Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

:Qwareiddiad.

i Itaii a'r Rhyfel.i

Ir_, i Nodion Rhyfel.

News
Cite
Share

r_, Nodion Rhyfel. Yn y cylchoedd milwrol dywedir fod y Cydb!eidwyr yn barod i wneud ymosodiad cvftredinol yn Ffraingc a Belgium ar y gelyn er mwyn ysgafnhau y baich sydd yn pwyso ar y Rwsiaid yn Galicia. Dywedir fod y Cadfridogion Joffre a French elsioes wedi cytuno ynglyn a'r llinellau cyff- redinol ar ba rai y gwneir yr ymosodiad. Y mae'r Cydbleidwyr yn awr yn feddian- iiol ar luosocach byddin na'r Almaenwyr, ac y mae eu milwyr wedi eu harfogi yn dda, ac yn meddu cyflawnder o gad-ddarpariaeth. Ar gyrnhelliad Marshal Jatrre y mae "Cross of the Legion of Honour," wedi ei chyflwyno ar Wariieford, Is-swyddog Canadaidd, yr hwn ddinystriodc1 yr awyrlong Almaenaidd yn agos i Ghent rhyw bythefnos yn ol. Yn Nhy y Cyffredin ar Mehefin 9 cyhoedd- wyd gan y Prif Weinidog fod cyfanswm colledion y Prydeinwyr mewn clwyfedigion, lladdedigion, ar goll ac yn garcharorion er dechreu y rhyfel hyd Mai 31 yn 258,000. Wrth gyhoeddi fod Hong tanforol Almaen- aidd wedi ei suddo a'r dwylaw wedi eu dal, dywedodd Arglwydd y Morlys, Mr. Arthur Balfour, y byddai i ddwylaw y llongau tan- forol gael yr un driniaeth a charcharorion eraiil. Yn Antwerp gosodir hysbysiad i fyny yn mynegi i'r Belgiaid y galleut gael eu rhydd- freinio fel Almaenw}-r o fewn wyth awr a deugain. A'r un pryd ymddj'gir yn greulon at bawb sydd yn dangos unrhyw duedd i ffafrio eu gwlad eu hunain. Saethwyd 14 o dàynion yn Liege am eu bod yn dadleu dros, ac yn deyrngarol i'w gwlad. Y mae ymchwiliad swyddogol wedi ei wneud i'r amgylchiadau ynglyn a suddiad y Lusitania. Gwuaed yr ymchwiliad ar y i5fed o'r mis hwn, ac Arglwydd Mersey yn Uywyddu. Disgwylir cael y manylion yti lied fuan. Dywedir o Basle fod nifer fawr o'r Americ- aniaid yn gadael 3Tr Almaen oherwydd fod yn amhosibl aros yn fwy yno yn ngwyneb y teimladau gelynaethus amlygir tuag at yr Unol Dalaethau. Ymddengys nad oes yn awr ond ychydig o Americaniaid yn yr Almaen. Y mae newydduron Prydeinig yn ystyried ymddiswyddiad Mr. Bryan yn ddigwyddiad pwysig, ond nid fel un sydd yn debyg o ymyraetn a'r drafnidiaeth rhwng yr Unol Dalaethau a'r Almaen, na chymedroli y safle gadarn gymerir gan y Llywoaraeth Americ- an aidd dros wareiddiad. Dywed y Standard,—"Yr ydym eisioes wedi amlygu ein gobaith na fydd i'r Unol Dalaethau gael eithynu i'r rhyfel; ond y mae yn dyfod 3rii fwy anhawdd o hyd iddi allu cadw allan o honi." Dywedir mai Mr. Robert Lansing sydd i gymeryd lie Mr. Bryan. Y rheswm roddodd Mr. Bryan dros ei ymddiswyddiad yw, nas gallai arwyddo yr ail nodyn i'r Almaen heb fyned y n groes i'r hyny styriaiyn ddy ledswydd i'w wlad, sef, osgoi rhyfel. Y mae Signor Guglielmo Marconi, y trydan- wr (electrician) enwog, yr hwn sydd wedi ei alw i wasanaethu yn y fyddin Itaiaidd, wedi gadael Ffraingc trwy Paris ar ei ffordd i Itali. Y mae Mr. Asquith wedi bod ar ymweliacl a'r cadluoedd Prydeinig a Ffrengig yn Belgium a Ffraingc. Anerchwyd y milwyr gau y Prif Weinidog, a dywedodd wrthynt fod Prydain yn falch o'i mhilwyr. Cafodd dderbyniad brwdfrydig gan y milwyr. Yr oedd Llywoaraeth Itali yu cyfrif y byddai i 40 y cant o'i milwyr oedd heb fodyu y fyddin i atteb i'r a!wad, ond y mae'r ateb- iad yn mhell tu hwynt i bob disgwyliad, y mae yn 9° y cant o'r cyfanswm. Golyga hyn ychwanegiad mawr at ei byddin.