Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Yn y DRAFOD am Mehefm y 4ydd, darllen- ais ysgrif ar y Gymanfa Ddirwestol ddiwedd- af yn y Gaiman, yn mha un y crybwyllai yr ysgrifenydd, mae dyddorol fyddai cael hanes y mudiad dirwestol yn ein plith ercychwyn- iad y Wladfa. Mor bell ag y cofiaf, oddeutu y blynydd- oedd pan oedd y Wladfa yn saith neu wyth oed, darfu i'r cyfeillion (diweddar) Richard Hughes, H. H. Cadfan, Rhydderch Huws ac Aaron Jenkins, gael yn eu inecldwl mai da fuasai cClel cymdeithas ddirwestol, yna cad- wyd cyrddau a Richard Hughes yn arwain Gobeithlu o blant y Wladfa. Cofiaf ei fod yn rhoddi ein henwau i lawr mewn llyfr, ac ar oIyr ysgol bob Sul, yn ein dysgu i ganu caneuon dirvvestol,, a rhai o'r hynaf-gwyr yn dwend ychydig wrthym ni y plant. Cofiaf i Aaron Jenkins ein cynghori yn dirion a difyr, a'r plant yn dweud fel hyn ac fel arall; ie, ie, meddai Aaron, peidiwch cleciati ar cich gilydd, tewch a son. Yna byddem yn berffaith ddistaw. Ac wedi y siarad rhoddai Richard Hughes ni i ganu, a chafwyd ami i gwrdd difyr a hapus yn Rawson, oblegid dyna lle'r oedd pob cynulliad y pryd hwnw. Ond clafychodd ein hoffus arweinydd, a bu farw yn dra sydyn distawodd y canu, aeth dirwest i lawr, ac ni bu am flwyddi wedi hynny. Rhywbryd wedi i'r Wladfa basio chwarter canrif, bu cyrddau dirwestol mewn amryw ranau or dyffryn a chafwyd Cyrnanfa Ddir- westol yn y Gaiman, pryd yr oedd y Parch. D. Lloyd Jones yn gadeirydd; cafwyd canu ac adroddiadau, ac hefyd anerchiadau yno. Cof genyf fod y Br. Wm. Jones (Gwaen- ydd), yn annerch y gymanfa pryd y dywed- ai, Pei(iiweli a'i a.yriv- i ini, peidiwch a'i gynyg byth, yna feallai y gwelwch yr hen fand I wedi ei Yoncro." Dyna fi wedi ceisio rhoddi ychydig o hanes y mudiad dirwestol yn nghychwyniad y Wladfa, gan obeithio y bydd i eraill helaethu. UN 0 BLANT GOBEITHLU RD. HUGHES. (Ein dyledswydd a'n dymuniad hefyd yw cydnabod yn ddiolchgar dderbyniad yr uchod. Y mae hanesion fel yr uchod yn dra dyddorol i ni oil.—GOL.]

LA EMIGRACION GALENSE.

[No title]