Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"'"QRUQOQ.

Marwolaeth Br. James W. Harries,…

News
Cite
Share

Marwolaeth Br. James W. Harries, Somerset House, Merthyr Tydfil, gynt o Llety lago, Dyffryn y Camwy. Bu farw y brawd nnwyl uchod yn ei gartref Somerset House, Cefncoedcymer, Merthyr Tydvil, boreu Gvvener, Mavvrth 12, 1915. Claddwyd ei weddillion y dydd Mawrth | canlynol ym mynwent gyhoeddus Aberdar. Barnodd v teulu yn ddoetli drefnu anghylioedd, ac fell'/ oedd mjd.aeiodau y tellu ae ychydig gyfeillion yii bi-eseiiliol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch- edigion J. H. Davies, Killay, a W. C. Rhys, York Place, Abertawe. Y cyntai wedi bod yn weinidog ar Mr. Harries yn Carmel, Cefn am oddeutu 10 mlynedd, a'r olaf yn Patagonia am oddeutu 15 mlynedd. Brodor o Llan- hywel. Sir Benfro ydoedd Mr. JamesIIarries. Symudodd i Aberdar pan yn ddyn ieuangc deunaw oed, a bu am rai blynyddoedd yn gweithio fel glowr yn Aberaman. Ymunodd a'r eglwys yn Ynyslvvyd, etholwyd efyn ddiacon, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlon yn y rHvydd honno am flynyddau lawer. Yr oedd yn gyfaill calon i'r Gwein- idog, a mynych y clywsom ef yn siarad yn barchus a charedig am y Parch. Thos. John (y gweinidog ar y pryd). Yn y flwyddyn 1874 hwyjiodd ein brawd tua'r Wiadfa Gym- reig yn Patagonia. Cariodd gydag ef ei frwdfrydedd crefyddol ac enwadol. Yroedd yno ddyrnaid o Fedyddwyr selog-rhai wedi dod gydag ef o Ynyslwyd a rhai o Heolyfelin, Caerfyrddin a manau eraill. Penderfynodd yr ychydig frodyr hyn ddechreu achos i'r Bedyddwyr yn y Dyffryn, a'r brawd Harries gyda'r mwyaf selog o honynt yn yr antur- iaeth. Gan nad oedd yno bregethwr yn perthyn i'r Bedyddwyr, disgynodd y gwaith o arwain y gwasanaeth cyhoeddus ar rhyw ddau neu dri o'r dyrnaid hyn. Yr oedd ein brawd Harries yn un o'r dau neu dri hyn. Dau frawd gweithgar arall oedd y brawd John Lewis, Heol y Prior, Caerfyrddin, a Dafydd Thomas, Heol y Felin, yr olafo honynt erbyn hyn fel ein brawd Harries yn mwynhau yr orphwysfa fry. Gwedi sefydliad y Parch. W. Casnodyn Rhys yn weinidog ar gais yr eglwys yn 1878 bu y brawd Harries yn weith- gar, ffyddlon, ac egniol gyda'r achos drwy'r blynyddau. Bu yn flaenllaw hefyd fel dyn cyhoeddus gyda gwahauol fudiadau y Wladfa ac enillodd barch mawr tra yno. Dychwelodd ein brawd yn ol i Gymru yn y flwyddyn 1898, ac yn fuan wedi ei ddych- weliad ymunodd mewn glan briodas a Mrs. Davies, Somerset House, Cefncoedycymmer, yr hon fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd y diwedd. Ymunodd ein brawd a'r eglwys yn Carmel, dcrbyniwyd effel diacon a bu o was- anaeth mawr yn ei eglwys hyd ei fedd. Yr oedd yn gristion gloeyw, yn gyfaill ffyddlon, yn rhyddfrydwr pybyr, ac yn gefnogwr aidd- gar i bob achos da. Yr oedd ei gartref bob amser yn agored i dderbyn gweision yr Ar- glwydd, ac yntau a'i briod anwyl wrth eu bodd yn eu croesawu. Eiddunwn i'n chwaer anwyl nodded a chymorth Priod y Weddw" yn ei hamddi- fadrwydd tosto un oedd bob amser yn dyner a meddylgar o honi. Collwyd yn y brawd Harries ddiacon na fu ei well mewn eglwys erioed i gydweithio a gweinidog, ac i roddi esiampl i eglwys mewn gweithgarweh ac I haelioni. Heddwch i'w lwch. Abertawe. W. CASNODYN RHYS, Ooo,

IEin Pwyllgorau.I

Cooling Incubator Eggs.

The Scratching Shed.

AR WERTH.

Uni-related Stock.