Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Correspondencia detenida.

Advertising

r"Chwaroe Teg" Yr Almaen.

News
Cite
Share

r "Chwaroe Teg" Yr Almaen. Mae hanesyrrihèrodrot Yi Almaen ddu ei hynt, A rhaib ei chais gormesol, Yn beichio'r pedwar gwynt; Mae dysg ei phrif hanesydd Yn inoedro'i meddwl hi, A gwersi 'i phraff "athronydd" Yn pydru'i bron a'i bri. Mae 'i rhuthr gwyllt, di ystyr, Hyd Meusydd Belgium fach Yn deffro cas gwir frodyr,— Yn meithrin digter iach Rhaid gwadu ffydd ac undeb, I'r Almaen wneud a fyn Dirym yw pob cytundeb Os chwareu teg" yw hyn. Y rhuthr brwnt, di angen, Ar drefi Prydain Fawr Pan guddiai'r niwl yr wybren,— Atgofir hyn bob awr: Pa bryd y ceir cyflawniad Yr addewidion gwyn? A beth am Air fy Ngheidwad Os chwareu teg yw hyn? Yng ngoleu'r fflam yn esgyn Mae hanes blin Lwfan, A phrudd yw tant fy nhelyn Rol difrod erch y tan. Gartrefle Celf a Gwybod Mae heddyw'n un a'r llawr, Ar Almaen ddi gydwybod Yn brolio'i dysg bob awr. Mae cri y fam a'i bychain Wrth orfod ffoi o'u gwlad,- A'r henwr llesg a thruain Yn dianc rhag y brad,— A gwaedd yr erchyllterau A'r bryijtni ar bob Ilaw,- Yn dyweud ar fil o feddau, "Daw dydd y dïal-dawl" Mae difrod Rheims hynafol, A'i holl aneddau mad, A'i heglwys wech, arddunol, Yn son am dwyll a brad. Ffieiddbeth fyddo geiriau Yr Ellmyn (bagan gwynl) Ar wefus cenedlaethau, Os "chwarae teg" yw hyn. Mae prudd-der si yr awel, Wrth ddod dros faes y gwaed, Yn son am hacrwch rhyfel, A'r felldith yno wnaed. 0 gartref glan pob delfryd Mi glywaf lais y Ne'— "Daw dydd y dial enbydl Pwy saif pan ddel Efe?" AFALLON.

Tierras Publicas.

Advertising