Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Rhan 0 Araeth Mr. Lloyd George…

Y Sedd dros Arfon. I

News
Cite
Share

Y Sedd dros Arfon. I Y mae y llythyr cantynol oddiwrth y Cad- fridog Owen Thomas at Mr. Pentir Williams, Ysgrifcnydd Cymdeithas Ryddfrydig Arfon, wedi ei gyhoeddi yn Newydduron Cymru, a rhoddwn ef yma i ddarllenwyr y DRAFOD :— "Anwyl Mr. Pentir Williams, Yr wyf yn mawr werthfawrogi yr an- rhydedd a osodwyd arnaf gan liaws o Gym- deithasau Rhyddfrydig lleol Arfon yn eu gwaith yn fy enwi fel ymgeisydd Rhydd- frydig i'w cynrychioli yn y Senedd, achefyd, waith y Gymdeithas Ryddfrydig yu derbyn fy enw mor groesavvus. Gwelaf, pa fodd bynag, y buasai derbyn y cynnyg caredig hwn yn golygu i mi roi llawer o amser ac yni i osod fy ngolygiadau ger bron y gwahanol gymdeithasau Ileol-arnser ac yni nis gallaf, o dan yr amgylchiadau presennol, eu hebgor, gan fod galwadau trymion y fyddin, y rhai a ymddiriedwyd i mi, yn meddu yr hawl gyntaf, ac yn wir, yr holl hawl arnaf. Pwysicach hyd yn oed na hyn yw y ffaith fod yr argyfwng cenhedlaethol difrifol sydd ar hyn o bryd yn ein gwynebu yn havvlio fod pob gwir wladgarwr i drethu pob ymadferth a fedd i sylwcddoli un amcan mawr ac oll- bvvysig, sef llwyr ddarostvvng y gelyn cryf a llidiog sydc1 yn bygwth bwrw dan ei draed bobpeth sydd yn vverthfawr ac anwyl gan bob gwir Gymro. I gyrhaedd y nod pwysig hwn trefnwyd y cad-oediad politicaidd pres- ennol, ac yr appwyntiwyd Gweinyddiaeth Gyfunedig Genhedlaethol. Ni byddai yn gysson a'm hargyhoeddiadau dyfnion o barth i'n dyledswyddau cenhedlaethol yn yr ar- gyfwng pwysig hwn i gymmeryd rhan, ar hyn o bryd, mewn ymdrechfa allai gyiTroi teimladau chwerw rhwng gwahanol adranati plaid fawr cynnydd, plaid ag y mae ei hanes mor doreithiog mewn gwelliantau gwladol a chymdeithasol. o dan amgylchiadau cyffredin buaswn nid yn unig yn barod i dderbyn gwahoddiad i sefyll fel ymgeisydd i gynrychioli etholaeth mor deilvvng, ond balch fuaswn o ymladd brvvydr a dan faner achos Cenhedlaetholdeb Cymru yn erbyn unrhyw un a ddelai i'r maes mewn unrhyw ran o'm hen wlad. Ond yn wyneb y dymmestl arswydus, yr ydym fel teyruas ynddi ar hyn o bryd, a'r sane a gym- merais innau ynglyn a'r fyddin, gofidiaf nas gallaf weled fy ffordd yn glir i ganiatau i'm hemv i gael ei osod i fod mewn cystadleu- aeth ag enwau boneddigion eraill sydd eisioeS ger bron yr etholaeth. Gan ddiolch o galon i'ch cymdeithas am ei hymddygiad caredig ac anrhydeddus ataf. Ydwyf, Yr Eiddoch yn gywir, OWEN THOMAS.

Gyda'r Llythyrgod o Gymru.

BRYAN A MILWRIAETH.

Advertising