Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

I Cymdeithas Pobl leuainc…

News
Cite
Share

Cymdeithas Pobl leuainc 1 Bryn C-rwo. I ANRHEGU Y PARCH. D. D. WALTERS. Nos Fercher y 13fed cyfisol, cynaliodd y gyindeithas uchod ei chyfarfod olaf am y tymor. Hwyrfrydig a fuont i roddi terfyn arnynt, adim ond prysurdeb a'u gorfododd i'w rhoddi heibio. Cynhaliwyd y cyfarfodydd bob yn ail wyth- 11 us, o dan arwleiniad Mr. Walters. Nid oedd- ynt wedi eu cyfyngu i unrhyw faes arbenig, ond cafodd yr holl aethau hynny oedd yn anghenrheidiol er datblygiad moesol a chref- yddot y bobl ieuainc sylw arbenig yn eu tro, a chrediryn ddios na ddarfu iddynt fethu yn eu hymgais. • Cyfarfod amrywiaethol a gafwyd y noson olaf, ac eangwyd ei therfynau trwy roddi gwahoddiad i bawb ddod yno. Aed trwy y rhanau defosiynol gan y brawd ieuanc John Idwal Roberts. Yr oedd yr awenau yn llaw y chwaer ieuanc Miss Gwen Morgan, Ty Newydd, a chyflawnodd ei gwaith yn dda odiaeth, a theilynga ganmoliaeth am ei phar- odrwydd a'i medrusrwydd. Aed trwy y rhaglen ganlynol:—Adroddiad, Dedwydd amseroedd," W. D. Rogers. Yna gaHvyd y Br. Henry Jones i gyflwyno anrheg i'%v harweinydd hoff am ei wasanaeth iddynt yn ystod y tymhor. Wrth gyflwyno yr ar- rheg, sef amlen yn cynwys dros haner cii-t o ddoleri, dywedodd y Br. Henry Jones na fu erioed yn cyflawni gwaith mwy dy- munol na throsglwyddo yr anrheg hon, dros gyfarfod y bobl ieuainc, i Mr. Walters. Yr oedd ei ffyddlondeb yn wir deilwng o gyd- uabyddiaeth, a drwg oedd gauddynt na fuas- ent yn aHuog i roddi iddo gydnabyddiaeth teilwng o'i lafur. Credai ei fod wedi bod yn Ilwyddianus yn ei waith gyda'r bobl ieuainc, ac y byddai ffrwyth y cyfarfodydd a gawsant yn dylanwadu er daioni ar eu bywyd. Wrth dderbyn yr anrheg dywedodd Mr. Walters, nad oedd wedi dychmygu am y fath beth rhyfeddai eu bod wedi llwyddo i gadw y weithred mor ddirgelaidd. Hoffai yn fawr pe gallai wneud mwy. Da oedd ganddo ddwyii tystiolaeth ei fod wedi cael ufudd-dod Ilwyr, ac nid oeddynt wedi cnel un cyfarfod gwael. Yr oedd bod yn arweinydd pobl ieu- ainc yn waith ag oedd yn gofyn am y medd- ylgarwch a'r parOtoad mwyaf, Yr oedd wedi ymdrechu trwy ei fywyd a'i gymeriad i allu dweyd wrth y bobl icuainc: Dewch, ac nid ewch. Byddai eu caredigrwydd yn gadael dylanwad daionus arno, ac yn anogaeth iddo i fwy o weithgarweh. Adroddiad, u Y gair Gorphenwyd," Mary J. Morgan Chwareuad ar yr organ, gan Miss Hayes; Anerchiad gan y Br. J. Foulkes. Da oedd ganddo fod yno er gweled y bobl ieuainc yn rhoddi parch i'r hwn oedd parch yn ddy- ledus, a faint by nag oedd eu cariad at eu gilydd, credai y byddai yr anrheg hon yn eu mwyhau. Y cyfarfodydd hyn a'u cyffelyb oedd ftynonell arweinwyr cymdeitbasol a chrefyddol, a da iawn oedd ganddo ddwyn tystiolaeth fod llafur y cyfarfodydd hyn yn cael ei amlygu yn ngwaith y bobl ieuainc yn cymeryd rhan gyhoeddus gyda gwaith yr Eglwys a'r Ysgoi Sul. Deuawd, Y mae'th eisieu, anwyl lesu," gan Myfanwy a Gwen Morgan Adroddiad, "Y Ddintls Sanctaidd," gan Laura Roberts; Annerchiad gan y Br. Thomas Morgan (Clyd- fan) Teimlai fod yn rhaid iddo fod yn bre- senol, er dangos ei gefnogaeth i ymdrechion yr arweinydd a'r bobl ieuainc,a llawen iawn oedd ganddo weled y fath gyfeillgarwch rhyngddynt. Anogai hwynt i fagu pender- fyniad i beidio rhoddi ffordd i bob axvel, ond i benderfynu er pobpeth i sefyll yn gadarn dros y pur a'r dyrchafol Prif amcan yr holl ymdrechion ydyw ffurfio cymeriad, eangu eu gwybodaeth, a mwyhau eu defnyddioldeb: Credai fod y cyfarfodydd hyn yn foddion i osod y bobl icuaine ary Ilwybr. iawti, ac hoff- ai eu hannog i barhau yn ffyddlon gyda'r gwaith. Yna rhoddwyd adolygiad ar waith y tym- or gan Mr. Walters. Da oedd ganddo ddwyn tystiolaeth i lwyddiant y gwaith, ac i dyfiant meddyliol yr aelodau. Yroedd pob gwaith gonest yn sicr o Iwyddo, ac yn rhwym o ddod i'r ainlvvg. Diolchai am eu caredigrwydd, a theimlai yn fwy awyddus nac erioed i wneud yr hyn a allai, er mwyny bobl ieuainc, ac er gogoniant y meistr mawr. Wedi caiiu emyn, terfynwyd un o'r cyfar- fodydd hynotaf a mwyaf dymunol yn hanes y gymdeithas, trwy weddi, gan y Parch. D. D. Walters.—Z.

Advertising

Y Gymanfa Ddirwestol.

Municipalidad de Gaiman.

,I Y RHYFEL. I