Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

,I Y RHYFEL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y RHYFEL. I Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) I Tachwedd 24. NEW YORK.-Mae Rooselvet wedi der- byn llywyddiaeth cyngrair y cenhedloedd anmhleidiol- yr hon ffurfiwyd yn fuan ar ol i'r Almaenwyr ruthro i mewn i Belgium: ei,hamcan yw dylanwadu ar farn y cyhoedd yn ffafr iawnderau cenhedloedd bychain yn erbyn gormes milwrol. CADIZ.—Mae'r'' agerlong Brydeinig Ala- meda wedi myned ar y traeth, collwyd yr oil ond y dwylaw. LLUNDAIN. Swyddogol.—Disgynwyd gan amryw awyrlongau llyngesol Prydeinig nifer o ffrwydbeleni ar fadau torpedo yn Zeebrug-geac hefyd ar hangars; tarawyd bad torpedo ac un hangar. Dychweiodd ein peirianau yn ddiogel. RHUFAIN. Swyddog-ol.—r ffrynt Tren- tino yn nyffryn Astico gwrthgurasom am- ryw ymosodiadau bychain. Yn nghymyd- ogaeth Gulia mae'r gelyta yn fwy bywiog. Yn Goritzia a Monfalcone parha'r tywydd drwg. CoRunA.—Mae'r wasg yn galw ar rai cymwynasgar i gynorthwyo pysgotwyr Ga- llego pa rai sydd mewn cyflwr truenus oherwydd yr ystorm ddiweddar-collwyd 76 o longau pysgota. PARIS.-Ceir brwydrau dyspeidiol gyda'r cadoffer yn ranbarthau Vaux a Douamont. LLVNDAIN.—Mae Syr Heram Maxim, y dyfeisydd enwog wedi marw. -PARIS. -Cyflwynod d y Gweinidog Rhyfel, I General Roques, i'r senedd ei fwriad i alw y personau eithriwyd o wasanaeth milwrol cyn Ebrill iaf diweddaf i gael myned o' dan arbrawf meddygol eto. MELDOURNE.-Gwaherddir gwerthu prwyn a gwlan heb ganiatad arbenig gan Hughes -y Prif Weinidog. GOTHENBURG.-Mae agerlong Swedaidd "Arthur," a scwner Delphin wedi eu suddo gan long tanforol, achubwyd y dwylaw. Tachwedd 25. LLUNDAIN. Swyddogol.-Neithiwr gwn- aethom ymgyrch ar ffosgloddiau i'r de ddwyrain o Graney yn ranbarth Festubert a choedwig Grenier. Cafodd y llong- ysbytaidd "Braernar Castle" tunelliaeth 6280), o Salonica i Malta gyda chlwyfedigion, ei dinystrio gap mwn neu torpedo yn Mykoni Canal (Aegianf Sea), achubwyd y teithwyr a'r dwylaw. PARIS. Swyddogol. Somme.—Mae tan- beleniad trwm yn ranbarthau Sailly Sai- Hisel ac Ablaincourt. Trwy ymosodiad sydyn ar ffosgloddiau y gelyn yn Hissen- furst (Alsacia) cymcrasom amryw garchar- orion. BUCAREST. Swyddogol. -Aden aswy Dobindja—yr ydym wedi meddianu Tasaul a Tartarpalas. MADRID.—Mae Llys wedi gorchymyn 6 wythnos o alar. CADIZ.—Mae rhai achubwyd oddiar yr agerlong Americanaidd Columbian wedi cyrhaedd. EL HAVRE. Swyddogol.-Yn ranbarth Radscapelle mae brwydrau gyda'r cadoffer yn myned yn mlaen ac hefyd 1 gyfeiriad Hetzes. PETROGRAD.—Darfu i ffrwydriad mewnol < achosi dinystr y dreadnought "Imperatriza Maria." BERLIN.—Mae mesur wedieigyflwyno i'r Reith-stag i alw ar yr holl ddynion rhwng 17 a 60 oed i wasanaeth milwrol. SALONICA.-Ar holl ffrynt Serbia mae brwydro caled. Mae'r S,e-rbiaid yii myned rhagddynt i'r gogledd gan wrthguro gwrth- ymosodiadau, a meddianu yn awr 1200 Kilometres o diriogaeth Serbiaidd. Tachwedd 26. LLUND.AIN.-Dywed y wasg yn Athens fod y cadluoedd brenhinol yn gwrthod gadael Katerina, mae Sarrail yn annog y Llyw- odraeth i'w gyrru allan trwy orfodaeth os nad ymadawent yn ddioed. BERLIN.—Mae yr Archdduc Joseph yn cymeryd lie yr ymherawdvvr i arwain ar y ffrynt dwyreiniol. BUCAREST. Swyddogol.—■ Ceisiodd y Teutoniaid groesilr Danube yn Zementza oddeutu 70 milldir i'r de-ddwyrain o Bu- carest. Cymerodd y Rournaniaid yr ochr ym- osodol yn Dobindja a symudasant yn mlaen ar yr holl ffrynt gan gymeryd meddiant o amryw ddinasoedd oddeutu 15 milldir i'r gogledd o'r rheilffordd o Tchernavoda i Conztanza. PETROGRAD. Swyddogol.-Aethom rhag- om yn Dobindja a chyrhaeddasom Lyn Tashaul a chroesasom afon Kartal. LLUNDAIN.—Mae'r agerlong Brydeinig Ernaston wedi ei suddo. ATHENS. Reuter.—Torpedwyd y llong ysbytaidd Braemar Castle. MELBOURNE.—Rhoddir £ 30 miliwn oCr neilldu i'r Llywodraeth brynugwlan. I Mae'n debyg yr ychwanegir y swm hwn i 40 miliwn. SAN LUCAR.-M ae'r agerlong Norwegaidd angorir yma wedi cludo 30 o bersonau achubwyd oddiar agerlong Brydeinig dor- pedwyd yn Bay o Biscay. SAN SEBASTIAN.—Mae yr agerlong Nor- wegaidd Asturias wedi glanio dwylaw agerlong Norwegaidd suddwyd yn Mor y Gogledd. MADRID.—Mae streic y Myfyrwyr yn cymeryd lie yn y talaethau. STOCK EIOL-INI. Aiifonw yd I nodyn gan y Llywodraeth Swedaidd i'r Almaen i ofyn i ba amcan y suddwyd yr agerlong Arthur, a hawlio awdurdod i ofyn am atdaliad. Mae'r wasg, gan gynwys newydduron pleidiol i'r Almaen, yn gwrthdystio yn gryf yn erbyn y weithred o suddo yr agerlong "Arthur." AMSTERDAM.—Gyrrwyd zeppelin aewydd gan y gwynt i ddisgyn yn agos i Mainz, mae 28 oCr dwylaw wedi eu hachub. ATHENS.—Mae'r Llywodraeth ddarbodol (Venizelcs) wedi cyhoeddi rhyfel yn ffur- fiol yn erbyn Bwlgaria. LLUNDAIN.-Mae'r agerlong Norwegaidd Dansted wedi ei suddo. BUCAREST. Swyddogol.—Attaliasom yr Almaenwyr i fyned yn mlaen ar ol croesi y Danube yn Islacz yn agos i gydlif yr Alt. ATHENS.—Ar y 24ain penderfynodd y byddinwyr wrthwynebu rhoddi i fyny yr arfau hyd yn nod pe byddai i Constantine orehynjyh hyny. Mye'r sefyllfa yn hynod ddifrifol a'r unig ffordd i symud yr an- hawsder yw i Groeg anfon Ultimatum i Bwlgaria. Tachwedd 27. ATHENS.—Cyflwynodd Dufournet Ultima- tum i Groeg yn hawlio rhoddiad i fyny defnyddiau rhyfel o fewn byr amser. Os na ufuddheir cymerir mesurau fydd yn cynyddu mewn llymder yn ol parhad yr oediad. • Mae (ymddiswyddiad) diswyddiad y gweinidogion arfin cymeryd lie. Galwodd Constantino i'r pal^s Zographos, cyn Wein- idog Tramor. PARIS. Ceir bygiogrwydd lied fawr gydalr cadoffer ar ran y ddwy ochr yn ng- hymydog'aeth Caerfa Vaux. BERLIN.—Enwyd Von Strum yn Is-ys- grifenydd tramor. LLUNDAIN. Lloyd'r-Mae'r agerlongau Norwegaidd Oifjeld a Trym wedi eu suddo. ATHENS.—Yr arfau cyntaf hawlir gan Dufournet i gadluoedd y Brenin eu rhoddi i fyny yw 10 "mountain batteries. Os gwrthodir gwneir symudiad ilw grorfedi. BORDI AUS;—Mae yr agerlong tltpresiden- te Viera" perthynol i Uruguay yr hon aeth ar y traeth yn Oleron heb ei dryllio a symudir hi o'r traeth gan llysgfadau. LLUNDAIN. Swyddogol.—I'r dde o Ancre mae'r gelyn yn weithgar gyda'r cadoffer. Tanbelenasom leoedd pwysig. Parha y tywydd yn ystormus. Cydweithreda ein awyrlongwyr gyda'r cadoffer. BARCELONA.—Mae terfysg y myfyrwyr yn gyffredinol, achosir anrhefn mawr. MADRID.—Mae Fernando un o feibion y Brenin wedi myned am Viena i bresenoli ei hunyn gladdedigaeth Francis Josef. PARIs.-I'r dwyrain o Caras gwrthgur- asom yn rhwydd ymgais benderfynol i ym- osod ar orsaflu fechan. BERLIN. Cyhoeddir yn swyddogol y bydd i'r cadluoedd o dan Von Falkenhayn ymuno ag eiddo Mackensen. BUCAREST. Swyddogol. Ar y ffrynt gorllewinol yn Moldavia nid oes dim cyf- newidiad. I'r gogledd o Velaquia tanbelenasom Tablebutzi. Yn nyffryn Prahova gwrth- gurasom aden aswy y gelyn ar y ffrynt g(rilewinol Mae brwydrau ffyrnig yn nghyfeiriad Swardiosa. Tanbelenir ar hyd y Danube. Nid oes dim i'w hysbysu o Dobindja. PETROGRAD. Swyddogol. Stockhod— tanbelenasom yn llwyddianus wahanluoedd bychain yn ranbarth Soulnika Defnyddiai y gelyd nwyon llysmarol yn ranbarth Cor- ynitza. Gwasgarasom gwmni cryf o ys- biwyr yn Bystritza. PETROGRAD.—Cyrhaeddodd Czar Rwssia i Kiev ac alff yn mlaen i ffin Roumania i ,eled y Brenin Roumanaidd. PARIS.-C,afodd yr awyrlongwr Carpen- tier yr hwn gymerodd ran mor glodwiw yn adorchfygiad caerfa Douamont ei add- urno gyda medal filwrol. LLUNDAIN, Sw),ddo-ol.-Nid oes dim i'w adrodd heblaw bywiogrwydd yn ystod y nos yn nghymydogaeth Labasse. NEW YORK.-Dywed chwech o agerlong- au gyrhaeddodd heddyw iddynt gael rhybudd diwefr ddoe fod llongau tanforol gedlaw, and ni welsant un. PARIS. Swyddogol.-Darfu i'n peirianau awyrol yn ystod y nos danbelenu gwersyll- (eydd awyrloiigau yn Giuzancourt a Ma- tigny gyda llwyddiant. SALONICA. Swyddogol.—Trodd ymosod- iad y gelyn ddydd Gwener yn fethiant ar ucheldir Grunistche. RHUFAIN. Swyddogol.— Mae gweithgar- wch o'r ddwy ochr gyda'r cadoffer. Gwasgarasom amddiffynfeydd y gelyn yn gylch Londle, ac aflonyddasom ar sy- mudiadau y gelyn yn nyffryn Adiego ac Astico. Dygasom i lawr ddwy awyrlong i'r gelyn yn agos i Dolmezza Viglia. BUCAREST.-Rhwng 10 a. m. a 3 p. m. ehedodd mintai o longau awyrol y gelyn dros Bucarestgill1 ddisgyn amryw ffrwyd- beleni, ymosodwyd arnynt gan beirianau awyrol Roumania. Tachwedd 28. NEW YORK.—Mae gwerth arian yr Al- maen wedi cyrhaedd heddyw y pwynt isaf er dechreu y rhyfel. LLUNDAIN. Anfonwyd nodyn gan y Swyddfa Dramor yn gwrthod yn benodol i ofalu am daith ddiogel i Von Tarnow, teyrngenad Awstriaidd-Hwngaraidd i'r Unol Dalaethau, y mae'r gwrthodiad yn seiliedig ar gamymddygiadau dtweddar teyrngenhadon a thrafnnoddwyr Awstri- aidd-Hwngaraidd. SALONICA.-Dywed adroddiad o Seres fod y mihvyr Ffrengig mewn cydweith- rediad a'r Serbiaid wedi cymeryd y bryn pwysig No. 1050 yr hwn amddiffynid gan saethwyr ergydlym (sharpshooters) per- thynol i'r Warchlu Prwssiaidd oedd wedi derbyn gorchymyn i amddiffyn y lie hyd yr eithaf. Gorchfygasom pob gwrthym- osodiad. Mae'r tywydd drwg yn attal y gweithrediadau.