Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HANER CANMLWYDDIANT YI WLADFA…

News
Cite
Share

HANER CANMLWYDDIANT Y I WLADFA GYMREIG. ——— Haner cant o flynyddau yn ol, cyn i'r rhan fwyaf o honom crioed weled goieuui'r haul, yr oedd y fintai gyntaf yn cynwys 153 o ber- sonau, o wahanol siroedd Cymru, rtrgvrhaedd pen eu taith yn Mhorth Madryn. Wedi'r hir barotoi a'r trefnu, y Ihvyddo a'r aflwyddo, y canmol a'r anair, y cymhcll a'r ymosod, cychwyn odd mintai v Mimoze fyth- gofiadwy o Lerpw! am 6 o'r gloch prydnawn Sabbath, Mai 28am, 1865 ac wedi deuHs 0 fordaith dda a chysurus glaniodd yn Mhorth Madryn ar Gorphenaf 28am. Yn ol yrhanes nid a y cychwyn na'r glanio allan o got yr lien Wladfawyr. Erbyn hyn yr ydym yn ymyl cadw Gwyl y Glaniad am y ddegfed tro a deugain. Wrth edrych dros enwau y fintai gyntaf, gyda gofid, ac eto gydag ymostyngiad i drefniadau'r lor, canfyddwn nad yw rhif yr hen Wladfawyr sydd yn ein mysg ondyehydig nifer i ddathlu Gwyl Haner Can Mlvvyddiant y Wladfa Ciymreig. Dymunol dros ben fuasai cael darlun o honynt gyda'u gilydd ddydd Gwyl y Glaniad. Pan yn cychwyn o Lerpwl canodd y fintai u Duw gadwo y Frenhines," ac yr oedd Hawer o'r dyrfa ar y lan, meddir wrthym, yn colli dagrau yn ogystal a'r rhai oedd yn y Hong. Mynai'r teimlad cenedlgarol a gvvladgarol ffrydio allan yn ddagrau gloewon ac ocheneid- ian dwysion. Y bobl sydd yn caru eu gwlad a'u cenedl eu hunain sydd fwyaf teyrngar i wled- ydd eraill. Dylasaii ryw fardd, erbyn yr wyl hon, gy- fansoddi geirian ar Duw gadwo yr Hen Wladfawyr." Dowch feirdd, gwahoddwch yr awen i gann ar destyn mor haeddianol a barddonol hefyd. Anhawdd lawn i galon dyn beidio cynhesu—ac un o anhebgorion barddoniaeth dda yw gwres-wrth sylwi a meddwl am danynt yn cychwyn bron fel Abraham gynt heb wybod i ba le, a chofio hefyd y dioddef, y caledi, yr eisiau, a'r an- hawsderau y maent wedi myned trwyddynt, srjglynu o honynt yn gryf a dewr dros dradd- odiadau, crefydd, a Duw eu gwlad, a'u tadau, a'u cenedl. Nis gallwn llai na dymuno a dyweud Duw GADWO'R HEN WLADFAWYR. Cyn cyfansoddi "Coll Gwynfa gwahodd- odd Milton daientog ond dall ar yr awen i'w gynorthwyo, a chanodd o dan ei dylanwad yn ddwfn, dwys, a chlir Of Man's first disobedience, and the fruit Of that forbidden tree, whose mortal taste Brought Death into the world, and all our woe, With loss of Eden, till one greater man Restore us, and regain the blissful seat, Sing Heavenly Muse, &c. Byddai yr awen nefawl yr un mor barod i gynorthwyo beirdd y Wladfa i ganu i'r hen Wladfawyr ag sydd w edi cadw baner crefydd i chwifio yn y rhan yma o'r byd, a da yw gweled eraill ddaeth yma yn ddiweddarach yn cadw y faner i fyny. Er pan laniodd y fintai gyntaf yn Mhorth Madryn y mae'r Wladfa wedi dadblygu i wahanol gyfeiriadau. Y mae masnach wedi dadblygu yma yn gyflym ar ol iddi gael ei throed i lawr a chael moddion cymundeb i ddanfon ymaith gynyrchion y dyffryn a'r paith i'r farchnad. Tarawiadol dros ben, acanfiafriol i'r Wlad- fa anghenus yr adeg hono, yw hanes y naill long ar ol y Hall yn llwythog o luniaeth i'r Wladfa yn myned ar y traeth. A dacw'r anifeiliaid drachefn yn myned ar grwydr heb ddychwelyd byth yn ol, a'r llifogydd yn cludo'r gwenith oedd ar y maesydd i golli yn y mor mawr llydan, a hyny pan oedd gwir angen am anifeiliaid a gwenith ar y Gwlad- fawyr oedd wedi eu cau allan o gylch trafnid- iaeth masnachol. Dymunol yw darllen ygohebiaethau ddang- osant fod y LIywodraeth hon wedi amlygu Hawer o amynedd a haelfrydedd tuag at yr hen Wiadfawyr, a dangosant hefyd y tlodi, y dioddef, y siomedigaethau, a'r cyfyngderau eithriadolfodolaiyma flynyddau yn ol. Erbyn hyn nid oes, neu ni ddylai fod, prinder an- ifeiliaid, gwenith, na lluniaeth o fath yn y byd. Ac ni fu unrhyw ran o wlad yn fwy cyfoethog o beirianau ac offer amaethyddol diweddaraf. A dyma'r Moduron wedi difodi y pellder oedd rhyngom a'r Andes, ac ni synem weled Cymry anturiaethus y Wiadfa yn berchenog- ion awyrlongau, ac mewn hwyl yn ehedeg ol a blaen i B. A., ac i'r Andes heb i'w cymyd- ogion wybod eu colli. Nid heb achos y mae'r Wladfa yn ymfTrostio yn Nghwmui Masnachol y Camwy, ac y mae'r Cwmni hwn wedi gwneud gwaith rhagorol ar hyd y blynyddau. Credu yr ydym mai da fyddai, er rmvyn addysg y Wladfa a'i llwyddiant tnewii gwa- hanol gyfeiriadau, sefydluYsgol Uwchraddol perthynol i'r Weriniaeth hon, ac o dan nawdd y Weriniaeth mor bell ag y mae addysg" a "safon yr arholiadau" yn y cwest- iwu o Ivvyddiant ein pobl ieuainc a'r Wladfa trwyddynt. Nid yw hyn yn golygu gwneud i ffwrdd a dysgn yr iaith Gymraeg a'r Saes- neg. Y mae Cymru Nedi Ihvyddo i gael Cymraeg i mewn i ysgolion elfenol, canol- raddol, ac i Brif Ysgol Cymru, a hyny yn unol a deddf addysg Prvdain Fawr; ac felly parotoir pobl ieuainc Cymru i basio arhol- iadau ag sydd yn eu cymhwyso yn ngolwg y gyfraith i lenwi gwahanol swyddi o dan y Llywodraeth. Tybed nad yw haner can mhvyddiant y Wiadfi Gymreig yn adeg ffafr- iol a manteisiol i ofyn i'r Llywodraeth hon sefydlu Ysgol Uwchraddol yn y Wladfa! CREFYDD Y WI.ADFA. Y mae crefydd y Wladfa i raddau helaeth yn gorphwys arnom ni, ac yn ddiau na ddy- munem i unrhyw Lvwodraeth ymyraeth a'n crefydd. Mater personol ac eghvysig ddylai crefydd gwiacl fod. Ond prin y mae'r elfen grefyddol yn cael ei lIe ei hun yn Ngwyl Glaniad yr hen Wladfawyr. Dylem ni, fel Cymry, gadw yr elfen grefyddol yn fyw ac iach ger bron y naill genedl a'r llall. Gwel- som mai oherwydd brwdfrydedd dros arfer- ion ac iaith y cafwyd ac y mynweswyd y syniad o Wladfa Gymreig, ac ni fu cenedl erioed yn dwyn mwy o'r elfenau crefyddol i mewn i'w sefydiiadau masnachol, addysgol, a chymdeithasol na chenedl y Cymry. A dynion crefyddol gychwynodd, sefydiodd, ac a ddadblygodd y Wladfa hon, a diameu mai ein dyledsvvydd a'n braint ninnau yw cadw mewn bri arferion a nodweddion cymdeith- asol a chrefydd91 goreu ein tadau. Gobeithiwn y dethlir yr Wyl hon yn y fath fodd ag a fydd yn dangos parch i syl- facnydd, sefydlwyr, a hyrwyddwyr y Wladfa Gymreig ar eu pripdas euraidd.

ESGEULUSIAD TREFEOIGAETH.…

HIRAETH.

YN EBSIAU.