Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Gwahoddiad i'r Hen Wladfawyr.
Gwahoddiad i'r Hen Wladfawyr. Y mae pump o chwiorydd (merched i hen wladfawyr), yn rhoddi gwahodrliad cynes i'r Heu Wladfawyr ar eu dychweliad o Rawson dydd Gwyl y Glaniad, i gydeistedd wrth fwrdd y wledd a barotoir yn arbenig ar eu cyfer yn y Neuadd Goffa, Trelew. Cofiwch y byddant yn eich disgwyl.
LLOMGYFARCHIAD AR JiWBILI…
LLOMGYFARCHIAD AR JiWBILI Y WLADFA. Daeth y Cymry iciewr o Walia I sefydlu iddynt Wiadfi 0 dan faner Archentina, Llvvyddiant ar eu hynt. Nid oedd yma neb i'w derbyn Ond anialwch mawr diderfyn, Fe ddaeth Brenin Nef i'w canlyn I hyrwyddo 'u gwaith. Darfu iddynt ddioddef Tiodi, mewn gorfoledd, Cawsant arnynt fendith Nef, Trigasant mewn tangnefedd: Rhoddwn floedd o eigion enaid Am eu Ilwydd yngwlad estroniaid, Seinivvn glod i'r Hen Wroniaid Tra bo ynom chwyth. ENID HUGHES DE WILLIAMS.
REGISTRATION CERTIFICATES,…
REGISTRATION CERTIFICATES, I Y mae papurau cofrestriadol i'r Prydein- wyr canlynol yn barod er's rhai wythnosau, a bydd y Parch. D. J. Williams, Trelew, yn dra diolchgar os bydd iddynt alw am danynt mor fuau ag y byddo yn gyfleus Benjamin Davies, Mary Williams, Griffith Thomas, Richard Griffiths, William David Owen, Owen Lloyd, William Parry, John Henry Price, Humphrey Hughes Jones, Richard Morgan Jones.
Porth Madryn. I
Porth Madryn. I Cyrhaeddodd yr Avellaneda yma dydd LIun o B. A. gyda 40 o deithwyr i Madryn, ac yn eu plith yr oedd Dr. a Mrs. Avila. Dadlwythodd 4 50 tuiiell o nwyddau, a llwyth- odd 3,000 peleni o wair, a 110 tunell o nwyddau i'r C. M. C., Comodoro Rivadavia, a 50 tunell o wahanol nwyddau i'r De; gad- awodd y noson ddilynol am borthladdoedd y De. -0- Y mae Cwmni y Ffordd Haiarn wedi der- byn yn ddiweddar gerbydres (coach) newydd o'r hen wlad, yr un cynllun a'r ddiweddaf ond ychydig yn ferach. Yn anffortunus tor- odd trawst (beam) ar y ffordd yma, ac y mae hyny wedi achosi oediad ei hymddanghosiad. Diarneu y gwneir y diffyg i fyny yn B. A. -0- Y ll'ae'r Argentine wedi gadael B. A. dydd Mercher diweddaf, a dylai gyrhaedd yma dydd Sadwrn. -0- Y mae Mr. Valentin Simpson wedi cael y gwaith o ddadlvvytho yr hen Kaiser o'r glo a'r defnyddiau gwerthfawr eraill. Tybir fod o leiaf 200 tunell o glo da ynddi, a swm mavvr o coke, yr hwn fydd yn ddefnyddiol iawn y dyddiau hyn pan y mae'r glo mor ddrud. Dylai hefyd fod llawer o copper yr hwn yn ddiameu sydd farchnadol y dyddiau hyn. KELT.
Advertising
AR WERTH-SEPARATORS o'r dos- barth goreu gan.— WILLIAM JONES, (Smith), Gaiman.
Hyn a'r Llall. o
Hyn a'r Llall. o Codi ar frys wna yr afon y dyddiau hyn, ond na fravvycher oblegid mae llawer rhyng- ddi a bod yn lloud ei gwely. -0- Mae ardaloedd Dyffryn Uchaf, bron i gyd, wedi penderfynu aros gartref i ddathlu Gwyl y Glaniad fel arfer. Fe fwriada pobl y Gaiman ddathlu'r Wyl ar y 273111, er mwyn cael myned i Drelew ar yr 28ain. Ceir te yn y prydnawn, a chyng- erdd o radd uchel iawn yn yr hwyr. -0- Heddyw (Mcrcher), claddwyd yn mynwent Tirhalen, faban bychan i Mr. a Mrs. D. J. Davies. Gwasanaethwyd gan y Parch. Tudur Evans. -0- Daeth gair i law oddi wrth y Br. D. Rhys Jones. Mae'n debyg fod yn ei law fwy nag un cyfle braf, ac nis gwyr yn iawn pa un i dderbyn. Dymuna ef a'i chwaer anfon eu cofion at bawb yn y Wladfa. -0- Oherwydd cyflwr blin ei iechid, fe orfodir y Br. John Jones, Caerfyrddin, i fyned i B. Aires gyda'r llonggyntaf. Cydymdeimlir ag ef, a dymunir iddo bob rhwyddineb, a caffed ar fyrder lwyr wellhad. -0- Daeth y newydd o Drofa Dulog, fod un o'r ardalwyr yn sicrhau iddi wel'd tair zeppelin, dwy fawr ac un fach, yn hedfan uwchben Trelew diwedd yr wythnos o'r blaen. Beth oeddent tybed ? Rhaid mai Germans wedi colli'r ffordd. -0- Bu Mr. David E. Jones, C. M. C., Gaiman, vn bur wael yn ystod y dyddiau diweddaf. Ymddengys ei fod yn well, bwriada, yn ol a glyvvsom, fyned i fyny i'r Brif-ddinas cyn hir i ymgynghori a rhai o'r prif feddygon. Bydd- ed i'w fynediad droi yn llwyddiant perfifaith. -0- Mae'n debyg i lofruddiaeth enbyd gymeryd lie heddyw, yn rhywle tua genau y ffos. Lladdodd rhyw Rwsian ei wraig ac yna gwnaeth ddiwedd arno ei hun. Hyd yn hyn nid oes dim manylion parthed y weithred erchyll wedi dod i law. o— Ymddengys fod yna gwmni neillduol a'i fryd ar fyned i fyny tua'r Andes i gloddio'r aur a orwedd yn haenau trwchus o'i mhewn. Darperir ar frys y peirianau sydd i'w weithio a bwriedir cychwyn ar y gwaith melyn yn ddioedi. Pob llwyddiant iddynt meddaf. -0- Agorwyd y Ffactri Gaws a 'Menyn yr C. M. C. yr wythnos ddiweddaf. Derbyn- iwyd ynddi gan liter o laeth y dydd cyntaf a chynyddu yn ddyddiol wna swm y llaeth. Ceir ynddi erbyn hyn lawer o gaws wedi ei wneud a clywais fod y cosyn cyntaf i gael ei dori ar gyfer te dathlu Gwyl y Glaniad. Caffaeliad yn ddiau fydd hon i'r Wladfa, a chofied yr amaethwyr ei chefnogi ar ol ei chael, ym mhob modd. -0- Nos Fercher diweddaf ym Mryncrwn, cyn- haliwyd Cyfarfod y Bobl Ieuainc, ac yr oedd yn un o gyfarfodydd goreu y tymor. Wele'r rhaglen :—Papur ar "Dafydd Freniu" gan H. Foulkes Adroddiad, "Ieuengctid arhos- wch i feddwl,' M. J. Morgan Papur, 'Gwaith chwiorydd yn yr eglwys," Myfanwy Morgan; Can, Buddug Jones Papur, 1 Cariad brawd- ol," Henry Jones; Can, Rachel Morgan; Papur, "Teulu Bethania," Gwen Morgan. Paratowyd y rhaglen gan Edith Morgan, ac y mae yn haeddu clod ain ei gwaith. Gwysiodd y Cwmni Dyfrhaol Uuedig, yn ddiweddar, meddir, amryw o aelodau y cwmni gwrthwynebol a wrthodent dalu eu dyledion iddo, o flaen y Barnwr yn Rawson, a dyfarnodd yntau yn ffafriol i'r Cwmni; ac y maent hwythau wedi eu gorfodi i dalu eu dyledion yn ogystal a holl gostau y llys. Da iawn, yr oedd yn llavvn bryd iddi ddod i hyn,, y mae terfyn ar amynedd a natur dda. -0- Mae Bolichi newydd gael ei agor y tu allan dipyn i Bont y Gaiman. Pa hyd tybed, y mae yn rhaid dioddef ydynion dienwaededig hyn i agor y fath dyllau i fod yn boen meddwl, yn ddolur llygaid, ac yn ofid calon i lawer wrth eu gweld yn maglu ac yn dinystrio cynifer. Addawyd i ni dro yn ol, gan y Governor, y byddai iddo dynu rhyw 50 per cent o honynt i lawr. Gwir fod rhai wedi gorfod can eu drysau yn y Gaiman; ond syndod cyn lleied; a beth well ydys o dynu i lawr yn y dref os rhoir caniatad wed'yn i agor yn ymyl, mcwn cornelau mwy cyfleus o lawer. Onid ydyw yn gywilydd o beth hefyd, fod dynion sydd yn Gymry-os teilvvng ydynt ox enw, ac yn rhieni, yn codi llawer o blant, yn rhentu eu tai i'r fath amcanion isel ac annuwiol. Mae yn ddiau y daw dydd pryd yr edifarhant mewn llvvch a lludw, ond bydd yn too late. Gresyn na chaem afael yn un o ynau mawrion y Germans i chwythu y ffauau din y striol hyn i ebergofiant, ac ar eu hol y dywedem yn lion, Ar wlad a gafodd lonydd. Gyda'r DRAFOD ddiweddaf daeth i'm llaw, y Rhagllen a ddarparwvd cr-.r> bvvyllgor neill- duol i ddathlu Gwyl y Glaniad-jiwbili y Wiadfa. Os goddefer 1 mi ddweyd fy marn fach, yr wyf yn hynod o siomedig ynddi. Ni chyuwys ddim, hyd y cofiaf, ond rhyw beth tebyg ag a geir yn wastadol yn y gwyiiau Spaenig,-rhyw saethu at y nod, rhedegfeydd ceffylau, a rhyw 'nialwch gwag fel yna. Credaf yn siwr, pe gwelai rhai o hen gewri'r Wiadfa,y Parch. A. Mathews, a'r anfarwol Fonwr o'r Plas Hedd, ac eraill, y Rhaglen hon, y byddent yn codi mwy nag un "banner ddu"; ac of naf y byddai yn destyn mwy nac un tuchangerdd wir dda. Os dathlu Jiwbili y Wladfa gwneler hyny drwy fodd- iannau teilwng. Myner pethau cydnaws a'n delfrydau ni fel Cymry-sefydlwyr y Wladfa, a rhodder ychydig bach o le yn rhagkn y dydd i'r Penllywydd Mawr,-yr Hwn sydd wedi amddiffyn a chadw'r Wladfa mewn cyfnodau digon tyvvyll ar hyd yr haner can' mlynedd hyn, yn lie rhoddi yr oil i rialtwch gwag, ac ysgafnder. Gwahoddir yr holl Ddyffryu i Drelew ar yr 28ain, pobpeth yn dda, yn bersonol nid oes genym wrthwyueb- iad i hyny. Ond sut yr aiff pobl yno ? nid oes son yn y programa am dren na moduron i'w cludo yiio. Os am gael pobl i Drelew dylid trefnu cyfleusderau rhad (ac yn wir, fuasai ddim Hawer i Gwmni'r ReiltTordd i roddi'r tren am ddim y diwrnod hwnw) i redeg o ben ucha'r Dyffryn i Drelew ond be' wn i, hwyrach fod trefniant felly ar droed,, cawn weld. Pob llwyddiant i weithrediadau dathlu Jiwbili y Wladfa. —o— Bydd yn chwith gan lawer yn y Wladfa glywed am farw Mr. Cadwaladr Roberts, U.H. (Pencerdd Moelwyn), yr hyn a gymerodd le nawn Llun, Mehefin i4eg, ac efe yn fab 6iain tnlwydd. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn y byd cerddorol fel arweinydd Cor Meibion y Moelwyn, Ffestiniog, a gwnacth lawer er dyrchafu caniadaeth y cysegr.
Family Notices
GENI. D ivies.-Ar y 2ocyfisol, ganwyd i Mr. a Mrs. R. Lloyd Davies, Trelew, ferch.