Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Gair Bach o Qoffa.I
Gair Bach o Qoffa. I Wedi'r mawr ingoedd dyrwymir angau, A Duw mewn anterth fed y mynwentau 0 glai'r du lenyrch i'w glaer ydlanau, Mae ysgub addas yn mysg y beddau A digon i'n calonau—yw'r syniad Daw Adgyfodiad wedi gofidiau. DYFED. Fe ddywedwyd ar lan bedd y garedig a'r grefyddol Mrs. Griffiths, mai ei gweddiilion hi oedd y cyntaf i'w hebrwiicr, o'l chartref'cl yd yu ystod y cyfnod inaith o dair blynedd a deugain,—cyfnod bywyd priodasol W. T. Griffiths a'r ddiweddar Mrs. Griffiths. Ond er cael oes o heulwen a gwynt teg i fyw yn gysurus, a chodi lion aid ty o blant, mae amser wrth ei waith o hyd," a'r tad a'r fam bob yn dipyn yn cael eu gwthio ar "oriwaer- ed einioes lithrig." Eithriad fawr yn hanes teuluoedd ydyw yr uchod am deulu y cyfaill W. T. Griffiths. Cawn deuluoedd eraill, prin y mae un don wedi lIonyddu, na fydd un arall yn canlyn, a chyn bod un archoll wedi agos iachau, dyna un arall yn cael ei agor, a chyn bod y grudd- iau wedi sychu dyna y rhed-welyau etto i'r ymyl o ddagrau. Gyda chydymdeimlad dwys y dymunaf ddweud, mai felly y mae hi wedi bod i radd- au pell yn nheulu Mr. a Mrs. Thomas, Fron Goch. Ym mhen ystod o bedair blynedd, y mae tri—a'r tri ieuengaf wedi eu cymeryd oddiwrthynt i fod yn rhai o breswylwyr y wlad ogoneddus sydd fry." Teimlaf awydd i wneud ychydig sylwadau arnynt, er fod y gorchwyl yn un pruddaidd i mi, gan obeithio os deuant o flaen llygaid plant a rhieni y lie yma, y gwiiant les i ddeffroi y rhieni hyny ag sydd yn ddifater o ddyfodol ysbrydol y rhai anwyl sydd dan eu gofal, i roddi iddynt y syniad a'r esiampl o barch i Dduw a'i Fab Ef lesu Grist, a cheisio argraphu ar eu meddyl- iau tyner y dueddfryd o addoli a gwasan- aethu yrHwn a roddodd ei hun yn bridwerth drostynt. Gwasanaeth cywir a ftyddloudeb di-ildio sydd yn cyfrif yma yn y byd a'r bywyd hwu, a'r un egwyddor yng ngwasan- aeth y Meistr sydd yn cyfrif yn ein ffafr y tu hwut i'r lien. Dyma'r dosbarth y teimlir colled ar eu hoi, a bylchau heb foq yn hawdd eu cau, fel y dywedai Mr. Williams, Erw Fair ar lan bedd yr ieuaingc hyn. Geneth ieuangc ragorol ym mhob ystyr ydoedd DINAH, yr hon ddaearwyd pedair blynedd i'r cyntaf o Fehefin, yn 16 mlwydd oed. Yr oedd yu eneth ddwys, fyfrgar, dar- llenai lawer er casglu gwybodaeth mewn gwahanol feusydd, ond yn benaf darllenai a chwiliai y Trysorau anchwiliadwy a gyn- wysir yn y Gair erbyn y Sabboth, i fod yn byddysg yn y maes llafur erbyn yr Ysgol. Drwy fod yu ymroddgar a Hafurus y gallodd enill y llawryf dair blynedd yn olynol yn Arholjad Blynyddol M.C. y Wladfa," ac yn sicr, nid trwy ddifaterwch a gwamalrwydd y mae cyrhaedd y gamp uchel hon, ond trwy ymdrech a dyfalbarhad, pan y mae lluaws craill o'r un dosbarth yn ymgeisio am yr an- rhydedd. Ond er tyned ei gafael yn y peth- au gwerthfawr hyn, a thyned serch ac edmyg- edd mynychwyr y capiel a'i theulu ynddi hithauK gwelwyd arwyddion dadfeiliad, a bu am tua blwyddyn yn myned i lawr o ris i ris, a hyny gyda'r ysbryd tawelaf yn bosibl o dan effeithiau y darfodedigaeth.
[No title]
Dechreu Chwefror diweddaf, gorfu arnom ymadael a'r brydferth, serchog ac anwylj TYDFiL. Bu ei thad a hi ddwy waith yn y British Hospital, B. A., a bu o dan law-fedd- ygiaeth yno bob tro,—yr oedd tubercolosis wedi cydio yn ei phen glin. Wedi yr opera- tion cyntaf, yr hon oedd glanhau ei phenglin ynghyd a llifio ysglodyn bychan o'r asgwrn y tu isaf, yr hwn oedd' yn dechreu mallu. Wedi bod yno am tua dau fis daethant adref yn galouog, athybiem yn sicr wrth ei gweled mor lion, ei bod wedi cael gwellhad llwyr, ond er ein mawr siomiant, ym mhen ychydig fisoedd, gwaethygodd a bu rhaid myned a hi i B. A. drachefn, a'r tro hwn digymalwyd ei choes yu y cymal uchaf. Ar ol bod dan y driniaeth drom hon, ysgrifenodd lythyr gar- tref yn mhen deuddydd. Ychydig ddyddiau cyn cychwyn adref aeth ei thad at Dr. 01 Conner a gofynodd, os oedd hi allan o berygl yn awr, "gobeithio ei bod," meddai, ond y mae yn bosibl iddo daro mewn He arall ac felly fu, cafodd y ddyrnod olaf, a dioddefodd ef yn dawel a dirwgnach hyd ei hauadliad olaf,-gweiial hyd y diwedd, a'r peth olaf ddaeth dros ei gwefusau caruaidd oedd, "O N'ewythr gweddiwch drosto i." Yr oedd TYDFIL yn naturiol Ion ei hvsbrvd. yn tueddu at fod yn ffraeth, yn hoffi wit a joke. Darllenai lawer, ac yr oedd ganddi gof anghvffredin, cipiodd wobrwyon yn y Cwm ac yn Treorci. Nid yn ami y ca yr hen ddaear yma i'w mynwes weddillion geneth anwylach na'r hyn a adawyd gan TYDFIL. Kit
[No title]
Fis yn ol tarawyd EIRIG yn wael, gan anwyd i ddechreu, aeth o ddrwg i waeth, a'r meddygon yn methu rhoddi attalfa ar e; afiechyd o gwbl. Cafodd fis ogystudd poen- us a chaled, ac er pob ymdrech mewn gwa, hanol foddau, bu rhaid gollwng gafael, acefe yn 14 mlwydd oed. Yr oedd yn fachgen bach hynod o gymdeithasgar, diwyd a gofal- us. Perchid ef yn fawr gan blant yr vsgol ddyddiol, edrychid amo fel "Apostol hedd- wch gan blant ysgol ddyddiol Treorci, gan pan godai rhyw anghydwelediad a therfysg, trwy gyfryngdod EIRIG y deuai pethau i'w lie, ac fe'i perchid gan rai mewn oed. Un diwrnod gwelai ei fam Mr. Williams, Erw Fair yn dod at y ty, ac aeth i'r ystafell at EIRIG, a dywedodd wrtho fod Mr. Williams yn dod, "Yn wir mam," meddai, mae'n rhaid mod i yn rhywun pwysig, fod Mr. Williams yn dod i edrych am danaf mor i aml." I Onid yw y bechgyn bach a'rmerched bach sy'n hoff or capel yn bwysig ynein golwg ni mewn gwirionedd ? Ydynt, hwy yw yr etifeddiaeth ddaearol fwyaf a feddwn. Gwyl- iwn drostynt, aberthwn erddynt; y ni sydd mewn oed sydd gyfrifol i raddau pell beth fydd cyflwr moesol a chrefyddol y diriogaeth hon yr oes nesaf. Rhoddwyd ei gorph i orwedd ym medd ei daid yng nghladdfa y Gaiman, tra y mae gweddillion DINAH ar y ddehau, gweddiilion TYDFIL ar yr aswy i'w thaid, a'r Fonesig AGNES JONES, Lletty Myrddin ar aswy TYDFIL. Heddwch i'w llwch hyd foreu'r deftro mawr. Eu HEWYTHR TOMOS. ————— ? flà
| Y Gymanfa Ddirwestol.I
| Y Gymanfa Ddirwestol. I CYFARFOD YR IIWYR.—Wedi can U emyu arweiniwyd mewn gweddi gau y brawd Ben Lewis, Trelew. Yr oedd arwcinyddiaeth y cyfarfod hwn yn Haw ddeheuig Mr. J. Foulkes Bryn Crwn, ac aeth drwy ei waith yn hwyl- iog dros ben. Yr oedd ei fan ystraeon yn ddifyr ac adeiladol,tynai wersi ac addysg- iadau byw oddiwrthynt. Yn dilyn ychydig sylwadau rhagarWeiniol gau yr arweinydd, aed drwy y rhaglen a ganlyn Can, "Ben- dithiaist goed y ineusydd," Mr. Rt. Hughes; anerchiad, Mr. Richard Williams, Trelew, cymerodd olwg eang ar ddirwest, ac ymdrin- iodd yn dda a'r pwnc. (Onid da fyddai gofyn iddo gyhoeddi ei anerchiad ?); deuawd, "Trowch yn ol," Mair ac Aeron Griffiths; Anerchiad gan Mr. Edward Arnold, ac yutau yn rhedeg ar yr nn llinellau a'i brawd R. W. yn ei anerchiad, gau apelio yn daer ?t y bobl ieuanc i yragadw o lwybrau'r ddiod. Canodd Mr. Arnold ychydig o beaillion ar ol ei au- erchiad. Can, Gawn ni gwrdd yu y nef," Mrs. J. Pritchard adroddiad, "Y Meddwyn" (J. B. Gough), Miss Emig Jones; datganiad, Dirwest a Flodeua," Parti Mr. W. O. Evans; adroddiad, Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch," Mrs. Owen Charles Owen deuawd, Mae'r adarbach yn canu," Mair ac Aeron Griffiths; can, Y delyn aur," Mrs. J. Pritchard. Darllenodd yr Ysgrifenydd adlun o'r hyn anfonodd y Pwyllgor Cyffred- inol at y gwahanol Gynghorau Lledrol,— Rawson, Trelew a'r Gaiman a chynygiodd i sylw y cyfarfod yr hyn a ganlyn,—" Ein bod yn anfon ein diolch a'n cymeradwyaeth i Dr. Palacios am ei fesurau bendithfawr,— Deddfau'r Diottai, a.Ch,-idwrpeth y Sabbath, ac ar yr un pryd, yn gofyn iddo arfer ei ddy- lanwad er iddynt gael eu cario allan." Cefn- ogwyd gan Mr. Daniel R. Evans, a phasiwyd gydag unfrydedd mawr. Gwnaeth rhai fu'n adrodd a chanu eu gwaith yn rhagorol. Drwg genym i enw y gantores swynol Miss Lizzie Williams gael ei adael allan, drwy anghof, I o'r rhaglen; colled fawr i ni oedd hyny, oblegyd y mae Lizzie yn gallu canu yn chwaethus ac effeithiol bob amser. Yr oedd cynhulleidfa lond y capel newydd -Bethel, gvvranclawiad astud, a neb yn aflon- yddu y tu allan. Hir y parhao dylanwad dyrchafol y Gymabfa Ddirwestol hon ar ein Gw Jadfa.- GOHEBYDD.
Y Gymanfa Ddirwestol.
Y Gymanfa Ddirwestol. Ychydig wythnosau yn ol cyfeiriasom at 'Jubili y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru" yan y Parch. John Thomas, D. D., LiverpooL Hywedwyd am dani,- "Nis gall darlleniad y gyfrol amserol a thragwerthfawr hon lai nag ail-enyn yn gryfach y tan Dirwestol mewn mynwesau ag oedd ynddynt o'r blaen, a'i gyneu o'r newydd mewn rhai nad ydynt yn ddirwestwyr eisioes." Gallwn ninnau ddy- weud nas gall y Gymanfa Ddirwestol dcli- weddaf lai nag ail-enyn yn gryfach y tan Dirwestol mewn mynwesau ag oedd ynddynt o'r blaen, a'i gyneu o'r newydd mewn rhai nad ydynt yn ddirwestwyr eisoes. Dyddorol iawn fuasai cael hanes y mudiad Dirwestol yn ein plith er cychwyniad y Wladfa. Nid yw hyn i'w gael yn Hanes y Wladfa gan y Parch. A. Mathews, nac ych- waith gan Mr Lewis Jones. Pwy fydd mor garedig a rhoddi ysgrifau neu ysgrif ar hyn yn y DRAFOD? Dywed y Parch. A. Mathews fel hyn,—"Y mae genym ein hundebau yn nglyn a'n hys- golion canu, ein cyfarfodydd llenyddoI, ein cymdeithasau dirwestol a diwylliadol, a'n heisteddfodau lleol a chyffredinol. Ac yn llyfr Mr. Lewis Jones ceir y dyfyniad canlynol o eiriau y Parch. A. Mathews,— "Bwriadaf alw sylw at dri pheth ag y mae o bwys i'r WIadfa fod yn glir a diddadl yn eu cylch, sef Priodas, Sabbath, a Sobrivydd." Gwyddom fod Gobeithluoedd er's llavver blwyddyn ynglyn a rhai o eglwysi y Wladfa, a phobl ieuainc yn feibion a merched wedi bod yn hynod weithgar gyda hwynt. Credu yr ydym mai yn ngofal ein pobl ieuainc yn benaf y dylai ein Gobeithluoedd fod a hyny gyda chydweithrediad a chefnogaeth rhai hyn. Cwynirgan rai nad ywyr eglwysi yn rhoddi gwaith i'n pobl ieuainc gydag achos crefydd. Dyma faes rhagorol i ieuengctyd ein heglwysi weithio ynddo yn y Wladfa fel y gwna ieu- eugctid Cymru yno. Tybia Ilawer mai y gweinidog neu y blaenoriaid sydd i wneud pob gwaith bach a mawr yu yr Eglwys. Dyna un o'r camgymeriadau mwyaf all eg- lwysi wneud. Un gwaith arbenig o eiddo'r gweinidog a'r blaenoriaid yw codi gweithwyr mewn-eglvvys, ac nid gwueud pob peth eu hunain. Bydded i bobl ieuainc holl eglwysi y Wiadfa yinuno a'r achos Dirwestol athrwy gydsyniad y swyddogion ffurfio Gobeithlu ynglyn a'r eglwys y perthynent iddi os nad oes un eisioes mewn bod yno. Byddai i hyn gynyrchu dyddordeb yn y Gymanfa Ddirwestol. Agos i ddwy flynedd yn ol cafwyd trafod- aeth ar y priodoldeb o gael Cymanfa Ddir- westol flynyddol. Yn ystod y drafodaeth cynygiodd y/Br. Elias Owen ein bod yn cae! Cymanfa Ddirwestol perthynol i holl Eglwysi y Wladfa, acy mae'n Olmlwg erbyn hyn ei fod wedi cael gweledigaeth eglur ynglyn a'r sy mudiad. Ychydig dros flwyddyn yn ol cafwyd Cym- anfa Ddirwestol ag y buasai ami i ranbartli yu Nghymru yn falch o honi. Ac yr oedd y Gymanfa ddiweddaf yn rhagori ar y gyntaf mewn poblogrwydd a brwdfrydedd. Gobeithioyn fawr yr ydym fod y Gymanfa Ddirwestol wedi dyfod, nid ar ymvveliad a'n Dyfifryn, ond i aros ynddo ac i gynyddu fwy fivy mewn grym a dylanwad flwyddyn nr ol blwyddyn. Tybed na ellid trefnu i gael dwy Gymanfa mewn blwyddyn, un yn Gaiman a'r Hall yn Trelew. Pe gwnelai yr eglwysi gasgliad neu ddau mewn blwyddyn tuag at dreuliau y Gymanfa gellid cael tren rhad i ddyfod o Trelew i Gymanfa Gaiman, ac p Gaiman i Gymanfa Trelew. Yn ddiau ein bod yn teimlo yn ddiolchgar i'r ysgrifenydd, y Br. M. Ph. Jones, am ei lafur a'i Iwyddiant ynglyn a'r Gymanfa. DIRWEST. "Mae haul cyfamod gras Yu codi'u uvvch bob dydd; A rhoddigoleu mae Ar bethau oedd yu nghudd Yn ngoieu hwn fe gawsom ni, Ddirwestwyr dewr, ein Jiwbilee."
Advertising
Cynhelir Cyngherdd yn y Gaiman, nos Wener, Mehefin 25ain. MANYLION I DDILYN. Y PWYLLGOR.