Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
C. 7VL C. Telir$11,00 y can cilo am Wenith o'r dosbarth goreu, dros- glwyddir yn ystod y mis hwn. Joseph Jones, Trelew, Arolygydd. Mal 18, 1915.
Remate Judicial.
Remate Judicial. Por disposition del Senor juez Letrado del Territorio, doctor Luis Navarro Carreaga, se. cretaria del que suscribe, se avisa por el ter- mino de quince dias que el martillero publi- co, don Edmundo Bartels, ha sido nombrado para vender en subasta publica, y al mejor postor, los bienes sucesorios de don Osi Ra- mon, el domingo 6 de Tunio, a las 3 p. m. en el local del Juzgado Letrado y que se compo- nen de 230 animates lanares, 6 yeguarizos, 12 chapas de zinc, un recado y un poncho, los que se encuentran en Paso de Jos Iudios, doude deberd retirarlos el comprador. La venta sera al contado, como asi mismo la co- misidn del 4 0/0 por cuenta del comprador. Rawson, Mayo 19, 1915. OSCAR RICHELET. Secretario.
Advertising
Eisteddfod Gadeinol y Wladfa. A GYNHELI R YN TRELEW, Hydref 21 a'r 22, 1915. PRIF DRAETHAWD.—"Diwydianau priodol i'r Wladfa." PRYDDKST (heb fed dan ddau can' ilinell), "Yr Andes." BRIF GYSTADLEUAETH GORAWL a Llais y Gwanwyn," (J. H. ROBERTS, Mus. Bac.) COR MEIBION, Nyni yw'r meibion cerddg-ar." (GWILYH GWENT). Y PWYLLGOR. TIt
- - -I V RHYFEL.I
V RHYFEL. I —————— Newyddion gyda'r Pellebr. I (HAVAS AGENCY.) Mai 20, 21. PETROGRAD, Swyddogol.—Yn Fyragolayr ydym wedi cymeryd safleoedd pwysig, mryw g'archarorion, a gynau (machine guns). Yn Opati yr ydym wedi gyrru yn ol y gelyn gyda cholledion trymion. Yrydym yn cadw yr holl safleoedd o amgylch Jaro- slaf, ac wedi gwrthguro ymosodiadau ffyrnig rhwng Przemysl a'r Dneister. Yn -Kolomena cymerasom nifer fawr o g'archar- orion a swm gwerthfa wr o yspai!. RHUFAIN.—Y mae Llyfr Glas y Llywod- raeth sydd newydd ei gyhoeddi yn dyweud fod Awstria, ar Ebrill 5, wedi cael gofyn iddi gydsynio a cymesuriadau y terfynau ar y ffiniau Dwyreiniol, rhoddi i fyny Tren- tino, Malborghetto, Goritzia, Gradisca, Monfalcone a Nabresina, a rhai ynysoedd ar gost Dalinatia; fod Trieste a Capo d' Istria i gael ei gwneud yn dalaeth annibynol; fod Awstria i roddi i fyny pob cysylltiad pellach ag amgylchiadau Albania, i gyd- nabod llywodraethiad Itali ar Valona. Darfu i Awstria wrthod bron bob un o'r ceisiadau. Ar Ebrill 25 darfu i'r teyrngenad Iialaidd yn Vienna, Count Avarna, bellebru nad oedd Awstria yn credu mewn rhyfel, end mewn cytundeb ansylweddoledig ac felly fod Itali yn cadw ei hawl o ryddid hollol i weithredu, a dywedodd fod y cytundeb Awstro-Hungari yn ddifudd, ac aneffeithiol. LLUNDAIN.- Y mae safle'r Prydeinwyr a'r Ffrancod yn y Dardanelles yn gwella yn ddyddiol. Y mae llong tanforol Almaenaidd wedi suddo dwy long fechan Prydeinig yn y North Sea. Achubwyd y dwylaw. Suddwyd gyda torpedo yr hwyl-long Ffrengig Saint Just ger Dartmouth, bodd- wyd 13 o'r dwylaw. Yn ystod yr wythnos oedd yn divveddu ar Mai 19 suddwyd dwy long a phedwar 0 gychod pysgota gan long tanforol Cyhoeddwyd gan y Pnze Court fod yr j agerlong Almaenaidd Opheiia (Red Cross) yr hon ddaliwyd beth amser yn ol ger y cost Seisnig, yn yspail cyfreithlawn gan y profwyd yn amlwg yn ystod y prawf fod y llong yn gwneud ymchwiliadau ar y cost pan ddaliwyd hi, ac yn gweithredu mewn ffordd hollol groes i arferiad y Red Cross. AMSTERDAM—Y mae awyrlongau y Cyd- bleidwyr yn barhaus yn disgyn ffrwydbeleni ar Zeebrugge. Yn yr ymdrech ddiweddaf lladdwyddeg ofilwyr Almaenaidd a chlwyf- wyd nifer fawr. LLUNIJAIN.—Y mae'r gv/eithdy mawr ago sydd yn gweithio i'r Llywodraeth yn Chipp- enham Wiltshire wedi ei losgi i lawr boreu heddyw. Credir mai gwaith cvnhen- wyr Almaenaidd ydoedd. Mai 22. RIIUFAIN.—Dywed g'vvifrebau o Udine fod awdurdodau milwrol Awstriaidd ar v filn wedi gwrthod y llythyrgod Italaidd a chodi y rheilffordd ac attal yr holl wifrebau ar hyd gwifrau y rheiiffordd. PARIS.—Dywed gwifrebau o Rhufain fod y brenin wedi arwyddo y gorchymyn i alw j yr holl fiiwyr i'r fyddin. LLUNDAIN.— Y maer brenin wedi ymweled a gweithdai arfau ac a'r lie yr adeiladir llongau gan Vickers Maxim &. Co., Barrow. Wedi iddo fyned ymaith oddiyno anfonwyd gwifreb gan yr arolygydd at y brenin i ddyweud fod ei ymweliad wedi cael arg-ralf ddofn ar y gwèithwyr o bwysigrwydd eu gwaith ac iddo gael ei wneud yn gyflym. AMSTKRDAM.—Y mae y sibrydion wedi eu cadarnhau fod y bobl yn Vienna wedi ymosod ar y teyrngenad Italaidd pan yr oedd yn gadael yr argenhadaeth. Y mae Canghellydd Awstraidd wedi anfon ei ddiheurad. MELBOUHXE. -— Y mae arddangosiadau mawrion wedi eu gwneud yn yr holl brif ddinasoedd yn Awstralia yn ffafr Itali RHUFAIN. —Mae Cadeirydd Cynghrair Italo-Roumania wedi anfon g-wifreb i Gad- eirydd Cyngrair Roumano-Itali fod Itali yn teimlo yn sicr y bydd i Roumania fod gyda hi yn yr awr bwysig hon. PARIS.-Dywed newyddion o Flanders fod brwydro caled rhwng Ypres a Dixmude dydd Gwener a Sadwrn. Yr oedd y frwydr cadofferynol yn un hynod ffyrnig. Yn y tanbeleniad llyngesol ar Westende a Lom- baertzyde yr wythnos diweddaf lladdwyd amryw o swyddogion ysg-orddawg- Almaen- aidd. Yr oedd cyfanswm colledion yr Al- maenwyr yn fawr iawn. LLUNDAIN.—Daeth dwy dren i wrthdar- awiad yn agos i Carlisle, lladdwyd 21 o fiiwyr a chlwvfwyd 300. Mai 23. NEW Y ORK.- Y mae Itali wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria. PFTROGRAJ). Newyddion swyddogol o Caucasus.—Y mae cwch torpedo wedi suddo deg o longau Tyrcaidd yn y Black Sea ger Otapi. Cymerasom y gulffordd Kachkaul a gorfodvvyd y Tyrciaid i fyned yn ol i Bachala. RHUFAIN.— Yn Torino, Genova, Milan, Naples a Florence a dinasoedd eraill v mae y milwyr yn cael eu galw i'r fyddin yn gyflym. Y mae'r gorchymyn wedi ei dderbyn gyda brwdfrydedd trwy yr holl wlad. Y mae torfeydd yn teithio trwy yr heolydd gan g-anu caneuon gwladg"Iai-oi. Y mae'r Pab wedi gosod at alwad yr awdurdodau milwrol holl adeiladau llys y Pab a'r colegau Eglwysig i'w defnyddio yn ysbyttai i'r clwyfeddigion. Y mae tair cerbydres yn aros yn yr orsaf i gymeryd teyrngenhadon y Central Empires. Bydd i un gerbvdres gymeryd y teyrngenad Almaenaidd Von Buelow a'r iweinidog Count Mulhberg" i Lys y Pab. Gadawa un arall gyda.'r teyrngenadpn Awstriaidd, a'r drydedd gyda Gweinidogion Bavaria. Mai 24. PETROGRAD, Swyddoo-ol.-Yr ydym wedi gorchfygu y cadluoedd oedd wedi croesi i'r aswy i'r afon Dulessas. Yn rhanbarth Proche a Dneister cymer- asom goo o garcharorion a pedwar o ynnau (machine guns). Gwrthgurasom y gelyn ar ochr ddeheuol y Dneister. Yn agos i Housk cymerasom 657 o garcharoriori <)c amryw ynnau. BERLIN.—Yn Bucarest y mae sibrydion, heb eu cadarnhau, fod y rhyfel long Rws- iaidd Panteleinon gyda 1,400 o ddynion wedi ei suddo yn y Black Sea. LLUNDAIN.-—Y mae y Llywodraeth Bryd- einig ar ran y Cydbleidwyr wedi hysbysu Llys Twrci ei bod yn ystyried y Llywodraeth Dyrcaidd a'i chynrychiolwyr yn bersonol gyfrifol am lofruddiaeth yr Armeniaid. Y mae y many Hon diweddaraf am wrth- darawiad y ddwy gerbydres yn Carlisle yn dang'os fod 160 o bersonnu wedi eu lladd a 180 wedi eu niweidio. Y mae llong- ta nforoI Brydeinig wedi suddo g'ynfad arall perthynol i Twrci yn mor Marmora. Achubwyd yr holl dd wylaw ond dau. PARIS.—Dywed yr adroddiad swyddogol fod y gelyn rhvvng Steenstraate a'r Ypres wedi ymosod eto gan ddefnyddio mvy llysmariol, ond gwrthgurvvyd hwy yn Neu- ville. Gwrthgurwyd amryw ymosodiadau eraill hefyd. MADRID, Swyddogol.—Y mae teyrngen- hadon Almaenaidd ac Awstria yn gadael Rhufain heno ac wedi cyflwyno eu ham- gylchiadau i ofal y teyrngenad Yspaenaidd. Mai 26. ATHENS.—Ofnir gan y meddygon fod yn. ofynol i Frenin Groeg- ivned o dan driniaeth law-feddv-ol. RHUFAIN.—Nid yw teyrngenad Twrci wedi penderfynu dim, hyd yn hyn, ynglyn a'i ymadawiad oddiyma. PF.TROGRAD.—Yn Anbis ceir brwydrau ffyrnig. Ar y Vistula uchaf parha y frwydr. Yr ydym wedi gwrthguro pob ymosodiad yn Galitzcia. Ar lanau y San y mae brwydro caled yn parhau. RRUFAIN, Swyddogol.-—Yr ydym wedi cymeryd Points Forcega, Montozzo, Tonale, Pontecafaro, ac amryw fynyddau eraill. Cymerasom nifer o g-archarorion. Darfu i'r Cadoffer Awstriaidd ymosod yn awr ac eilwaeth ar Cwrdale a Misurina heb wneud nemawr niwed. Cymerason gyda'r bidogau "Hell's Valley" a phen dyffryn Degano. Yn mhob lie y mae'r gelyn yn encilio ac yn dinystrio pontydd rheil ffyrdd. Darfu i'n awyrlongwyr danbelenu Gorsaf goleuni trydanol yn Monfalcone. LLUNDAIN.— Y mae llong tanforol Almaen- aidd wedi suddo yr agerlong- Americanaidd Nebraskad, ni chollwyd by vvydau. PARIS, Yr ydym wedi gwrthguro ymosodiadau ffyrnig- yn rhan- barth yr Ypres gan gadw y tir oeddym eisioes wedi ei enill. Aethom yn mlaen ar y bryniau i'r Gogledd Ddwyreiniol o Notre Dame de Lorette.