Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Hyn a'rLlall. I

News
Cite
Share

Hyn a'rLlall. I -0- Dywedir fod nifer luosog o drig-olion Cwm Hyfryd yn bwriadu dod ilawr i'r Dyffryn dros y gauaf. -0- Dydd Sul diweddaf, fe anwyd merch i Mr. a Mrs. Wm: Jones (painter), Dyffryn Uchaf. Y fam a'r ferch yn dod yn mlaen yn rhagorol. '0- Daeth i'n clywedigaeth y dydd o'r blaen, fod y Parch. John Jones, Rio Negro,- brawd y Br. Richard Jones, Glyndu,, a'l fryd ar ddod drosodd i auafu yn y Dyffryn. O Dychwelodd y Br. John Griffiths,, Drofa, Hesgog o odre'r Andes yr wythnos ddi- weddaf. Bu i fyny am rai misoedd. Da genym ei weled yn edrych mor dda ar ol ei hir daith. -0-- Bu Mrs. Robert J. Roberts, Glan Alaw, yr hon a fu yn dioddef dipyn yn y dyddiau diweddaf hyn, am wythnos ym Madryn yn 1- Y _yn ddiweddar, a dychwelodd o lan y mor yn Ilawer iawn yn well. —-o— Deallwn fod y Br., Idris Roberts, Trelew, wedi bod yn bur wael ynystod yrwythnos- au diweddaf. Da yw clywed er hyny ei fod ar wellhad. Bydded iddo galel llwyr adferied, a hyny yn fuan. —o— Dydd Mercher, Chwefror 24ain, o flaen Ynad y Gaiman-y Br. R., Nichols, priod- wyd y Br. Iorvverth Jones, mb y Parch. R. R. Jones, Niwbwrch, a'r Fonesig Dilys Hughes, ail ferch y Br. W. H. Hughes (Glan Caeron). Pob Iwc iddynt. -0- Deallwn fod yn mryd Mr. Dixon, y Con- sul Prydeinig, yr hwn sydd ar ymweliad a'r Dyffryn ar hyn o bryd i ddod i aros am wythnos gyfan tua ardal y Gaiman cyn dychwelyd o hono i'w gartref. Os gwna hyn, caiff groesaw cynes mi wn. -0- Gwelsom ar y Brython Lerpwl, hysbysiad o eiddo y C. M. C. am argraffydd i ddod allan i Swyddfa'r DRAFOD. Gobeithio y llwyddir i gael bachgen teilwng, a hyny yn fuan. Mae digon o waith mae'n debyg yn y swyddfa hon yn bresenol i ddau neu dri o ddynion da. Mewn cyfarfod chwarterol, perthynol i un o'r enwadau yn Nghymru yn ddiweddar, cafwyd pregeth rymus gan un gweinidog parchus, ar bwnc a roddwyd iddo gan y frawdoliaeth, sef "y ddyledswydd o ym- wrthod a myglys." -0- Dywedir fod yna symudiad ar droed yn mhlith y Wesleyaid yng Nghymru i'r am- can o adferyd y "pregethu efengylaidd" a nodweddai y corph crefyddol hwn yn ei gyfnodau cyntaf. —o— Dyma englyn newydd spon a welals y .dydd o'r blaen i'r Kaiser H Ddu elyu, 'e bair ddoJef-drwy y wlad, Erlidiwr ein tangnef; Ond heddyw, er y dyoddef, Ei "fwstash yw ei fost ef 1 "Cyfaill," ebe y masnachwr wrth wydd- el, "ti a doraist dy addewid." "O! na ofalwch ddim," atebai pat "gallaf wneud llawer un arall gystal a hithau." -0- Yr wythnos hon daeth y Geninen am Ion- awr i law, ac ynddi y buom yn treulio ein dwy noson ddiweddaf, a hyny gyda bias a mwynhad. Ceir yn y rhifyn hwn ysgrifau grymus neillduol ar wahanol bynciau. Mae'r Geninen bob amser yn flasus, eithr gellid dweyd am hwn "ti a ragoraist arnynt oil. -0- Mae'r Dysgedydd am Ionawr hefyd yn dda dros ben. Mwynhawyd y bennod sydd ynddo o Hunangofiant y Golygydd hynaf yn fawr. Cafwyd bias hefyd ar ysgrif Gwylfa ar "New York a Beecher. Am- heuthyn hefyd oedd darllen ysgrif y Parch. Rowland Hughes, B.D., ar "Rhywun a Neb" yn ogystal aphregeth y diweddar Athro J. M. Davies. s -0- Adeiladwyd ty—un o'r tai mwyaf a harddaf yn y Dyffryn, ar ben y bryn uwch- law Ysbytty y Gaiman. Cauodd y perch- enog ddarn helaeth o dir i mewn ar ben y bryniau, ac erbyn hyn y mae wrthi yn ei drin. Gesyd felin wynt i fyny i godi dwr iddo, a bwriada wneud y lie yn winllan fawr. Dyma ddechreu trin y paith, a pwy wyr na welir yr hen fryniau i gyd yn bar- adwys hardd cyn pen nemawr" o' flynydd- oedd. Disgwyl mawr sydd tua'r Gaiman a'r cylch, am y "dyn mawr o Buenos Aires, chwedl hwythau, sydd i ddod i dalu ym- weliad a'r lie. Gwneir darpariadau diben- draw ar ei gyfer. Mae gweithwyr wrthi, o dan y Cynghor, ar hyd yr wythnos hon, yn trwsio ac yn g'lanhau'r ffyrdd. Da.yw gweld ambell i un fel: hyn yn dod i dalu ymweliad a'r lie, pe i ddim ond i'r 'stryd- oedd gael eu glanhau a'u tacluso dipyn. Clywais fod picnic ac asado-ac wn i ddim beth i gyd, i fod y dydd hwnw. Gobeithio ar ol yr holl ddarparu a disgwyl, na thyrr mo'i addewid a ni, fel y gwnaeth ei frawd rhyw ddwy flynedd yn ol. -0- Peth sydd wedi enyn digllonedd mawr y dyddiau diweddaf hyn, meddai y Parch. Eynon Davies mewn sylw o'i eiddo yn ddi- weddar,—yw, fod yna gynifer o greadur- iaid diegwyddor, yn troi ein caledi fel gwlad yn foddion budr elw iddynt hwy eu hunain. Gwerthu brethyn fel papur llwyd, a gwerthu bwyd i'n milwyr. ddim yn gymwys i fochyn respectable, er codi crog- bris am dano; a beth ddywedir am g-iwiaid fel hyn sydd yn pluo'r nyth ar draul ein gwlad ar adeg gyfyng fel hyn ? 0, —o— Diolch i Mr. McKenna SLI staff, meddai un newyddiadur Cymreig, am ddiogelu'r siwgr i ni. Prynodd yr holl stoc, ac y mae felly wedi ei gwneud yn amhosibl i Philis- tiaid y byd masnachol ein blingo gyda crog- brisiau. Am fara'r bobl, y mae'r pris yn codi, ac yn codi yn barhaus, nes y mae yn hen bryd i rywun mewn awdurdod roddi stop ar yr yspeilwyr. Y ddadl yw, ei bod yn anhawdd cael llongau i gario'r bwyd dros y moroedd. Mae yna r-ywfaint o reswm yn y ddadl hon, ond nid digon o lawer iawn i gyfiawnhau y prisiau anferth ofynir i'r tlodion am eu bara y dyddiau hyn, Gofyna gwyr y llongau yn bresenol brisiau gwar- adwyddus o uchel am gario bara dros y mor,—y maent yn gwneud miliynau o arian ar gefn y wlad. Cyferfydd y Senedd eto heb fod yn hir (yr hon sydd erbyn hyn wedi cyfarfod) a disgwyliwn y b)T dd 'cadw stwr' yn bod, a'r Llywodraeth yn rhoddi ei throed i lawr ar y shipowners. N:d oes dim a ofnir yn fwy gan y Philistiaid hyn, na goleuni, ac y mae plant y tywyllwch yn cael amser braf y dyddiau hyn, gan nad oes neb i alw sylw attynt." -0- Dywedir, ebai yr Hybarch E. Pan Jones, fod y gair Germani yn cael ei wneud i fyny o "gor," neu "ghor,gyru, cornio, brathu, gwaedu, topi, &c., a "man "-dyn, (felly, ystyr y gair Germani, yn ol Pan, yw cornio neu frathu dyn). Beth by nag-, ychwaneg-ai, am gywirdeb yr esboniad yna, mae yn ddi- gon sicr fod yr haneswyr Rhufeinig yn dweud mai rhai enwog am gornio a brathu oedd y Germaniaid mor fore a 210 c.c., a phriodol y gellir dweud am danynt heddyw, Megis yr oeddynt yn y dechreu y maent yr awr hon." -0 Aeth Gwyl Dewi heibio eleni yn hynod o dawel.. Braidd y cofiem mai Dydd Gwyl Dewi oedd,- -an mor ddiystyr a disylw y buwyd o honi. Ni wnaethpwyd yr un ym- gais. yn un man drwy y Dyffryn, hyd y gwyddom, i ddathlu yr hen wyl. Trueni mawr iddi gael myned heibio mor ddi- seremoni. Dyma'r unig wyl sydd genym jii fel Cymry, ac yr ydym bron bron a'i habergofi., Meddyliwyd yn siwr y buasem yn Idathliad teilwng o honi eleni, gan yn bod n'' nwyddyn y Jiwbili, eithrsiomiant aruthrol fu ein gobaith a'n disgwyliad. Beth sydd wedi dod o Bwyllgor Gwyl Dewi fu mor fyw yn y Dyffryn yn y blynyddau a fu ? Tybed nad oes riifer o'r aelodau yn aros ar dir y byw hyd yn hyn? Paham na ellid enwi rhyw nifer o Gymry twymgalon i aros ar y pwyllgor hwn, yn lie y rhai sydd wedi ein gadael, i'r amcan o gydweithio gyda'r rhai sydd eto'n aros, fel ac i fod yn allu yn y Dyffryn i alw sylw at yr wyl, ac i enyn set a brwdfrydedd i wneud dathliad teilwng o honi flwyddyn ar ol blwyddyn, yn llè: ei bod yn llithro heibio fel hyn yn barhaus, a. ninau blant Cymru yn gwneyd cyn lleied o honi.

Y GORLAN.

Family Notices