Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
" V RHYPBL.I
V RHYPBL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Ebrill 23 a 24am. LLUNDAIN.—Dywecl adroddiad o Grimsby fod Hong" bysgota Saint Lawrence wedi ei suddo g-an long- tanforol, lladdwyd dau o'r dwylaw ac achubwyd 7. Y Brydeinigf Ruth wedi ei suddo yn y North Sea. Achubwyd y dwylaw. Yn y Baltic Sea darfu i long tanforol suddo yr agerlong* Frank perthynol i Finland. Y mae yr adroddiad Almaenaidd eu cod wedi cymeryd Hill 60 wedi ei wrthddyweud yn Swyddogol. Cyhoeddir yn Swyddogol -an y Gazette fod Affrica Orllewinol Almaenaidd wedi ei warchae. TOKIO.—Dywed newyddion Swvdclc-tgol os bydd i China wrthod yr hyn ofyna Japan y bydd y safle yn un ddifrifoL pmno¡'!> IT, ""JO íÍ"Ç!l",re u nl.c PETROGRAD.—Y mae destroyers y Black Sea wedi tanbelenu y cost Tyrcaidd gan ddinystrio gwersyllfeydd, ystorfeydd, llongf- au, a defnyddiau rhyfel. LEMBERG.—Y mae y Czar wedi cyrhaedd i ymddiddan gyda'r Grand Duke Nicho l as. Cafodd dderbyniad crocsawgar .g-an y trig-olion. PARIS, Swyddogo1. Y mae y Belgiaid wedi gwrthg-jro ymosodiad ffyrnig yr Al- maenwyr ar Chateau Vicoque gan achosi colledion trymion ar y milwyr oedd yn ym- osod. Y mae'r Alinaenwyr wedi defnyddio ffrwydbeleni llysmariaidd am y tro cyntaf yn ei hymosodiad i'r gogledd o Ypres, geliid teimlo effeithiau y rhai hyny 2 kilometer tu 01 i'n llinellau. RHUFAIN.— Y mae'r Newydduron yn gwadLl fod cyfarfod o Weinidogion wedi ei gynnal heddyw i benderfynu ar ag-wedd derfynol Itali. CHIASSO, Switzerland.—Y mae mynediad allan Almaenwyr o Itali trwy y dref hon yn parhau i gynyddu. LLUNDAIN, Swyddog'ol.—-Y mae'r brwydro am y tir a gollasorn lie y daeth yr Almaen- wyr i'n llinellau rhwng Steenstrate a Lan- gemarck i'r ochr ogledd ddvvyreiniol i Ypres yn parhau. Oherwydd colli rhan o'r llinell hon gorfu i'r milwyr o Canada encilio er mwyn bod mewn cyffyrddiad a'r milwyr ar y dde iddynt, yn ddiweddarach gwnaeth y Can- adiaid ymosodiad ardderchog a chymeras- ant y gynau gollwyd a nifer fawr o g'archar- orion yn cynwys pencatrawd Almaenaidd. Y mae colledion y Canadiaid yn drymion, ond darfu i'w dewrder achub y sefyllfa. Dywed adroddiad swyddogol Ffrengig eu bod yn y goedwig ger Saint Mihiel wedi cymeryd prif ffosgloddiau Almaenaidd a chymerwyd rhai carcharorion. PETROGRAD —Y mae nifer o feirch filwyr Rwsiaidd (Cossack) wedi myned eto mor bell a Memel yn Ddwyrain Prwsia. AMSTERDAM.—Dywed y Newyddur Het Volk fod Von Buelow wedi dechreu trafod- aeth newydd gydag Itali ar y sail o roddiad i fyny diriogaeth Awstriaid, a'r Almaen roddi i Awstria atdaliad trwy gyflwyno iddi ran o Silesia yn ranbarth Glatz. LLUNDAIN.-Parheir i sibrwd fod Awstria wedi gofyn i Rwsia ar wahan wneud hedd- weh. Ebrill 26. LLUNDAI.N.-Dywed gwifreb o Salonica i'r Datly Mail fod Itali wedi cydsynio i gadw i Serbia borthladd ar yr Adriatic ac y bydd i Itali a Rwsia drefnu y mater. Y mae'r llong bysgota Envoy gafodd ei niweidio- gan torpedo yn y North Sea wedi ei thynu i'r Tyne. NEW YORK.—Dywed cenadwr i lys y Pab fod gohebydd y newyddur Le Matin wedi cael ymgom yn Rhufain ar y Igeg gyda'r teyrngenad Almaenaidd Von Buelow yr hwn ddywedodd fod y sefyllfa yn un dywyll iawn ac nad oedd yn tyhio y deuai dim daioni o geisiadau ffugiol Itali, pa rai nad oedd modd i Awstria eu derbyn, ac yr oedd y darpariadau miiwrol wedi cymeryd y fath gwrs fel nad oedd ymgais unrhyw lys yn ymddangos o unrhyw ddiben, ac yr oedd y symudiad pres mol gan Itali yn unig' er mwyn enill amser. PARIS, Swyddogol.—Y mae y Belgiaid a'r Prydeinwyr wedi gwrthguro ymosodiad- au ffyrnig" ar Paschandaele a Brodesinde, darfu i'r Almaenwyr drachefn danbelenu yr Ypres. Y mae y brwydro yn parhau yn yn Hantsdenense. PARIS.—Dywed y Peiit Parisien fod swydd- og ag sydd yn gyfaill i Peppino Garibaldi wedi adrodd mai yr argraff gafodd Peppino ar ol ei ymddiddan g'yda Gwein- idogion y Brenin vw y bydd i Itali ymuno a'r Cydbleidwyr cyn i'r Senedd gyfarfod. Ebrill 27. RHUFAIN.- Y mae'r teyrngenad Italaidd yn Ffrainc wedi cyraedd o Paris i gael ym- ddiddan gyda'r Gweinidog Rhyfel, bydd i'r teyrngenadon o Llundain, Berlin, a Vienna hefyd gyrhaedd yn fuan. SALONICA.—Y mae ffrwydbelen clocwaith ( clockwork ) wedi ei chanfod yn Ystafell Gynghorfa Gweinidog Rhyfel Tyrcaidd yn Constantinople, ac wedi eihamseru iffrwydro yn ystod y cyfarfod yn mha un yr oedd Enver Pasha, Baron Von der Goltz, General Lenman Von Sanders i gynorthwyo. Y mae amryw wedi eu cymeryd i'r ddalfa. LLUNDAIN, Swyddog'ol.—Y mae'r Belgiaid wedi gwrthguro tri ymosodiad Almaenaidd i'r De i Dixrnude, Y mae colledion yr Al- maenwyr yn drymion. Yn ystod y dydd y mae cadoffer y gelyn wedi bod yn brysur iawn, ond atebwyd hwynt yn llwyddianus gan y Belgiaid. Yn y prydnawn ymosodasom a g-wnaeth- om gynydd yn ngnymydogaeth Saint Julian. Darfu i'n awyrlongwyr danbelenu y rheilffyrdd a'r gorsafoedd yn Fourcoing, Roubaix Ingelmunster, Thielt a Roulers. PARIS, Swyddogol.—I'r gogledd i Ypres ac ar yr ucheldiroedd ar hyd y Meuse yr ydym wedi cadarnhau ein saflecedd. Boreu ddoe darfu i'r Almaenwyr gymeryd uchel- diroedd Plartmaunsweillerkiff, ond cymer- asom hwy yn ol yn ystod y nos. GENEVA.—Y mae y Rwsiaid wedi ail ddechreu ymosod yn gulffordd Uszok, ac y mae colledion yr Awstriaid-Almaenaidd yn ystod y ddau ddiwrnod diweddaf yn 20,000 o ddynion. Ebrill 28. PARIS.—Y mae'r Havas Agency wedi hysbysu y \Vasg fod y rhyfel long Gambetta wedi ei suddo gan torpedo yn yr Adriatic Sea yn ystod nosweithiau iSeg- a 17eg. Hyd yn hyn y mae sicrwydd fod 190 o'r dwylaw wedi eu hachub. (Gorphenwyd Gambetta yn y flwyddyn 1906; tunelliaeth 12,351; pedwar o ynnau 7.6 modfedd unarbymtheg o ynnau 6.4 modfedd; cyflymdra 23 knots LLUNDAI,N'. Gwifreb o Bucarest yn y, Times-a. ddywed fod y Rwsiaid wedi myned i mewn etto i Bukovina ac yn ymgasglu yn Bokan gyda'r amcan tebygol o fynu croesi yr afon Pruth. PARIS, Swyddogol.-I'r gogledd i Ypres yr ydym yn parhau i symud yn mlaen yn enwedig ar ein hochr chwith. Yr ydym wedi cymeryd chwech 0 ynnau {machineguns) dau o beiriannau i daflu ffrwydbeleni, swm o ddefnyddiau rhyfel, ac amryw ganoedd o garcharorion. Y mae colledion yr Almaen- wyr yn enfawr, cyfrifasom mewn un lie yn unig yn agos i'r canal chwe chant o gyrph. Yn mhob rhan o'n llinellau yr ydym yn enill tir gan achosi colledion trymion i'r gelyn a dinystrio batteris., Parhad yn tudalen 4.
[IN CYFliNDREFN DDYFRHAOL.
[IN CYFliNDREFN DDYFRHAOL. Dyma enaid ein byvvoliaeth ar y Dyffryn, nen allwedd pob agorfa mewn amaethydd- iaeth i borthi dyn ac anifai!; ac am hyny y mae yn bur bwysig i ni fod yn unol a phur i'r adIos, ac astudio'r moddion goreu i ym- wneud ag ef. Gwyddom yn eithaf da fod yma rai pob! ag y careut gael mantais ar ein diniweidrwydd i drawsfeddianu oddiarnom y gwaith, a'r gallu i reoli y gyfuudretii werth- fawr hon a hyny mewn rhith rhai yn teimlo drosom, ac yn ystyried nad ydym yn abl i'w rheoli nac i wneud cyfiawnder rhwng dyn a dyit tra mewn gwirionedd mai gweled a theimlo y maent nad oes modd iddynt hwy i gaei un fantais i wneud eu castiau os bydd y Camlesydd yn nwylaw y Cymry. Y mae syniad yn bodoli, hyd yn oed yn cin plith ni ein hunain, mai o herwydd rhyvv ddiftyg o'n heiddo ui y Cymry, y tarddodd yr anghydvvelediad rhyngom ni a'r Lladinwyr (fel gal want hwy en hnnain) er tod hyny yn ho1101 anghywir, oblegid gvvnaed y ddyfais a'r twyll hwn ganddynt hwy eu hunain, pan oeddym ni yn ein diniweidrwydd wedi aufon y Br. Waagfel cynrychiolydd drosom i geisio gan y Lly wodraeth hawl i dori genau newydd, a hawl gyfreithio! i ddefnyddio dwfr y Cam- wy. Hefyd mabwysiedir y syniad gan rai, mai rhyw fympwy o'n heiddo ni fel Cymry, oedd gwneud un cwmni o'r hall ddyifryn, tra mae hyny eto yn hollol gyfeilioruus. Hyn sydd scr, mai o B. Aires y daeth y syniad cyntaf am dano, a hyny yn ddiarneu am fod ymgais wedi caei ei wneud i geisio fFurfio Cwmni Dyfrhaol yn B. A. a hyny trwy ddy- Lmwad yr wrthblaid o'r dyffryn hwn, ac ei-Ill I o'r brif-ddinas; er fod ymgais wedi cad ei wneud gan rai o honom ni ddwv flynedd lawn cyn hyn (felygwelir yn 01 v cotiioclacii) and ni fabwysiadwyd mo hono y pryd hyny. Gwelodd y Lly wodraeth (set yr uchel swydd- wyr) yn eglur mai twyll o'r fath waethaf oedd ceisio trawsfeddianu eiddo oedd wedi ei wneud er's dros chwarter canrif yn y per ffeithrwydd y gwelir ef yn awr; yr oeddynt yn gvvybod fod haner oes wedi cael ei dreulio ai aberthu i lafurio ac arloesi, atnori ifosydd; ac wedi llvvyddo i droi y paith sych yn dir dyfradwy, a'r diffrwyth-dirfel gardc1 ffrvvyth- lawn. Ie, y rhai hyn, Lladinos sydd yli ofni nad ydym yn cldigon gonest i gario y gwaith yn y dyfodol. Y rhai hyn sydd yn meddwl nad ydym yn ddigon diwyd a gweithgar i reoleiddio y Camlesydd. Y rhai hyn, ie sydd wedi ffurfio cwmni o weitliiAy-r, COID PIfiil de Trabajo"; y rhai na vveithiaut eu hunain mewn un man feI dynion eraill, ac na thalant eu trethoedd fel eraill. Ceisiwch ganddynt ranu dwfr, ie, y rhai nad ydynt ae!odau mewn na fibs na changen, torant faugciau y ffosydd, ac ni roddant yno na chafn na phib- ell, and defnyddiant gIawdd y G^mlss nes y bydd y lIe yn beryglus o wan i gario dwfr i drigoliou yr ocl-ir isaf iddynt hwy. Héf d¡ rhoddant argaeon anmhriodol a di!un mewfl lieoedd nad oes eu heisieu, ac mewn gwir- ionedd rhoddant bob rhwystr ar ffordd dad- blygiad a II wyddiant y dyffryn. Dyma y dynion, y dywedir ganddynt, fod rhai o honom ni y Cymry, yn foddlon i ym- uno a hwy, ac yn awyddus i'w cofleidio a'u hallwesu,-er nad wyf fi yn credu fod yr haeriad ddim amgen na thwyll a chelwydd o'u heiddo hwy eu hunain, er ceisio ein gwa- hanu ni oddi wrth ein gilydd; dylai y rhai gafodd eu henwi y dydd o'r blaen wrthdystio yn erbyn y fath sarhad, a dylid rhoddi ar ddeall yn glir fod gwaed yr hen Gymro yn dry bur yn ei wythienau i blygu i'r fath dwyll a lladrad. Faint bynag o gam ac o anrhefn sydd ynom ni fel cenedl, credaf ein bod fel mwyafrify ar- y blaen yn hyn o beth, ac yn credu mewn: byw heb drawsfeddianu eiddo neb beth bynag fo; a phe cawsem ein trechu, ac1 i eraill gael ein hawlfraint o reoli a llywod- raethu y camlesydd, y pryd hyny y caem weled faint fyddai y gwahaniaeth. Ond o ran hyny, y maent hwy wedi rhoddi esiampl dda i ni, y gwir berchenogion, ffordd i ym- ddwyn yn y dyfodol. Ond esiampl neu beidio, gobeithio y nefoedd na wel neb o honynt y fraint trwy i ni ei cholli, a hyny trwy i ni fod yn llwfraidd a thwyllodrus. Hyd yn hyn mae y cwbl o'n tu, ac nid oes modd i'w colli, os ydym ni yn fyw a phen- derfynol o'u dal yn ein gafael. (I'w barhau).
Family Notices
Gen!. Watkin.—Ebrill 26ain, ganwyd i Mr. a Mrs. Jenkin Watkin, fab.—Gelwir ef Ieuan.