Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
"'"QRUQOQ.
QRUQOQ. [NODIAD.—Bu Grugog yma rai blyneddau, ac enill- odd wobrau eistcddfodol droion. Y diweddar Gutyn Ebrill oedd beirniad y Cywydd Car- tref a darllenodd ddetholion cain ar y pryd. Buasai yn dda cael y cywydd yn Y DRAFOD deg llinell o hono sydd yn y Get. t Dylid cyhoeddi cyfansoddiadau o'r fath ti mwyu icu- enctyd ein cymdeithasau llenyddo — Cyfoethogid tudalennau Y Genium yn fyn- yeh gan gynhyrchion barddonol Grugog, yr hwn adawodd ein daear fis Mi i, i Si wk,, i,, ol i fardd yw mis Mai, yn ei brydfetthwch hudol. Parod yw pob awenydd i gyduno a Dafydd ab Gwilym i ddweud— Dymunwn pe Duw a'i mynnai Pe'r deuddeg mis fai mis Mai." Y mae marw ym mis Mai i fardd yn ychwaii- egu at boenau yr ymadawiad ond y mae'n gysur i fardd da a duwiol gofio ei fed yn mynd i wlad ddarlunir yn einyn y Dr. Watts fel "cartref tragwyddol Wanvvyn." Yn Lerpwl y preswyliai Grugog am yr ugain n-iynedd olaf o'i fywyd, mewn busnes llwyddiaunus fel llaethwr. Gedy weddw a phedwar o feibion i alaru eu coiled am briod a thad tyner, hynaws, a charedig. Brodor o gymydogaeth Talybont, Gogledd Ceredigion, oedd ein cyfaill Mr. David Mason (Grugog). Ganwyd a magwyd ef yn Bwlch- y-dderwen,—ffermdy a fferm ddaeth yn dref- tadaeth i'r teulu Ni chafodd fel modd- ion addysg ond yr hyn arferid estyn i blant yn ysgolion elfenol y gymydogaeth. Wedi gadael yr ysgol bu am rai blvnyddau gartref yn trin y tir ac yn bugeilio defaid ei dad: ond ym mhen amser blinodd ar y gorchwyl- ion yna a mynnodd ymfudo i'r Wiadfa Gym- reig ym Mhatagonia. Rhydd hyn i ni agor- iad i'w deimlad gwladgarol a chenedlgarol, yr hwn a barhaodd yn nodweddiadol o bono ar hyd ei oes. Wedi treulio rhai blynyddauyn y Wladfa dychvvelodd rw fro enedigol yng Ngogledd Ceredigion. Yn fuan wedi dych- welyd ymunodd mewn g!an briodas a Miss Jenkins, Y Winllan, ffermdy gerllaw ei gar- tref. Yn fnan wedyn daeth y par ieuanc i Lynlleifiad i gychwyn busnes-feI y nodwyd yn barod. Bu ein cyfaill yn aelod ffyddlon o eglwys Annibynoi Grove St. hyd ei farwol- aeth. Pan yn Patagonia ennillodd Gadair y Camwy am Gywydd ar y testyn, "Cartref." Ceir ynddo gyfeiriadau hapus at ei fam ac i'r rhai a'i hadwaenai y mae'n ddesgrifiad cywir o honi. Ah Gartref, ynddo cef ais Nodded erioed yn ddi drais Tra'n trigo yno'n ddinam Ces win a mel cusan mam. Sychai'i geiriau'r dafnau dwr,— Chwai newidiai'r och'neidiwr. Dirionfam wech ymdrechaf Sangu'th ol, ac yna caf Drwydded iltli weled heb wall, Hyderaf, mewn byd arall. Yr oedd Grugog o dueddiadau defosiynol ac yn ofni Duw o'i ieuenctid. Magwyd ef ar aelwyd grefyddoL Brawd yng nghyfraith iddo oedd gweinidog yr eglwys yn yr hon y derbyniwyd ef yn aelod. Arferai er yn J J ieuanc gymeryd rhan gyhoeddus mewn gwas- anaeth crefyddol: ond am lawer o flynydd- oedd wedi dyfod i Lerpwl, o herwydd ofnus- rwydd naturiol ei dymer, gwrthodai. Fel llawer o'r beirdd carai yr encilion. Fodd bynnag, pan alwodd y Diwygiad diweddar heibio cyffyrddodd angel Duw ef â'i aden mewn gair, cynhyrfwyd ef o'r newydd i ddyfnderau ei enaid. 0 hynny allan ni fu angen cymell arno. Cymerai ran yn fynych yn ein cyfeiliachau, a gweddiai gydadwyster mawr. Canodd ainryw ddarnau swynol ardestyn- au crefyddol. Geilw un yn Gan yr Oen cyn yr Ing." Yn honno dywed am y duwiol: A phan bydd Angau'i hun yn dynesau, Ac ar ei faner ddu 'r arwyddair hen— Gan farw ti a fyddi farw," awn Yn nullwedd ei Goncwerwr idd ei wydd, Dan ganu mawl nes boddi swn ei draed A dyna hardd Omega'r duwiol sant,— Yng nghanol trwst ei hunanadfail, can Teimlwn fod y llinellau uchod yn ddesgrifiad cywir o'i ddiwedd yntau. Cafodd gystudd poenus, ond dioddefodd y cyfan yn dawel a diofn, fel plentyn yn mynd i'r tywyHwch yn liaw ei dad. Claddwyd ef yng Nghladdfa newydd Talybont; a hir y gwlychir "man fechan ei fedd gan ddagrau perthynasau a chyfeillion. HA WEN.
Marwolaeth Br. James W. Harries,…
Marwolaeth Br. James W. Harries, Somerset House, Merthyr Tydfil, gynt o Llety lago, Dyffryn y Camwy. Bu farw y brawd nnwyl uchod yn ei gartref Somerset House, Cefncoedcymer, Merthyr Tydvil, boreu Gvvener, Mavvrth 12, 1915. Claddwyd ei weddillion y dydd Mawrth | canlynol ym mynwent gyhoeddus Aberdar. Barnodd v teulu yn ddoetli drefnu anghylioedd, ac fell'/ oedd mjd.aeiodau y tellu ae ychydig gyfeillion yii bi-eseiiliol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch- edigion J. H. Davies, Killay, a W. C. Rhys, York Place, Abertawe. Y cyntai wedi bod yn weinidog ar Mr. Harries yn Carmel, Cefn am oddeutu 10 mlynedd, a'r olaf yn Patagonia am oddeutu 15 mlynedd. Brodor o Llan- hywel. Sir Benfro ydoedd Mr. JamesIIarries. Symudodd i Aberdar pan yn ddyn ieuangc deunaw oed, a bu am rai blynyddoedd yn gweithio fel glowr yn Aberaman. Ymunodd a'r eglwys yn Ynyslvvyd, etholwyd efyn ddiacon, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlon yn y rHvydd honno am flynyddau lawer. Yr oedd yn gyfaill calon i'r Gwein- idog, a mynych y clywsom ef yn siarad yn barchus a charedig am y Parch. Thos. John (y gweinidog ar y pryd). Yn y flwyddyn 1874 hwyjiodd ein brawd tua'r Wiadfa Gym- reig yn Patagonia. Cariodd gydag ef ei frwdfrydedd crefyddol ac enwadol. Yroedd yno ddyrnaid o Fedyddwyr selog-rhai wedi dod gydag ef o Ynyslwyd a rhai o Heolyfelin, Caerfyrddin a manau eraill. Penderfynodd yr ychydig frodyr hyn ddechreu achos i'r Bedyddwyr yn y Dyffryn, a'r brawd Harries gyda'r mwyaf selog o honynt yn yr antur- iaeth. Gan nad oedd yno bregethwr yn perthyn i'r Bedyddwyr, disgynodd y gwaith o arwain y gwasanaeth cyhoeddus ar rhyw ddau neu dri o'r dyrnaid hyn. Yr oedd ein brawd Harries yn un o'r dau neu dri hyn. Dau frawd gweithgar arall oedd y brawd John Lewis, Heol y Prior, Caerfyrddin, a Dafydd Thomas, Heol y Felin, yr olafo honynt erbyn hyn fel ein brawd Harries yn mwynhau yr orphwysfa fry. Gwedi sefydliad y Parch. W. Casnodyn Rhys yn weinidog ar gais yr eglwys yn 1878 bu y brawd Harries yn weith- gar, ffyddlon, ac egniol gyda'r achos drwy'r blynyddau. Bu yn flaenllaw hefyd fel dyn cyhoeddus gyda gwahauol fudiadau y Wladfa ac enillodd barch mawr tra yno. Dychwelodd ein brawd yn ol i Gymru yn y flwyddyn 1898, ac yn fuan wedi ei ddych- weliad ymunodd mewn glan briodas a Mrs. Davies, Somerset House, Cefncoedycymmer, yr hon fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd y diwedd. Ymunodd ein brawd a'r eglwys yn Carmel, dcrbyniwyd effel diacon a bu o was- anaeth mawr yn ei eglwys hyd ei fedd. Yr oedd yn gristion gloeyw, yn gyfaill ffyddlon, yn rhyddfrydwr pybyr, ac yn gefnogwr aidd- gar i bob achos da. Yr oedd ei gartref bob amser yn agored i dderbyn gweision yr Ar- glwydd, ac yntau a'i briod anwyl wrth eu bodd yn eu croesawu. Eiddunwn i'n chwaer anwyl nodded a chymorth Priod y Weddw" yn ei hamddi- fadrwydd tosto un oedd bob amser yn dyner a meddylgar o honi. Collwyd yn y brawd Harries ddiacon na fu ei well mewn eglwys erioed i gydweithio a gweinidog, ac i roddi esiampl i eglwys mewn gweithgarweh ac I haelioni. Heddwch i'w lwch. Abertawe. W. CASNODYN RHYS, Ooo,
IEin Pwyllgorau.I
Ein Pwyllgorau. I Wedi sylwi ar enwau y rhai oedd yn bres- enol yn Mhwyligor yr Undeb Eglwysig, gy- hoeddwyd yn y DRAFOD, Mai 21, gwelir mai cynrychiolaeth fechan oedd yno. Mor belled ag y gellir gweled, nad oedd yno ond cyn- rychiolaeth o chwech eglwys, tra ceir yn Nyffryn y Camwy ddeuddeg o eglwysi. Beth am y chwech eglwys arall, onid ydynt yn perthya i'r Undeb ? ynte a yw'r cynrychiol- wyr ddewiswyd yn anftyddlon i'r ymddiried- aeth roddwyd arnynt ? Hefyd, gwelir fod dau neu dri o rai eglwysi tra nad oes ond un cynrychiolydd o leoedd eraill. Ofnwn fod anffyddlondeb cynrych- iolwyrar y pwyllgor uchod, ac ar bob pwyll- gor arall o ran hynny, yn parlysu ein achos- ion goreu i raddau helaeth. Dymunwn roddi awgrym i ysgrifenyddion gwahanol Bwyllgorau'r wlad, yn nghyda Hyrwyddwyr Cwmniau a Chynghorau, i gy- hoeddi taflen o enwau'r cynrychiolwyr, nifer y cyfarfodydd gynhaliwyd, yn nghyda pres- enoldeb pob un, ar ddiwedd pob blwyddyn. Gwelid felly, fwy neu lai, pwy sydd yn cyrn- eryd dyddordeb yn ein llwyddiant yn wladol, masnachol, a chrefyddol. UN SY'N SYLWI..
Cooling Incubator Eggs.
Cooling Incubator Eggs. ihe probable effect of cooling is to make the blood flow more rapidly through the net- work of veins surrounding the embryo, which has a strengthening influence on the growing chick within the shell. The shell of an egg is a very bad conductor of heat, and it takes a considerable time for the contents to cool to any extent. It is usually conceded that in cooling the eggs should not drop lower than 88 deg. F. to 9° deg. F.; how rapidly they reach this temperature depends on the heat of the room. We have always found it best to cool twice a day, and as far as possible the coolings should be twelve hours apart. The following figures are those we recommend Room temperature, 40 deg. F. ten minutes, 50 deg. F. fifteen minutes, 60 deg. F. twenty minutes, 70 deg. F. thirty minutes. If any- thing, we would rather allow a longer time than a shorter. Too long cooling may length- en the incubation period slightly, but too short cooling may stifle the germs within the shel1.MIDDLEsEx.
The Scratching Shed.
The Scratching Shed. A scratching shed attached to the house is a tremendous boon, for it enables the hens to obtain the necessary exercise without ven- turing into the open. Fowls have a great objection to sheltering in their roosting com- partments during the daytime, and on many occasions I have seen a flock of birds stand- ing about in the open on wet and cold days rather than take shelter in the sleeping quarters. A scratching shed, which can be erected very cheaply indeed, does nor require to be built at all elaborately, all that is need- ed being a back, roof, and two ends. The front may be quite open, or else may be covered with wire netting; the latter plan, I think, is the better. The floor should be covered with straw or chaff litter, and instead of feeding grain from a trough it should be thrown amongst the litter, for this affords the birds several hours of exercise in scratching for their food. On wet or very cold days, when the fowls are all the better under cover, only half rations of soft food should be fed first thing in the morning, followed shortly after with some grain thrown down amongst the litter. This keeps the birds busily occup- ied till about midday, and prevents them getting into mischief and contracting such habits as feather picking or egg-eating. Again, about 2 p.m. or 2.30 p.m. some more grain should be scattered, giving employment to the birds till they go to roost.—EXPERT. (From Farm and Home.A.H.)
AR WERTH.
AR WERTH. Amryw o Dai cyfieus i deuluoedd, a stor helaeth yn Trelew. Ymofyner a Pascual Carubelli. Se vende varias casas para familias 6 nego cios.-Tratar con Pascual Carubelli Trelew.
Uni-related Stock.
Uni-related Stock. The importr.jjco of using unrelated stock birds can scarcely be exaggerated. Some- times the poultry-keeper has no option but to employ related patents, but whenever this can be avoided it is desirable that it should be. In the formation of a new breed, in the establishment of a new variety of an existing breed, or in the termination of a new colour, it is often necessary to use even full brothers and sisters. I know many cases in which this has been done successfully, but it is a very risky proceeding, and should be done only by those who know full well what they are doing. The utility poultry-keeper, how- ever, should not run this risk, and he should rely upon absolutely unrelated breeders. At one time, not so many years ago, there was some excuse for in-breeding, since the num- ber of good utility strains was very limited. To-day, however, there are so many excellent strains that there is no excuse for in-breed- ing.—EXPERT.