Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

:Qwareiddiad.

News
Cite
Share

Qwareiddiad. Os yw holl wledydd Ewrop yn euog o'r rhyfel bresenol, y mae gwareiddiad Ewrop mewn dirfawr berygl, a bygythir darostwng adirywio yr holl fyd trwy ddymchv\eliad sylfaeni crefydd, moesoldeb, a gwareiddiad. Y mae arweinwyr ein cenedl, ac arwein- wyr cenhedloedd eraill, er's blyuydr-au yn c1, wedi rhagweled a rhagfynegi y dirywiad ddatguddiwyd yn anterthei nerth ar faesydd Belgium. Erbyn hyn y mae pob gwlful o bwyr> yn cydsynio, ac yn cyd-dystioiaethu, mai yr Almaen, yn benaf, syddgyfrifol am -y fi-i fo l a n v 0, W iad, ydrygfoes, a'r aughristiaeth goleddwyd, feithrinwyd, ac a weithredwyd nes creu syndod ac arswyd trwy yr holl fyd. Bydd Hanesiaeth ar hyd yr oesau yn cyf- eirio ei bysat yr Ali-naeii ac yn dyweud yn bygly- wrtli fechgyn a genethod yr Ysgolion, wrth ddynion a merched ieuainc y Colegau, ac wrth bawb o ran hyny fel hyn, YrAJmaen oedd yn gyfrifol am y rhyfel dorodd allan yn Ewrop Awst 1914, ac am y creulonderau at blant, merched, a hen bobl yn Belgium, ac am ddinystrio trysorau ag y buasai ami i wlad llai ei dysg, llai ei breintiau, a llai ei honiadau erefyddol, yn eu harbed a hi suddodd y Lusitania llawn o fywydau diamddiffyn ar eu taith o New York i Liverpool. Er y cwbl clywir yr euog yn dadleu ei ryddid, ac yn dadleu ei lendid er gwaethaf pob goleuni a phob tystiolaeth i'w erbyn. Nid ydym ychwaith heb wybod fod eraill Uaceu crefydd, drwg eu moes, a phaganaidd eu syniadau yn dadleu fod diwylliant medd- yliol, heb ddiwyiliant ysbrydol, yn feddyg- iniacth i archoilion y cwymp: yn foddion i achub a gwareiddio y byd Nerth braich a nerth rheswm yw y [eddyginiaeth gynygiant i wareiddio, moesoli, a chrefyddoli yr hil ddynol. Megis yr oedd gynt yn hanes yr Aipht, Persia, Groeg, Rhufain, felly y mae yr awrhon—nerth braich, a nerth rheswm, heb nerth crefydd ysbrydol tu cefn, yn datguddio riiftyg moesoldeb. diffyg Crislionogaeth, a diffyg gwareiddiad. Pa beth oedd wrth wraidd cwymp yr Aipht, Persia, Groeg, Rhufain ? Onid dir- ywiad mewn crediniaeth grefyddol a delfryd- au moesol! Os yw credo grefyddol gwlad yn dirywio, y mae ei deifrydau moesol o angenrheidrwydd yn dirvwio, ac yna llithra gwlad wareiddiedig i fed yn wlad anwareidd- iedig. Cristionogaeth, ac nid diwylliant meddylioi, sydd yn cyfrif am wareiddiad uchelryw. Methodd materoliaeth, milwriaeth, angnred- iniaeth crefydc101 a moesol gad w gwareiddiad yrhen wledydd rhag dirywio, ac y mae wedi methu eto y dyddiau diweddaf hyn yn yr Almaen. Erbyn hyn fe welir fod y rhyfel bresenol yn anocheiadwy. Yr oedd i ddyfod yn hwyr neu hwyrach. Nis gallasai yr egwyddorion gronai yn mynwesau rhai arweinwyr gwleid- yddol, erefyddol, nthronyddol, milwrol, a gwyddonol ddim peidio torri allan mewn rhyfel a hyny mor naturiol ag y mae egwyddorion anghrediniol yn torri a!lan mewn amviredd, bywycl penrydd difoes a dibarch i bethau cysegredig. Nid yn unig y mae Hanesiaeth yn dysgu hyn i ni, ond y mae sylwadaeth yn ei ddysgu hefyd, ac nid yw yr hen air Lladin, Circums- pice (edrychwch o'cli hamgylch) wedi colli dim o'i rym ar ei ymdaith i lawr trwy y canrifoedd. Nid oes genym hanes un wlad yn parhau i esgyn ar bwys materoliaeth ac athroniaeth anghristionogoi. Mae safon foesol rhai o'r gwledydd, sydd yn rhyfela, wedi ei darostwng i safon foesol gwledydd, sydd yn rhyfela, wedi ei darostwng i safon foesol gwledydd paganaidd, a hyny trwy gredu fod pen goleu yn rhagori ar galon !an, ac fod milwriaeth i wnend gwell gwaith na Christionogaeth. Gydag ad dysg cuddiwyd, am dymhor lu o bechodau sydd wedi dyfod i'r ffrynt, er gwaethaf diwylliant meddyliol, ar faes y frwydr yn Belgium, ac y mae'r byd gwareidd- iedig a'i anadl yn ei ddwrn a'i galon yn curo yn gyflym ger bron yr olygfa. Y mae gwreiddiau gwareiddiad gwirionedd- ol yn y galon ac nid yn y pen, a ffurfir cym- deithas ymddiriedo! trwy rym teimladau ysbrydol ac nid trwy rym goleuni deallol. Os na fydd ysbryd gwiad neu berson unigol yn ei le, bydd i'r ysbryd hwnw ddefnyddio y deall i gynllunio a defnyddio offerynau dinystriol i fywyd naturiol, cymdeithasol, ac yshrydol y mae y rhyfel sydd ofewn ysbryd gwlad ,neu o fewn ysbryd yr unigol, yn sicr o dorri allan yn rhyfel cymdeithasol ac Eglwysig. Nid oes dim cliriach na bod delfrvd811 moesol rhai orr gwledydd, a dyweud y Heraf, yn gogwyddo at ddirywiatl. Tueddir i ddilyn goleuni rheswm (',ytiol yn hytrach na goieuni Dwyfol. YsbrydoHneth, a'r duedd hon a'i m'wyn ar ei gwar yn rhedeg yn wyllt sydd yn cyfrif am y' rhyfel a'r gweithredoedd arswyrilakh 0 r.nghrefyd?o!, anfoeFo', ?c aiivvaraKid..gyfLnV'nwyd ar doriad alLai y rhyf?l. E''m?r <da a pr?nnja! Y?r ?p?-.?r'?n'-?? gwyUod?ei.h, (ti?yihuut Y 111eÛUWI, g?'?- teithiad y deall, eto heb wir grefydd nis gallant wueud trefn ar ysbryd dyn gam- arweinir gan gau-dddysgeidiaeth. Dysgir ni gan Hanes fodyrAipht, B-abilon, Persia, Groeg, Rhufain wedi bod yn gartref gwybodncth, yn gartref milwriaeth enwog, yn gartref gwleidyddiaeth, ie, yu gartref crefydd ond llygru wnaethant a'u cwymp a fu fawr. Fel y dywed Cannon Farrar,—" Dilynwyd anffyddiaeth mewn credo, fel y mae bob amser yn digwydd yn mhlith pob cenedl, gan ddiry wiad moesol." Hanes cenedl yw hanes yr unigol, a dylid rhoddi rnwy o bwyslais ar hyn er mwyn yr ieuenctid. Ac meddai Hanesydd arall, Wedi colli y mer erefyddol; diflancdd mawredd y cenhedloedd o'r llywod- raethau hyn." Tybia rhai y gallant ddiystyru crefydd Crist a diystyru yr Eglwys filwriaethus, a chadw i fyny wareiddiad. Y mae eu tybiaeth yn anwareiddiedig ac yn cael ei gondemnio gan wledydd gwareiddiedig y gorphenol. Yr ydym yn darlien hanes Ymherawdwr yr Almaen yn yr hyn ddywed Baron Bunseu am yr hen Ymherodraethau. Fel hyn y dywed,—"Pan ganiataodd y Babiloniaid i dderbyn addoliad ei hunain yn He y duwiau safodd y Persiaid o flaen eu pyrth. Pan aeth Alexander i chwareu ei hun yn Dduw, yr oedd ei fywyd a'i Ymherodraeth wedi eu gweithu. Pan ganiataodd Domitan i cnw Duw gael ei gamddefnyddio, gosodwyd y fwyell ar wreiddyn yr ymerodraeth ar- dderchocaf yn hanes y byd."

i Itaii a'r Rhyfel.i

Ir_, i Nodion Rhyfel.