Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Yrna a. Thravv

News
Cite
Share

Yrna a. Thravv Yr wythnos ddiweddaf symudodd y Br. a'r Fones Iorwerth Williams o Trelew i fyvv i'r Dyffryn Uchaf. Bu ef am dymor yn weithgar gyda'r Go- beithlu yn Trelew; cymerodd lawer o dra- fferth i ddysgu caiieuon i'r plant. Efe hefyd yw ysgrifenydd Eglvvys Taber- nacl, Trelew, ac yn ddios gwnaeth y gwaith pwysig hwnw gyda medrusrwydd a boddlon- nvydd i bawb. Y mae colli dyn ieuanc defnyddiol fel y Br. Iorwerth Williams yn golled wna droi yn enill i bobl y Dyffryn Uchaf. Bu Mrs. Wil- liams hefyd yn hynod ffyddlon mewn dilyn cyfarfodydd crefyddol. -0-- Gwelwyd dro yn ol i'r Br. Iorwerth Wil- liams dderbyn Diploma mewn book-keep- ing Hyfryd yw ddeall fod amryw o bobl ieuainc y Wiadfa yn derbyn I-Correspoil- dence Lessons" mewn Book-Keeping'. Mae'n bwysig" eu bod yn gweithio am 'Diploma' gan "Institute" g-ydnabyddir gan awdurdodauaddysg. Rhyw bum mlynedd yn ol sefydlwyd cang-hen yn Buenos Aires o "The Institute of Commerce, Birmingham" o clan gyfanvydd Mr, Diego R. McLellan, Principal of the Shorthand Institute. Mae'r Institute of Commerce uchod yn cynnal arholiadau mewn Book-Keeping, Commercial Arithmetic, Accounting and Banking", Business methods and office Rout- ine, commercial Geography, Shorthand, Commercial Law, English, etc. O. oes gan rywun g-yfarwyddyd i'w roddi ynglyn a rhyw "Institute" arall gyd- nabyddir gan awdurdodau acldysg, byddai hyny yn fanteisiol iawn i'r rhai sydd yn talu arian mawr am "Correspondence Lessons. —o— Yr wythnos ddiweddaf yn Buenos Aires unwyd trwy briodas Br. D. O. Williams a,'r Fonesig Anne Jones, Maes Comet, yr hon gyrhaeddodd yn ol o Gymru wythnos ei phriodas. Y Br. D 0. Williams sydd yn arolygu cangen C. M. C. Madryn, ac yno y mae y par ieuanc yn gwneud eu cartref. Pan yn ystor C. M. C. Trelew, bu y Br. D. O. W. yn ddefnyddiol yn Eglwys y Tabernacl, a chafwyd ef boh amser yn barod i gymeryd rhan gyda phob symud- iad llesol a dyrchafol i gymdeithas. Yn Gaiman gyda'i brawd, y Br. D. Rhys Jones, y bu y Fonesig" Anne Jones am flyn- yddau cyn iddynt fyned i Gymru, ac enill- odd hithau enw da iddi ei hun yu yr ardal hono. Dymunwn i'r Br. a'r Fones D. O. Wil- liams hir oes llavvn o fendithion tymhorol acysbrydol. Cyrhaeddasant Madryn pryd- nawn dydd Mercher ac hefyd y Fones Mair Jones, Maes Comet a thad y Br. D. O. Williams. -0- Yr wythnos ddiweddaf daeth y Fonesig- Rachel G.. Jones (merch y Br. all- Iloiies Henry Jones, Trelew) yn ol o'r Andes mewn. modur gyda'r Br. Arthur Morgan, Clydfan, a'i chwaer, ac hefyd W. A. Wil- S. Da g-enym ddeall fod y Fones John Howell Jones wedi gwella dig-on i fyned am beth amser i aros gyda i mherch y Fones Pujol yn Madryn. Hyderwn y caiff adferiad llawn i'w hiechyd yn fuan. Daeth gair o Madryn prydnawn Mercher ei bod yn well. v -0- Nos Lun nesaf cynhelir cyfarfod cy- hoeddus gan blant gobeithlu Tabernacl, Trelew. Y mae y plant arferol a gwneud eu rhan yn ganmoladwy, a diau y gwnant hyny y tro hwn. -0- Ddoe yn modur y Br. William Freeman y mae y personau canlynol wedi myned i'r Andes:—Br. Elvan Thomas, Fones Rhys Thomas, Fones William Freeman, Fones Brychan Evans a'i dau blentyri bach air Fones Richard Roberts, Trelew. Bydded iddynt oil gael amser dedwydd.

Iü'r Ysgrepan, i-

Betsi Cadwaladr.I

Ty Da a Gardd Helaeth Ar Werth.

Ar Werth.

Aviso.