Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

lest letter from Mr. Webb…

Nodion Rhyfel.

Taith i Australia a New Zealand,

News
Cite
Share

Taith i Australia a New Zealand, Nos Lun ddiweddaf, yn Trelew, cafwyd araeth ddyddorol ar ytestun uchod gan y Br. 0. C. Jones, a chadwodd y gynnulleidfa yn effro, ac astud, am oddeutu awr a haner. Cadeirwyd gan v Parch. R. R. Jones, ac arweiniwyd gan y Br. Llewelyn Williams. I dechreu y cyfarfod cafwyd unawd swynol gan y Fonesig Cordelia Jones. Cyn dechreu ei araeth galwodd y Br. O. C. Jones ar y Br. D. O. Williams i ddarllcn yn saesneg hanes anerchiad draddodwyd gan yr areithydd yn ystod ei daith yn y gwledydd pell, ac yn hono cafwyd cnewyllyn ei syniad am y Wladfa a'i rhagolygon. Teimlid ei fod yn ei araeth yn siarad ei argyhoeddiad am y naill wlad a'r Hall, a dangosai ragoriaeth a diffygion, manteision ac anfanteision Aus- tralia, New Zealand, y Wladfa, a'r Hen Wlad hefyd. Yn y Wladfa yr ydym ni yn byw, ac y maen bwysig i ni glustfeinio beth ddywedir am fanteision ac anfanteision, rhagoriaethau a diilygion, a rhagolygon y Wladfa. Yn ei araeth odidog yn Manceinion dywed Mr. Lloyd George wrth ddangos cyflwr anmharod Prydaini'r rhyfel,—"Let us be frank with ourselves. Frankness is the beginning of great action it is the beginning of victory". Cerddodd y gelyn yn mlaen a dynoethodd wendid Prydain i'w gyfarfod, sef diffyg defnyddiau parod i'r frwydr. Ein hargyhoeddiad yw y dylid sefyll yn bwvllogvn fyfyrgar, yn ddwys uwchben cyflwr y Wladfa fel y gwneir heddyw gyda Prydain a gwledydd Ewropernad gyda'r unneges. Rhaid i wlad siarad wrthi ei liun y n ddidderby n wjmcb os am fyw a rhagori. Pwy na fuasai yn hoffi gweled y Wladfa, Cymry y Wladfa, yn llwyddo a rhagori mewn crefydd, addysg, a masnach. Cyn y llwydda unrhyw wlad rhaid iddi wynebu o ddifrif ei diffygion, a'i rhagolygon. Os na phwysleisir yn drwm a chlir yr elfen grefyddo! gydag addysg a masnach, ac os na chaiff yr elfen hon y lie hawiia lie a deilynga nis gall fod ragolygon disglaer i unrhyw wlad, a gradool sudda i ddirywiad crefyddol, addysgol, a masnachol, gan foci dirywiad gyda'r naill yn arwain i ddirywiad gyda'r Hall. Cynygiwyd gan y Br. J. Howell Jones, ac eiliwyd gan y Br. Rhydderch Iwan, bleidlais o ddiolchgarwch i'r Areithydd. Cafwyd Can a Chydgan gan y Bwyr. E. E. Williams, lor- werth Williams, Owen Lloyd, Powell Jones. Diweddwyd trwy ganu Hen wlad fy nhad- au dan arweiniad Br. Llewelyn Williams.

Advertising

V RHYFEL.I