Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

(Parltad " YlJla a Thraiv.")

IY RHYPEUI

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y RHYPEU I Newyddion gyda'r Pellebr. I (HAVAS AGENCY.) I Chwefror I. PERNAMBUCO.—Dywed y Was- fod y wib- long Amethyst wedi cael brwydr gyda llong tanforol yr hon lwyddodd i ddianc LLUNDAIN. Lloyd's Mae'r agerlong IseHmynaidd "Epsilon" wedi ei suddo. LLUNDAix.-Dywed y "Daily Sketch" fod William Wheelton (ieuengaf) wedi ei gy- meryd i'r ddalfa neithiwr yn Southampton. LLUNDAIN,-Darfu i Mr. Long-, y Gweinidog Trefedigaethol, ddyweud yn swyddogol na roddir o dan unrhyw amgylchiadau ystyr- iaeth i'r syniad o roddi yn ol y trefedig- aethau Almaenaidd sydd wedi eu cymeryd, BE, RLIli.-Cyflwynodd yr Almaen i Gerard ei hatebiad i genadwri Wilson. Yn yr atebiad mae'r Almaen yn taflu y cyfrifol- deb ar y Cydbleidwyr am barhad y rhyfel, ceisia gyfiawnhau ei hymddygiad at Bel- gium, a chyhoedda ei bwriad i gario yn mlaen yn anghyfyngedig ei gweithrediadau Ilyngesol. Mae'r nodyn yn ymosod yn ffyrnig- ar Prydain ac yn gobeithio na wna llongau yr Unol Dalaethau fyned i'r cylchoedd gwa- harddedig, y rhai sy'n cynwys dyfroedd Prydeinig, Ffrengig, ac Italaidd, a Mor y Canoldir dwyreiniol, Mae cynllun newydd yr Almaen i ymosod ar y mor yn dechreu heddyw. Mae'r holl longau anmhleidiol yn teithio ar eu cyfrifoldeb a'u hanturiaeth eu hunain. NEW YORK, Dywed yr "Associated Press" o Washington fod nodyn vr Almaen wedi creu cyffro. Yn y cylchoedd swydd- ogol yr argraff gyifredinol yw fod y sefyll- fa yn un hynod ddifrifol. Mae badau-tor- pedos wedi eu gosod wrth y fynedfa i borthiadd New York i atal i longau fyned allan yn y nos. Tybir fod y symudiad hwn wedi ei wneud i rwystro i longau Al- maenaidd ddiangc. ,I Chwefror 2. PARis'-Mewn cyfefriad at y rhyfelawd gyda'r llongau tanforol dywed y "Petit Pa- risen" fod y Kaiser yn cyfeirio y gyllell at yddfau y Cydbleidwyr er mwyn iddynt gyfryngu yngJyn a heddwch dywed hefyd mai dyfais ffoi a pheryglus ydyw. Pan yn cyfeirio at y Teutoniaid yn y 'Petit Journal" dywed Picho :-Arhoswch i weled canlyniad y gigyddiaeth anrhaeth- adwy hon gerir yn mlaen gyda goddefiad a chydsyniad Y1"' Anmhleidwyr, yn arbenig yr Unol Dalaethau yr hon ddylasai fod y gyntaf i lefaru. ROTTERDAM.—Mae'r Niuive Courant, wrth gyfeirio at y rhyfelawdgyda'rHong'au tan- forol, yn dywed fod y tebygolrwydd i Holland gael ei thynu i'r rhyfel yn myned ar gynnydd yn ddyddiol, ac amheua hefyd a all yr Almaen fyned yn llawer cryfach gyda'i llongau tanforol nag- y mae hi yn awr CHRISTIANA.—Mae'r agerlongau perthyn- ol i linell Norwegaidd (Togord) yn oedi morio i Lloegr. LLUNDAIN.—Yr agerlodg" c "Euphrates" oedd y gyntaf i gael ei suddo trwy y rhyfel- awd newydd gyda'r llongau tanforol. Yr oedd hi yn clndo defnyddiau bwyd i gyn- orthwyo Belgium. PARIS. Swyddogol.-I'r dwyrain o Met- zeral mae brwydr ffyrnig gyda'r cadoffer. Gorchfygwyd cylchwihvyr Almaenaidd. Rio JANEIRO.—Ceir sibrydion parhaus fod I y lIongau rhyfel Prydeinig, yn Mor Werydd deheuol, wedi suddo y Hong ryfel (raider) Almaenaidd. NEW YORK.-Mae'r g'warchluoedd a'r j batteris yn mhorthladd New York wedi eu hadgyfnerthu. THE HAGUE. Copenhagen-Mac amryw o gwmniau llongau wedi penderfynu gohirio eu gwasanaeth. LLUNDAIN. Lloyds-adroddir fod naw o longau wedi eu suddo, wyth o ddynion wedi eu lladd, ac un wedi ei glwyfo. BERLIN.—Gyda llawenydd derbyniwyd gan y Wasg y penderfyniad ynglyn a chario yn miaen y rhyfel ar y mor yn ang- hyfyngedig. MADRID.—Mae'r Wasg yn rhoddi gryn sylw i'r gwarchae newydd. Mae gorch- ymyn wedi ei roddi i swyddogion y porth- laddoedd i rwystro i longau fyned allan hyd nes y rhoddir gorchymyn pellach. Mae'r Gweinidog Rhyfel hefyd wedi rhoddi gorchymyn i'r awdurdodau talaethol. Desgrifir y sefyllfa gan Romanones fel un hynod ddyrus. PExsacoLA.-Mae'r scwner William Jones o Alicante wedi cael ymosod ami yn ddi- rybudd, ac wedi ei niweidio yn fawr gan long" tanforol. BErLIN.- Yr unig newydduron boreuol sydd yn datgan anghymeradwyaeth i'r gweithrediadau Ilyngesol anghyfyngedig yw y "Torwaerts a "Taglebat. Chwefror 3. J, NEW YORK, Cysylltiadau llysgenadol irhwng yr Unol Dalaethau a'r Almaen wedi eu tori. NEW YORIC.-Diethpwyd I beridet fyniad i dori y cysylltiadau a'r Almaen mewn cyf- arfod yn mha un yr oedd yr Arlywydd ac aelodau o'r cyfringyngor a'r Senedd. Canlyniad y cyrarfod oedd dangos i'r Ar- lywydd ybvddai i'r wlad gefnogi yn gryf y gwaith o dori y cysylltiad a'r Almaen. BERNE.—O herwydd y sefyllfa ddyrus achosir gan longau tanforol mae'r Llywodr- aeth wedi penderfynu cymeryd mesurau i leihau treuliad defnyddiau bwyd. WASHINGTON.—Mae'r teyrng-enad Al- maenaidd Bemstorff wedi derbyn ei deitheb BARCELONA.—Mae'r lleoedd y mae'r Al- maenwyr wedi eu cadw i mewn, ac hefyd Ardrafnaethau y Galluoedd Canolog, yn cael eu gwylio yn fanwl i rwystro'r posibl- rwydd o ymosodiad mewn canlyniad i nodyn yr Almaen. SANTANDER. — Torpedwyd yr agerlong Ysbaenaidd "Nueva Montana" ar ei ffordd f i Lloegr. Achubwyd y dwylaw. WASHINGTON. Bydd i'r Arbrwyaeth Swissaidd gymeryd gofal buddianau'r Al- maen. LLUNDAIN. Traddododd Mr. Lloyd George araeth rymus yn Garnarfon. WASHINGTON.—Disgwylir i'r cysylltiadau ag Awstriagael eu tori, ond nid yw yn hysbys a ydyw yr Unol Dalaethau wedi derbyn nodyn ffurfiol o Awstria yn cymer- adwyo rhyfelawd yr Almaen gyda'r llongau tanforol. W ASIIINGTON.—Mae gair wedi ei anfon i. deyrngenad yr Unol Dalaethau yn Berlin i gau yr Argenhadaeth, hefyd yr holl Ar- drafnaethau perthynol i'r Unol Dalaethau; gorchymynir i'r holl .swyddogion adael yr Almaen. Mae y symudiadau hyn yn gwneud y rhwyg- yn fwy cyllawn nag ar- ferol mewn amgylchiadau cyffelyb. Mae'r Ysbaen yn cymeryd gofal budd- ianau yr Unol Dalaethau yn yr Almaen. Mae'r Seneddwr Thomas wedi cyflwyno mesur am fenthyg 500 miliwn o ddoleri, er mwyn gosod y wlad mewn cyflwr o am- ddiffyniad milwrol. » Chwefror 5. LLUNDAIN.—Suddwyd gan long tanforol yr agerlong Housatonic" perthynol i Ogledd America. Tybir fod y llong pan suddwyd hi yn agos i Scilly Isles. WASHINGTON.—Mae suddiad yr 11 Hous- atonic" wedi-achosi cyffro mawr. MADR 'Ili.-Mae "Cynghor y Bre-ninlys wedi rhoddi ei holl sylw i'r Nodyn Almaen- aidd, a thrafod y symudiad raid gymeryd a'r canlyniadau. BOSTON. Mae awdurdodau Gogledd America wedi cymeryd meddiant o "Kron- prinzessin Cecilie" (tunelliaeth 19,503) agerlong perthynol i Norddeutscher Lloyd. LLUNDAIN. Cychwyncdd yr agerlong" "Adriatic" o Lerpwl yn nghanol cymerad- wyaeth mawr. PETROGRAD.—Trwy ffrwydriad ar fwrdd rhew-dorwr (ice-breaker) yn Archangel lladdwyd 30 a chlwyfwyd 344 o bersonau. a niweidiwyd 6 o agerlongau. ToKio. Trwy ffrwydriad cylleriau (chemicals) yn Yokohama lladdwyd 100 o bersonau, a dinystriwyd 30 o dai. NEW Y ORK,Mae'r agerlong Quebec oedd yn rhedeg rhwng Ffraingc a W. Indies wedi ei suddo gan fwn (mine). LLUNDAIN.—Achubwyd dwylaw yr "Hous- atonic" gan wiblong Brydeinig, WASHINGTON.—Anfonwyd gan Mr. Pen- field, teyrngenad yr Unol Dalaethau i Awstria, adroddiad maith i'w Lywodraeth yn datgan ei grediniaeth y byddai i Aws- tria gefnogi yr Almaen yn ei chynllun newvdd. WASHINGTON.—Mae llynges Mor Werydd, yn parhau i wylio gyfochr a Guanatomo (Cuba). COPENHAGEN. Cyrhaeddodd y Brenin Swissaidd ar fwrdd gwiblong yn cael ei noddi gan fodau-torpedo. Mae ei ym- weliad yn achosi dyddordeb mawr. PETROGRAD. Swyddogol.—Gwrthgurasom ymosodiadau newydd i'r dwyrain o'r ffordd fawr i Kalnzem. Suddasom 18 o fan longau. hwyliau yn y Black Sea. P AILADELPHIA,- Trwy orchymyn y Llyw- odraeth mae'r gwiblongau Almaenaidd "Kronprinz Wilhelm," "Prinz Eitel Fred- rich" wedi eu cymeryd, a'u dwylaw wedi eu cau i mewn. PANAMA.—Cymerwyd meddiant o bedair o agerlongau (Transatlantic liners) Al- maenaidd yn borthladd Cristobal. NEW YORK.—Mae-y Llywydd wedi gor- chymyn galw yn nghyd y Gwarchlu Cen- edlaethol a'r cartreflu Ilyngesol oil i'r am- can o wylio' r arfdai, pontydd, a gweithfeydd milwrol. PANAMA.—Mae amddiffyniad Panama Canal wedi ei adgyfnerthu. CoRunA. Suddwyd agerlong (tank steamer) Brydeinig 20 milldir o'r cost gan loug tanforol. Dywedir fod yr agerlong" yn aros am yr agerlong" Norwegaidd "Thine" yr hon sydd yn y porthladd yn