Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
';'V_- .._-_._- -.-_. -_-'-._.__._-National…
'V_- National Relief fund. Treasurer: H. R. H. THE PRINCE OF WALES. ACCOUNTANTS' DEPARTMENT, 33, BELGRAVE SQUARE, S.W. April 8th, 1915. The Manager, Sociedad An611 iin a Cornpauia Mercantil Chubut, Trelew, Chubut, Argentina. Dear Sir, I have to acknowledge, with sincere thanks, the receipt of your letter of the 27th February, enclosing a draft for So xvliich has been so kindly contributed to the Fund raised by your newspaper Y DRAFOD by the Welsh Settlers in Chubut, Patagonia, on behalf of H.R.H. The Prince of Wales' National Relief Fund. Yours faithfully, L. E. HALSEY.
.—■^ wr v ^ Siyn a'r LJartl.i
.— w r v Siyn a'r LJartl. Cyrhaeddodd Mr. a Mrs. Daniel Roberts, Glanalaw yn ddiogel i'r lan draw yr wythnos ddiweddaf. G,Yda'i- Iloiio, cl(liwed(laf, ymadawodd y cyfaill ienanc Joseph Rogers, Bryiicrwi), i Comodoro Rivadavia, i wasanaethu yn y C. M. C. Dymunwn iddo fawr iwyddiant. -0- Dymunwn gydymdeimlo yn fawr a Mrs. D. S. Jones, Rhymney, yr hon yr wythuos ddiweddaf, a dderbyniodd y newydd galarus o Gymru fod ei chwaer wedi rnanv. Penderfynodd eglwys Bryn Crwn nos Sul diweddaf, anfon cymhelliad i Gymry Comod- oro Rivadavia, i sefydlu Ysgol Sui yn eu mysg, a'i bod hithau yn myned yn gyfrifol- cs gwnant hyny,—i'w cyflenwi a digon o feiblau a thestamentau er hyrwyddo y sym- udiad ym mlaen. Da onide, yw gweled eglwys yn cofio am ei phlant sydd oddicar- tref. Dilyned eraill ei hesiampl. Beth am Choele Choel a Cfrohvapi ? -0- Dychweludd y Br. Thomas G. Williams, Tresalem, i'w gartref nos Lun diweddaf, ar 01 bod am daith hirfaith yn y paith. Nid oedd y daith, gallem feddwi, wedi niweidio nemawr arno, canys edrychai yn gampus. -0- Codi yn bur arw wna yr hen Gamwy y dyddiau diweddafhyn. Braidd yn gynar yw iddi ddangos ei hun. Mae'n debyg fod yna wlawogydd trymion wedi disgyn i fyny yn rhywlc, ac yn bur fuan wedi yr 61 etTaith hwnw heibio, yr a i lawr gyflymed ag y cod- odd, o'r hyn leiaf dyna ein gobaith. -0- O'r diwedd wele yr ynys sydd ger pont y Gaiman yn cael ei symud. Yn barod clir- iwyd yr ailt goed oedd wedi tyfu ami, hefyd torwyd cwter fawr drwy ei chanol yn nesaf disgwylir cyflawniad o'r wyrth,—Symuder a threigler di i ganol y mor." Felly y bydd ddiau un o'r dyddiau nesaf ymn. -0- Gofynir yn fynych ar hyd y wlad yn awr, pa amser mae'r tren yn mynd o'r Gaiman yn y boreu am Drelevv ? Bydded hyshys i bawb y gadawa o'r Gaiman am 8.30 a.m.. a dyclnvel am 6 p.m. Drwg iawn genym glywed at-ii waeledd trwm y Bwyr. Evan O. Da vies, Tairheiygen, ac Eirig Thomas, Frongoch. Hefyd, cwyno yn dost y mae'r Br. Thomas Roberts, Saer, Trelew y Br. D. O. Williams hefyd wedi cael ei gaethiwo gan afiechyd. Caffed yr oil lwyr adferiad buan. Mae pethau yn gwel!a yn ara' deg tua'r Gaiman, gwelaf fod awdurdodau'r LlythyrcJy wedi gosod llythyr flychau (Idtey boxes) yma a thraw ar hyd y dref, fel na fydd raid myn'd i'r Llythyrdy gyda phob llythyr. Hefyd deuir o gylch yn awr gyda llythyrau y mae hwn yn gryn welliant, rhagor na'n bod yn gorfod mynd i'r swyddfaam ein llythyrau, ac wedi aros yno yn hir, lawer tro, yn methu cae! yr un oherwydd fod cynifer yno yn dis- gwyl am eieiddo. Dyn ardderchog yw y Br. Gatica, post feistr y Gaiman. Gobeithiwn na newidir mo hono oherwydd mae mor garedig a pharod ei gymwynas. --0- Cynhaliwyd yr ail o gyfres cyfarfodydd llenyddol pobl ieuanc y Gaiman, nos Fawrth di\veddaf. Yr oedd nifer dda yn breseuol, a chafwyd cyfarfod da. Wele'r rliagleii.- Papur ar Nodweddion y Cymeriad Cyvn- reig,"gan y Br. W. Williams (Prysor); Eto, Arwyr Cymreig," gan y Br. Gildas Evans Yr oedd y naill a'r Hall o'r papurau hyn yn dangos 61 meddwl a llafur. Cododd amryw i adolygu. Can gan y Br. R. E. Hughes. Llywyddwyd gan Deiniol, ac arweiniwyd gan y Br. John Arfoil Jones. -0- O'r Cymro y mae a ganlyn Captain George Hope o Langranog yw llywydd y llong ryfel Queen Elizabeth." --0- Yn ei bregeth yn Llandudno, dyvvedodd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, fod yn well ganddo bregethu i gynuifeidfa o feddwon na chynhulliad o gybyddion. Mae gobaith i feddwyn gael ei achub, ond am y cybydd 'does fawr o obaith am ei iachawdwriaeth ef. -0- Mae'r Eisteddfod Genedlaethol i gael ei chynal eleni. Ym Mangor y'i cynhelir, yn ystod yr wythnos gyntaf o Awst. Dywedir fod argoelioti am Eisteddfod wir lwyddianus ar waethaf y rhyfel a phob peth. -0- Protestia rhai o bleidwyr y fasnach fedd- wol yng Nghymru, yn erbyn bygythiad Mr. Lloyd George i lyfetheirio eu masnach, a dywedant fod y Canghellor wedi addef ei hun fod cwrw yn ddiod ddirwestol. Beth glywir nesaf. —o— Addef y Brigadier Kurke mewn cyfarfod o'r milwyr yn Aberystwyth, nad oes yn yr hoi 1 fyd, well ymladdwr na'r Cymro. Y Cat- rodau Cymreig, ebai ef, achubodd y fyddin rhag trychineb yn yr encil feistrolgar yn ymyl Mons a'r South Wales Borderers oedd uchaf eu collediou o'r catrodau i gyd. Eitbr dyma sy'n rhyfedd, nasoniwyd am hyny gan yr awdurdodau. Mae'n sy'n fel y mae yn rhaid i'r hen Gymro fod o hyd heb ci glod. Tipyn o swn sydd ym mysg lienorion Cymru ar hyn o bryd yn ughylch gwelia yr Orgraff. Cymer gohebwyr y Drych Arneric- ,x-vllitios bellach, y mater i fyny yn wir aiddgar. Dadleu y Goiygydd dros gadw'r hen, ac fel hyn y dywed with weled yr Orgraff Newydd yn troi'r u yn i, yii y gair "Duwinyddiaeth." Cwynir yn Nghym- ru fod y to ieuanc yn myned yn annuwiol, a pha ryfedd pan y mae yr Orgraff Newydd yn myned a Duw fel hyn allan dn Diwinydd- iaefch." M or ffraeth yw'r lane on ide. Yr wythnos gyntaf yn Ebrill, aeth gorch ymyn allan oddiwrth y Brenin Sior, i glirio yr holl ddiodydd meddwol oddiar fyrddau y teulu brenhinol, ac nad oedd dim i ddod i fewn hyd amser terfyniad y rhyfel. Felly gellir dweud fod Brenin Prydain Fawr a'i deulu yn awr yn llwyrynnvrthodwyr. Gwedd- iwn am iveled Ilawer yn dilyn ei esiampl. Trodd y Llywodraeth hen Waith Whiskey Fron Goch,—pentref rhyw 2 filldir a haner o'r Bala, yn Wersyllfa Carcharorion Rhyfel. Dechreu mis Ebrill daeth rhyw bedwar cant o garcharorion Germanaidd, a disgwylir rai canoedc1 yno cyn bo hir. Yr oedd yr olvvg arnynt pan ddaethant yno, meddir,yn druenus i'r eithaf, ac i bob ymddanghosiad wedi di- oddef diffyg ymborth ac ymgeledd, a hyny cyn eu cymcryc1 yn garcharorion, oblegid yn syth o faes y rhyfel y daethant yno. Y mae Gweinidog i Eglwysi Cwm Hyfryd, yn gadael Cymru rai o'r dyddiau nesaf. Sicr genym y caifl dderbyniad cynes gan bobl garedig yr Andes.
ITRELEW,:.,:
TRELEW, Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.— Cafwyd cyfarfod dyddoroi uos Wener y 7fed cyfisol, Br. Richard Jones yn y gadair. Wedi i am- ryw o'r plant ein breintio ag adroddiadau, &c., galwodd yr Arweinydd-Br. D. O. Williams, ar y Br. H. J. Hughes i ddyfod ymiaen i agor y ddadl ar y cwestiwn boll bwysig, sef, "Pa un ai mantais ai anfantais fyddai i'r Llywod- raeth ymgymeryd a'r gyfundrefn ddyfrhaol yn y Wladfa"? Gosododd y Br. ei bwynt- iau i lawr yn ddeheuig a chadarn, yn gosod allan yn ddios mae mantais fyddai. Gallesid meddwl hyd nes i'w wrthwyuebydd-y Br. Thomas Jones wneud ei ymddangosiad, nad oedd dim dadi ar y pwnc, ond buan y dang- hosodd yr hen stager yma fod ochr arall i'r ddalen, ac yn unol ag arferiad cyrddau o'r fath, bu amryw yn ymgodymu ar y pwnc yn selog a phybyr, a phawb yn yr hwyliau goreu hyd y tei-fyn.-I-LANC O'R LLE. Cawsom y Parch. Tudur Evans i draethu yr hen, hen hanes y Saboth diweddaf. Gwr dipyn yn ddieithr yw wedi bod i ni y Tre- lewiaid er's tro. Mwynhawyd ef yn fawr, yr oedd ei bregeth boreu Sul ar Weddi yn un o berlau y Groes. Yl1 sicr y mae yn myned ar gynydd fel pregethwr, ac ni bydd y tad yn ngholl tra bydd y mab gyda ni. DYCHWELYD YN OL.-Liaweiiydd fydd gan lawer ddeall fod Gweno Jones, merch Mr. a Mrs. Henry Jones, Trelew, yn dychwelyd yn ol o Buenos Aires gyda'i mham-byddant yn cychwyn gyda'r Ansturiano dydd Sadwrn (yfory). Fel y mae'n hysbys i lawer oddar- llenwyr y DRAFOD, y mae Gweno wedi bod yn yr Ysbytty Prydeinig am yn agos i ddwy flynedd, ac wedi treulio yr amser maith yna yn ddirwgnach a goddefgar. Naturiol yw iddi bellach deimlo awydd cryf am gael dychwelyd i fynwes ei theulu hoff gartref. Bydded iddi gael mordaith ddedwydd. Hoff waith rhyw hurtyn o hogyn yn Tre- lew, yw tynu darluniau ar y parwydydd o bersonau anrhaethol mwy lluniaidd nag ef. Y mae gwaith yr hogyn yma ar furiau adeil- adau cyhoeddus yn ddigon i godi gwrid i wyneb Indiaid Sacanana. Cymru uehel ei breintiau, ac aelwydydd crefycidoi yii wii-ll I Y cyngor goreu allwn roddi iddo, yw myned i ystafell lie byddo dau ddrych ynddi, a sefyll rhwng y ddau, ac os penderfyna ei fod yn fachgen smart, gall benderfynu fod y dryeh yn anghywir.—w.