eich ystum i'ch geiriau, a'r geiriau i'r ystum, gan ofaltilii arbennig beidio myned tuhwnt i symlrvvydd nntur canys mae popeth a or- wneir felly yn anghyson ag amcan areithio. Diben siarad yn gyhoeddus ydyw dal y drych, megis, o flaen natur, er mwyn dangos pethau fel y maent yn gywir, dangos i 1"in- wedd ei hwyneb ei hunan, dangos i fai ei ddelw ei hunan, a dangos i'r oes ei oIwg ei hunan. Yn awr, os gor-wneir hyn, neu os gwneir yn sal, er y gall beri chwerthin i'r an wybodus, ni all beri ond gofid i'r deallus, a dylai cerydd y deallus fod o fwy o werth geiiiiycli na lionaid ystafell o rai eraill. Clywais yn siarad rai, a chlywais eu canmol hetyd, nad oedd ganddynt iaith Cristionog- ion nac vstumiau Cristion, pagan na dyn, He yn ymvsgwyd ac yn rhuo yn y fath fodd nes peri i mi feddwl bod rhai o weitlnvyr cyff- redin natur wedi bod wrth y gwaith o geisio gwneurl dynion, ac wedi eu gwneud yn soil- ion, gan mor ffiaidd y dynwaredai'r rhai hyn y ddynoliaeth." 8. Yn olaf, ond nid yn lleiaf peth, ceisiwch ddyfod i wybod rywbeth am eiriau a gram- adeg yr iaith y byddwch yn llefaru ynddi. [Peth atgas yw clywcd rhai yn dweyd rhwv yn He rhyw, a ddi yn Ue hi, J megis mi gwelais i ddi," neu yn camarfer cyfnewidi?d y cydseiniaid megis "yn Dre Lew yn lie yn Nlire Lew." rvlac/r Efengyl yn enwedig yn teilyngu urddas, ac y mae llawer o !e i ni deimlo'n ddiolchgar i bre- gethwyr Cymru am eu hymdrech i siarad yn weddol deilwng a gramadegoj. Gresyn na fyddai mwy o ymdrech yn y cyfeiriad yna. I il A. B. ¡" "J.
I -Yma a Thraw
(Parhad Yma a Thraw.") Bu yn adran drydano! Coleg y Brifysgol Bangor yn derbyn ei addysg. Am rai dyddiau o'r wythnos ddiwcddaf cafwyd gwres eithafol, a dywedir na chafwyd ei gyffeiyb, er's llawer o flynyddau, yn Nyffryn y Cannvy. Fe gofir hefyd i ni gael rhai dyddiau eithriadol o oer yn ystod y gauaf diweddaf. -0- Mae'r hwyaid gwylltion, medd rhywun y dydd o'r blaen, wedi clofi digon ar Ddyffryn y Camwy i ddisgyn ar ben dyn a'i ddryll yn estynedig atynt i'w saethu. Y mae yr hwy- aid hyn yn difa'r gwenith yn swn yr ergydion.