Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
BILLY SUNDAY.
BILLY SUNDAY. (Jeir ysgrif ar waith Billy Sunday gan Syl- vanus Stall, D.D., yn The Christian" am Ebrill 29diweddaf. Rhoddwn yma rydd- gyfieithiad o honi i'n darllenwyr. "CANLYNIAD DIWYGIAD PHILADELPHIA'' IGAN SYLVANUS STALL, D.D. Y mae canlyniadau pell-gyrhaeddol yr ymgyrch Efengylaidd o dan arweiniad y Parch. Billy Sunday yn dechreu dyfod i'r gplwg. Y mae Philadelphia heddyw yn ddinas wahanol i'r hyn ydoedd dri mis yn Y mae y cyfnewidiadau ag sydd wedi cymeryd lie yn grefyddol, gwladol, cym- deithasol, eyllidol, ac hefyd mewn Ilafur, yn gyfryw gyfnewidiadau ag syddyn perisyndod. Nid oes gyfrif i'w roddi am hyn ond trwy y gwaith Efengylaidd o dan arweiniad Mr. Sunday yn ystod yr un wythnos ar ddeg yn dechreu ar Ionawr 3 ac yn diweddu ar Mawrth 21. Nid fflam gyneuwyd gan Billy Sunday ddiftoddodd mor flip n a- y gadawodd efy lie, ond dechreuodd dan mawr ag sydd wedi gadaelyrholl ddinas a'r rhanau cyfagos o Pensylvania a New Jersey yn wenlffam. Pan adawodd ef y lie, nid oedd y diwygiad wedi darfod, ond mewn gwirionedd nid oedd ond prin wedi cychwyn. Gwelir effeithiau gwaith Mr. Sunday yn y eynydd wnaed mewn aelodau eglwysig, yn rhif aelodau y rjysgol Sabbothol, yn ydosbarth iadau Beiblaidd, yn y cyfarfodydd gvveddi, ac yn y gweithgarwch eglwysig. Y mae y cynydd i'r cyfeiriadau uchod yn destyn syndod i'r rhai oedd fwyaf hyderus am gyn- hauaf mawr a thoreithiog. Daeth 41,724 yn miaen at Mr. Sunday i dystio eu bod yn derbyn Crist, ac i arwyddo ar docynau eu henwau, enw eu preswylfod, ac enw yr eglwys y bwriadent ymuno a hi. Erbyn hyn y mae'n wybyddus fod yn ychwauegol at y rhif uchod nifer llawer mwy wediderbyn cyfnewidiad moesol ac ysbryd- ol yn nghysegr sancteidaiolaf eu calon eu hunain, a rhoddant yn awr amlygiad o hono trwy geisio am aelodaeth eglwysig. Daeth rhai o honynt o dan ddylanwad cenadwri Mr. Sunday er na chlywsant ef yn bersonol, end ) n unig trwyddarllen ei bregethau yn y Newydduron. CYFNEWIDIAD MAWR. Cyn i Mr. Sunday ddyfod i Philadelphia, yroeddyr holl eglwys dan ddylauwad deifiol a gwywedig difyrion poblogaidd; y ddawns, chwareu cardiau, chwareudai-y rhai hyn oedd wedi trawsfeddiannu lie yr allor deulu- aidd, y cyfarfod gweddi, a'r gyfeillach eglwys- ig. Yr oedd gan bregethwyr ofn, neu o. leiaf methant yn ciieithiol a chondemnio drygau a;phechodau ag oedd nid yn uuig yn cuddio ond yn difodl llinellau ag sydd yn gwahanu yr Eglwys oddiwrth y byd. Yr oedd y pulpud wedi colli i fesur helaeth ei hen ddylanwad a'i nerth. Yroedd y wasg gyhoeddus n id yn ullig yn ddIfatcr o berthyn- as i faterion crefyddol, ond yr oedd i raddau helaeth yn diystyru yr Eglwys, a'r ddiod feddwol yn hcrio dylanwad yr Eglwys. Y mae y cyfnewidiad sydd wedi ei wneud gan Mr. Sunday a'r Ymgyrch Efengylaidd yn Philadelphia yn nodedig os nad rhyfeddoL Y mae'r farn gyhoeddus wedi ei chwyldroi yn hollol; y mae'r Eglwys wedi dychwelyd at ei heiddo ei hun. Cynhelir yn awr lawer o gyfarfodydd gweddio mewn ystordai, llaw- weithfeydd, swyddfeydd, tai preifat, ysgolion, ac ugeiniau o leoedd eraill nad oedd hyn arferol a chymeryd lie ynddynt. Yn lie diystyru yr Eglwys a chrefydd, y mae prif newydduron dyddiol y ddinas yn gorfod cyd- nabod a rhoddi llawer o'u gofod i faterion crefyddol a cynnullfaol. DIRGELWCH Y LLWYDDIANT. Un o brif elfenau llwyddiant gwaith Mr. Sunday yw ei grediniaeth ddiamheuol yn ysprydoliaeth y Beibl. Y mae yn derbyn y Beibl fel liyfr Duw o glawr i glawr. Iddo ef y mae'r Beibl oil yu wirionedd, neu nid oes dim o hono yn wirionedd. Yn ddiweddar pan ofynwyd iddo i ba beth y rhoddai gyfrif am ei Iwyddiant, dywedodd Mr. Sunday wrth y gohebydd ofynodd hyiiy: "Yr ydych chwi, bob], bob amser yn cymeryd gafael yn ben chwith y rhaft. Yr ydych bob amser yn edrych am ryw eglurliiadlleiieidecrol" I neu "athronyddol" i'r hyn sydd mor syml a'r A. B. C. Gellwch athronyddu hyd nes i chwi dduo yn eich gWY'D.b¡O¡ll(rnisgelhvchgael unrhyw reswm am dano ond yn unig mai yr Arglwydd yw yr unig > achos ojhono. Y mae, Duw yn symud yn nerthol ar galonnau y bob!. Nis gellwch dd^all y petit hwn os gadewch Dduw allan. Nid y fi, ond y genadwri sydd tu cefn i mi sydd yn gwneud y gwaith. Yr wyf yn ffyddlon i'rgenadwri hono ac i'r Arglwydd ag sydd yn ei rhoddi i mi. Yr wyf wedi cadw yn glir oddiwrth yr holl heresiau a'r gau athrawiaethan ag sydd wedi codi i fyny. Yr wyf wedi torri bob amser yn syth i linell Gair Duw. Yr wyfyn pregethu yn ffvddlon i Ysbryd Duw; dyna'r oil." at
I TAMEIDIA ODDIAR WAttANOL,…
TAMEIDIA ODDIAR WAttANOL FYRDBAU. "Yr achos o'r rhyfel yw, yr wyf yn credu, fod Crefydd Crist wedi eaellIe bychan lawn yn; Germani yn y ganrif neu ganrif a haner ddiweddaf. Neu ag arfer, gair y tadau— Anffyddiaeth Germani." "Beth am grefydd yn Germani ? Isel yw crefydd yn Germani, oherwydd isel iawn yw duwinyddiaeth yno. Hoftvvn i rywun yn rhywle cllwi duwinydd ymddiriedol yn Ger- mani yn y ganrif neu y ganrif a haner ddiweddaf. -0- "Ypump duwinydd Germanaidd mwyaf adnabyddus, hwyrach, yw Schleiermacher, Tholuck, Dorner, Ritschl, a Harnach. Gwrth odai Schleiermacher y Beibl fel safon. Cymysgfa oeddei gyfundraeth o dduwinydd- iaeth wael ac o athroniaeth bwdr. Universaiistyn dal Second Probation oedd Dorner. Dyma Harnack yn gwadu fod llyfr y Dadguddiad yn ganonaidd, a llu o heresiau eraill. Os oedd duwinyddion y wlad fel hyn, beth am eraill?" -0- Y mae y dyn nad yvv yn raeddu rhinwedd ei hunan yn cenfigenu wrth rinwedd mewn eraill, a'r neb sydd yn anobeithio cyrhaedd rhinwedd un arall a geisia ddyfod yn gyd- wastad ag ef trwy iselu ei Iwyddiant. -0. Y maeyn y natur ddynol yn gyffredin fwy o'rynfyd nag o'r doeth; acam hyny y doniau hyny sydd yn eff-eithio ar-y rhan ynfyd o feddyliau dynion, yw y rhai mwyaf gryrnus. -0-' Yn ddiau, i ddynion: o farn gref, y mae dynion digywilydd yn ddigrifi cdrych arnynt, ac hyd yn nod i'r werin, hefyd, y mae hyfdra braidd yn destyn chwerthin: canys os yw ftolineb yn destyn chwerthin, ni raid amheu mai anaml y ceir llawer o hyfdra heb ryw- faint o ffolineb. -0- i Y mae y brenin a osoda ar werth orsedd- feinciau barnyn gorthrymu y bobl, am ei fod yn dysgu i'w farnwyr werthu cyfiawnder; a phan brynir gweinyddiad barn am arian, I fe'i gwerthir hefyd am arian. --0- Nid oes eydraddoldeb i fod mewn gwy- bodaeth mwy nag mewn cyfoeth. "Yn mhob gwlad y megir glew"; a dylai hwinv, pa le bynag y megir ef, gael eyfle teg i ddangos a defnyddio ei athrylith. Y mae un dyno athrylith yn werth milo benbyliaid. Er mwyn y cyfryw, ac er mwyn y lies a ddaw oddiwrthynt i'ch gwlad, deftrowch i godi ysgolion ieithyddol. Os na ddygir yr ieuenctyd weithiau i gyfFyrddiad a dynion mwy gwybodus na hwy eu hunain, nid yw yn gofyn dirnadaeth gref i ganfod: yr diit yn fuan i dybied eu bod yn gwybod y cwbJ. Os na chodir safon dysgeidiaeth yn uwch yn ngolwg y wlad, ein cred yw, y bydd yr oes nesaf yn geuedl o ddynion mwy hunanol ac arwynebol nag un a welwyd er pan amcanwyd adeiladu t-&r Babel. —— > <——
Nodion Rhyfel.
Nodion Rhyfel. Dengys ffigyrau swyddogol fod colledion yr Awstraliaid sydd yn ymladd yn erbyn Twrci Yll 376 wedi eu lladd a 3,047 wedi eu clwyfo. Y mae miloedd o'r Italiaid yn Llundain yn disgwyl am gael eu gaiw i faes y frwydr, y maent yn lla,vvn b*vvdfrydedd dros eu gwlad a thros ryddid y gwledydd. Gorymdeithiant flaen yr Argenhadaeth Itaiaidd. Dywed gwifref o Tenedos fod amryw o filwyr Groegaidd ar fyrder i gael eu glanio ar lanau y Dardanelles. Y mae dros ddwy fil owirfoddolwyr. Groegaidd wedi gofyn am géeleu rhestru y.n gadluoedd y Cydbleidvvyri Bu agos i'r Kaiser a'i warchlu golli ei bywydaU tra yh gwylio y gweithrediadau yn agos i afon San. Dywed gwifreb o Buda- pest fod ffrwydbelen fawr wedi disgyn heb fod yn mhell oddi wrthynt gan niweidio amryw o gerbydau modur gan gynwys un y Kaiser. Gadawodd y Kaiser a'i gwmni y lie yn ddioedr Y mae nodyn swyddogol wedi ei gyhoeddi y caniatteir, tra y bydd i'r rhyfel barhiau, i wirfoddolwyr i fyny i ddeugain oed ymuno a'r fyddin Brydeinig. Dywed gwifrebau o Rotterdam for yr AI-: maenwyr yn parottoii ymosod eto yu Bel- gium ac fod byddinoedd y cydbleidwyr yn barod iddynt. Y mae deg o Awstriaid wedi eu cymeryd i'r ddalfa yn Smith Falls Canada gan yr awdurdodau milwrol ar yr amheuaeth o fwriad i ddinystrio pont rheilffordd Ogleddol Canada yii Smith Falls. Yn Guildhall Llundain cynhaliwyd cyfarfod mawr er rhoddi mynegiad cyhoeddus i'r teimlad o ddioichgarwch am y cynorthwy sylweddol ddrbynir gan y Trefedigaethau. Anerchwyd y cyfarfod gan y Prif Weinidog a chan Arweinydd yr Wrthblaid, a gwnaed cyfeiriadau arbenig at y dewrder ddangoswyd gan y Canadiaid yn Ffraingc, a chan yr Aws- traliaid Ar-orynys Gallipoli. Dywedir fod y Kaiser yn myned i Inns- bruck gyda'r bwriad o gymeryd arweiniad y rhyfelawd yn erbyn Itali; hefyddywedfrfod nifer rnawr o filwyr Bavaria wedi eu hanfon yn uniopgyrchol i Trient. Hysbysir o New York fod dau gwmni perthynol i fasnach glo yn Philadelphia wedi derbyn archeb oddiwrth y Llywodraeth Itai- aidd am 200,000 tunell o'r glo llosaidd, a hwnw i'w anfon yn ddioed. Ganwyd brenin Itali yn y flwyddyn 1869, ac y mae yn 46 mlwydd oed. Mab ydyw i'r diweddar Frenin Humbert a'r Frenhines Mar- gherita o Savoy, Y mae yn awr yn ei bym- thegfed flwyddyn o'i deyrnasiad, gan iddo ddilyn y brenin Humbert yr hwn lofrudd- iwyd yn y flwyddyn 1900. Priodwyd ef yn y flwyddyn 1896 gyda'r Dywysoges Elena, merch Tywysog Nicholas Montenegro, yr hwn sydd erbyn hyn yn frenin Montenegro. Y mae Victor Etnmanner III, brenin presenol Itali yn hynod boblogaidd.
———? ??? <——— MRS. STONER…
——— ? ??? <——— MRS. STONER and HER PRODIGY DAUGHTER. New York, April 21.—Winnifred Sackville Stoner, the twelve-year-old daughter of James Buchanan Stoner, because of her remarkable mentatattainments and physical development has attracted much attention from educators and scientists. Here are some of the ac- complish men ts of th is wonderful twelve-year- old girl: Reads, writes and speaks eight languages. Has written French verse, a suffrage book entitled, "A plea to Gallant Knights," and magazine and newspaper short stories, having begun this work in her fifth year. Taught a class in Esperanto at the Carnegie institute in Pittsburgh. Made the first translation of "Mother Goose" rhymes into Esperanto. Has memorized several of Cicero's orations and parts of Horace, Livy, Sailust and Caesar. Plays the piano, violin guitar and mandolin. Illustrates her own writings. Can swim, cook, row, drive an auto, box, ride a horse and play baseball.
Family Notices
MARW. Dydd Llun diweddaf yn Mynwent Moriah daearwyd corph plentyn bach dau fis oed i'r Bonwr a'r Fones Joseph Jones, Pont yr Hendre. Cymerwyd rhan yn ygwasanaeth crefyddol yn y ty ac ar lan y bedd gan R. R. Jones, Trelew, a'r Bonwr Meurig Hughes. Cydymdeimhr a'r teuiu yn en profedigaeth a bydded iddynt gofio geiriau cysurlawn y Gwaredwr,— "Gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch iddynt canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw."