Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Marwolaeth Mrs. Morris, .Coronel…
Marwolaeth Mrs. Morris, Coronel Suarez, ,I Br. Gol.-Gati fod Mr. a Mrs. Morris wedi bod yn dderbynwyr y DRAFOD er's rhai blyu- yddau bellach, credaf fod Mrs. Morris yn i haeddu colofn goffa yu y DRAFOD. Dydd Iau, yr i/egb Mehenn, 19? 5; bu farw Mrs. Eleazer Morris, yn COfO neISU3rez.¡1 Merch hynaf i'r diweddar Charles Footman, Hafod Wen, Caerfyrddin, oedd Mrs. Morris. Mae arnryw yn y Wladfa yn adnabod ei theutu a'r lie ei ganwyd. Cafodd ysgol dda, a dygiad i fyny anrhydeddus. Pan ar ei holidays yn lau y mor yn Llan Stephan y cyfarfyddodd gyntaf ag Eleazer Morris, yntau hefyd yn ysgclhaig da, yn gerddor, ac yn siaradwr hyavvdl, (efe oedd yr ieuengaf o deulu llaosog, enw ei frawd hynaf yw Eben- ezer,-sylwer fod enw y brawd hynaf a'r ieuengaf yn debyg. Yr oedd bHvyddi lawer rhyngddynt). Pasiodd Eleazer Morris ei brentisiaeth fel masnachwr mewn Co-oper- ative, a dringodd i safle anrhydeddus. Yn y flwyddyn 1885, unodd mewn glan briodas a Elizabeth Footman, a gwnaethant eu cartref yn Mountain Ash, lie y ganwyd iddynt ferch, sef gwraig j'sgrifenydd y nodiadau hyn, a chartrefa yn y Wladfa. Yn y flwyddyn 1886, pan oedd y Parch. A. Mathews yn darlithio ar Batagonia, pender- fynodd Eleazer a dau o'i frodyr ymfudo i Patagonia, sef William a George, y tri yn briod ac un plentyn gan bob 1111 (os wyf yn colio yn iawn). Peuderfynwyd fod William ac Eleazer i fyned yn gyntaf i baratoi lie i'r teuluoedd ond tra yr oeddynt yn aros am Jong yn B. Aires i ddod i lawr i Chnbut, cyf- arfuasant a rhai o'r Cymry aethant yn 1885-6 i Curamalam i sefydlu gvvladychfa Gymreig, oblegid nad oedd llwyddiant, ua gobaith am ddigon o ddwr yn Chubut. Felly penderfyn- odd y brodyr Morris droi en hwynebau i Curamalan, Coronel Suarez. Wedi ychydig flwyddi gweddol Iwyddianus trodd yn aflvvyddiant, rhewai ycnydau i gyd, a dechreuodd y Cymry ddigaloni ac anes- mwytho, a dychwelodd rhai i'r Hen Wlad a'r gweddill o dro i dro ddyclnvelasant yn ol i'r Wladfa (oddieithr ychydig deuluoedd), dewis- asant gartrefu yma, yn foddlouach yrahlith eu pobl eu hunain nag yn y gymysgfa a'u cylchynai yno, a phethau erbyn hyny wedi gwella yn Chubut. Aeth William a George Morris hefyd yn ol i Gymru a'u teuluoedd, ond arhosodd Mr. a Mrs. Eleazer Morris yn Coronel Suarez drwy yr hoi! galedi a'r an- hawsderau, ac y maent yn awr yn perchen tair o ffermydd yn agos i'r brif dref, hefyd anifeiliaid ac offerynau. Y mae iddyn): i3eg o blant,-un yn Brydeineg a deuddeg yn Ar- chentinos, sef 8 o feibion a 5 o ferched, yr hynaf yn 29 oed a'r ieuengaf yn 9 oed. Aberthodd y rhieni lawei- ei- rliodcli addysg i'w plant, codent yn foreu a gweithient yn ddiwyd hyd yr hwyr. Wedi i'r plant orphen eu hysgol elfeuol, aberthasant lafur ac arian i'w rhoddi ar y fiordd i gael addysg uwch. Bu 4 yn yr Hen Wlad, 2 yn Bahia Blanca, a 2 yn Chubut, ac mae'r 5 eraill wedi cael, ac yn cael addysg yn Saesneg ac Hispanaeg yn y dref yn awr ac yn gorfod talu yn fisol am hyny. Mynychant y cyfarfodydd Sabbothol ac wythnosol yn nghapel y dref. Mae 6 o honynt yn aelodau o'r eglwys; hefyd bu 6 o'r meibion yn chwareu gyda'r seindorf sydd yu perthyn i'r eglwys; talant yn fisol am gael yr offerynau, ac os torant wrth eu cario yn ol ac yn mlaen i'w cartrefi rhaid talu am eu hadgyweirio talai aelodau y seindorf am de yn y dref er nnvyn bod mewn amser i chwareu cyn cwrdd y nos y tu allan i'r capel, a phan oeddwn yn beio ar y dull hwn o gy- meryd arian y bechgyu wrth Mrs. Morris un- waith, dywedai,—1" Tom bach, pan glywaf y band yn chwareu, a meddwl fod yr hen fech- gyn ni yno, byddaf yn cael rhyw cheer up ac yn teimlo fy mod yn cael gwerth yr arian maent yn wario lawer gwaith drosodd." Felly anwyl gyd-ieuengctid teimlais y pryd hyny y gwerth mae ein rhieni yn roddi ar ein hymdrechion cyhoeddus, a'r mwynhad maent yn ei gael wrth ein gweled a'n cly wed, Os na chafodd Mr. a Mrs. Morris gyrhaedc1 y Wladfa Gymreig yn Chubut, gwnaethant hwy ar Cymry eraill sydd ar ol yn Coronel Suarez gyrhaedd amcau yr ymfudiad i Pata- gonia, mi gredaf, gan eu bod drwy eu hym- drechion dros grefydd a'u harosiad yno wedi codi capetau i'r Arglwydd, ac wedi cael pre- gethwyr o'r Hen Wlad i'w cynorthwyo i gy- hoeddi Efengyl lachawdwriaeth i'r Argentiaid o-gylchoedd Coronel Suarez i Buenos Aires. Cafodd Mrs. Morris a 5 o'r plant y fraint o weled Chubut, sef y wlad i'r hon y CYChWYll- odd ei phriod pan wahanodd y tro cyntaf a'i wraig a'i ferch fach. Hefyd, y mae Eleazer Morris wedi cael gweled wyresi ac wyr bach wedi eu geni yn y Wladfa, sef plant el ferch. D37muuol genym fyddai gweled E. Morris ei hun yn ymweled a'r wlad y cychwynodd iddi pan adawodd wlad ei enedigaeth er ci mwyn. Bendithiodd yr Arglwydd Mrs. Morris a braint ddymunol pan ar wely;altgeu, casglodd y plant adref i gyd, a chawsant weinyddu ar eu mam He ysgwyd llaw a hi pan oedd yn ymadael a'r fuchedd hon. Do, aeth eu mam o'u golwg wedi ei choroni megis yn well nag ag aur, ie nag aur coeth lawer. Credwn iddi deimlo fel yr Apostol gynt pan y dywedodd: Mi a ymdrechais ymdrech deg mi a or- phenais fy ngyrfa." "Ei phlant a godant ac a'i galwant yn ddedwydd, ei gwr hefyd aca'i canmol hi, Llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oil. "Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylaw a chantnoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth." Darllenai lawer, ac os byddai rhywbeth a fyddai o fudd yn y dyfodol torai ef allan a cadwai ef yn ofalus. Syniai yn uchel am Chubut, am fod Cymry yma. Pan oedd ei mhcrch yn gadael am Chubut unwaith, dy-! wedai ei mham,—"Alice, cymerwch y daru- au hyn, yr ydych yn mynd yn awr i VJladfa Gymreig." Ac wrth eu darllen neithiwr syl- wais ei bod wedi rhoddi un peth hynod i'w mherch i'w gadw yn Chubut, a chan fy mod, Br. Gol. yn cymeradwyo y dull hwn o gadw pcthau buddiol ac hanesyddol, dymunaf ail godi rhan o hono o Seren Cymru am Hydref 14, 1898 :— "MRS. RACHEL MORRIS, CARNANT, CWMAMMAN Gorphenaf 2ofed, bu farw y chwaeruchod. Gwraig oedd yr ymadawedig i'r h off us frawd Ebenezer Morris, un o ddiaconiaid ffyddlon Bethesda, Glanaman, a merch ydoedd i Thos. Davies, Brown Hill, Cwmaman Ffarwel chwaer a huna'n dawel, Gwylied engyl Duw dy fedd Hyd y horen 'th adgyfodir, ¡ Ac y'th welir ar Ei wedd. Nawdd y Naf fo'n noddi 'th deulu, I Cwmni lesu fo eu rhan, Ysbryd Duw yn arwcinydd iddynt Yna nefoedd yn y man," Dymunwn ninnau ddatgan dymuniadau Seren Cymru i deulu y brawd hynaf i fod yn rhan i deulu'r brawd ieuengaf. Mae 'th le mor wag i'th blant yn siom, Ac felly i'th fabynghyfraith Tom. Cawn gwrdd rhyw ddydd yn deulu dei Pryd hyny derfydd dweud Farewell. O melus pan ddaw pen y daith— Fydd ysgwyd Haw heb ruddiau Haith. Gaimau, Chubut. -0 T. D. EVANS,
LLOfFION GAN ANDRONICUS. I
LLOfFION GAN ANDRONICUS. ——— CYMDEITHASFA GWRECSAM GAN UN OEDD YNO. Dywedyr awdwr wrth gyfeirio at y cyfar- fod ordeinio :—" Ymddiddanwyd a'r gwyr ieuaingc sydd i'w hordeinio. Yr oedd un ar bymtheg o honynt, ac yr oeddynt oil yn wyr ieuaingc dymuIlol iawn. Dywedasant eu profiadau yn syml a dirodres. Hohvyd hwynt am eu cred yn athrawiaethau yr Ef- engyl gan y Parch. T. Charles Williams, a gwnaeth ef y gwaith anodd hwn yn effeithiol a meistrolgar. Cafwyd eu bod oil yn iach yn y ffydd. Petrusai un ohonynt ateb ynghylch un neu ddwy o'r athrawiaethau, ond wedi ei holi yn fanylach cafwyd mai nid eu hangrhedu yr oedd, ond ofni rhoddi ateb a wnaeth am eu hystyr. Amheuwn a ellid cael mewn un- rhyw gyfundeb ym Mhrydain gynifer o wyr ieuaingc wedi cwblhau eu gyrfa athrofaol mor iach yn y ffydd. Mae hyn yn glod i Athrofa y Bala, a dylem ddiolch i'r Arglwydd fod ein hathrawon yn ffyddlon i'r ymddiried- aeth a rodcl-wyd iddynt." -0- Dywed y Parch. John Williams, Brynsien- cyn yn ei anerchiad ar "Arwyddion yr Am- serau Peth arall, meddai Mr. Wil- liams, y dylent feddwl am dano oedd dysg- eidiaeth; nid addysg yn unig, ond dysgeid- iaeth yr oes, lie yr oedd yr intellect, y deall, yn oruchel, yn pender.fynu, yn pwyso, yn chwalu, yn deol ac yn deall popeth. Yr oedd i'r deall ei le, ond yr oedd i bethau eraill eu lie hefyd. Yr oedd yn dda ganddo gael tyst- iolaethu fod Yf athrawol1 at eu gilydd, yn yr holl ysgolion hynny yn wyr o gymeriad, a llawer 0 liorlyiit yn gweithio yn ardderchog gyda'r gvvahanol achosion crefyddol. Hwyr- ach fod tuedd mewn rhai o'r athrawon, er eu bod yn ddynion moesol, i fod yn ddibris o bethau cysegredig-Dydd Duw, Llyfr Duw a Thy Dduw. Yr oedd yn meddwl y dylai yr eglwysi fad yn fyw iawn ar adegau neillduoll i ofalu fod y dynion anfonir ganddynt i'w cynrychioli ar gynghorau addysg yn ddyniori fyddcnt mewn cydymdeimlad a chrefydd y wlad, yn ogystal a'u bod mewn cydymdeim- lad 3g. addysg. I MUDIADAU CYMDEITHASOL. Perygl arall ynglyn ag ef ydoedd diffyg gostYDgeiddrwydd a gorchwyledd. Er y gellir dweyd llawer o bethau am dano, yr oedd gostyngeiddrwydd a pharchedigaeth yn mynd i lawr yn ei awyrgylch yr oedd parch y bobl hyn-yr oeddynt i'w cael yng Ngog- ledd Cymru,yr oedd eu parch i bethau cre- fyddol yn myned i lawr, a'u parch i'r Cvfun- deb y perthynant iddo yn mynd i lawr. Nid oeddynt yn gofalu am Cyfarfodydd Miso! nac yn hidio am y Sasiwn eu pethau eu hunain a fynnent hwy. Dylent dalu syiw mawr i'r pwnc hwn. Buasai yn dda ganddo pe gall- asent fforddio sefydlu cadairmewn economics yug Ngholeg y Bala, fel yr oecld mewn coleg- au eraill. Nid oeddynt i bregethu Socialism ond yr oeddynt i bregethu efengyl oedd yn cynnwys pobpeth gwerthfawr mewn Social- isnl. Un arall o arwyddion yr amserau, a drwg digymysg, oedd BYDOLRWYDD— ysbryd y byd, chwant y cnawd a chwant y Ilygaid, a balchder y bywyd"; awydd am bleser chwant am ymgyfoethoi, ac am ym- ddangos. Da fyddai gallu argyhoeddi pobl fod modd iddynt bechu wrth doefnydclio pethau cyfreithlon yn ormodol; pethau yr oedd eisieu edrych ar eu holau, ac yr oedd yn rhaid treulio llawer o amser i feddwl yn eu cyleii, ond yr oedd y pethan hynny yn myned yn bethau pechadurus os rhoddai dYl1 ormod o'i fryd arnynt. Bydolnvydd oedd y gelyn mawr heddyw. Yr oedd yn rhaid pregethu yn erbyn dylanwad y byd, ond rhaid gvvneud hynny yti ysbryd Crist; nid oedd o un diben dweyd y drefn am dano. Rhaid bod yn bur ysbrydol yn y pwlpud i yrru b3rdolrwydd ar ffo, a rhaid cael ADNEWYDDU YR AELWYDYDD. Yr oedd eu haelwydydd yn foesol ond yr oedd llawer o honynt heb fod yn grefyddol. Dangosid pryder enfavvr gan deuiu—ac yr oedd hYllllY yn iawn yn ei gylch-fod y bechgyn yn cael cychwyn yn iawn mewn bywyd a chael y galwedigaethau goreu posibl, ond ofnai weithiau mai dyna bryder uchaf yr aelwyd, ac fod hynny yn myned i esgyrn y plant, ac nad oedd digon o brydcr yn cael ei arddangos gyda golwg ar beryglon y galwed- igaethau y gosodid y bechgyn ynddynt. Yr oedd eisieu i hyn ddod ar eu haelwydydd ac i'r seiat. Yr oedd y seiat yn mynd i lawr; y byd yn mynd a bias cyfeiilach grefyddol ? Ie, ond yr oedd bai arnynt hwythau hefyd. Os na ddysgai y plant yn yr ysgol ddyddiol, er maint eu eiylii beid yr ysgolfeistr, ac yr oedd rhywbeth o'i le yn y cylch crefyddoL Credai y byddai y seiat yn bod tra byddai crefydd yn bod yng Nghymru, ond hwyrach y dylid ystyried a ellid gvvneud rhyw gyf- newidiadau ynglyn a hi, er ei gwneud yn fwy atdyniadol. Pe caent ysbryd y peth byw fc ddeuai; ond bydolrwydd oedd gelyn mawr nid bwystfilod rheibus, nid pechoclau anfad oedd yn eu handwyo heddyw, ond yr estron oedd yn bwyta eu cryfder heb yn wybod iddynt. Price.— Ebrill iaf, yn 37 rnlwydd oed, wedi dioddef cystudd hir a phoenus, Mr. William Price (Patagonia), yn Aberhonddu. Yr oedd ei dad a'i fam yn rhai o.ffyddloniaid yr achos ym Medlinog oddiar gychwyniad Methodistiaeth yno. Yr oedd William Price yn un o bedwar o blant, a pan fu farw en rhieni gwasgarwyd y plant. Aeth yr unig ferch Mary Ann, at ei hewythr, i Batagonia. Aeth Ben tua'r India, ond pan dorrodd y rhyfel bresennol allan, ymunodd a'r Expedi- tionary Force, ac y mae erbyn hyn yu Ganghellor i'r Llywodraeth hon yn German New Guinea. Efrydydd ar ei flwyddyn olaf yng Ngholeg y bala ydyw y mab ieuangaf, Watcyn, a dyfodol addawol o'i flaen. Cafodd