Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Y GWIR YN ERBYN Y BYD." GWELL DYSG NA GOLUD." GWELL AWEN NA DYSG."
RHESTR O'R TESTYIMAU- I
RHESTR O'R TESTYIMAU- r RHYDOIAETH. I i. Traethawd, "Cyfiawnder a ddyrchafa Genedl." Gwobr, ;5°.00. 2. Traethawd Hanesyddol, Eisteddfodau'r Wladfa." Gwobr, 4340.00. 3. Traethawd, "Diwydianau priodol i'r Wiadfa." Gwobr, $30.00. 4. "Rhan y Fam ym mhenderfyniad tvnged Dyu." (Cyfyngedig i ferched.) Gwobr, $25.00. 5. Traethawd, Arwyr Annibyniaeth Ar- iaii i ii. (Cyl?' ianin." (Cyfyngedig i rll dan 20 oed,) Gwobr, $20.00.
.BARDDONIAETH.j
BARDDONIAETH. 6. Pryddest, heb fod dan ddau can llinell, Yr Andes." Gwobr. Cadair Dderw. 7. Myfvrdraeth, "Ac ni ddysgant ryfel mwy- ach." Gwobr, $30.00. 8. Toddeidiau y Diweddar Barchedigion Lewis Humphreys, D. Lloyd Jones. R. Jones (Bryn Gwyn), a J. C. Evans. Gwobr, $20.00. 9. Pennillion, "Rhywle yn Ffrainc." Gwo- br, $1 5.00. 10. Englyn, Yr Ysbiwr." $5.00. 11. Can Desgrifiadol, Bywyd y Paith." Gwo- br, $10.00. 12. Emyn Genedlaethol Gwladfaol (3 pennill). Gwobr, $10.00. 13. Chwe' Pennill i rai dan 20 oed, "Glan y Mor." Gwobr, $5.00.
ilOERDDORIAETH.I
il OERDDORIAETH. 14. Prif Gystadleuaeth Gorawl, "Yr Awel Fwyn," (WEBB). Gwobr, $100.00. 15. Ail Gystadleuaeth Corau Cymysg, "Cwsg, fy Maban," (W. M. ROBERTS). Gwobr, $50.00. 16. Gystadleuaeth Corau Meibion, (a) Dewr- ion Sparta," (DR. PROTHERO), (b) Gwen Fach," (E. T.» DAVIES). Gwobr, $80.00. 17. Gystadleuaeth Corau Merched, Alawon y Bryniau," (E. T. DAVIES). Gwobr, 140.00. I S. Gystadleuaeth i gor o un gynnulleidfa, "0 agor fy Ilygaid." (D. C. WILLIAMS.) Gwobr, $30.00. 19.. Cystadleuaeth Corau Plant, "Salmau Plant," ( ). Gwobr, $20.00 20. Pedwarawd, Draw ymhell, (ISALAW). Gwobr, $12.00. 21. Triawd, "Deffro etto, Eneth Fwyn," (G, GWENT). Gwobr, $10.00. 22. Darllen darn o gerddoriaeth ar y pryd i bedwar. Gwobr,$4.00. 23. Dwyawd, Arwyr Cymru Fu," (R. S. HUGHES). Gwobr, $8.00. 24. Unawd Tenor, "Baner ein Gwlad," (DR. PARRY). Gwobr,$6.00. 25. Unawd Soprano, "Per] fy Nwyfron." Gwobr, $6.00. 26. Unawd Contralto, Pwy sy'n mynd i'w fagu ef?" (W. DAVIES). Gwobr, $6.00. 27. Unawd Baritone, Y Ddwy Delyn, (D. PUGH EVANS). Gwobr, $6.00. 28. Unawd Bass, Etto. Gwobr, $6.00. 29. Unawd i ferched dan 20 oed, Can Mélm," (T. O. HUGHES). Gwobr, $4.00. 30. Unawd i fechgyn dau 20 oed, "Glyndwr," (W. DAVIES). Gwobr,$4.00. 31. Cyfansoddi ton addas i blant, pedwar llais. Gwobr, $15.00. 32. Dadansoddi y don "Pendyffryii," (D. JENKINS). "8.00. 33. Canu y Piano, darn ar yr olwg gyntaf. Gwobr, $5.00. 34. Canu y Piano, i rai dan 18 oed, Ymdaith y Mwnc, (GEMS OF WELSH MELODY). Gwobr, $5.00. 35. Canu ar y Crwth. Gwobr, $5.00. 36. Caiiugyda'r Taiiau, Alawoti,"PenRhaw," Serch Hudol," a Codiad yr Ehedydd."
ADRODDIADAU.]
ADRODDIADAU. 37. Adrodd, i feibion, Brwydr Olaf Llew- elyn. Gwobr, $6.00. 38. Adrodd, i ferched, Y Baban ar fin y dibyn." Gwobr, $6.00. 39. Adrodd, i blant, "Paentio'r Byd yn Goch." Gwobr, $4.00.
CYFIEITHIADAU.
CYFIEITHIADAU. 40. Cyfieithiad Mydryddol o Psalm of Life i'r Gymraeg, (LONGFELLOW). Gwobr, $8.00. 41. Cyfieithiad i'r Saesneg, "Ffydd y Cymry," (TOM ELLIS). Gwobr, $8.00. 43. Cyfieithiad i'r Spaenaeg, Etto. Gwobr, $8.00. 44. Cyfieithiad o'r Spaenaeg i'r Gymraeg, (darn heb ei ddewis). Gwobr, $8.00. 45. Cyfieithiad, cyfyngedig i ferched, dernyn o "Sesame and Lillies, i'r Gymraeg, (RUSKIN). Gwobr, $8.00.
AMRYWION.
AMRYWION. 46. Ysgrif ar Anifeiliaid Brodorol y Diriog- aeth. Gwobr,$15.00. 47. Darlun mewn Olew o unrhyw olygfa yn y Wladfa. Gwobr, $20. 48. Darlun Pwyntil, cyfyngedig i rai dan 16 oed tri gwrthrych cyffredin i'w dynnu foreu'r Eisteddfod. Gwobr, $5.00. 49. Map o Diriogaeth y Camwy, cyfyngedig i rai dan 14 oed. Gwobr, $10.00. 50. Cadw-mi-gei o unrhyw bren Gwlad- faol, gyda chauad a chio. Gwobr, $5.00. 51. Paentio ar Wy Estrys, Arf-bais Cymru ac Escude Argentina. Gwobr, $5.00. 52. Llawysgrifio i Blant dan 15 oed, Y Deg Gorchymyn." Gwobr, $3.00. 53. Llunio pen Dvn o Plaster of Paris. Gwo- br, $5.00. 5^4. Plethu Basged ddel o wellt neu wiail Gwladfaol. Gwobr, $3.00. 55. Cushion Cadair Freichiau. Gwobr, $5.00. 56. Table Centre. Gwobr, $5.00. 57. Cadach Poced o waith lIaw, (cyfyngedig i ferched o dan i2ed oed. $2.00. 58. Gwau Par o Hosanau i ddyn. Gwobr, $3.00. 69. Casglad o Greiriau Indiaidd.$20.00. —o— Cyhoeddir y darnau sydd i'w hadrodd, ynghyd a'r rhai sydd i'w cyfieithu, ac enwau y Beirniaid, eto.
Yma a Thravv I
Yma a Thravv I Dechreu'r wythnos daeth y Br, a'r Fones Evan J. Roberts, ac hefyd y Br. Tom Morgan, ynghyd a Boneddwr o Buenos Aires, yn 01 o'r Andes. Wythnos fuont oddicartref er iddynt dreulio rhai dyddiau yn yr Andes. Dau ddiwrnod gymerasant i ddyfod o'r Andes i Ddyffryn y Camwy. Mewn modur arall, ac yn cyd-deithio a hwynt i'r Andes, yr oedd y Br. Arthur Robert a'r Br. William Roberts ynghyd a boneddwr arall. Cawsant oll amser hyfryd a thaith Iwyddianus. Ddechreu'r wythnos aeth y Br. John Owen, (Stancia) a'r Br. Elias Owen-mab y Br. Owen Owen, Coetmor, i fyny i'r Andes. Deallwn fod y Br. Elias Owen yn bwriadu aros i fyny am rhyw bythefnos a dychwelyd yn ol yr un adeg" a'i chwaer yr hon sydd i fyny er's wythnosau, ac yn cael adferiad i'w hiechyd. Clywsom ei bod yn edrych yn dda. Yn yr un modur aeth y Boneddigesau Rachel Davies ac Emily Davies, Aberyst- wyth, i fyny i'r Andes am dro. -0- Canol yr wythnos ddiweddaf cychwyn- odd y Bi-. Moses Jones, Triongl, i fyny i'r Andes, ar ol treulio rhai wythnosau gartref g-yda'i rieni. Da genym glywed fod y Br. Joseph Jones, Triongi, yn gwella ar ol ym- osodiad o'r bronchitis, caffed lwyr wellhad i'w iechyd yn fuan. Nadolig diweddaf yr oedd eu tad-y Br. Evan Jones, Triongl, yn 72 mlwydd oed, ac y mae yn heini ei gorph, ac yn fywiog ei feddwl. Caffed ef a'i briod lawer blwyddyn o iechyd a mwyniant. -0-- Bwriada y Fones J. Thomas Jones, Drofa Dulog, fyned gyda'r Hong nesaf i Buenos Aires 1 ymgynghori a meddyg yn yr Ys- bytty Brydeinig. Da yw deall nad yw ei hafiechyd yn beryglus, a hyderwn y caiff wellhad llwyr a buan. -0-- Mae y Fones W. E. Williams, Erw Fair, yn gwella ar ol bod yn lied wanllyd ei hiechyd. Diau ei bod hi a'r teulu yn dioddef yn fynych oddiwrth hiraeth dwfn a dwys am yr hen frawd llengar a duwiol W. E. Williams. Caffed hi a'r teulu lawer iawn o ddiddanwch yr Efengyl, a nawdd y Nef fyddo drostynt. —o— Mae y Fones Evan Williams, Treorci, yn parhau i wella-y mae Dr. Jubb wedi llwyddo yn rhyfeddol i'w chodi o wendid a gwaeledd mawr. Hyderwn y caiff hithau fwynhau iechyd da. o- Y dydd o'r blaen bucm yn siarad gyda'r hen frawd Josiah Williams, Trelew, y mae ef wedi gwella yn dda ac yn edrych yn gryf, ac efe yn wr 85 mlwydd oed rhyw- bryd y mis hwn. 0 ran pob golwg gall ef fyw am lawer blwyddyn eto. Bydded iddo gaei treulio gweddiil ei ddyddiau o dan lewyrchiadau Haul y Cyfiawnder. -0,- Dros wythnos yn ol cafodd y Fones Robert J- Roberts, Maes Prun, ddamwain i'w throed, a thorodd asgwn bychan ynddo. Dywed Dr. Jubb y bydd iddo wella gyda gofal. Caffaeliad mawr i'r wlad yw dyfodiad Dr. Jubb yma. Bydded i'r Fones R. J. Roberts gael gwella yn fuan. -0- Boddodd bachgen i Ysbaenwr yn afon y Camwy, yn rhywie yn ardal Moriah. Mae hen afon y Camwy wedi dwyn galar a hiraeth i lawer teulu cyn hyn. Gwylied pawb rhag mentro gormod iddi. --0- (Parhad, tudalen 4.)