Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"'"QRUQOQ.

News
Cite
Share

QRUQOQ. [NODIAD.—Bu Grugog yma rai blyneddau, ac enill- odd wobrau eistcddfodol droion. Y diweddar Gutyn Ebrill oedd beirniad y Cywydd Car- tref a darllenodd ddetholion cain ar y pryd. Buasai yn dda cael y cywydd yn Y DRAFOD deg llinell o hono sydd yn y Get. t Dylid cyhoeddi cyfansoddiadau o'r fath ti mwyu icu- enctyd ein cymdeithasau llenyddo — Cyfoethogid tudalennau Y Genium yn fyn- yeh gan gynhyrchion barddonol Grugog, yr hwn adawodd ein daear fis Mi i, i Si wk,, i,, ol i fardd yw mis Mai, yn ei brydfetthwch hudol. Parod yw pob awenydd i gyduno a Dafydd ab Gwilym i ddweud— Dymunwn pe Duw a'i mynnai Pe'r deuddeg mis fai mis Mai." Y mae marw ym mis Mai i fardd yn ychwaii- egu at boenau yr ymadawiad ond y mae'n gysur i fardd da a duwiol gofio ei fed yn mynd i wlad ddarlunir yn einyn y Dr. Watts fel "cartref tragwyddol Wanvvyn." Yn Lerpwl y preswyliai Grugog am yr ugain n-iynedd olaf o'i fywyd, mewn busnes llwyddiaunus fel llaethwr. Gedy weddw a phedwar o feibion i alaru eu coiled am briod a thad tyner, hynaws, a charedig. Brodor o gymydogaeth Talybont, Gogledd Ceredigion, oedd ein cyfaill Mr. David Mason (Grugog). Ganwyd a magwyd ef yn Bwlch- y-dderwen,—ffermdy a fferm ddaeth yn dref- tadaeth i'r teulu Ni chafodd fel modd- ion addysg ond yr hyn arferid estyn i blant yn ysgolion elfenol y gymydogaeth. Wedi gadael yr ysgol bu am rai blvnyddau gartref yn trin y tir ac yn bugeilio defaid ei dad: ond ym mhen amser blinodd ar y gorchwyl- ion yna a mynnodd ymfudo i'r Wiadfa Gym- reig ym Mhatagonia. Rhydd hyn i ni agor- iad i'w deimlad gwladgarol a chenedlgarol, yr hwn a barhaodd yn nodweddiadol o bono ar hyd ei oes. Wedi treulio rhai blynyddauyn y Wladfa dychvvelodd rw fro enedigol yng Ngogledd Ceredigion. Yn fuan wedi dych- welyd ymunodd mewn g!an briodas a Miss Jenkins, Y Winllan, ffermdy gerllaw ei gar- tref. Yn fnan wedyn daeth y par ieuanc i Lynlleifiad i gychwyn busnes-feI y nodwyd yn barod. Bu ein cyfaill yn aelod ffyddlon o eglwys Annibynoi Grove St. hyd ei farwol- aeth. Pan yn Patagonia ennillodd Gadair y Camwy am Gywydd ar y testyn, "Cartref." Ceir ynddo gyfeiriadau hapus at ei fam ac i'r rhai a'i hadwaenai y mae'n ddesgrifiad cywir o honi. Ah Gartref, ynddo cef ais Nodded erioed yn ddi drais Tra'n trigo yno'n ddinam Ces win a mel cusan mam. Sychai'i geiriau'r dafnau dwr,— Chwai newidiai'r och'neidiwr. Dirionfam wech ymdrechaf Sangu'th ol, ac yna caf Drwydded iltli weled heb wall, Hyderaf, mewn byd arall. Yr oedd Grugog o dueddiadau defosiynol ac yn ofni Duw o'i ieuenctid. Magwyd ef ar aelwyd grefyddoL Brawd yng nghyfraith iddo oedd gweinidog yr eglwys yn yr hon y derbyniwyd ef yn aelod. Arferai er yn J J ieuanc gymeryd rhan gyhoeddus mewn gwas- anaeth crefyddol: ond am lawer o flynydd- oedd wedi dyfod i Lerpwl, o herwydd ofnus- rwydd naturiol ei dymer, gwrthodai. Fel llawer o'r beirdd carai yr encilion. Fodd bynnag, pan alwodd y Diwygiad diweddar heibio cyffyrddodd angel Duw ef â'i aden mewn gair, cynhyrfwyd ef o'r newydd i ddyfnderau ei enaid. 0 hynny allan ni fu angen cymell arno. Cymerai ran yn fynych yn ein cyfeiliachau, a gweddiai gydadwyster mawr. Canodd ainryw ddarnau swynol ardestyn- au crefyddol. Geilw un yn Gan yr Oen cyn yr Ing." Yn honno dywed am y duwiol: A phan bydd Angau'i hun yn dynesau, Ac ar ei faner ddu 'r arwyddair hen— Gan farw ti a fyddi farw," awn Yn nullwedd ei Goncwerwr idd ei wydd, Dan ganu mawl nes boddi swn ei draed A dyna hardd Omega'r duwiol sant,— Yng nghanol trwst ei hunanadfail, can Teimlwn fod y llinellau uchod yn ddesgrifiad cywir o'i ddiwedd yntau. Cafodd gystudd poenus, ond dioddefodd y cyfan yn dawel a diofn, fel plentyn yn mynd i'r tywyHwch yn liaw ei dad. Claddwyd ef yng Nghladdfa newydd Talybont; a hir y gwlychir "man fechan ei fedd gan ddagrau perthynasau a chyfeillion. HA WEN.

Marwolaeth Br. James W. Harries,…

IEin Pwyllgorau.I

Cooling Incubator Eggs.

The Scratching Shed.

AR WERTH.

Uni-related Stock.