Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
NEWYDDION DIWEDDARAF. I
NEWYDDION DIWEDDARAF. Chwefror I. I LLUNDAIN.-Mae'r "Daily Telegraph yn dweyd fod erchylldra diweddaf y Ger- maniaid wedi myned tuhwnt i bob barbar- eiddiwch sydd wedi ei gofnodi mewn han- esiaeth, ac hefyd yn y rhyfel bresenol. NEW YORK.—Ar ol awr o gynnadledd rhwng" Wilson a Lansing, y mae yn wy- byddus fod y sefyllta yn cael ei hystyried yn eithafol bwysig. Fe wna yr Unol Dal- aethau ddechreu ddeffinio ei thueddiad. Y mae cau porthladd New York morfyrbwyll yn cael ei briodoli i'r ofn y gwna 24 llongau mawrion, ac hefyd 3 o rai Aws- triaid wneud cais i ddiengyd.
Advertising
??? ?r?%  Tir«$fotie i —— w  fe AGENTES: Cia. Mercantil Chubut Obra de Don Bosco COLEGIO SANTO DOMINGO, == T R E LEW. ===== En esteColegio, que tall bri lantemente cerro sus cursos de 1916, se empezaran las i-lases el dia <- 15 de Febrero. La inscripcion que a rib eita Itesoe el l.Q de Febrero. Condiciones Haber cumpb 6 anos, presentar la matI Ícllld y el ceit ficado de vacutiaci6ii, teiier (,()ti, iicta, 110 tener enfermedades conta^IOSMS 6 ri-pu^uantes, y pagar cada mes (adelantados) ^3 00 mIn. La continuacio.. de "CLUB DRAMA- TICO y la formac o del H1TALLON 12 DE EXPLORADORE-, DE liON BOSCO" ocupa ahora la atencion del personal docente de este Colegio. Horario de clase: De 9 a 11 y 2 a. in.; y de 2 á 4 p.m. Miss Watts, (Merch y ddiweddar Mrs. Watts.) 1337 Chacabuco 1337 BUENOS AIRES. ———— Hysbysu trigolion Chubut syud Jr. bwriadu talu ymweliad a'r Brifddinas, !ei bod yn cario yn mlaen y busnes fe1 ac yM eariwyd gan ei diweddar fam. Lletty Cysurus am Brisiau Rhesymol.
AVISO.I
AVISO. I RAMAL B. COMPANIA UNIDA DE IRRIGACION La Comision Directiva del Ramal B., han dispuasto establecer, que el maximo que pue- de regar una accioti en el presente ano sera uno hectarea y media. Debiendo todos los regantes dar aviso al Inspector Senor Enirys Austin el numero de hectareas que piensan regar. LA COMISION. I Trelew, 7 de Octubre, 1916.
Y RHYFEL.
LLUNDAIN.-Mae gohebydd y "Morning; Post" yn desgrifio mewn termau byw y gwaith wneir gan y morwyr Prydeinig sydd yn difa y mwnau yn yr Adriatic, ac er nad oeddynt yn gydnabyddus a'r mor hwn, yr oedd y profiad helaeth gawsant yn y North Sea yn eu galluogi i gario y gwaith yn mlaen gyda rhwyddineb, a thrwy hyn yr oeddynt yn gwneud gwasanaeth anmhris- iadwy i Italy a'n Cydbleidwyr eraill. PARIS. Swyddogol.-Yn ystod y nos bu amryw fan frwydrau rhwng cylchwilwyr yn benaf o amgylch Champagne ac Epar- ges ac ar amryw leoedd ar ffrynt Alsatia. Gwrthgurwyd yn rhwydd ymgais wnaed i ymosod ar ein ffosgloddiau yn Hastmans Weilerkopf. PETROGRAD. Swyddogol.- Y n ranbarth Riga gwneir ychydig ymosodiad ar ein ffosgloddiau. Nos Wener i'r dde o Brezani cymerasom, gyda'r bidogau, linell gyntaf ffosgloddiau y gelyn gan achosi colledion trymion iddo. Ar ol dinystrio chwe rhes o fwnau y gelyn aethom yn ol i'n safleoedd. I'rde-ddwyrain o Kimpolung (Roumania) cymerasom 30 o swyddogion a 1000 o filwyr. LLUNDAIN -Mae General Long, mab y Gwir Anrhydeddus W H. Long, wedi marw. PETROGRAD.—Dywedodd Sazonoff, mewn ymddiddan ar genadwri Wilson, fod hedd- weh heb fuddugoliaeth yn anmhosibl. PETROGRAD.—Mae wedi cyrhaedd i Pe- trograd, i gymeryd rhan yn y gynnadledd, amryw gynrychiolwyr y galluoedd Cyd- bleidiol, yn cynwys Arglwyddi Milner a Revelstoke. LLUNDAIN.-Mewn araeth yn Harwich gwrthodai Henderson y syniad y b} ddai i'r rhyfel derfynu heb i'r naill ochr na'r llall gael buddugoliaeth. Ni fu y rhai sydd fwyaf abl 1 farnu erioed yn fwy hyderus y bydd i ni gael buddugoliaeth derfynol. LLUNDAIN. Swyddogol.- Torrasom drw- odd, a chwalasom linell gyntaf ac ail am- ddiffynfeydd y Tyrciaid i'r gogledd orlle- win o Kutelamara ar hyd ffrynt o 4300 llath, hefyd y drydedd a'r bedwaredd llinell ar ffrynt o 600 llath, a chawsom 950 o'r Tyrciaid wedi marw. LLUNDAIN.Mae Arglwydd Cromer cyn Brwyad y Goron i'r Aipht wedi marw. LLUNDAIN. Swyddogol. Gwnaethom ymgyrch i'r de-ddwyrain o Lens, ac achos- asom golledion trymion i'r gelyn. I'r gogledd ddwyiain o Armentiers aethom i mewn i dry,'edd Ilinell y gelyn gan ddin- ystrio cuddfeydd, a Hadd llawer o'r Al- maenwyr. ATHENS.—Heddyw cariwyd allan y sere- moni o gyfarch baneri y Cydbleidwyr gan gadluoedd Groegaidd. Rio JANEIRO. Recife-dywed teithwyr ar fwrdd Amazon fod eu Ilong, yn agos i Vigo, wedi cael ymosod arni gan long tan- forol. Ymosododd yr Amazon arni gydag er- gydion o'r cannon, ond nid yw yn hysbys beth fu y canlyniad i'r llong" tanforol. PARIS.-r—Cyfrifir fod y tir sydd dan am- aethiad y flwyddyn hon yn Ffraingc fel y canlyn: Gwenith 4,276,990 hectareas, ac yn 5,034,510 y flwyddyn ddiweddaf. Haidd 827,840 hectareas, ac yn 920,975 y flwyddyn ddiweddaf. Ceirch 650,590 hectareas, ac yn 684,980 y flwyddyn ddiweddaf. LLUNDAIN.-Mae'r "Times" yn gwrth- ddyweud yr adroddiad fod y Llywodraeth am roddi gynau ar ben blaen ac ol yr holl agerlongau. LLUNDAIN. Lloyd's-Mae'r agerlongau Norwegaidd Argo", "Fulton", a "Hael- bjoerg" wedi eu suddo. MADRID.;—Mae'r "Aliadophile Album" eisioes yn cynwys 80,000 o enwau. PETROGRAD.—<Y fory bydd y; Czar yn derbyn y prwyadon i gynnadledd y Cyd- bleidwyr. Cynhelir hi dydd Iau o dan lywyddjaeth Pokrovsky. P ETROGRAD., Swycldogol.-I'r gogledd ddwyrain o Jacobeni darfu i'n gwahanlu- oedd gymeryd 32 o swyddogion, a 1126 o filwyr yn garcharorion ac hefyd 12 o ynau peirianol a 4 o 'trench mortars.' LISBON.-Mae'r agerlong Formedodou- ro" perthynol i Portugal wedi ei suddo. RHUFAIN. Anfonwyd gwifreb gan y Pab i Frenin Ysbaen yn ei longyfarch ar ei ddiangfa yn ddiweddar. lonawr 31. LLUNDAIN. Dywed y Morlys fod y "Laurentic" wedi ei suddo gan fwn (mine) ac nid gan torpedo LLUNDAIN. Swyddogol. Somme-Gwn- aethom amryw o ymgyrchion hynod lwydd- ianus. I'r dwyrain o Souchez aethom i mewn i linellau y gelyn gan achosi difrod mawr. Dinystriasom 3 o awyrlodgau y gelyn, a dygasom i lawr 3 eraill. RIO JANEIRO.—Mae'r Gweinidog- Llyng- esol wedi cadarnhau y dywediad, wrth ohebydd, fod llon^ au tanforol Almaenaidd yn croesi yr Atlantic, ond dywed nad oes iddynt ystorfa yn unman ar cost Brazil. PARIS. Swyddogol.-Ar y 25ain torpe- dwyd gan long tanforol y trosglwyddlong Amiral Mazon yr hon oedd yn cludo 950 o filwyr i Salonica, ac yn cael ei noddi gan y destroyer 11 Aro." Achubwyd 800 o'r dynion. LLUNDAIN.-Dywed y Wasg fod brad- fwriad wedi ei ddarganfod i wenwyno Mr. Lloyd George a Mr. Henderson. Mae'r heddgeidwaid wedi cymeryd un dyn a thair o ferched i'r ddalfa. LLUNDAIN.- Mae'r agerlong Daenaidd "Daisy" wedi ei suddo gan torpedo. PETROGRAD.— Yn agos i'r brif ffordd o Kalzem i Choik bu raid i'r Rwssiaid encilio dwy ran o dair o filldir. Ar ol ymosodiad cymerasom feddiant o'r caerau i'r dwyrain o Jacobine i'r de- dwyrain o Kimpolung, ar ffin gogled'dol Roumania. PARIS. Swyddogol.-Yn Lorena i'r dde o Leintray, aeth y Ffrancod i mewn i linell gyntaf ac ail ffosgloddiau yr Almaenwyr, gyrwyd y rhai oedd yn eu hamddiffyn ar ffo. COPENHAGEN.—Mae'r cyflenwad o lo bron wedi darfod trwy yr oil o Schleswig Holstein. Mae yn debygol y bydd goleuo y gwa- hanol ddinasoedd yn cael ei wahardd yn hollol yn mis Chwefror.