Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Betsi Cadwaladr,

News
Cite
Share

Betsi Cadwaladr, PENNOD XIX. Pan gyrhaeddodd Dr. Carey a Betsi ypalas esgobol erbyn cinio, gwelent fod yno ddau neu dri o wahoddedigion urddasol eraill, bon- eddigion Indiaidd o safle uchel a chyfeillion mynwesol vr Esgob. Dywed Betsi mai yr Esgob oedd y dyn mwyaf duwiolfrydig ei yspryd a welsai hi erioed, ond am y wraig yroll a ddywed ydyw u Mrs. Heber had not the look of a godly woman." Gwedi ciniawa, arweiniodd yr Esgob hvvynt i'w fyfyrgell ac yno y treuliasant yr oriau hyd amser te yn difyr son am Gymru, ei golygfeydd swynol a'i phregethwyr tan- 11yd a hwyadl." Siaradai yr Esgob am Ddolgellau, Llyn Tegid a'r Bala ac adroddai am y pregethwr seisnig envvog Rowland Hill yn adrodd iddo unwaith mai yr etiw tlysaf yn holl ieithoedd y byd am Holy Spirit" ydoedd Yspryd Glan," yn gymraeg. Yr oedd yr Esgob yr adeg hono yn astudio y Galdaeg a'r Syriaeg, a dywedai wrth Betsi fod cryn lawer o debygrwydd rhwng yr ieith- oedd hyny a'r gymraeg. Gofvnodd i Betsi a vdoedd hi yn adnabod y Parchedig Thomas Charles o'r Bala ? pryd yr atebodd hithau ef ei fod yn arfer a myn- ych alw yn ei chartref yn Mhcn Rhyw wedvn holai pa un a ydoedd hi erioed wedi gweled yr Offeiriad duwiol a galluog Mr. Griffith o Nevern ? ac ateb Betsi i'r gofyniad hwnw ydoedd dweyd ei bod hi yn gyfnithcr i'r efengylydd dawnus liwuw. Yn ddilynol adroddodd i'r cwmni ran o farwnad Dafydd Cadyvaladr i'r Parch Thomas Charles, y Bala. "'N'awr r'wy'n colli'm golwg arnat, D'wy'n nabod dim o honynt fry Nid wyt swm yr un o'r tywod, Nid wyt bwysau'r un o'r plu Nid tebyg wyt i un creadur, A welwyd mewn daearol fyd, D'oes arnat liw, na dull, na mesur, Er hyny sylwedd wyt i gyd. Wyt ti'n gweled peth yr awrhon, 0 ddwfn ddirgelion TIll YN UN ? Pa fath olvvg sy'n y nefoedd, Ar a gym'rodd natur dyn A vdvw rhyfeddodau'r Duwdod, Yn dod i'th olwg heb ddim rhi, Neu ynte wyt yn gwel'd efengyl, Yn llenwi conglau'n daear ni ? Dywed Betsi fod yr adroddiad o'r ddau benill cymraeg gan yr Esgob wedi cynhyrchu teimlad rhyfedd ynddi, clywed sais dysgedig yn L.dia yn adrodd teimladau ei thad am un oedd mor anvvyl ganddi a barodd iddi dori i wylo tel plentyn, a phan ddeallodd yr Esgob fod ei ymwelyddes yn fercli i Dafydd Cad- waladr, y pregethwr y buasai ef yn gwrando arno yn pregethu fwy nac unwaith, daetli y dagrau i'w lygaid yntau hefyd. Tra bu'r llong yn aros yn Calcutta, aeth Betsi gyda'r Dr. Carey a'i fab a'r Esgob yn nghyd ac amryw o genhadon ac offeiriaid eraill i weled gorymdaith fawr y"J uggcrnaut" ■" yr oedd yno ddegau o filoedd o bobl yn cymeryd rhan yn y ddefod baganaidd hon-o flaen y cerbyd gariai y prif eilun, cerddai tri chant o offeiriaid brodorol a phob un yn cario eilunod, o aur, arian, pres, pren a maen, ac ar ol y cerbyd haner cant eraill o'r offeiriaid pagauaidd yn cario dehvau. Tynid y cerbyd gan bedwar neu bum cant o ddynion yn canu a gwaeddi megis gwallgofiaid ac yr oedd y miloedd gorymdeithwyr mewu ymdrech bar- hans am allu mynd yn ddigon agos at y cerbyd i fvww eu hunain o dan yr olwynion i gael anrhydedd diddarfod o fod wedi abcrthu eu hunain i'r Juggernaut ofnadwy." Pan gyrhaeddodd y cerbyd a'r miloedd nddolwyr i gwr y ddinas, codwyd banlawr i'r offeiriad fyned drwy y gwasanaeth-csgynai dau ddwsin ohonynt i'r banlawr i weddio, a phob un yn cario cyllell fawr yn ei law, ar -01 blino gweddio a chwyrndroi y cyllill o .amgyIch eu penau, neidient oddiar y banlawr i domen o luclw oedd wedi ei chario yno yn barod, yn yr hwn yr ymrolient nes y glynai hwnw yn gramen am eu cyrff chwyslyd Wedyn elai offeiriaid craill i'r banlawr i "weddio megis y rhai blacnaf oeddynt yn awr yn y 11 well—a'r degau o filoedd edrychwyr yn gorfoleddu wrth edrych arnynt. (l'w barhau.) W. ii. I-i. I

Advertising

I Ar Werth. I

I MUNICIPALIDAD OE TRELEW.…

Advertising